Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr fel darparwyr llety yn Nghaerdydd.
Cynnwys
Dechrau rhoi cyfrif am yr archebion
O 28 Medi 2026 ymlaen, bydd rhaid i chi roi cyfrif am yr Ardoll Ymwelwyr.
Ar gyfer arosiadau o 1 Ebrill 2027, rhaid i chi dalu'r ardoll ar:
- bob archeb newydd
- newidiadau i archebion
Gwiriwch sut i gadw cyfrif o archebion newydd a newidiadau.
Os nad ydych yn siŵr a oes rhaid i chi dalu'r ardoll neu beidio, gwiriwch pwy sy'n talu'r ardoll.
Gwirio pa gyfradd ardoll y mae'n rhaid i chi ei thalu
Mae 2 gyfradd ardoll, ac mae pa un fyddwch chi’n ei thalu yn dibynnu ar ba fath o lety sydd gennych.
Gwiriwch faint y mae'n rhaid i chi ei dalu i sicrhau eich bod yn defnyddio’r gyfradd ardoll gywir.
Os ydych wedi cofrestru at ddibenion TAW
Rhaid i chi dalu eich TAW i CThEF.
Penderfynu sut rydych am dalu costau’r ardoll
Gallwch dalu costau’r ardoll drwy:
- eu hamsugno
- codi eich prisiau
- codi ffioedd ardoll
Darllenwch ein canllawiau ar dalu costau’r ardoll.
Os ydych wedi penderfynu codi ffioedd ardoll ar ymwelwyr
Gallai eich platfform archebu, er enghraifft Airbnb neu Booking.com, eich helpu i ychwanegu ffioedd ardoll ar eich archebion. Holwch nhw am ragor o fanylion.
Sefydlu eich trefn cadw cofnodion
Mae'n rhaid i chi gadw cofnodion ar bob arhosiad ar gyfer Ardoll Ymwelwyr.
Rhaid i'r cofnodion ar bob arhosiad gynnwys:
- dyddiad yr arhosiad
- nifer yr ymwelwyr
- nifer y nosweithiau
Cyfrifo swm cywir yr ardoll i’w dalu
Rhaid i chi dalu'r ardoll fesul person, fesul noson.
Mae hyn yn cael ei alw’n arosiadau dros nos hefyd.
Gwiriwch i weld a ydych chi'n cyfrifo’r ardoll yn gywir.
Pa mor aml y mae'n rhaid i chi ffeilio a thalu
Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflenni ardoll yn seiliedig ar faint o dreth sy’n ddyledus gennych.
Ffeilio eich ffurflen gyntaf a thalu
Byddwch yn gallu defnyddio ein gwasanaeth ar-lein i ffeilio'ch ffurflen ardoll.
Byddwch yn talu'r ardoll drwy drosglwyddiad banc i Awdurdod Cyllid Cymru.
Gwiriwch pa fanylion y bydd angen i chi eu darparu wrth ffeilio'ch ardoll.
Cael cymorth
I gael rhagor o fanylion am yr Ardoll Ymwelwyr, gallwch:
Helpwch i ddylunio'r gwasanaeth Ardoll Ymwelwyr
Rydym yn cynnal sesiynau ymchwil defnyddwyr gyda darparwyr llety yng Nghaerdydd er mwyn dod i ddeall sut rydych chi'n rheoli eich archebion ac yn rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd.
