Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w wneud os bydd cyngor lleol yn dechrau codi Ardoll Ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Pwy sydd angen talu

  • Byddwch yn talu Ardoll Ymwelwyr os byddwch yn derbyn archebion am arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghaerdydd.
  • Hyd yn oed os ydych chi ond yn cymryd archebion am un tymor neu un noson.

2. Pryd i gyfrif am yr ardoll

Yng Nghaerdydd, rhaid i chi ddechrau cyfrif am yr ardoll o 28 Medi 2026.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • archebion newydd ar gyfer arosiadau o 1 Ebrill 2027
  • ychwanegu mwy o nosweithiau neu ymwelwyr at archebion sy’n bodoli eisoes am arosiadau yng Nghaerdydd o 1 Ebrill 2027

Edrychwch ar ganllawiau’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr am fwy o fanylion.

3. Gwybod eich cyfraddau ardoll

Bydd 2 gyfradd ardoll y byddwch chi'n eu talu yn seiliedig ar eich math o lety.

75 ceiniog y pen y noson

Ar gyfer:

  • ystafelloedd i’w rhannu mewn hosteli, tai bync, tai bothy neu ystafelloedd cysgu
  • lleiniau ar gyfer pebyll (gan gynnwys y rhai dros dro ar gyfer digwyddiadau a gwyliau)

Nid oes angen i chi dalu am blant o dan 18 oed.

£1.30 y pen y noson

Ar gyfer pob llety arall, fel:

  • gwestai, gwely a brecwast a thai llety
  • llety hunanarlwyo, fel bythynnod ac arosiadau yn y cartref (fel Airbnb)
  • lleiniau ar gyfer carafannau, cartrefi modur neu faniau gwersylla
  • llety dros dro (fel podiau glampio ar gyfer gwyliau)

Mae'r gyfradd hon yn berthnasol i ymwelwyr o bob oedran.

Edrychwch ar ganllawiau’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr am fwy o fanylion.

4. Cymhwyso TAW

Byddwch yn talu:

  • Ardoll Ymwelwyr i Awdurdod Cyllid Cymru
  • Treth ar Werth (TAW) i CThEM

Os ydych chi'n dalwr TAW

Mae TAW yn berthnasol i gyfanswm y swm y mae ymwelwyr yn ei dalu am eu harhosiad. Mae hyn yn cynnwys Ardoll Ymwelwyr rydych chi'n penderfynu ei drosglwyddo iddyn nhw.

Os nad ydych chi'n dalwr TAW

Ni fydd TAW yn berthnasol os nad ydych yn talu TAW.

Efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw eich trosiant trethadwy yn uwch na'r trothwy TAW.

Gallwch siarad â chynghorydd neu CThEM i ddysgu mwy am TAW.

5. Cofnodi manylion archebu

Rhaid i chi gadw cofnodion o nifer y canlynol:

  • ymwelwyr
  • nosweithiau

Mae angen i chi hefyd gofnodi manylion arosiadau nad ydych chi'n talu'r ardoll arnyn nhw, fel:

  • nifer y plant o dan 18 oed sy'n aros mewn llety sy'n talu cyfradd ardoll is
  • arosiadau sy’n cael eu darparu fel llety dros dro gan gyngor lleol

Rhaid i chi gadw'r cofnodion hyn am o leiaf 6 blynedd ar ôl cyflwyno eich ffurflen ardoll. Efallai y bydd angen i chi newid eich system cadw cofnodion er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cadw'r manylion hyn.

Byddwn yn darparu mwy o fanylion am gadw cofnodion.

6. Gwirio gyda'ch llwyfannau archebu

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn siarad â llwyfannau archebu a darparwyr systemau archebu. Efallai y byddan nhw’n diweddaru eu systemau er mwyn helpu darparwyr llety i gyfrif am Ardoll Ymwelwyr.

Dylai eich platfform archebu neu ddarparwr meddalwedd roi gwybod i chi sut maen nhw'n bwriadu rheoli'r ardoll.

Cysylltwch â nhw os nad ydych wedi clywed ganddyn nhw erbyn 28 Medi 2026.

7. Cyfrifo eich ardoll

Er mwyn cyfrifo faint o ardoll y mae'n rhaid i chi ei thalu fesul archeb:

  • cyfrwch nifer y gwesteion ar yr archeb
  • lluoswch hwnnw â nifer y nosweithiau y maen nhw wedi’u harchebu, ac yna
  • lluoswch hwnnw â chyfradd yr ardoll

Er enghraifft, petai 4 ymwelydd yn aros yn eich bwthyn am 7 noson:

  1. Cyfrifwch y nifer o arosiadau dros ar gyfer yr archeb honno. Rydych chi'n gwneud hyn trwy luosi 4 ymwelydd × 7 noson = 28 arhosiad dros nos.
     
  2. Lluoswch hwn â’ch cyfradd ardoll berthnasol: Er enghraifft, 28 × £1.30 = £36.40 o Ardoll Ymwelwyr i'w thalu ar yr archeb honno.

I gyfrifo cyfanswm yr ardoll, adiwch y symiau o'r holl archebion ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu at ei gilydd.

8. Ffeilio ffurflenni ardoll a thalu

Byddwch yn ffeilio ac yn talu eich ardoll naill ai'n flynyddol neu'n chwarterol. Mae hyn yn dibynnu ar faint rydych yn meddwl y bydd angen i chi ei dalu yn y flwyddyn gyntaf.

Byddwch yn ffeilio ac yn talu:

  • yn flynyddol (unwaith y flwyddyn) os ydych yn meddwl y byddwch yn talu £1,000 neu lai
  • yn chwarterol (bob 3 mis) os ydych yn meddwl y byddwch yn talu £1,000 neu fwy

Gallwch hefyd ddewis ffeilio a thalu’n chwarterol os ydych yn meddwl y byddwch yn talu £1,000 neu lai.

9. Gwybod pryd mae eich dyddiadau cau

Os ydych yn ffeilio'n flynyddol, rhaid i chi ffeilio a thalu'r ardoll erbyn 31 Mai. Er enghraifft, rhaid i chi ffeilio a thalu erbyn 31 Mai 2028 am y cyfnod o 1 Ebrill 2027 i 31 Mawrth 2028. 

Os ydych yn ffeilio'n chwarterol, rhaid i chi ffeilio a thalu'r ardoll mewn 60 diwrnod. Er enghraifft, rhaid i chi ffeilio a thalu erbyn 29 Awst 2027 am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2027. 

Edrychwch ar ganllawiau’r Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr am fwy o fanylion. 

10. Cofrestru eich llety

Bydd angen i chi gofrestru eich llety ymwelwyr cyn i chi ffeilio a thalu'r ardoll.

Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn hydref 2026.

Cael help

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau ar yr Ardoll Ymwelwyr ym mis Ebrill 2026.

I gael rhagor o fanylion am yr Ardoll Ymwelwyr, gallwch:

Gallwch hefyd ofyn i gynghorau lleol os ydych am:

  • wybod eu bod wedi penderfynu dechrau codi Ardoll Ymwelwyr
  • dysgu sut maen nhw'n bwriadu defnyddio arian yr ardoll