Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg y Cadeirydd

Image
Kathryn Bishop, Chair of the Welsh Revenue Authority

Mae'r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd da rydym wedi'i wneud, yn unol â'n Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022, a hynny er gwaethaf anawsterau'r 2 flynedd ddiwethaf. Rydym yn sefydliad ifanc sydd wedi ymdopi â llifogydd a gaeodd ein swyddfa, â chyfyngiadau'r pandemig ac â’r newidiadau yn ein ffyrdd o weithio a ddaeth yn sgil hynny. Mae'r newidiadau hyn wedi bod yn sylweddol – rydym, er enghraifft, wedi gorfod gweithio o bell am oddeutu hanner yr amser yr ydym wedi bodoli fel sefydliad. 

Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu blwyddyn olaf ein Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022. Eleni rydym wedi dechrau gweld adferiad yn sgil cyfyngiadau’r pandemig, wedi gweld gwelliant cyson yn rhai o'n dangosyddion perfformiad allweddol, ac wedi gweld gostyngiad yn y swyddi gwag ar draws ein timau ar ôl i’r ataliad ar recriwtio ers y flwyddyn ariannol flaenorol ddod i ben.

Gwelwyd carreg filltir allweddol yn ystod y flwyddyn hefyd: cododd lefel y refeniw a godwyd heibio’r £1 biliwn, a’r cwbl yn cyfrannu at ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Rwy'n falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn ystod y bennod hon o hanes Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ein huchelgeisiau gwreiddiol i drethu’n wahanol yn cael eu gwireddu drwy ein dull arloesol, ac rydym yn awr yn gweld tystiolaeth mai dyma'r ffordd gywir o godi refeniw yng Nghymru, er budd Cymru.

Kathryn Bishop 
Cadeirydd ACC
 

Adroddiad ar Berfformiad (ynghyd â Throsolwg y Prif Weithredwr)

Image
Dyfed Alsop, Chief Executive of the Welsh Revenue Authority

Fel yr esbonia Kathryn, mae'r adroddiad blynyddol a chyfrifon hwn yn cofnodi trydedd flwyddyn, sef blwyddyn olaf ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2019 i 2022.

Pan aethom ati i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol, ni allem fod wedi dychmygu'r hyn oedd o’n blaenau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni drwy gydweithio â threthdalwyr a'u hasiantau ynghyd â phartneriaid amrywiol sydd wedi ein helpu i ddarparu system dreth wych i Gymru. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth rydym wedi’i derbyn ac am egni ac ymrwymiad pawb yn Awdurdod Cyllid Cymru.

Rwy'n arbennig o falch o weld ein bod wedi dal i greu amgylchedd deniadol i weithio gyda'n gilydd. Rydym wedi dal i fod yn y 3 sefydliad uchaf yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil drwy gydol cyfnod y cynllun corfforaethol. Rydym wedi cymryd camau breision o ran dysgu sut i addasu i weithio gartref; ond nid yw wedi bod yn hawdd bob amser ac rwy'n cydnabod effaith hyn ar iechyd meddwl rhai pobl. Rwy'n falch iawn o'r ffordd rydym wedi dal i geisio cefnogi ein gilydd drwy gydol y broses.

Mae ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon diweddaraf yn cofnodi ystod eang o ddata a gwybodaeth am sut mae system dreth ddatganoledig Cymru yn gweithio. Mae'n wych gweld cymaint o ddefnydd o’n sianelau digidol ac rwy'n falch bod y rhan fwyaf o drethdalwyr a'u hasiantau’n cydweithio â ni drwy ffeilio eu ffurflenni a gwneud taliadau mor brydlon. Rydym yn gwerthfawrogi'r ymdrech gyfunol honno.

Rwyf hefyd yn falch o adrodd, fel y gwelwch o'r data, y gwelliannau rydym wedi'u gwneud i amseroedd ymateb ad-daliadau a’n bod wedi dechrau gwella'r ffordd rydym yn rheoli dyledion. Mae'n werth tynnu sylw at y ffaith bod canran y ffurflenni treth a gwblhawyd yn gywir y tro cyntaf yn dal i fod bron yn union yr un fath â’r blynyddoedd blaenorol, er gwaethaf y cynnydd sylweddol mewn trafodiadau a’r dreth a dalwyd. Wrth gwrs, pan fo pethau wedi mynd o chwith, rydym wedi parhau i adennill treth sydd heb ei thalu ac mae'n ddiddorol gweld bod cyfran sylweddol (dros 25%) o'r dreth ychwanegol hon a gesglir yn cael ei thalu'n wirfoddol.

Rwy'n falch o weld sut rydym wedi gallu gwneud gwell defnydd o ddata unwaith eto ac rydym hefyd wedi bod yn cefnogi cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i archwilio syniadau treth newydd fwy nag erioed o'r blaen. Ynghyd â'n perfformiad gweithredol rhagorol, mae'r 2 faes ychwanegol hwn yn dangos y gwerth ychwanegol y gallwn ni ei greu i Gymru drwy ddefnyddio’n sgiliau, ein harbenigedd a'n profiad.

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr ACC

Adroddiad ar Berfformiad rhan 1: ynglŷn ag ACC

Ers 1 Ebrill 2018 rydym wedi casglu a rheoli'r trethi datganoledig canlynol, a ddyluniwyd ac a grëwyd gan Lywodraeth Cymru:

  • Treth Trafodiadau Tir (TTT)
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)

Ein diben cyffredinol yw cynllunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol Cymru ac arwain y defnydd gwell o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru. Rydym yn falch o'n rôl o ran casglu arian sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi gwasanaethau fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru, a hynny mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg.

Amcanion strategol

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein diben mae gennym yr amcanion canlynol, sy'n sail i'n Cynlllun Corfforaethol 2019 i 2022:

  • ei gwneud hi’n haws i bobl dalu'r dreth gywir
  • sicrhau ein bod yn deg
  • bod yn fwy effeithlon
  • datblygu ein gallu

Mae gennym hefyd 2 faes pellach lle’r ydym yn awyddus i ddatblygu ein rôl wrth sicrhau manteision tymor hwy i bobl Cymru, gan gydnabod eu buddsoddiad ynom. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd yn y meysydd hyn:

  • gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n profiad gweithredol, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gynllunio gwasanaethau refeniw yn y dyfodol
  • byddwn yn gwneud y gorau o’n hasedau data, ac yn gweithio gydag eraill sy'n dal data trethdalwyr Cymru er mwyn gwella'r ffordd yr ydym yn rhannu, yn defnyddio, ac yn dadansoddi data er budd Cymru

Ein pobl

Rydym yn sefydliad bach ac aml-sgil o dros 80 o bobl, gyda sgiliau, a phrofiad sy’n cwmpasu 14 o broffesiynau gwahanol.

Rydym yn awyddus i fod yn sefydliad lle mae diwylliant cydweithredol, arloesol a charedig yn tanio lefelau uchel o ymgysylltu, dysgu parhaus, a chynhwysiant. Credwn fod cael pobl alluog yn gwneud swyddi sy’n rhoi gwir foddhad iddynt yn arwain at ragoriaeth yn ein gwasanaethau o ddydd i ddydd, ac at atebion arloesol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. O gael ein timau medrus, amlbroffesiwn, i gydweithio a’i gilydd gallwn gyflawni mwy, gan wireddu amcanion beiddgar a mentrus er budd ein rhanddeiliaid a’n haddysg ein hunain.

Ein Dull: cydweithio

Rydym yn gwerthfawrogi'r rôl hanfodol y mae partneriaethau'n ei chwarae yn ein gweithrediadau. Mae mabwysiadu dull sy’n cael ei arwain gan bartneriaethau yn hanfodol i'r ffordd yr ydym yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at hyn fel 'Ein Dull'. Mae'r ffordd Gymreig hon o drethu yn llywio popeth a wnawn.

Wrth gyflawni ein hamcanion, ein nod yw cydweithio’n agored gyda'n holl randdeiliaid er mwyn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu a'u rheoli mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg ac sy'n sicrhau'r gwerth gorau am arian i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae ein hamcanion ac Ein Dull yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'.

Adroddiad ar Berfformiad rhan 2: effaith COVID-19

Roedd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020 i 2021 y llynedd yn egluro ein bod wedi ailffocysu ac ailflaenoriaethu ein gweithrediadau mewn ymateb i heriau COVID-19. Dewisom ganolbwyntio ar recriwtio a llesiant staff, ac er nad oedd yn bosibl ailgychwyn ein holl weithgareddau lliniaru risg treth, fforymau treth er enghraifft, roeddem yn gallu gwneud gwelliannau o ran hwyluso treth a deall sut y gallwn ddefnyddio data i gefnogi gwasanaethau treth yng Nghymru yn y dyfodol.

Am tua hanner yr amser yr ydym wedi bodoli fel sefydliad, rydym wedi darparu ein gwasanaethau o gartref yn unol â’r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol. Er i ni sgorio'n uchel o ran ymgysylltu â'n pobl yn yr Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil blynyddol, rydym yn cydnabod nad yw hyn wedi bod yn ddelfrydol, gan fod llawer o'n ffyrdd o weithio yn elwa o fod yno’n bersonol: cydweithio, arloesi ac adeiladu perthnasoedd.

Rydym wedi parhau i gynnal rhywfaint o hyblygrwydd, gan addasu i ofynion newidiol wrth i'r flwyddyn barhau. Gwnaethom hefyd gynnal gweithgareddau recriwtio a llesiant, a chynnal mwy o weithgarwch hyfforddi i barhau i gefnogi ein pobl.

Adroddiad ar Berfformiad rhan 3: dadansoddi perfformiad

Mae'r tabl isod yn dangos lefel y perfformiad yn erbyn pob un o'n mesurau perfformiad ar gyfer y flwyddyn.

MP

Dangosydd

Amcan

Targed/Nod 2022

Perfformiad 2021-22

1

Pa mor dda yw’r defnydd o’n gwasanaethau digidol:

1.1 Ffeilio

1.2 Talu

Haws

Effeithlon

1.1 98%

1.2 90%

1.1 98.9%, o fewn yr ystod darged yn gyson dros y flwyddyn.

1.2 99.4%, yn gyson uwch na'r ystod darged, yn rhannol oherwydd llai o ddefnydd o sieciau yn ystod pandemig COVID-19.

2

Barn pobl am y profiad o ddelio gyda ni

Haws

Teg

Medrus

Ei gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau.

Roedd 92% o’r rhai a ymatebodd yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau.

3

Cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir

Haws

Teg

Effeithlon

Bod pobl yn cael eu trethi'n gywir.

Roedd 98.2% o'r trafodiadau’n gywir y tro cyntaf.

4

Lleihau'r posibilrwydd o risgiau treth

Haws

Teg

Effeithlon

Lleihau pob risg treth yn unigol.

Gostyngodd nifer yr achosion risg treth ychydig yn ystod rhan ganol y flwyddyn cyn cynyddu i uchafbwynt hanesyddol yn y pedwerydd chwarter. Oherwydd gwerthoedd cynyddol trafodiadau, mae gwerth y dreth sydd mewn perygl yn yr achosion hyn wedi codi'n gyson yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

5

Amseroldeb:

5.1 Ffeilio

5.2 Talu

5.3 Ad-daliadau

Effeithlon

Haws

Teg

5.1 98%

5.2 90%

5.3 Llai na 30 diwrnod

5.1 98.4%, uwchlaw'r targed ers dechrau'r flwyddyn ariannol, gan gynyddu ers hynny ar y cyfan.

5.2 90%, yn sefydlog dros y flwyddyn ariannol ar y cyfan, yn agos neu o fewn yr ystod darged, ac yn uwch na’r flwyddyn flaenorol yn ei chyfanrwydd.

5.3 95%, oddeutu 95% neu’n uwch dros y flwyddyn ariannol, gan dynnu sylw at sefydlogrwydd hirdymor yn sgil gostyngiad ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.

6

Graddau'r awtomeiddio

Effeithlon

90%

92%, wedi aros o fewn yr ystod darged yn ystod y flwyddyn ariannol.

7

Sut mae ein pobl yn teimlo

Medrus

Yn y 25% uchaf o ran sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiad

Trydydd o blith dros 100 o gyflogwyr GS.

8

Ein cymysgedd sgiliau

Medrus

Cynnal ehangder proffesiynau a datblygu ein sgiliau Cymraeg.

14 o broffesiynau.

73% yn gallu ychydig o Gymraeg

24% yn rhugl neu'n agos at fod yn rhugl.

9

Amrywiaeth

Medrus

Bod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pobl, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Sicrhau triniaeth deg a chyfartal i bawb.

Rydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol. Bydd data amrywiaeth yn cael ei gyhoeddi yn ein Hadroddiad Cydraddoldeb ym mis Mawrth 2023.

Mae ein datganiad data TTT blynyddol yn cynnwys y data manwl (cyfredol a hanesyddol) ar gyfer dangosyddion 1 i 6.

Amcan 1: ei gwneud yn haws

Byddwn yn ei gwneud hi’n haws talu'r swm cywir o dreth.

Rydym wedi gwneud ymdrech ar y cyd i'w gwneud yn haws i'n trethdalwyr a'u hasiantau ffeilio a thalu eu trethi'n gywir.

Gwnaethom gynnal gwahanol weithgareddau i wella ymwybyddiaeth o'r TTT ac i roi cymorth ychwanegol i drethdalwyr ac asiantau mewn meysydd lle maent angen cymorth ychwanegol:

  • cyhoeddi a hyrwyddo'r canllaw cyflym ar gyfer rhyddhad anheddau lluosog (MDR) yng nghylchlythyr diweddariad gweithredol yr haf ar gyfer gweithwyr trethu proffesiynol
  • cynhyrchu sawl fideo addysgol, a gyhoeddwyd ar ein sianel YouTube ac a rannwyd gyda'n hasiantau. Mae'r rhain yn cwmpasu trafodiadau defnydd cymysg ac MDR
  • cyhoeddi'r offeryn gwirio cyfradd uwch ar gyfer asiantau – a ddatblygwyd yn fewnol gan ein tîm digidol
  • datblygu'r Gyfrifiannell MDR – sy’n helpu i leihau gwallau cyfrifo ar gyfer y rhai sydd â hawl i gael y rhyddhad
  • ailgynllunio a rhyddhau cyfrifiannell TTT gwell - ymateb i adborth cwsmeriaid a gwella'r ap ar gyfer dyfeisiau symudol
  • creu diweddariadau technegol ar eiddo defnydd cymysg ac adfeiliedig
  • symleiddio'r canllawiau dibreswyl/preswyl, gwella'r cynllun, ac ychwanegu testun cymorth sy’n darparu dolen ato o'r system rheoli treth, yn ogystal ag ychwanegu cwestiynau newydd at y ffurflen dreth ddigidol
  • gwneud diweddariadau a pharatoadau i gefnogi diwedd y newid dros dro i gyfraddau TTT ar 30 Mehefin 2021

Gwnaethom welliannau pellach i'n system rheoli treth, gan ei gwneud yn fwy hygyrch. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ein datganiad hygyrchedd er mwyn galluogi cymaint o bobl â phosibl i ddefnyddio ein gwasanaethau'n llawn.

Rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid er gwaethaf y galw cynyddol, gyda 92% o'r rhai a roddodd adborth yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau.

Yn ystod dechrau 2021 i 2022, lansiwyd y ffurflen TTT newydd gennym. Roeddem yn falch o'r ymgysylltiad cadarnhaol gan Weithredwyr Safleoedd Tirlenwi (GSTau) – roedd yn tanlinellu gwerth yr ymchwil a’r ymgysylltu a wnaed â defnyddwyr drwy gydol ei ddatblygiad a'r manteision a ddeilliodd o'r gwelliannau a wnaed gan ein tîm digidol. Mae'r ffurflen TTT yn creu mwy o gyfleoedd i ni archwilio sut y gallwn ddefnyddio data i liniaru risgiau treth ac yn helpu i sicrhau bod pob GST yn cael pethau'n gywir y tro cyntaf.

Y ddesg gymorth a chefnogaeth arbenigwyr treth

Rydym yn rhoi'r cwsmer wrth wraidd yr hyn a wnawn. Er gwaethaf effaith COVID-19 ar ein hadnoddau, parhaodd ein desg gymorth ddwyieithog a'n timau arbenigol treth i gynnig gwasanaeth o lefel uchel i gwsmeriaid. Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd dysgu a datblygu i'n timau er mwyn sicrhau bod y cyngor a roddir yn gywir ac yn cael ei ddarparu mewn ffordd hyderus.

Roedd rhai o'n huchafbwyntiau'n cynnwys:

  • derbyn bron i 7,300 o alwadau drwy ein desg gymorth ddwyieithog
  • ein harbenigwyr TTT yn ymateb i bron i 1,200 o ymholiadau technegol
  • ein harbenigwyr TGT yn ymateb i dros 200 o ymholiadau a cheisiadau
  • rhoi barn treth ar 8 o’r holl ymholiadau TTT a TGT a dderbyniwyd, a hynny oherwydd cymhlethdod yr 8 ymholiad hyn
  • prosesu dros 800 o ffurflenni treth papur, gan ddefnyddio’r swyddogaeth uwchlwytho a gyflwynwyd i'n ffurflen SmartSurvey er mwyn goresgyn y broblem o beidio â chael mynediad at ein post am gyfnodau oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo
  • cymeradwyo bron i 2,700 o geisiadau am ad-daliadau (yn cynnwys gwelliannau ac ad-daliadau cyfradd uwch), gan weithio ar draws timau i ddarparu gwasanaeth cyflym a chywir

Adborth a mewnwelediad

Rydym wedi buddsoddi llawer o amser yn galluogi ein defnyddwyr i roi adborth ar ein gwasanaethau er mwyn llywio ein gwaith o gynllunio gwasanaethau. Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd bron i 2,000 darn o adborth drwy nifer o sianeli.

Rydym yn defnyddio'r adborth a gawn i wneud gwelliannau parhaus i’n darpariaeth o wasanaethau, gan gynnwys ein cyfrifiannell ffurflen dreth, ein ffurflenni ar-lein, a’n prosesau o ganlyniad i adborth penodol, er enghraifft symleiddio cwestiynau, ychwanegu testun cymorth, ac ychwanegu a dileu cwestiynau i wneud cwblhau'r ffurflenni'n symlach. Mae'r astudiaethau achos isod yn dangos rhai o'r gwelliannau a wnaed gennym yn ystod y flwyddyn, a hynny gan ddefnyddio mewnwelediadau ac adborth gan gwsmeriaid.

Astudiaethau achos ‘ei gwneud yn haws’

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn cynnig enghreifftiau o'r hyn rydym wedi'i wneud i'w gwneud yn haws talu'r swm cywir o dreth.

Astudiaeth achos 1: Cyfrifiannell TTT

Y gyfrifiannell TTT yw'r dudalen â’r nifer fwyaf o ymweliadau ar ein gwefan. Mae'n wasanaeth pwysig sy'n dweud wrth bobl faint o dreth y byddent yn ei thalu wrth brynu eiddo neu dir. Derbyniwyd llawer o adborth gan drethdalwyr a chyfreithwyr ar y gwasanaeth hwn, mwy nag unrhyw wasanaeth arall.

Roedd yr adborth yn cynnwys:

  • iaith – mae'n dechnegol ac yn ddryslyd
  • llif – nid yw’n hawdd ei ddilyn mewn mannau
  • taith y defnyddiwr – mae'n anodd ei lywio ar adegau

Yn bennaf, dywedodd yr adborth wrthym nad oedd defnyddwyr yn deall yr iaith dechnegol sy'n cael ei defnyddio.

Cynhaliodd ein tîm cwsmeriaid ymchwil a oedd yn cynnwys:

  • cyfweld ag aelodau o'r cyhoedd sydd wedi prynu eiddo yng Nghymru yn ddiweddar
  • ymchwilio arfer gorau
  • archwilio cyfrifianellau treth eraill
  • siarad â chydweithwyr i ddeall sut mae cwsmeriaid yn defnyddio'r gyfrifiannell

Gan ddefnyddio'r ymchwil hon, gwnaethom adeiladu cyfrifiannell dreth well a’i rhyddhau ym mis Mawrth 2022.

Ers ei diweddaru, mae gan y gyfrifiannell ryngwyneb sy’n llawer haws i’w ddefnyddio ac mae'r iaith a ddefnyddir yn haws i'w ddeall. Mae’r dyluniad newydd yn golygu ei bod yn llawer cyflymach ac yn rhedeg yn fwy llyfn na'r hen fersiwn. Yn gyffredinol, mae'r gyfrifiannell yn sylweddol well ac mae'r prosiect hwn wedi dangos pwysigrwydd ymchwil defnyddwyr a rhaglennu arloesol.

Astudiaeth achos 2: Ffurflen dreth ddigidol TGT wedi’i gwella

Yn seiliedig ar ein profiad o gasglu a rheoli TGT, nodwyd sawl cyfle i wella ein ffurflen treth ddigidol er mwyn ei gwneud yn haws i'n trethdalwyr gael pethau'n gywir y tro cyntaf ac i sicrhau bod y dreth yn gweithredu'n deg.

Dros gyfnod o 18 mis, hyd at ddiwedd Ebrill 2021, gweithiodd ein tîm TGT gyda chydweithwyr ar draws ACC i ddatblygu ffurflen dreth ddigidol newydd. Rydym wedi cynnwys ein defnyddwyr (gweithredwyr safleoedd tirlenwi) yn y broses drwy gynnal sesiynau ymgysylltu i gyflwyno'r cysyniad ac i gasglu adborth er mwyn mireinio a llunio'r ffurflen dreth.

Cynhaliwyd camau cynnar y datblygiad gyda'n partner datblygu, tra bod camau diweddarach y datblygiad wedi’u cymryd yn gwbl fewnol.

Diben y ffurflen dreth newydd a gwell oedd:

  • helpu trethdalwyr i gyflwyno'r wybodaeth gywir am feysydd mwy cymhleth fel gostyngiadau dŵr a gronynnau mân
  • ein galluogi i gasglu mwy o wybodaeth am y dreth i’n caniatáu i gefnogi ein trethdalwyr yn well a sicrhau fod y dreth gywir yn cael ei thalu ar yr adeg iawn

Aeth y ffurflen dreth yn fyw ym mis Mai 2021 a chafodd gwelliannau pellach, yn seiliedig ar adborth cwsmeriaid, eu cyflwyno ym mis Chwefror 2022 fel rhan o'n dull o wella'n barhaus.

Ffeilio ffurflenni treth yn ddigidol

Mae ein system rheoli treth ddigidol wedi'i dylunio er mwyn cynnig ffordd hawdd i'n defnyddwyr ffeilio’u ffurflenni treth. Bob blwyddyn rydym yn gwneud gwelliannau i'r system er mwyn gwella profiad y defnyddiwr ac ansawdd y data a gesglir gennym.

Image
Mae Siart 1 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar bapur ar gyfer 2020-21 a 2021-22, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.

Mae Siart 1 yn dangos y tueddiadau misol yng nghanran cyfanswm y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur am y flwyddyn, sef un o'n prif fesurau perfformiad (MP1). Derbynnir y rhan fwyaf o'n ffurflenni treth drwy ein system ffurflenni treth ddigidol. Roedd lefelau'r ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur yn parhau i fod yn isel, ac roedd ymhell o fewn y targed o 2% drwy gydol 2021 i 2022.

Amcan 2: sicrhau ein bod yn deg

Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadau.

Ein dull i reoli risg treth

Rydym yn cydnabod bod rhai elfennau o'r system dreth yn fwy cymhleth neu'n anoddach eu dehongli nag eraill. Mae’r ddwy dreth ddatganoledig yn rai a hunanasesir, felly’r trethdalwr sy'n gyfrifol am gyfrifo eu trethi dyledus a chyflwyno eu ffurflenni treth. Efallai na fydd pobl yn talu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir os nad ydym yn eu helpu i ddeall sut i gymhwyso'r rheolau'n gywir.

Rydym wedi datblygu ein gallu i ddadansoddi data a chael gwell dealltwriaeth o’r wybodaeth a gawn o’r 60,000 o ffurflenni treth a gyflwynir gan drethdalwyr a'u cynrychiolwyr bob blwyddyn. Rydym hefyd yn defnyddio data sydd ar gael i'r cyhoedd yn ogystal â data a gesglir yn ddiogel gan bartneriaid, megis Cofrestrfa Tir EM.

Yn ogystal â dadansoddi data, rydym yn dysgu o ymholiadau, o ddata gweithrediadol, a gwaith mewnwelediad cwsmeriaid. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth gyfunol hon ochr yn ochr ag arbenigedd cynyddol ein sefydliad er mwyn nodi tueddiadau, risgiau treth sy'n dod i'r amlwg, a risgiau treth posibl yn gynnar.

Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu, ymchwil ac ymholiadau treth i ddatblygu dealltwriaeth gyflawn o'r risgiau treth. Mae'r gweithgarwch ymgysylltu hwn a'r hyn a ddysgir o’i gyflawni yn hanfodol er mwyn deall pam fod gwallau'n digwydd ac mae’n ein caniatáu i ni ddatblygu atebion effeithiol sydd wedi'u targedu. Gan y gallai risgiau newydd esblygu, a chan fod risgiau presennol yn gallu newid, a hynny oherwydd amrywiaeth o ffactorau fel newidiadau cymdeithasol ac economaidd, rydym yn mabwysiadu proses barhaus ac ailadroddol wrth nodi a gwerthuso risgiau treth. Mae hyn yn rhoi mwy o wybodaeth a dysg i ni, a dylai hynny yn ei dro arwain at ganfod atebion mwy effeithiol i helpu pobl i gael eu trethi'n gywir y tro cyntaf.

Wrth i ni nodi a dysgu mwy am risgiau treth penodol, byddwn yn treialu gwahanol weithgareddau i geisio lleihau'r risg, a thrwy hynny helpu mwy o bobl i gael eu trethi'n gywir y tro cyntaf yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau wedi’u targedu er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac i addysgu pobl neu wneud newidiadau i'n canllawiau a'n system dreth i leihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau cyn i'r ffurflenni treth gael eu ffeilio gyda ni.

Rydym hefyd wedi datblygu ffyrdd o gefnogi pobl i gywiro eu ffurflenni treth os ydynt yn gwneud camgymeriad. Yn yr achosion prin hynny lle mae pobl yn ceisio efadu talu'r swm llawn, rydym wedi sefydlu mecanweithiau i'w hadnabod yn gyflym ac i ddefnyddio ein pwerau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.

Mae ein dull yn helpu mwy o bobl i dalu'r dreth gywir ar yr adeg iawn ac yn lleihau'r posibilrwydd o wallau ac o osgoi ac efadu treth. Ceir eglurhad manylach o sut rydym yn rheoli 'risg treth' ac yn mesur ein perfformiad mewn perthynas â'r dull hwn yn ein Adroddiad ar Berfformiad 2019 i 2020.

Data perfformiad risg treth

Yn 2021 i 2022 gwnaethom gasglu mwy o dreth a rheoli mwy o drafodiadau nag erioed o'r blaen. Parhawyd i weld yr un ganran o drafodiadau yn gywir y tro cyntaf (98.2% yn 2021 i 2022 o gymharu â 98.3% yn 2020 i 2021).

Ar yr un pryd, rydym wedi gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd, megis:

  • atal dyledion
  • ad-daliadau treth
  • ad-daliadau cyfradd uwch

Ac wrth gwrs, rydym wedi parhau i gefnogi trethdalwyr ac asiantau yn ystod cyfnod heriol.

Bwriad ein gwaith risg treth yw canfod y nifer fach o achosion lle gallai pethau fod wedi mynd o chwith. Mae gennym ddata a gwybodaeth gyfunol wedi’u meithrin er mwyn nodi tueddiadau a phatrymau a allai ddangos risg treth benodol, ac i ddysgu cymaint ag y gallwn am y risgiau fel y gallwn dargedu ein gweithgareddau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Fodd bynnag, mae'r amrywiadau sylweddol mewn trafodiadau yn ystod 2020 i 2021, o ganlyniad i effaith COVID-19 ar y farchnad eiddo, wedi ei gwneud yn anos nodi a mesur tueddiadau o ran risg treth. Er i ni ddechrau archwilio rhai risgiau newydd sy’n dod i'r amlwg yn 2021 i 2022, y rhai y gwnaethom adrodd arnynt yn 2020 i 2021 oedd y prif risgiau yn dal i fod.

Roedd graddfa ein gweithgareddau lliniaru drwy gydol y flwyddyn yn llai nag y byddai wedi bod mewn cyfnod arferol. Rydym wedi datblygu canllawiau a chynnyrch addysgol ar sawl maes risg treth allweddol, ac yn ystod chwarter 4 gwnaethom ddechrau gwneud newidiadau i'r system dreth a chyhoeddi cyfrifianellau wedi'u diweddaru i helpu trethdalwyr i gael pethau'n gywir y tro cyntaf ac i leihau risgiau treth.

Rydym yn credu bod y gweithgaredd hwn wedi cael effaith gadarnhaol, gyda nifer yr achosion risg treth yn gostwng ychydig yng nghanol y flwyddyn. Fodd bynnag, gwelsom gynnydd at uchafbwynt 4 blynedd yn ystod y pedwerydd chwarter. Mae'n rhy gynnar i ddweud beth achosodd y cynnydd diweddaraf hwn a pha gamau y dylwn eu cymryd nesaf. Fodd bynnag, rydym wedi dechrau casglu a dadansoddi mwy o ddata yn un o'r prif feysydd risg treth, a byddwn yn mynd i'r afael â hyn yn 2022 i 2023.

Oherwydd gwerthoedd cynyddol trafodiadau, mae gwerth y dreth sydd mewn perygl yn yr achosion hyn wedi codi'n gyson yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Image
Mae Siart 2 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar draws risgiau treth 1 i 5), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2022.

Mae'r cyntaf o'n siartiau Mesur Perfformiad (PM4) uchod yn dangos y newid mewn risg treth ar draws y 5 prif risg TTT yn ystod y flwyddyn:

  • triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo
  • Risg TTT mewn perthynas â rhyddhad penodol (a), lle mae '(a)' yn cynrychioli'r cyntaf o'n risgiau treth sy'n cynnwys rhyddhad TTT. Bydd risgiau treth yn y dyfodol sy'n cynnwys rhyddhadau ardrethi TTT eraill yn cael eu categoreiddio fel '(b)', '(c)', ac yn y blaen
  • cwmni sy’n prynu eiddo preswyl, a'r risg weddilliol gysylltiedig ynghylch cwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl
  • ffurflen dreth sydd heb ei dychwelyd
  • anghytuno â’r gyfrifiannell TTT

Yn yr adroddiad hwn rydym wedi cynnwys siartiau unigol ar gyfer 'triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo' a 'risg TTT mewn perthynas â rhyddhad penodol (a)'. Gwnaed hyn oherwydd bod newid mwy materol yn y risgiau a'r gweithgarwch hyn i ni fyfyrio arno yn ystod y flwyddyn. Mae ein datganiad data TTT blynyddol yn cynnwys y siartiau perfformiad ar gyfer ein holl risgiau TTT ar gyfer y cyfnod 2020 i 2021.

Ar gyfer y siart uchod, rydym wedi defnyddio graddfa fwy er mwyn cynnwys yr holl risgiau treth. Ar gyfer y siartiau risg treth unigol isod, rydym wedi defnyddio graddfa lai, oherwydd y gwerthoedd is ar lefel risg unigol. Mae defnydd y raddfa lai hon yn gyson ar draws yr holl siartiau risg treth unigol.

Image
Mae Siart 3 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 4 (triniaeth dreth ar gyfer gwahanol fathau o eiddo) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2022.

Mae'r siart MP4 unigol cyntaf ar gyfer risg TTT 4 – triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo, yn dangos bod nifer yr achosion o risg treth wedi aros yn sefydlog yn ystod 3 chwarter cyntaf y flwyddyn, gyda chynnydd yn nifer yr achosion yn ystod chwarter 4.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i ymgysylltu ag asiantau a threthdalwyr ar y risg hon. Rydym wedi datblygu rhai canllawiau cyflym yn ogystal â gwelliannau i'n canllawiau technegol. Rydym wedi cynhyrchu deunydd addysgol a chyhoeddi diweddariadau gweithrediadol am y risg hon.

Yn chwarter 4, gwnaethom ryddhau diweddariad i'n system dreth er mwyn cyflwyno cwestiynau newydd mewn perthynas â'r maes risg hwn ynghyd â thestun cymorth newydd. Gyda'r newidiadau digidol hyn, ochr yn ochr â'r gwaith cyfathrebu ac addysg ehangach, roeddem yn gobeithio gweld gostyngiad yn y risg hon. Ond nid ddigwyddodd hynny. Rydym yn y broses o ddadansoddi'r data sylfaenol i ddeall pam fod y risg hon wedi parhau i gynyddu a pha gamau ychwanegol y gallwn eu cymryd i'w lleihau yn 2022 i 2023.

Image
Mae Siart 4  yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 5 (mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2022.

Mae'r siart MP4 uchod yn dangos risg TTT 5 – mewn perthynas â rhyddhad penodol (a). Mae’r patrwm yma yn debyg i risg TTT 4, er bod llai o achosion a lefelau is o dreth mewn perygl. Er hynny, yn ystod y flwyddyn canolbwyntiwyd ar weithgarwch addysgu ac ymwybyddiaeth er mwyn helpu i reoli'r maes risg hwn. Roedd hyn yn cynnwys fideos addysg a chanllawiau cyflym. Tua diwedd 2021 i 2022, gwnaethom hefyd ryddhau cyfrifiannell newydd i helpu i leihau'r cyfle i bobl wneud camgymeriadau wrth hawlio'r rhyddhad hwn.

Rydym wedi gweld gwelliannau yn yr elfen o'r risg benodol hon sydd wedi deillio o welliannau i ychwanegu'r rhyddhad at y ffurflen dreth ar ôl iddi gael ei gyflwyno gyntaf. Deilliodd y gwelliannau hyn o newidiadau digidol i’r ffurflen ddiwygio ac maent wedi ein helpu i gasglu mwy o ddata i gael gwell dealltwriaeth o'r risg hon. Rydym wrthi'n edrych ar sut y gallwn wneud newidiadau tebyg i'r brif system dreth yn ystod 2022 i 2023 ar gyfer ffurflenni treth sy'n cynnwys y rhyddhad hwn pan gant eu cyflwyno cyntaf.

Mesur Perfformiad TTT 3 – cyfanswm y risg treth

Mae Mesur Perfformiad 3 yn dangos cyfanswm yr holl drafodiadau a oedd yn disgyn o fewn un o'r risgiau treth a nodwyd gennym yn ystod y flwyddyn, wedi'i ychwanegu at unrhyw drafodiadau lle cafodd y ffurflen dreth ei chywiro'n ddiweddarach. Mewn rhai achosion, arweiniodd y cywiriad at dalu treth ychwanegol neu ad-dalu treth. Mewn achosion eraill, roedd camgymeriad gweinyddol ond roedd gwerth y dreth a adroddwyd ar y ffurflen yn gywir.

O'r holl drafodiadau a dderbyniwyd, roedd hyn yn cyfrif am 1.8%. Felly, rydym yn credu bod o leiaf 98.2% o drafodiadau yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2021 i 2022. Yn 2019 i 2020, sefydlwyd llinell sylfaen gychwynnol fod o leiaf 98.3% o drafodiadau, yn ein tyb ni, yn gywir y tro cyntaf, ac yn 2020 i 2021 roedd y ffigur yn 98.3% unwaith eto. Yn gyffredinol, mae lefel y risg treth wedi aros yn weddol gyson o flwyddyn i flwyddyn.

Rydym yn disgwyl i'r ffigurau o dan y mesur hwn amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth i ni barhau i nodi risgiau treth newydd a lleihau'r risgiau treth presennol. O ystyried effaith COVID-19 ar drafodiadau a gweithgareddau gweithrediadol, rydym yn dal i gredu ei bod yn rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau neu i roi sylwadau ar y ffigurau hyn.

Byddwn yn parhau i olrhain y ffigur dros amser i weld pa mor effeithiol yr ydym o ran nodi risgiau treth ac yna eu lleihau. Rydym yn credu, gydag amser, y gwelwn gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf oherwydd ein dull o reoli risg treth.

Dadansoddiad o'n gwaith risg treth – Risgiau TGT

Mabwysiadwyd dull tebyg gennym er mwyn rheoli risgiau treth TGT. Gwnaethom ganolbwyntio ar gefnogi pobl i dalu'r dreth gywir y tro cyntaf, ac wedi nodi risgiau treth posibl fel bo modd i ni gynnal gweithgareddau lliniaru er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau. Gan fod gennym lawer llai o drethdalwyr ar gyfer TGT, gwnaethom deilwra ein dull o weithredu i bob trethdalwr yn unigol.

Rydym yn cyfuno ein gwybodaeth â gwybodaeth ac arbenigedd ein sefydliad partner, Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn darparu cymorth wedi'i deilwra i'n trethdalwyr, sy’n caniatáu i ni fabwysiadu dull mwy teilwredig o reoli risgiau treth.

Ni allwn adrodd ar effaith ein gweithgarwch risg treth ar gyfer TGT yn yr un modd ag y gallwn ar gyfer TTT gan ein bod ond yn gweithio â 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi. Fel awdurdod treth, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddiogelu cyfrinachedd trethdalwyr felly ni allwn ddarparu data ar gyfer achosion risg treth ar gronfa mor fach o drethdalwyr.

Rydym wedi parhau i weithio'n glos â Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi risgiau treth posibl ar draws y diwydiant mewn perthynas â mathau penodol o wastraff. Er ein bod wedi gweld rhywfaint o ostyngiad yn y risg hon ledled Cymru, mae rhywfaint o risg yn parhau. O ganlyniad, rydym yn parhau i weithio gyda threthdalwyr i wella eu hymwybyddiaeth a'u haddysg, ac mewn rhai achosion, rydym wedi cynnal ymholiadau ffurfiol i wirio cywirdeb ffurflenni treth.

Rhwng 2020 a 2021, gwnaethom barhau i wneud gwelliannau i'r system ffurflenni treth TGT, a gweithredwyd y rhain ym mis Mai 2021. Mae'r system ffurflenni treth TGT sydd wedi'i diweddaru wedi helpu trethdalwyr i gael eu trethi'n iawn y tro cyntaf, ac wedi lleihau'r risgiau treth rydym wedi'u nodi eto fyth. Mae'r system yn casglu mwy o ddata nag o'r blaen, gan ein helpu i sicrhau mwy o degwch a chysondeb ar draws gweithrediad y dreth hon.

TGT ar Warediadau Anawdurdodedig

Er gwaethaf effaith COVID-19, rydym wedi gwneud cynnydd da o ran gwella ein dull o rannu gwybodaeth a gwerthuso achosion posibl gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, o ddatblygu polisïau ac o ymchwilio i achosion posibl.

O ganlyniad i'r gwaith hwnnw, gwnaethom ddechrau cyflwyno hysbysiadau i ddarpar drethdalwyr yn ystod 2021 i 2022, ac mae cynlluniau ar waith i gynyddu ein gweithgarwch gweithrediadol yn raddol o 2022 ymlaen.

Atal a mynd i'r afael ag osgoi neu efadu trethi

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn bwriadu talu'r dreth iawn ar yr adeg iawn, rydym yn cydnabod bod rhai'n ceisio talu llai drwy osgoi neu efadu trethi. Fel rhan o'r ffordd yr ydym yn rheoli risg treth, rydym wedi lleihau cyfleoedd i efadu neu osgoi talu treth, gan ei gwneud yn anos gwneud hynny.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i:

  • ddatblygu ein partneriaethau gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill
  • gwella ein prosesau rhannu gwybodaeth, datblygu tudalen we bwrpasol newydd yn ogystal â chyfleuster datgelu
  • defnyddio ein data a'n cudd-wybodaeth ein hunain, yn ogystal â data a chudd-wybodaeth gan ein partneriaid, i nodi achosion posibl
  • defnyddio ein pwerau, gan gynnwys ymholiadau treth, i ymchwilio i achosion posibl; ac wedi gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i rannu gwybodaeth am yr achosion hynny
  • lleihau'r posibilrwydd o efadu trethi drwy weithredu ein cynlluniau rheoli risg treth, er enghraifft, mae rhyddhau ein system TGT ddigidol newydd yn golygu bod mwy o ddata a gwybodaeth yn cael ei gasglu er mwyn helpu i nodi risgiau'n gynnar
  • gwella ymwybyddiaeth o risgiau treth posibl drwy gyfathrebu ac ymgysylltu cynnar. Rydym hefyd wedi cynhyrchu taflen ffeithiau sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd datgelu osgoi ac efadu trethi yn gynnar

Treth ychwanegol a gasglwyd

Gan gofio ei bod yn cymryd amser i leihau risgiau treth ac na ellir lliniaru pob risg treth yn hawdd, rydym wedi gweithio gyda threthdalwyr a'u hasiantau i unioni pethau, naill ai trwy gasglu treth ychwanegol sy'n ddyledus neu ad-dalu treth a ordalwyd mewn camgymeriad. A lle bo'n briodol, rydym wedi defnyddio ein pwerau ymholi ac asesu ffurfiol i ymchwilio i achosion o beidio â chydymffurfio er mwyn adennill treth lle talwyd rhy ychydig.

O'r gweithgareddau cywiro treth amrywiol hyn a wnaed yn ystod y flwyddyn casglwyd £1.4 miliwn o dreth ychwanegol o achosion risg treth, o ganlyniad i ddiwygio ffurflenni treth ac achosion o ffurflenni treth coll. Daeth hwn o 2 gategori’n gyffredinol: treth wedi'i hadennill o risgiau treth a datgeliadau gwirfoddol.

Treth wedi'i hadennill o risgiau treth

Gwnaethom adennill ychydig dros £1.3 miliwn o achosion a oedd o fewn un o'n risgiau treth neu o ganlyniad i ymyriadau uniongyrchol eraill. Casglwyd y rhan fwyaf o'r dreth hon o achosion a oedd o fewn y prif risgiau treth TTT ac TGT a adroddwyd gennym uchod.

Datgeliadau gwirfoddol

Casglwyd £290,000 pellach o dreth o ddiwygiadau eraill i ffurflenni treth. Nid oedd y diwygiadau hyn yn ymwneud â'n risgiau treth, nac unrhyw ymyriad uniongyrchol gennym ni, megis llythyr cymell neu ymholiad ffurfiol. Fodd bynnag, dylanwadwyd ar rai o'r gwelliannau hyn gan weithgareddau addysgol ac ymgysylltu eraill, a eglurwn yn yr adran ei gwneud yn haws.

Treth a ad-dalwyd oherwydd gwallau

Gwnaethom ad-dalu tua £164,000 i drethdalwyr oherwydd gwallau a nodwyd gennym yn eu ffurflenni treth a oedd wedi achosi iddynt ordalu treth. Nodwyd y gwallau hyn trwy ddefnyddio ein proffiliau risg treth, ac aethom ati i’w helpu i gywiro'r gwallau fel eu bod yn talu'r dreth gywir.

O nodi a gweithredu i leihau risgiau treth bydd llai o wallau'n cael eu gwneud ar draws y system dreth gyfan, a bydd llai o dreth i’w gasglu neu ad-dalu trwy gywiro gwallau – ar y cyfan, bydd mwy o bobl yn talu'r dreth gywir ar y cynnig cyntaf o ganlyniad i’n dull o weithredu.

Cosbau

Rydym wedi rhoi dirwyon pan fo trethdalwyr naill ai wedi ffeilio eu ffurflenni treth yn hwyr, wedi talu'n hwyr, neu wedi gwneud camgymeriad yn eu ffurflenni treth. Rydym yn rhoi cosbau i sicrhau bod pawb yn cael eu trin ar yr un sail deg. Cyhoeddwyd ychydig dros 2,000 o gosbau gennym, â chyfanswm o ychydig dros £500,000.

Fel y nodwyd yn adroddiad ar berfformiad 2020 i 2021, oherwydd effaith COVID-19 ar ein hadnoddau mewn cyfnod o alw cynyddol ar ein gwasanaethau, yn ystod chwarter 4 2020 i 2021 roedd rhai achosion lle’r oedd cosb yn debygol o fod yn ddyledus ond heb eu hasesu eto, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn ffigyrau’r flwyddyn honno. Mae'r cosbau hynny a aseswyd yn hwyrach ymlaen wedi'u cynnwys yn yr adroddiad eleni.

Adolygiadau ac apeliadau

Cyflwynwyd cyfanswm o ychydig o dan 120 o geisiadau newydd am adolygiad i ACC.

Os nad yw trethdalwyr yn derbyn penderfyniad ein tîm gweithredol neu benderfyniad dilynol ein Swyddog Adolygu, yna gallent hefyd apelio at gorff annibynnol, y Tribiwnlys Haen Gyntaf (treth). Fe'n hysbyswyd o 6 apêl newydd gan y Tribiwnlys.

Amcan 3: bod yn fwy effeithlon

Byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn cynnig gwerth am arian.

Er mwyn bod yn effeithlon ac yn effeithiol fel sefydliad, pan fo modd gwneud hynny rydym wedi ceisio cynllunio’n prosesau fel eu bod yn ddigidol o’r dechrau i’r diwedd.

Mae lleihau nifer y bobl sy'n talu gyda siec yn arwydd o effeithlonrwydd ein gwasanaethau ac mae'n un o'n dangosyddion perfformiad allweddol.

Mae Siart 5 yn dangos y duedd fisol yng nghanran y taliadau a dderbyniwyd drwy siec. Yn dilyn gostyngiad nodedig yn y mesur hwn yn ystod y blynyddoedd blaenorol, roedd canran y sieciau a dderbyniwyd yn cynrychioli llai nag 1% o gyfanswm y taliadau a dderbyniwyd bob mis yn ystod 2021 i 2022, ymhell islaw'r ystod darged.

Image
Mae Siart 5 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o daliadau Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd drwy siec ar gyfer 2020-21 a 2021-22, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 5 i 10 bwynt canran.

Awtomatiaeth

Yn ein Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022, eglurwyd bod awtomeiddio yn ffordd bwysig i ni barhau i fod yn effeithlon.

Mae Siart 6 yn dangos y newid misol yng nghanran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig hyd at y taliad cychwynnol. Arhosodd hyn o fewn yr ystod darged trwy gydol y flwyddyn.

Image
Mae Siart 6 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o drafodiadau sy'n symud ymlaen yn awtomatig hyd eu cau'n gychwynnol heb unrhyw gamau gan ACC ar gyfer 2020-21 a 2021-22, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.

Amser a gymerwyd i ffeilio

Mae Siart 7 yn dangos y duedd fisol yng nghanran y ffurflenni treth a gafodd eu ffeilio fwy na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ariannol, ar ôl dod o fewn yr ystod darged yn gynnar yn y flwyddyn.

Image
Mae Siart 7 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod ar gyfer 2020-21 a 2021-22, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.

Atal dyled

Rydym yn dadansoddi ein trafodiadau er mwyn canfod faint sydd wedi talu'n brydlon o gymharu â’r nifer a dalodd yn hwyr, gan arwain at ddyled. Fel arfer, mae'r taliad yn ddyledus o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y trafodiad ar gyfer TTT (neu ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y nifer fach o drafodiadau TGT, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad hwn). Cyn hyn, roeddem yn eithrio trafodiadau a oedd wedi'u diwygio neu rai a arweiniodd at ad-daliad oherwydd eu bod weithiau'n effeithio ar y dyddiadau cau yr ydym yn eu defnyddio yn ein cyfrifiadau. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo datrys y mater hwn yn ystod y flwyddyn, ac mae’r data bellach yn cwmpasu pob trafodiad TTT.

O'r trafodiadau a gawsom, talwyd tua 96% yn brydlon. Mae hyn yn arwydd da o'n gallu i atal dyled ac mae’r lefel yn debyg i'r flwyddyn flaenorol.

O ran y 1,560 o drafodiadau sy'n weddill, y rhai a dalwyd yn hwyr neu sy'n parhau i fod yn ddyledion, gallwn fesur ein heffaith wrth adennill y ddyled o fewn 30 diwrnod iddynt ddod yn ddyled (60 diwrnod i bob pwrpas o ddyddiad y trafodiad). Mae gennym darged (Mesur Perfformiad 5.2) o gael 90% i 95% o ddyledion wedi’u talu o fewn 30 diwrnod o ddod yn ddyled.

Rydym yn cyfyngu ein dadansoddiad i'r achosion hynny lle derbyniwyd y ffurflen dreth o fewn 60 diwrnod i'r dyddiad dod i rym, gan y byddai'n amhosibl cyrraedd y targed hwn gyda’r rhai a dderbyniwyd yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym. 

Rydym yn defnyddio'r term 'dyled y gellir ei reoli’ i ddisgrifio'r ddyled yn yr achosion hyn. Mae'r mwyafrif helaeth (1,340) o'n dyledion yn ddyledion y gellir eu rheoli.

Amser a gymerir i dalu dyledion

Mae Siart 8 yn dangos y duedd fisol yng nghanran y trafodiadau a gyfrifwyd fel dyledion y gellir eu rheoli ac a gasglwyd o fewn 30 diwrnod iddynt ddod yn ddyled. Arhosodd y mesur yn gymharol sefydlog yn ystod y flwyddyn ariannol, gan aros o fewn neu'n agos at yr ystod darged o 90 i 95% y rhan fwyaf o’r amser, ar wahân i ostyngiad bach yn yr haf a thua diwedd y flwyddyn. Roedd hyn yn welliant cyffredinol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol lle'r oedd amrywiad mwy amlwg ac roedd y ffigurau'n is na'r ystod darged ar y cyfan.

Image
Mae Siart 8 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ddyledion Treth Trafodiadau Tir y gellir eu rheol, a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafoiadau i rym, ar gyfer 2020-21 a 2021-22, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.

O ganlyniad i'r adborth a gawsom, cynhaliwyd adolygiad llawn o'n proses ddyledion o'r dechrau i'r diwedd, gan chwilio am welliannau i'r broses a'r ffordd y mae’n rhyngweithio â threthdalwyr. Buom yn gweithio'n fewnol ac yn allanol wrth chwilio am yr arfer gorau o ran rheoli a gorfodi dyledion, a chafwyd ystod o ganfyddiadau ac argymhellion. O ganlyniad i'r adolygiad hwn, rydym wedi gweithredu sawl gwelliant.

Rydym wedi newid prosesau mewnol er mwyn canolbwyntio mwy ar ymgysylltu'n gynnar â threthdalwyr sy'n methu â thalu. Mae’r gwaith ymgysylltu cynnar yn canolbwyntio ar ddyledion sydd heb eu sefydlu eto, ac mae’n sicrhau ein bod yn atal y ddyled rhag cynyddu.

Rydym wedi symleiddio llawer o brosesau hefyd, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig cymorth yn uniongyrchol i'r rhai sydd mewn trafferthion ariannol, ac mae hynny’n sicrhau ein bod yn rhoi'r cymorth cywir ar yr adeg iawn.

Er mwyn sicrhau tegwch i’r holl drethdalwyr, rydym hefyd wedi gwneud cynnydd yn ein gwaith gorfodi dyledion, gan ddefnyddio prosesau gwell megis cysylltu’n gynharach, cysylltu’n uniongyrchol, ac uwchsgilio aelodau'r tîm er mwyn darparu'r cymorth cywir ar yr adeg iawn.

Rydym hefyd wedi profi ffyrdd newydd o gasglu treth gan y rhai sy’n dewis peidio â thalu, gan weithio'n agos gyda'n partner gorfodi dyledion i fynd ar drywydd achosion yn y llysoedd.

Bydd yr adolygiad yn parhau yn 2022 i 2023, gyda'r nod o weithredu mwy o'n canfyddiadau, er enghraifft, ei gwneud yn haws i drethdalwyr dalu, i fireinio a gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu â threthdalwyr, ac i wella ein cynnig i'r rhai sydd angen ein cefnogaeth.

Amser a gymerwyd i wneud ad-daliadau TTT Cyfradd Uwch

Rydym wedi cymeradwyo a thalu tua 2,250 o ad-daliadau cyfradd uwch yn ystod 2021 i 2022, o'i gymharu â 1,600 o ad-daliadau yn y flwyddyn flaenorol. Roeddem yn rhagweld y cynnydd hwn o ran prosesu ad-daliadau gan fod gan drethdalwyr gyfnod o 3 blynedd i wneud hawliad am ad-daliad. Roedd hyn yn golygu ein bod, yn ystod 2021 i 2022, wedi cyrraedd carreg filltir 5,000 ad-daliad cyfradd uwch ers i ni ddechrau casglu TTT am y tro cyntaf.

Er mwyn mesur ein perfformiad, rydym yn cyfrifo nifer y diwrnodau a gymerir i brosesu pob un o'n had-daliadau cyfradd uwch. Yn ystod 2020 i 2021 gwnaethom newidiadau i'n systemau a'n galluogodd i fesur ein proses o'r pwynt y derbynnir cais am ad-daliad, gan roi dealltwriaeth lawnach i ni o'n perfformiad. Mewn blynyddoedd blaenorol, dim ond o'r pwynt y cymeradwyir yr ad-daliad y gellid mesur â’r dangosydd hwn.

Mae'r ddau fesur wedi'u cynnwys yn Siartiau 9a a 9b er mwyn rhoi cyd-destun, a'r prif fesur yw'r un wedi’i seilio ar ddyddiad y cais, gan ei fod yn adlewyrchiad tecach o amser aros cwsmeriaid.

Mae Siart 9a yn dangos y duedd fisol yn nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i brosesu ad-daliad ar y ddwy sylfaen, ac mae hefyd yn cynnwys cyfrif o ad-daliadau a wnaed ym mhob mis. O'r siart gallwn weld bod nifer yr ad-daliadau a broseswyd gennym yn amrywio dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er ei fod yn fwy sefydlog nag mewn blynyddoedd blaenorol, gyda’r uchafbwyntiau’n adlewyrchu uchafbwyntiau tebyg yn lefelau cyffredinol y trafodiadau. 

Mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i brosesu ad-daliadau wedi aros yn gymharol sefydlog gan ostwng yn raddol ar ôl uchafbwynt ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol, lle, fel yr adroddwyd y llynedd, arweiniodd cyfuniad o ffactorau at arafu’r amseroedd prosesu. Mae'r sefydlogrwydd hwn yn cyd-fynd â chwblhau recriwtio i'r tîm perthnasol o fewn y sefydliad a gweithredu prosesau gwell.

Image
Mae Siart 9a yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i arddangos nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i arddangos nifer cyfartalog y dyddiau rhwng cymeradwyo a thalu’r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2020 i Fawrth 2022.

Mae Siart 9b yn canolbwyntio ar y duedd fisol yng nghanran y taliadau a wnaed o fewn 30 diwrnod ar y ddwy sylfaen. Arhosodd y mesur o gwmpas 95% neu uwch trwy gydol blwyddyn ariannol 2021 i 2022, gan gyrraedd uchafbwynt tua diwedd y flwyddyn, unwaith eto yn amlygu sefydlogrwydd hirdymor yn dilyn y mater ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol y soniwyd amdano eisoes.

Image
Mae Siart 9b yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfresi misol o ganran yr ad-daliadau a dalwyd o fewn 30 diwrnod o ddyddiad y cais ac o’r dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad. Mae'r ddwy linell wedi'u hagregu yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2020 i Fawrth 2022.

Amcan 4: datblygu ein gallu 

Byddwn yn datblygu gallu unigol a chyfunol.

Ymgysylltiad

Mae cael pobl sydd ag ymgysylltiad cryf yn bwysig i ni gan fod hynny’n gwneud ein pobl yn hapusach ac yn cryfhau eu cymhelliant i wneud eu gorau i gyflawni ein hamcanion.

Er mwyn i’n pobl ymgysylltu, rydym yn:

  • darparu swyddi diddorol sydd â lefelau uchel o ymreolaeth
  • cynnig cyflogau Cyflog Byw a buddion teg
  • blaenoriaethu a chefnogi llesiant ein pobl

Rydym wedi dysgu llawer o orfod cynnal ymgysylltiad yn ystod cyfnod mor heriol. Gwelsom nad oedd defnyddio dull 'a ffefrir gan y rhan fwyaf' o ymgysylltu yn addas ar gyfer y ffordd rydym bellach yn gweithio. Yn hytrach, rydym wedi cefnogi ein pobl yn well drwy drin pawb fel unigolyn, a gwerthfawrogi bod sefyllfaoedd unigol, teuluol a chymunedol yn newidiol.

Yn benodol, yn 2021 i 2022, gwnaethom flaenoriaethu neu gyflwyno'r gweithgareddau canlynol er mwyn ymgysylltu â'n pobl:

  • cynnwys ein pobl a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt trwy gynnal galwadau a rhoi diweddariadau i'r holl staff yn wythnosol
  • sicrhau bod ein holl bobl yn cael sgyrsiau llesiant strwythuredig gyda'u rheolwyr llinell yn aml
  • hyrwyddo cynnal perthnasau gwaith cadarnhaol drwy annog ein pobl i dreulio amser anffurfiol a chymdeithasol gyda'u cydweithwyr
  • mae ein Pwyllgor Llesiant, sy'n cael ei redeg gan staff, yn neilltuo amser i gynnal digwyddiadau i gefnogi ein 5 nod llesiant (cysylltu ag eraill, bod yn egnïol, dysgu sgiliau newydd, rhoi i eraill, a bod yn ystyriol)
  • annog ein pobl i rannu eu profiadau, yr hyn sy’n eu herio, a'u syniadau
  • lleihau oriau gwaith craidd i roi mwy o hyblygrwydd i'n pobl o ran pryd y maent yn dechrau ac yn gorffen gwaith, a hynny er mwyn caniatáu amser ar gyfer cyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â darparu cymorth, cwnsela, a chyfnodau absenoldeb arbennig
  • adolygu'r ffordd orau o gefnogi ein blaenoriaethau busnes newydd â’n timau â niferoedd staff llai, gan gefnogi ein pobl i wneud rolau gwahanol dros dro

Roedd llawer o'r gweithgareddau hyn mewn ymateb i’r effaith barhaus ar fywydau a gwaith pobl yn ystod pandemig, ond rydym yn disgwyl parhau â nifer o’r gweithgareddau hyn er mwyn cefnogi symudiad hirdymor tuag at weithio hybrid.

Fel rhan o'n hymateb, gwnaethom adolygu anghenion cyfarpar ac amodau gwaith yn barhaus ar gyfer y staff oedd yn gweithio o swyddfa yn rhannol, pan oedd hynny'n ddiogel a phan nad oedd modd iddynt weithio gartref, a hynny am resymau llesiant, busnes neu resymau ymarferol megis diffyg lle.

Gwnaethom hefyd barhau i flaenoriaethu recriwtio i rolau a oedd wedi'u llenwi dros dro a’r rhai a fu’n wag hiraf, a gwelsom ein cyfradd swyddi gwag – a oedd wedi bod yn uchel oherwydd yr ataliad dros dro ar recriwtio yn ystod 2020 i 2021 – yn lleihau'n sylweddol.

Ar ôl blaenoriaethu llesiant ein pobl, a chan ystyried pa mor anodd fu'r flwyddyn, roeddem yn falch iawn o fod wedi cynnal ein lefel ymgysylltiad staff uchel. Dyma rai uchafbwyntiau o'n Harolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021:

  • dod yn drydydd o blith 100 a mwy o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil
  • yn y 10 uchaf ar gyfer meysydd fel bod â gwaith diddorol a heriol, bod yn rhan o benderfyniadau a newid sefydliadol, bod â hyder mewn uwch reolwyr, rheolwyr llinell cefnogol a thimau cydweithredol, a diwylliant gweithio a oedd yn annog crybwyll pryderon a thrin pobl yn deg
  • byddai 87% o'n pobl yn argymell ACC fel lle gwych i weithio
  • mae 87% o'n pobl yn fodlon â chyfanswm eu pecyn buddion (+42 pwynt canran o gymharu â Gwasanaeth Sifil y DU ar y cyfan)
  • dywedodd 99% o'n pobl fod ganddynt y dechnoleg y maent eu hangen i gysylltu a chydweithio â'u cydweithwyr
  • dywedodd 97% o'n pobl fod eu rheolwyr yn ymddiried ynddynt i wneud eu gwaith yn effeithiol o gartref

Mae’r dangosyddion eraill yn cynnwys:

  • mae 100% o'n pobl yn ennill mwy na Chyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw
  • mae gan 93% o'n pobl gontractau parhaol a does neb ar gontract dim oriau

Sgiliau

Er mwyn annog diwylliant o ddysgu, ac i sicrhau ein bod yn meddu ar y sgiliau yr ydym eu hangen fel sefydliad, rydym wedi ceisio cyflogi pobl o amrywiaeth eang o broffesiynau, a chreu cyfleoedd diddorol ar gyfer hyrwyddo, dysgu a datblygu. Er mai sefydliad bychan ydym ni, cafodd staff eu benthyca i mewn ac allan o'r sefydliad a pharhawyd i gefnogi prentisiaethau.

Rydym yn mesur ein perfformiad drwy edrych ar broffesiynau, datblygiad, a sgiliau Cymraeg ein pobl.

Dyma rai o’n cyflawniadau a’n dangosyddion ystod y flwyddyn:

  • cynrychiolir 14 o wahanol broffesiynau ar draws ein sefydliad
  • ymunodd 17 o staff â ni, gydag un rhan o dair yn dod o sefydliadau eraill y gwasanaeth sifil, a thua dwy ran o dair o amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat
  • cymerodd 10 o bobl rôl newydd barhaol o fewn ACC neu gyflogwr arall yn y gwasanaeth sifil

Fel rhan o'n hymrwymiad i'r iaith Gymraeg, lansiwyd ein Strategaeth Iaith Gymraeg gyntaf ym mis Hydref 2020. Fel rhan o'n strategaeth, cyhoeddwyd arolwg gennym ym mis Awst 2021, a nododd fod 73% o'n pobl yn deall rhywfaint o Gymraeg, gyda 24% yn rhugl neu bron yn rhugl. Byddwn yn monitro hyn yn y dyfodol er mwyn mesur cynnydd.

Roedd dysgu a datblygu yn parhau i ddigwydd ar-lein yn bennaf yn ystod 2021 i 2022, fel yn y flwyddyn flaenorol, a hynny er mwyn cefnogi gweithio gartref pan oedd COVID-19 yn gwneud hynny’n angenrheidiol, ac er mwyn cefnogi gweithio hybrid wrth i ni ddechrau dychwelyd i'r swyddfa. Cymerodd ein holl bobl ran mewn hyfforddiant yn ystod y flwyddyn, a buddsoddwyd £82,000 o'n cyllideb mewn hyfforddiant ffurfiol.

Gwnaethom barhau i nodi bylchau mewn sgiliau drwy gynnal dadansoddiad ffurfiol o anghenion dysgu bob blwyddyn, ac rydym wedi darparu hyfforddiant mewn meysydd fel seibrddiogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, y Gymraeg a datblygu rheolwyr llinell.

Amrywiaeth

Er mwyn i'n pobl deimlo’u bod yn cael eu cynnwys a'u parchu, ein nod yw cynyddu’r cyfleoedd i bawb arloesi, i gydweithio, a bod yn rhan o'r penderfyniadau a wneir gennym. Rydym hefyd yn gweithio i greu a chynnal diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Fel yn y blynyddoedd ariannol blaenorol, rydym wedi parhau i weld cydraddoldeb yn dod yn amlycach ar draws y sefydliad. Rydym wedi parhau i wella dealltwriaeth ein pobl o gydraddoldeb drwy gymysgedd o hyfforddiant a gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.

Roedd cydraddoldeb yn cael sylw yn sesiynau Tîm Arwain a'r Bwrdd, gan gynnwys cyflwyno'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi parhau i ddatblygu ein gallu digidol mewnol er mwyn gwneud ein gwasanaethau mor hygyrch â phosibl, gan wneud sawl gwelliant i roi gwell cefnogaeth i’n cwsmeriaid yn ystod y pandemig.

Mae ein Harolwg Pobl blynyddol yn darparu sawl dangosydd o farn ein pobl ar lwyddiant ein dull o weithredu:

  • dod yn drydydd o dros 100 o sefydliadau'r gwasanaeth sifil ym maes 'cynhwysiant a thriniaeth deg' yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021
  • mae 82% o'n pobl yn credu bod ACC wedi ymroi i greu gweithle amrywiol a chynhwysol
  • mae 93% o'n pobl yn cytuno bod ACC yn parchu gwahaniaethau unigol, fel diwylliannau, arddulliau gweithio, cefndiroedd, a syniadau

Mae mesur a chyhoeddi data ar amrywiaeth yn anodd mewn sefydliad o'n maint ni. Nid ydym yn cyhoeddi data a allai ddatgelu hunaniaeth unigolyn neu grŵp bach o unigolion, er mwyn diogelu preifatrwydd.

Golyga hyn na allwn gyhoeddi data ar grwpiau o lai na 10 o bobl, felly ni allwn gyhoeddi'r rhan fwyaf o'n data amrywiaeth. Un maes lle gallwn gyhoeddi yw cydbwysedd rhywedd ein pobl.

Mae ein hadroddiad cydraddoldeb yn cynnwys data sy'n ddigon mawr i'w wneud yn gyhoeddus ac yn darparu naratif lle nad yw hyn yn bosibl. Mae hefyd yn cynnwys ein cynnydd yn erbyn ein hamcanion cydraddoldeb strategol. Bydd ein hadroddiad cydraddoldeb nesaf (2021 i 2022) yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023.

Amcan dylunio

Ein nod yw bod yn bartner y gellir ymddiried ynddo ar gyfer cynllunio gwasanaethau refeniw o'r dechrau i'r diwedd, p'un a fydd y gwasanaethau yn cael eu darparu gennym ni neu gan eraill. Gan weithio ar wasanaethau refeniw newydd a rhai sy'n bodoli eisoes ar draws Llywodraeth Cymru, gallwn ddefnyddio ein profiad a'n harbenigedd o ran mewnwelediad cwsmeriaid, gweithrediadau, data, technoleg ddigidol, dylunio sefydliadol, y gyfraith a pholisi i gefnogi'r gwaith o gynllunio systemau, polisi, a fframweithiau cyfreithiol mewn ffordd integredig sy'n gweithio'n dda i ddefnyddwyr terfynol ac sy'n bodloni amcanion Llywodraeth Cymru.

Yn ystod 2021 i 2022, gwnaethom gefnogi’r rhai o fewn Llywodraeth Cymru yn ehangach gyda’r cwestiynau dylunio a gweithredu sy'n deillio o nifer o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Er enghraifft, buom yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar amrywiad lleol arfaethedig i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, ar lety gwyliau tymor byr ac, o bosibl, ar eiddo preswyl ychwanegol eraill.

Gwnaethom hefyd gefnogi cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wrth iddynt ystyried y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr i Gymru, yn enwedig wrth archwilio'r opsiynau posibl ar gyfer casglu a rheoli treth o'r fath.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio â thimau Llywodraeth Cymru yn ehangach trwy gydol 2022 i 2023 er mwyn cyflawni dros Gymru a'i phobl.

Amcan data

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf o ddata trethdalwyr Cymru. Gan weithio ar draws y llywodraeth rydym am archwilio ffyrdd effeithiol a diogel o rannu, defnyddio, a datblygu data – gan droi'r data hwnnw'n ased i drethdalwyr Cymru. I ddechrau, ein nod yw archwilio'r defnydd posibl o'r data sydd gennym a sut i sicrhau ei fod ar gael i bartneriaid perthnasol, gan gofio agweddau cyfreithiol ar rannu data.

Yn dilyn cyhoeddi cyfradd TTT leol arfaethedig, gwnaethom ffurfio partneriaeth â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ar brawf o gysyniad 12 wythnos i ymchwilio i sut y gallem weithredu treth eiddo sy’n amrywio yn ddaearyddol drwy ddefnyddio platfform data tir ac eiddo, gan fanteisio hefyd ar y cyfle i ystyried a allwn greu platfform a allai fod yn sylfaen ar gyfer defnyddiau ehangach, a hynny er budd Cymru.

Mae'r gallu i gyflwyno atebion mwy lleol yn golygu y bydd union leoliad tir ac eiddo, pan fo ffinio yn cael eu llunio a’u nodi er enghraifft, yn dod yn bwysicach. Yn ogystal â hyn, mae gan nodweddion eiddo penodol, o’i ddefnydd hyd at ei berchenogion a'i statws, y potensial i fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i ddinasyddion ac i’r llywodraeth.

Ym mis Ionawr 2022, dechreuom weithio ar brawf o gysyniad ar gyfer Platfform Data Tir ac Eiddo er mwyn:

  1. Creu map lefel uchel o ddata cyfredol am eiddo Cymru, gan gynnwys deall y llifau data a’r prosesau cynnal data.
  2. Diffinio opsiynau ar gyfer cyflawni'r gofynion polisi a ragwelir, er enghraifft cyfraddau TTT lleol.
  3. Diffinio opsiynau sy'n cyflawni pwynt 2 uchod ond sydd hefyd yn caniatáu defnydd ehangach estynadwy.
  4. Cynnig opsiynau parhaus ar gyfer llywodraethiant ac ymgysylltu.

Ym mis Ebrill 2022, gwnaethom gwblhau'r prawf o gysyniad 12 wythnos. Bu tîm y prosiect yn gweithio’n agored ac mae manylion eu gwaith ar gael ar Safle GitHub y Prosiect Data Tir ac Eiddo, lle gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am sut mae'r prosiect yn datblygu.

Cyhoeddi data TTT a TGT

Cyhoeddwyd data manwl gennym hefyd ar TTT a TGT yn ôl amserlen ddiffiniedig, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Yn ystod 2021 i 2022, gwnaethom barhau i ddatblygu'r ffordd rydym yn cyhoeddi’r data i gynnwys fformatau mwy hygyrch, ac ochr yn ochr â’r gwaith hwn rydym yn falch o fod wedi ennill achrediad Ystadegau Gwladol ar gyfer ein hystadegau.

Llesiant, elusen a'r amgylchedd

Llesiant

Mae ein strategaeth llesiant yn cyd-fynd â '5 Llwybr Llesiant' y GIG, gan ein bod yn cydnabod bod y gweithle'n chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl ac yn lle da i ddatblygu ac ymarfer arferion iach. 

Rydym wedi cefnogi ein pobl trwy gynnig mynediad at hyfforddiant a chymorth ar sut i weithio gartref, ac rydym wedi eu cyfeirio at gyngor mewn meysydd fel gweithio gartref gyda phlant, iechyd meddwl, diogelwch personol a chyllid personol. Mae'r cymorth hwn wedi bod yn barhaus a byddwn yn parhau i’w gynnig; bydd yn addasu i gyd-fynd a’n hamgylchiadau.

Rydym wedi cefnogi pobl i ddychwelyd i'r swyddfa, boed hynny am resymau llesiant neu fusnes, ac rydym yn cydnabod bod gan bawb anghenion gwahanol.

Elusen

Sefydlwyd ein helusen ddewisol am y flwyddyn am y tro cyntaf ym mis Hydref 2018, ac rydym yn cynnal trafodaethau blynyddol ynglŷn â’r dewis ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Yn ystod 2021 i 2022, ein helusen ddewisol oedd FareShare, elusen ailddosbarthu bwyd hynaf y DU.

Mae codi arian i'n helusen ddewisol yn ymwneud â gofalu am lesiant eraill. Mae hefyd yn cefnogi lles cyffredinol ein pobl ni.

Yr amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd ac i gefnogi Strategaeth Sero Net Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod yr effaith

Adolygiad o'n Siarter

Mae Ein Siarter yn nodi’r gwerthoedd, yr ymddygiadau, a’r safonau a rennir rhyngom sy'n ein galluogi i gydweithio’n well â threthdalwyr, eu cynrychiolwyr, a rhanddeiliaid er mwyn darparu system drethu deg i Gymru.

Mae Ein Siarter, a gyhoeddwyd yn 2018, yn berthnasol i bawb sy’n gweithio â ni, gan gynnwys ein partneriaid; er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Deall sut y gallem gyflawni'r gwerthoedd yn Ein Siarter yn effeithiol oedd y sylfaen ar gyfer datblygu Ein Dull, sy’n sefydlu ffordd Gymreig o drethu.

Mae gwerthoedd Ein Siarter wrth wraidd y ffordd rydym wedi cefnogi'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Isod rydym yn crynhoi ein perfformiad yn erbyn pob un o'r gwerthoedd yn Ein Siarter. Rydym yn darparu enghreifftiau o hyn drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol.

Perfformiad Siarter ACC 2021 i 2022
Gwerth Yr hyn yr ydym wedi'i wneud
Diogel: gwarchod yr holl wybodaeth a pharchu cyfrinachedd.
  • Gweler yr adran ar Reoli Gwybodaeth a Seiberddiogelwch yn ein datganiad llywodraethiant i gael rhagor o fanylion am yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol.
Cefnogol: creu canllawiau a rhoi cymorth pan fyddwch chi’n gofyn am help. Datblygu a defnyddio gwasanaethau digidol effeithiol.
  • Rydym wedi parhau i wella ein gwefan a'n gwasanaethau digidol.
  • Gwnaethpwyd sawl newid i'n gwasanaethau yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl wrthym, a darperir mwy o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o’i gwneud yn haws.
Teg: bod yn onest wrth ddelio â’n gilydd a chreu sefyllfa deg fel bod pob trethdalwr yn cael ei drin yn gyfartal. Mynd i’r afael ag efadu ac osgoi a defnyddio pwerau’n gyson a theg.
  • Rydym wedi parhau i reoli risg tasgau gan sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y system dreth.
  • Rydym wedi cefnogi pobl i unioni pethau pan fo camgymeriadau wedi’u gwneud. Lle ceisiodd pobl efadu neu osgoi talu'r swm llawn, rydym wedi nodi'r achosion hyn ac wedi cymryd camau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.
  • Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o sicrhau ein bod yn deg.
Ymgysylltiol: cefnogi’r cyhoedd yng Nghymru i ddeall y system drethi ddatganoledig a chydweithio i’w datblygu er budd Cymru.
  • Rydym wedi newid y ffordd yr ydym wedi ymgysylltu er mwyn ateb heriau gweithio o bell a chadw pellter cymdeithasol.
  • Rydym wedi defnyddio fideos ar-lein a gwell canllawiau er mwyn ymgysylltu â'n defnyddwyr.
  • Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth mewn cynadleddau a digwyddiadau rhithwir, gan sicrhau bod ein safbwynt a'r cyfleoedd a ddarparwn o ran datganoli trethi yn cael eu deall.
Ymatebol: gwrando ar safbwyntiau ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch.
  • Mae gwrando ar adborth ac ymateb iddo yn parhau i fod yn bwysig o ran datblygu a gwella ein gwasanaethau. Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o’i gwneud yn haws.
  • Gwnaethom ystyried llesiant ein pobl a'r cymorth sydd ei angen ar gyfer defnyddio’n staff yn hyblyg er mwyn diwallu anghenion newidiol y sefydliad. Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o feithrin galluogrwydd.
Dwyieithog: bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Gwnaethom barhau i gynnig ein gwasanaethau digidol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Gwnaethom annog ein staff i ddefnyddio'r Gymraeg, ac wedi rhoi amser i staff ymgymryd â hyfforddiant wedi'i ariannu.
Manwl gywir: cydweithio i gael pethau’n iawn, a’u cywiro lle bo angen, rhannu data a gwybodaeth fanwl gywir, bod yn rhesymol ofalus i osgoi camgymeriadau. Cadw cofnodion manwl gywir.
  • Mae’r adran sicrhau ein bod yn deg yn yr Adroddiad ar Berfformiad yn egluro mwy am ein gwaith o reoli risgiau treth.
Effeithlon: ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni a phrosesu ceisiadau yn brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth.
  • Mae ein hadran ar fod yn fwy effeithlon yn yr Adroddiad ar Berfformiad yn egluro mwy am sut rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau effeithlon; er enghraifft, o ran ad-daliadau, a'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Ein Bwrdd
Enw Swydd

Kathryn Bishop

Cadeirydd Anweithredol

Jocelyn Davies

Aelod Anweithredol

Dyfed Edwards

Is-gadeirydd Anweithredol

Mary Champion [1]

Aelod Anweithredol

Rheon Tomos [1]

Aelod Anweithredol

Jim Scopes (ers mis Ionawr 2022)

Aelod Anweithredol

Dyfed Alsop

Prif Weithredwr

Sam Cairns

Prif Swyddog Gweithredu

Rebecca Godfrey (hyd at fis Awst 2021)

Prif Swyddog Strategaeth

Melissa Quignon-Finch (ers mis Medi 2021)

Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu

Lucy Robinson (tan fis Ebrill 2021)

Aelod Staff Etholedig

Karen Athanatos (ers mis Hydref 2021)

Aelod Staff Etholedig

Notes

[1] Penodwyd Mary Champion a Rheon Tomos am gyfnod dros dro o 14 mis, gan fod penodiadau cyhoeddus wedi’u hatal ar draws Llywodraeth Cymru oherwydd COVID-19, cyn cael eu penodi'n barhaol drwy gystadleuaeth agored ym mis Ionawr 2022.

Ein Tîm Arwain (Pwyllgor Gwaith)
Enw Swydd
Dyfed Alsop

Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

Sam Cairns

Prif Swyddog Gweithredu

Rebecca Godfrey

Prif Swyddog Strategaeth

Robert Jones

Prif Swyddog Cyllid

Melissa Quignon-Finch

Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu

Jo Ryder

Pennaeth Staff

Neil Butt

Pennaeth Staff Dros Dro (cyflenwi dros gyfnod mamolaeth rhwng Tachwedd 2020 hyd Ionawr 2022)

Adroddiad Ariannol

Cyfrifon Adnoddau

Rydym yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ein gwariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein cynllun corfforaethol, wedi'u rhannu'n swyddogaethol i'r meysydd eang canlynol:

  • costau staff, gan gynnwys dysgu a datblygu
  • costau gweithredol casglu'r trethi, camau gorfodi a chudd-wybodaeth am ddata
  • costau rhedeg corfforaethol, megis adnoddau dynol (AD), technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), cyfleusterau, llywodraethiant, a chyngor cyfreithiol
  • newid busnes i sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol i gefnogi prosesau newydd a newid deddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i’n sefydliad ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod.

Cyllid a ddyrannwyd ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru
Ffrwd Cyllid 2021-22 Dyraniad Cyllid
£000
2021-22 Cyllid a Dynnwyd
£000
2020-21 Cyllid a Dynnwyd
£000
2020-21 Cyllid a Dynnwyd
£000
Refeniw 6,496 6,226 6,196 6,541
Cyfalaf 65 65 175 175
Cyfanswm y Dyraniad Cyllid 6,561 6,291 6,371 6,716

Ar gyfer 2021 i 2022, derbyniodd ACC ddyraniad o £6,496,000 ar gyfer gwariant refeniw gan Lywodraeth Cymru (2020 i 2021 £6,196,000) a £64,500 ar gyfer cyfalaf (2020 i 2021 £175,000). 

Cyllid a Dynnwyd yw'r arian gwirioneddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn; a'r Dyraniad Cyllid yw'r swm a ddyfarnwyd i ni ar gyfer talu costau rhedeg hanfodol ac i ariannu gwelliannau i'r system a'r broses fusnes sy'n cyfrannu at leihau'r risg o golli treth.

Mae'r Dyraniad Cyllid yn wahanol i'r Cyllid a Dynnwyd gan y byddwn ond yn tynnu cyllid i lawr yn ôl yr angen i dalu costau wrth iddynt ddod yn ddyledus. Mae Cyllid a Ddyrannwyd yn cynnwys costau ar gyfer gwariant y gallai ACC ei wneud ond nad yw wedi'i dalu eto (er enghraifft masnach a symiau taladwy eraill).

Gwariant ar gyfer 2021 i 2022
  2021-22
£000
2020-21
£000
Costau staff 4,536 4,430
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff 82 86
Costau gweithredu eraill 1,440 1,543
Dibrisiant 31 31
Amorteiddiad 63 804
Gwariant gweithredu net 6,152 6,894

Yn ystod y flwyddyn, cododd ACC drethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod.

Trethi datganoledig
  2021-22
£000
2020-21
£000
2019-20
£000
Treth Trafodiadau Tir 402,245 210,510 260,281
Treth Gwarediadau Tirlenwi 45,334 31,719 36,926
Cyfanswm y trethi a'r refeniw 447,579 242,229 297,207

Cyfrifon Blynyddol ACC 2021 i 2022

Prosesodd ACC ychydig dros 68,800 o ffurflenni TTT (2020 i 2021: 53,600).

O'r ffurflenni hyn:

  • arweiniodd 56% at rwymedigaeth dreth a oedd angen ei dalu (2020 i 2021: 46%)
  • cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £402.34 miliwn mewn TTT ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru (2020 i 2021: £210.51 miliwn).

Dylid ystyried y niferoedd hyn yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws (COVID-19) a gafodd effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod 2020 i 2021, parhaodd yr adferiad dilynol mewn gweithgarwch i fod yn uwch na'r nifer cyfartalog o drafodiadau yn hanner olaf 2021, gan gyrraedd uchafbwynt yn hanner cyntaf 2021 i 2022, a gwelwyd gwerthoedd trafodiadau cynyddol yn unol â'r cynnydd diweddar ym mhrisiau tai. Yn benodol, mae'r cynnydd yng nghanran y ffurflenni treth â rhwymedigaeth yn deillio'n rhannol o werth cynyddol y trafodiadau ac yn rhannol oherwydd y gostyngiadau dros dro mewn cyfraddau TTT fel rhan o'r ymateb i bandemig (COVID-19), a effeithiodd yn bennaf ar refeniw 2020 i 2021.

Gwnaethom hefyd brosesu ad-daliadau cyfradd uwch TTT gyda gwerth o £24.23 miliwn (2020 i 2021: £15.95 miliwn).

Arweiniodd cosbau yn sgil cyflwyno ffurflenni treth yn hwyr a neu dalu treth yn hwyr at £503,000 (2020 i 2021: £136,000) o refeniw ychwanegol a godwyd ynghyd â thaliadau llog hwyr o £86,000 (2020 i 2021: £130,000).

Talodd ACC gyfanswm o £120,000 mewn llog i drethdalwyr (2020 i 2021: £82,000) lle cafodd y trethdalwr ad-daliad treth. Digwyddodd hyn naill ai o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth neu pan gymeradwywyd cais am ad-daliad o elfen gyfradd uwch TTT ar ôl gwerthu prif eiddo preswyl blaenorol o fewn cyfnod o dair blynedd.

Casglodd ACC y symiau arian parod net canlynol yn llwyddiannus
  2021-22
£000
2020-21
£000
Arian net a gasglwyd 446,121 264,878
Arian Parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru 440,500 260,400

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a'i dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu Awdurdod Cyllid Cymru, mae'r Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, yn bersonol gyfrifol am:

  • warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • gweithrediadau a rheolaeth yr Awdurdod o ddydd i ddydd
  • sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

O dan adrannau 29(1)(b) a 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a'n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae'n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC ac o'i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon, mae'n rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM), a rhaid iddynt yn enwedig:

  • ufuddhau i'r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • nodi a ddilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y'u nodwyd yn FReM neu beidio, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y cyfrifon
  • paratoi'r cyfrifon ar sail busnes gweithredol
  • cadarnhau bod yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol a'r dyfarniadau sy'n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.

Yn ogystal, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o'r DCRhT er mwyn:

  • dangos y symiau sy'n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall; unrhyw ddidyniadau a ganiateir, a'r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru
  • datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i'r dibenion y'u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau perthnasol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy'n eu rheoli

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys derbyn y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau ACC, ac fe’u nodir ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y Ddogfen Fframwaith a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy'n cadarnhau:

  • bod y Cyfrifon Blynyddol yn eu cyfanrwydd ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy
  • fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol;
  • wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn, fy mod wedi ymgynghori'n eang, gan geisio adborth a sylwadau ac wedi ceisio sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o'r tîm staff ehangach;
  • fy mod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
25 Gorffennaf 2022

Datganiad Llywodraethiant

Cyflwyniad a chwmpas

Mae DCRhT 2016 yn fy nynodi'n Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu wedi'u hatodi yn y Cytundeb rhyngadrannol rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n gyfrifol yn bersonol am y Datganiad Llywodraethiant sy'n amlinellu'r ffordd rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb i reoli ein hadnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae'r datganiad yn rhoi cyfrif o’n strwythur llywodraethiant corfforaethol, trosolwg o'r trefniadau rheoli risg, a disgrifiad o'r prif risgiau a wynebir gan y sefydliad.

Llywodraethiant Corfforaethol

Fel adran anweinidogol y Gwasanaeth Sifil o’r llywodraeth, mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn cytuno ar amcanion ac yn cynnal adolygiadau perfformiad gyda'r Prif Weithredwr.

Fel Prif Weithredwr, rwy'n gyfrifol am gyflawni'r amcanion a'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt gyda Gweinidogion Cymru, fel y nodir yn y Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol ac a adlewyrchir yn ein Cynllun Corfforaethol, y cytunwyd arno gan y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Fel Swyddog Cyfrifyddu, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod system reolaeth fewnol gadarn yn cael ei chynnal er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion ac am adolygu effeithiolrwydd y system yn rheolaidd.

Rwyf hefyd yn aelod o'r Bwrdd. Mae aelodau ein Bwrdd yn atebol ar y cyd am swyddogaethau ACC. Mae’r Bwrdd yn rhoi arweiniad a goruchwyliaeth ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod safon llywodraethu effeithiol a phriodol o fewn y sefydliad

Yn ystod y flwyddyn, ces sawl cyfarfod â’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn aml, ochr yn ochr â swyddogion o Drysorlys Cymru, ac ar 2 achlysur gyda Chadeirydd y Bwrdd. Buom yn trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chyflawni yn erbyn amcanion gweinidogol, gan gynnwys datblygu polisïau a strategaethau newydd.

Fframwaith llywodraethiant

Mae ein strwythur, ein polisïau, a'n gweithdrefnau cyfundrefnol wedi'u sefydlu yn unol â Llywodraethu Corfforaethol o fewn Adrannau’r Llywodraeth Ganolog y DU. Mae ein strwythur arweinyddiaeth yn gyson â rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig uwch reolwyr. Mae gennym lwybrau adrodd clir i sicrhau bod atebolrwydd a rheolaethau mewnol allweddol ar waith.

Trosolwg o’r fframwaith llywodraethiant

Mae'r Bwrdd a’i bwyllgorau, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), a’r Pwyllgor Pobl yn chwarae rôl allweddol mewn llywodraethiant a sicrwydd, craffu, trafodaethau ar ddatblygu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad. Caiff pwyllgorau’r Bwrdd eu cadeirio gan aelodau anweithredol o’r Bwrdd ac mae aelodau perthnasol o'r Tîm Arwain yn eu mynychu. Mae’r pwyllgorau yn ateb yn uniongyrchol i'r Bwrdd ac mae’r holl gofnodion ar gael i bob aelod o'r Bwrdd. Ceir trosolwg o weithgarwch y Bwrdd a'i bwyllgorau yn ystod y flwyddyn isod.

Y Bwrdd

Mae'r Bwrdd yn cynnwys:

  • 6 aelod anweithredol
  • Prif Weithredwr
  • 2 aelod gweithredol
  • Aelod staff etholedig

Mae Ymgynghorwyr y Bwrdd (Cynghorwyr) yn cynnwys Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru a'r staff canlynol o'r Awdurdod:

  • Prif Swyddog Cyllid
  • Pennaeth y Staff
  • Pennaeth y Gyfraith
  • Pennaeth Cyfathrebu

Yn ystod y flwyddyn, ail-gadarnhaodd y Bwrdd ei benderfyniad i gyfarfod yn ffurfiol 6 gwaith yn ystod y flwyddyn, ac i gael cyfarfodydd byrrach yn y rhan fwyaf o fisoedd eraill. O ran gyntaf 2021 hyd 2022, oherwydd COVID-19, cynhaliwyd cyfarfodydd ychwanegol i drafod ail-flaenoriaethu sefydliadol a llesiant staff, gan roi cyfanswm o 15 cyfarfod yn ystod y flwyddyn ariannol.

Cynhaliodd y Bwrdd ei ddiwrnod ‘cwrdd i ffwrdd’ strategaeth flynyddol ym mis Gorffennaf 2021.

Mae Cofnodion Bwrdd ACC ar gael ar ein gwefan.

Perfformiad ac effeithiolrwydd y Bwrdd 

Yn gyson ag arfer da, cynhaliodd y Bwrdd ei Adolygiad Effeithiolrwydd Bwrdd blynyddol yn ystod 2021 i 2022, dan arweiniad y Cadeirydd. Gwelwyd bod safon y perfformiad yn dda, gyda gwelliannau dros y flwyddyn o ran newid strwythurau ac amseriadau cyfarfodydd er mwyn addasu i angen busnes a gweithio hybrid, ond nodwyd rhai meysydd a fyddai'n elwa o gael trafodaeth bellach, megis presenoldeb arweinyddiaeth gweladwy yn y sefydliad, a chanfod y cydbwysedd cywir rhwng treulio amser ar faterion strategol yn hytrach na materion gweithrediadol. Parhaodd trafodaethau ar fynd i'r afael â’r meysydd i'w gwella a nodwyd yn yr arolwg hyd at 2022 i 2023, gan roi ystyriaeth benodol i'r ffordd fwyaf effeithiol o gynnal cyfarfodydd mewn modd hybrid – yn hytrach na chael pawb gartref neu bawb yn bresennol.

Yn ogystal, mae'r Cadeirydd yn cynnal cyfarfodydd adolygu perfformiad gyda holl aelodau'r Bwrdd ar sail unigol i drafod cyflawni eu rolau fel aelodau'r Bwrdd. Yn ogystal, mae'r Cadeirydd ei hun yn ddarostyngedig i arfarniad yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, sy'n cynnal y broses arfarnu ar ran y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

ARAC

Mae ARAC yn cefnogi'r Bwrdd a'r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw sicrwydd o ran llywodraethu, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli, a'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Nifer y cyfarfodydd yn 2021 i 2022: 4

Cadeirydd: Jocelyn Davies

Aelodau: gan gynnwys y Cadeirydd, 3 aelod anweithredol. Mae gan Gadeirydd ein Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd hefyd. Ymgynghorwyr (Cynghorwyr) y pwyllgor yw'r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid, y Prif Swyddog Gweithredu, cynrychiolydd Archwilio Mewnol a'r Swyddog Archwilio a Risg. Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu'n rheolaidd.

Perfformiad ac effeithiolrwydd ARAC

Cynhaliodd y pwyllgor adolygiad o'i effeithiolrwydd yn ystod 2021 i 2022. Crëwyd arolwg gan ddefnyddio rhestr wirio effeithiolrwydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fel canllaw, gyda rhai diwygiadau addas i'r pwyllgor hwn. Adolygwyd canlyniad yr arolwg blaenorol ac roedd y pwyllgor yn fodlon bod yr holl welliannau a awgrymwyd wedi cael sylw llwyddiannus.

Yn gyffredinol, cytunwyd ei fod wedi perfformio'n dda iawn drwy gydol y flwyddyn. Roedd fformat newydd y gofrestr risg yn welliant sylweddol, a fu’n gymorth i adolygu a chraffu, ac roedd cyfraniadau aelodau newydd wedi cael effaith gadarnhaol. Roedd y pwyllgor yn teimlo fod ganddo ddigon o sgiliau a phrofiad i gyflawni ei rôl.

Cytunwyd ar sawl cam gweithredu oherwydd yr adolygiad, gan gynnwys sesiynau ar risgiau corfforaethol a pha mor berthnasol yw'r datganiad archwaeth risg newydd.

Pwyllgor pobl

Sefydlwyd y Pwyllgor Pobl i gefnogi'r Bwrdd drwy roi sicrwydd ac i graffu mewn perthynas ag effeithiolrwydd cynllunio olyniaeth, recriwtio a chydnabyddiaeth ariannol i uwch staff.

Nifer y cyfarfodydd yn 2021 i 2022: 3

Cadeirydd: Dyfed Edwards

Aelodau: gan gynnwys y Cadeirydd, mae gan y Pwyllgor 3 aelod anweithredol. Mae'r Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu a'r Prif Weithredwr hefyd yn bresennol ym mhob cyfarfod.

Uchafbwyntiau 2021 i 2022

  • Cytuno ar ddyfarniad cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) ar gyfer 2021 i 2022.
  • Craffu a darparu cyngor yn seiliedig ar brofiad sy'n ymwneud â chynllunio olyniaeth Tîm Arwain a chynlluniau recriwtio uwch arfaethedig.
  • Sicrwydd, her a chefnogaeth ar y risgiau i bobl a nodwyd sy'n ymwneud â COVID-19 ac effeithiau ehangach

Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor

Presenoldeb Aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgorau yn ystod 2021 i 2022

Aelodau'r Bwrdd

Bwrdd

ARAC

Pwyllgor
Pobl

Nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd

6

4

3

Aelodau anweithredol:

Kathryn Bishop (Cadeirydd – Bwrdd)

6/6

Amh

3

Jocelyn Davies (Cadeirydd – ARAC)

5/6

4

3

Dyfed Edwards (Is-gadeirydd – Bwrdd, Cadeirydd – Pwyllgor Pobl)

6/6

Amh

3

Mary Champion (ers mis Hydref 2020)

6/6

4

Amh

Rheon Tomos (ers mis Hydref 2020)

6/6

4

Amh

Jim Scopes (ers mis Ionawr 2020)

1/1

Amh

Amh

Aelodau gweithredol:

Dyfed Alsop

6/6

4*

3*

Sam Cairns

5/6

4*

Amh

Rebecca Godfrey (hyd at fis Awst 2021)

2/2

Amh

Amh

Melissa Quignon-Finch (ers mis Medi 2021)

6/6

Amh

3*

Aelod staff etholedig:

Lucy Robinson (hyd at fis Ebrill 2021)

0/0

Amh

Amh

Karen Athanatos (ers mis Hydref 2021)

2/2

Amh

Amh

Nodiadau

*Presenol fel Ymgynghorwyr (cynghorydd)

Risg strategol

Mae gan y Swyddog Cyfrifyddu gyfrifoldeb penodol dros reoli risg ac adrodd. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod y systemau rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy, ac mae hefyd yn rhoi arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir y disgwylir rheoli risgiau oddi mewn iddi.

Mae ARAC yn cefnogi'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd i edrych ar reoli risg ac mae’n rhoi cyngor yn ogystal â chynorthwyo a chraffu ar Tîm Arwain. Cwblhawyd adolygiad o'r polisi archwaeth risg gan Tîm Arwain, gan gydnabod dull mwy agored o ddarparu gwasanaethau, a chafodd y gofrestr risg gorfforaethol ei gwella yn unol â'r Llyfr Oren: Y Llyfr Oren - GOV.UK (www.gov.uk).

Crynodeb o'r prif risgiau strategol

Gwnaeth effaith COVID-19 a gweithio gartref barhau i beri risgiau i lesiant staff, ac roeddem yn parhau i'w rheoli'n weithredol drwy ymgysylltu â staff.

Roedd y risgiau cysylltiedig â chapasiti gweithredol, sicrhau'r gymysgedd iawn o sgiliau, ac adnoddau cyllidebol, yn adlewyrchu maint a natur esblygol ACC. Rydym wedi parhau i gydweithio, i arloesi, ac i weithio'n hyblyg fel tîm er mwyn lliniaru'r risgiau hyn, fel y gallwn ymateb i flaenoriaethau trethiant yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Roeddem hefyd yn ymwybodol o'r risgiau o osgoi ac efadu trethi. Rydym wedi lliniaru cyfleoedd i wneud hyn drwy ddatblygu ein cudd-wybodaeth, a hynny drwy ddefnyddio data a thrwy gydweithio ag awdurdodau eraill.

Fel sefydliad digidol, mae'r risg i wybodaeth a diogelwch rhag bygythiadau seibr yn golygu bod llywodraethu yn y maes hwn wedi parhau i fod yn flaenoriaeth.

Rheolaeth fewnol

Drwy gwblhau Holiadur Rheolaeth Fewnol (HRhF) blynyddol, mae uwch reolwyr yn darparu hunanasesiadau i’r Swyddog Cyfrifyddu o drefniadau rheolaeth fewnol, llywodraethiant, a rheoli risg, a'u barn ar ba mor effeithiol y bu’r rheolaethau’n gweithredu yn ystod y flwyddyn.

Darparodd yr ymarfer diweddaraf sicrwydd cadarnhaol o ran y gweithgareddau a'r swyddogaethau allweddol yr ymgymerwyd â hwy. Roedd 3 maes lle'r oedd y sgôr sicrwydd wedi newid o holiadur rheolaethau mewnol y llynedd (HRhF). Cododd dau sgôr i 'sicrwydd sylweddol'. Cytunwyd ar adolygu’r crynodeb o'r camau ar ôl 6 mis. Ni chanfuwyd unrhyw wendidau rheoli sylfaenol yn ystod y cyfnod adrodd.

Cafwyd sicrwydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y swyddogaethau dirprwyedig sy’n ymwneud â TGT, a cheisiwyd sicrwydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i darpariaeth o wasanaethau Adnoddau Dynol a rennir.

Archwiliad mewnol 

Gwnaethom benodi Gwasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen o waith archwilio a darparu sicrwydd i'r Swyddog Cyfrifyddu ac i'r Bwrdd, drwy ARAC, ynghylch y rheolaethau sydd ar waith i reoli risg ac ansawdd a chydymffurfiaeth ACC wrth gyflenwi gwasanaethau.

Mae'r rhaglen archwilio yn seiliedig ar risg ac yn cael ei chytuno'n flynyddol gydag ARAC a'r Swyddog Cyfrifyddu. Mynychodd IAS gyfarfodydd ARAC i gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a wnaed o ran rhoi'r rhaglen ar waith a chydgysylltu eu gwaith ehangach gyda gwaith Archwilio Cymru.

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru farn ac adroddiad blynyddol. Roedd y rhan fwyaf o'r gwaith archwilio wedi'i gynllunio ymlaen llaw ac roedd yn cynnwys, gan fwyaf, adolygiadau archwilio ffurfiol o feysydd gweithredol a pholisi, yn dilyn dull archwilio sy'n seiliedig ar risg. Cyhoeddwyd adroddiadau ffurfiol ar yr holl waith archwilio a gwblhawyd. Yn ystod 2021 i 2022, cyhoeddodd IAS 6 adroddiad, darparwyd cyngor ar ddiogelu data ganddynt, a gwnaethant fynychu cyfarfodydd ARAC.

Roedd y Cynllun Archwilio yn ddigon cynhwysol i roi barn eang ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ACC ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu.

Y farn archwilio, yn seiliedig ar ganlyniadau'r gwaith archwilio yn ystod y flwyddyn, oedd: “Gall y rheolwyr fod â sicrwydd rhesymol bod y trefniadau ar gyfer sicrhau llywodraethiant, rheoli risg, a rheoli’n fewnol, o fewn y meysydd sy’n cael eu hadolygu, wedi eu cynllunio'n briodol a'u cymhwyso'n effeithiol. Mae angen i’r rheolwyr roi sylw i rai materion o ran dylunio rheolaeth neu gydymffurfiaeth, ac mae iddynt risg gymedrol hyd nes y caiff hynny ei ddatrys.”

Cawsom ychydig o sicrwydd o ran rheoli newid a chaffael ac rwy'n fodlon â'r camau a gymerwyd i liniaru'r risg a bod cynnydd effeithiol wedi'i wneud o ran gweithredu fframwaith gadarn o fewn ACC ar gyfer llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth.

Archwilio allanol

Caiff ein sefydliad ei archwilio gan Archwilio Cymru sydd, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd y cyfrifon ariannol. Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC a'r Bwrdd. Mae adroddiad Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn i'w weld yn y Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Rydym wedi cymryd camau i sefydlu diwylliant yn ein sefydliad sy’n hyrwyddo’r defnydd o arfer gorau o ran rheoli data a gwybodaeth.

Yn 2021 i 2022, cyflawnwyd hyn drwy rannu diweddariadau rheoli gwybodaeth rheolaidd gyda staff, trwy adolygu ac adnewyddu ein gweithdrefnau a'n canllawiau, a thrwy ddarparu hyfforddiant diogelwch a rheoli gwybodaeth pwrpasol i'r holl staff. Cyflawnwyd hyn pan oedd staff yn gweithio o bell. Cafodd yr holl staff a gymerodd ran yn yr hyfforddiant eu profi wedyn. Pennwyd isafswm pasio o 80%, a chyflawnodd pawb hynny.

Yn ystod y flwyddyn, ni chysylltodd neb â'n Swyddog Diogelu Data am ein defnydd o'u data personol. Hefyd, ni chysylltodd neb o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth â ni am ddiogelu data yn ein sefydliad.

Gweithio gartref oherwydd COVID-19 oedd y sefyllfa ddiofyn i'r rhan fwyaf o staff drwy gydol y flwyddyn. Roedd yn cynrychioli risg isel o ran rheoli data a gwybodaeth oherwydd ein seilwaith digidol presennol, ein hasesiadau risg a’n cynlluniau parhad busnes.

Roedd cynnydd mewn mân ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth lle na ddatgelwyd unrhyw ddata personol. Rydym yn dosbarthu'r rhain fel digwyddiadau a fu 'bron â digwydd’ (gweler isod). Er nad ydynt yn achosion o dorri diogelwch data mewn gwirionedd, rydym yn nodi ac yn cofnodi achosion a fu bron â digwydd gan eu bod yn ein galluogi i nodi risgiau a materion y gallwn fynd i'r afael â hwy er mwyn atal achosion o dorri diogelwch data yn y dyfodol.

Y 3 prif faes risg a reolwyd yn weithredol yn ystod y flwyddyn oedd:

  • seibrddiogelwch a gwydnwch
  • negeseuon e-bost gwe-rwydo
  • torri diogelwch swmp data

Mae ein staff bellach wedi arfer gweithio o bell, felly mae'r ffocws wedi newid o 2020 i 2021, pan mai’r newid mewn trefniadau gweithio oedd yn achosi’r risg fwyaf.

Yn ystod y flwyddyn ariannol, cawsom 16 o achosion o dorri diogelwch data. Roedd pob achos o dorri dioglewch data yn rhai bychan, felly nid oedd angen cyfeirio unrhyw achosion o dorri diogelwch data at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth oherwydd y risg isel i wrthrych y data ym mhob achos. Gwnaethom hefyd gofnodi 10 o achosion a fu bron â digwydd.

Digwyddiadau diogelwch 2021 i 2022
Math 2021 i 2022 2020 i 2021
Cyfanswm I’w adrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cyfanswm I’w adrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Torri diogelwch data 16 0 16 0
Achosion a fu bron a digwydd 10 Amh 2 Amh

Gwall dynol oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'n achosion o dorri diogelwch data yn ystod y flwyddyn.

Rydym wedi parhau i ymdrechu i sicrhau arfer gorau o ran llywodraethiant gwybodaeth ac wrth fesur ein hunain yn erbyn Fframwaith Atebolrwydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwn gadarnhau bod mesurau priodol ar waith i ddangos eu bod yn cydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, a chafwyd sicrwydd sylweddol gan archwiliad mewnol ynghylch ein prosesau rheoli gwybodaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Seibergadernid

Ein blaenoriaeth yw cryfhau ein seibergadernid yn barhaus yn wyneb amgylchedd bygythiad sy'n esblygu. Yn 2021 i 2022, cynhyrchwyd ein strategaeth seibergadernid annibynnol cyntaf sy'n nodi sut rydym yn datblygu gallu ein sefydliad i wrthsefyll digwyddiadau seiber ac, pan fo niwed yn cael ei achosi, i adfer yn gyflym.

Rydym yn dilyn canllawiau'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ynghylch seilwaith TG, dyfeisiau, data a chymwysiadau.

Rydym yn cadw at safonau ac egwyddorion diogelwch ISO27001 ac ISO27002 sydd wedi’u halinio â Llywodraeth Cymru. Darperir sicrwydd o'n gweithrediadau diogelwch a'n safbwynt gan Lywodraeth Cymru.

I gefnogi ein seibergadernid: 

  • profwyd ein holl seilwaith digidol a’n meddalwedd, fel rhan o broses flynyddol, gan ddefnyddio trydydd parti annibynol wedi’u hachredu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC)
  • rydym wedi parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol fel NCSC, Microsoft CThEM, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Seibrddiogelwch Prifysgol De Cymru i adolygu a gwella risgiau seibrddiogelwch
  • derbyniodd pob aelod o staff hyfforddiant ar seiberddiogelwch
  • cyflwynwyd papur briffio diogelwch arbennig ym mis Mawrth a oedd yn trafod y lefel bygythiad uwch i sefydliadau'r DU
  • gwnaethom adnewyddu ein hardystiad Cyber Essentials Plus
  • cynhaliwyd sesiynau allweddol gyda'n Bwrdd ar y risgiau seiber i'r sefydliad a sut yr ydym yn ymateb iddynt
  • cyflwynwyd llinellau sylfaen diogelwch ar bob dyfais gan gynnwys safonau ar gyfer porwyr gwe
  • cynhaliwyd ymarfer adfer ar ôl trychineb yn ystod chwarter 2
  • treialwyd llythyr safonau diogelwch ar gyfer darpar gyflenwyr
  • gweithredwyd system rheoli digwyddiadau a digwyddiadau diogelwch er mwyn rheoli logiau diogelwch a digwyddiadau
  • cafodd staff eu profi'n rheolaidd drwy wahanol ymarferion efelychu gwe-rwydo a, lle bo angen, rhoddwyd hyfforddiant ychwanegol
  • diwygiwyd ein cynllun seiber-ddigwyddiadau

Rhyddid gwybodaeth

Cawsom 8 cais Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, ac ymatebwyd i bob un ohonynt o fewn y terfynau amser priodol.

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â'r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau am wybodaeth ac ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwythu'r chwiban

Mae gennym Bolisi a chanllawiau Chwythu'r Chwiban ar waith i roi manylion clir i staff am sut i leisio unrhyw bryderon. Mae swyddog enwebedig i dderbyn unrhyw ddatgeliadau

Mae ein sefydliad hefyd yn berson rhagnodedig ar gyfer materion sy'n ymwneud â threthi datganoledig Cymru. Mae hyn yn golygu y gall gweithiwr mewn unrhyw sefydliad sydd â phryder sy'n ymwneud â threthi datganoledig Cymru ac sydd am chwythu'r chwiban wneud datgeliad gwarchodedig i ni. Mae gwybodaeth i chwythwyr chwiban allanol o ran sut i gysylltu â ni a’r ffordd y byddwn yn ymateb i unrhyw ddatgeliadau ar gael ar ein gwefan,.

Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau o dan y naill gyfrifoldeb na'r llall yn ystod y flwyddyn.

Safonau'r Gymraeg

Nid oes gennym ein Safonau ffurfiol ein hunain o ran y Gymraeg. Fodd bynnag, rydym yn cydymffurfio'n wirfoddol â Safonau Llywodraeth Cymru lle mae hynny’n briodol ac yn gymesur. Rydym wedi parhau i gyflawni gweithgarwch ar ein Strategaeth Iaith Gymraeg a gytunwyd yn 2020. Mae ein gweithgarwch yn canolbwyntio ar ddiwylliant, dysgu a datblygu, a chreu cyfleoedd i'n pobl a'n cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Rydym yn ymroddedig i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl Cymru. Nid ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Ein Dull (sy'n llywio popeth a wnawn) yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad y Ddeddf. Hefyd, mae’r gwaith y gofynnwyd i ni ei wneud gan Weinidogion Cymru yn cefnogi nodau'r Ddeddf.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ein sefydliad, cadarnhaf fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022. Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant. Gallaf gadarnhau fod systemau rheolaeth fewnol cadarn ar waith i gefnogi cyflawniad nodau ac amcanion polisi'r sefydliad.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
25 Gorffennaf 2022

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol ac Adroddiad Staff

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol

Cytundebau gwasanaeth

Mae ein cyflogeion yn weision sifil. Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi aelodau o'r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, mewn cystadleuaeth deg ac agored. Mae'r egwyddorion recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi o dan ba amgylchiadau y gellir gwneud penodiadau fel arall.

Mae'r uwch swyddogion y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy â phenodiadau sy'n benagored, naill ai gyda ni’n uniongyrchol, neu â'u hadrannau Gwasanaeth Sifil cartref os ydynt ar fenthyg i ACC. Mewn achos o derfyniad cynnar, gan ACC neu gan unrhyw un o’r adrannau cartref hynny, ac eithrio am gamymddwyn, byddai'r unigolyn yn cael iawndal yn unol â'r hyn a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) wedi'i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw'r SCS. Mae hyn yn golygu bod ACC yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â'r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan Swyddfa Cabinet y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB).

Wrth wneud ei argymhellion, rhaid i’r SSRB roi sylw i'r ystyriaethau canlynol:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a, lle bo'n berthnasol, ddyrchafu pobl addas, abl, a chymwys i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau
  • yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a'u heffeithiau ar recriwtio, cadw staff a, lle bo’n berthnasol, ddyrchafu staff.
  • polisïau'r llywodraeth ar gyfer gwella'r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y gofyniad ar adrannau i gyrraedd y targedau allbwn o ran darparu gwasanaethau adrannol
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth, a tharged chwyddiant y llywodraeth
  • y dystiolaeth y mae’r SSRB yn ei dderbyn ynglŷn ag ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd eu hargymhellion

Ceir rhagor o wybodaeth am waith yr SSRB ar Wefan SSRB.

Mae ein Pwyllgor Pobl, dan gadeiryddiaeth aelod anweithredol, yn gyfrifol am argymell penderfyniadau tâl uwch swyddogion yn flynyddol, neu yn ôl y gofyn. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol yn cael ei drin yn deg ac yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Cabinet. Mae'r Pwyllgor, yn ystod y cyfnod, wedi dewis alinio ei ddull yn fras gydag un Llywodraeth Cymru, sydd â rhywfaint o hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa'r Cabinet. Er enghraifft, nid wnaethom unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau'r SCS yn ystod 2021 i 2022 na 2020 i 2021.

Mae'r gydnabyddiaeth ariannol i’n cyflogeion sydd islaw'r SCS yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mholisi Tâl Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau anweithredol Bwrdd ACC yn derbyn ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfraddau dyddiol ffioedd aelodau anweithredol
  Cyfradd ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol 400
Is-gadeirydd Anweithredol 350
Aelodau anweithredol 300

Mae’r costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn yn cael eu had-dalu hefyd.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r adran ganlynol yn darparu gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddiannau pensiwn rheolwyr uchaf yr Awdurdod, sef aelodau’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys aelodau anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw'n cynnwys aelod Staff etholedig y Bwrdd.

Mae'r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae'n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau y maent yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu ex-gratia. Nid yw ad-daliadau am gostau dilys a ysgwyddir gan unigolyn yn uniongyrchol wrth gyflawni ei ddyletswyddau yn cael eu cynnwys yn eu cyflog.

Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gan yr Awdurdod, ac wedi’u cofnodi felly yn y cyfrifon hyn.

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan ACC ac y mae CThEM yn eu trin fel enillion trethadwy.

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 (er enghraifft £65,000-£70,000).

Cydnabyddiaeth ariannol aelodau anweithredol

Ffioedd a dalwyd i aelodau anweithredol
Aelod anweithredol Ffioedd
2021-22
£000
2020-21
£000
Kathryn Bishop
Cadeirydd Anweithredol
10-15 20-25
Dyfed Edwards
Is-gadeirydd Anweithredol
5-10 5-10
Jocelyn Davies
Aelod Anweithredol
5-10 5-10
Mary Champion
Aelod Anweithredol (ers mis Hydref 2020)
0-5 0-5
Rheon Tomos
Aelod Anweithredol (ers ms Hydref 2020)
0-5 0-5
Jim Scopes
Aelod Anweithredol (ers mis Ionawr 2022)
0-5 Amh
David Jones
Aelod anweithredol (hyd at fis Hydref 2020)
Amh 0-5
Lakshmi Narain
Aelod anweithredol (hyd at fis Hydref 2020)
Amh 0-5

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â'u ffioedd, pan fo gwaith aelodau anweithredol i ACC yn arwain at gostau teithio a threuliau angenrheidiol eraill ar gyfer mynychu cyfarfodydd, mae ganddynt hawl i ad-daliad o dan Bolisi Ffioedd a Threuliau ACC. Mae ACC yn talu’r rhwymedigaeth dreth sy'n deillio o'r ad-daliad.

Nid yw aelodau anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn cael buddion pensiwn gan ACC.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn uwch swyddogion

Ffigurau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer uwch swyddogion
  Cyflog
mewn bandiau
o £5,000
Buddion pensiwm
i'r £1000 agosaf
Cyfanswm
mewn bandiau
o £5,000
2021-22 2020-21 2021-22 2020-21 2021-22 2020-21
Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr
100-105 95-100 28,000 48,000 125-130 145-150
Sam Cairns 
Prif Swyddog Gweithredu
80-85 80-85 32,000 33,000 110-115 110-115
Rebecca Godfrey 
Prif Swyddog Strategaeth (o fis Mai 2020 tan fis Awst 2021)
30-35 70-75 11,000 40,000 40-45 115-120
Melissa Quignon-Finch Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu (ers mis Medi 2021) 45-50 Ddim yn
y swydd
20,000 Ddim yn
y swydd
65-70 Ddim yn
y swydd

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau

  • Aseswyd bod y buddion mewn nwyddau yn sero yn 2021 i 2022 ac yn 2020 i 2021
  • Ni thalwyd unrhyw fonysau yn 2021 i 2022 na 2020 i 2021.
  • Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi'i luosi â 20, gan dynnu’r cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Nid yw'r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd o ganlyniad i chwyddiant neu unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn.
  • Roedd Rebecca Godfrey ar absenoldeb mamolaeth o fis Mai 2019 hyd at fis Mai 2020, ac yna o fis Medi 2021 ymlaen, ac yn ystod y cyfnod hwnnw parhaodd i fod yn aelod o staff ond nid oedd yn gyfarwyddwr gweithredol. Byddai ei chyflog blynyddol yn 2021 i 2022 wedi bod yn £80,000-85,000 (2020 i 2021: £80,000-85,000).
  • Penodwyd Melissa Quignon-Finch yn gyfarwyddwr ym mis Medi 2021. Byddai ei chyflog blynyddol yn 2021 i 2022 wedi bod yn £75,000-80,000.
Buddion pensiwn uwch swyddogion
Uwch swyddogion Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31/03/22 a chyfandaliad perthnasol Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn CETV ar
31/03/22
CETV ar
31/03/21
Gwir gynnydd mewn CETV
£000 £000 £000 £000 £000
Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr
30-35 a chyfandaliad o 45-50 0-2.5 a chyfandaliad o 0 456 421 10
Sam Cairns 
Prif Swyddog Gweithredu
20-25 0-2.5 226 201 11
Rebecca Godfrey 
Prif Swyddog Strategaeth
20-25 0-2.5 257 251 3
Melissa Quignon-Finch 
Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
5-10 0-2.5 75 62 6

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. * CETV = Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod.

Staff eraill

Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy'n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy'n hafal i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw'n uwch). O'r dyddiad hwnnw ymunodd pob gwas sifil newydd a'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth gydag alffa. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae 4 adran i'r PCSPS: 3 sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu glasurol plws) gydag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy'n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65.

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy'n daladwy o dan clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha yn flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol y PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd i'w hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Newidiodd y rhai hynny a oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o'u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 i alpha rhywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 a 1 Chwefror 2022. Gan fod y Llywodraeth yn bwriadu dileu’r gwahaniaethu a nodwyd gan y llysoedd yn y ffordd y cyflwynwyd diwygiadau pensiwn 2015 ar gyfer rhai aelodau, disgwylir, maes o law, y gallai aelodau cymwys sydd â gwasanaeth perthnasol rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 fod â hawl i wahanol fuddion pensiwn mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw (a gall hyn effeithio ar y Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a ddangosir yn yr adroddiad hwn – gweler isod). Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy'n newid i alpha yn cael eu 'bancio', a'r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae'r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun). Gall Aelodau a ymunodd o fis Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai'r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfraniad diffiniedig (prynu arian) gyda chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha. Mae buddion clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol ar adeg ymddeol. Mae buddion premiwm yn cronni ar gyfradd o 1/60th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i clasurol, nid oes cyfandaliad awtomatig. Mae clasurol plws yn ei hanfod yn gymysgedd o’r ddau, gyda buddion am wasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo'n fras fel rhai clasurol, a buddion am wasanaeth ers Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel rhai premiwm. Gyda nuvos, bydd aelod yn cronni pensiwn ar sail yr enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y bydd yn aelod o'r cynllun.

Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff y cyfrif pensiwn y mae’r aelod wedi’i gronni ei gredydu â 2.3% o'i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno'r cynllun a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth cynyddu pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond â chyfradd cronni o 2.32%. Ym mhob achos, gall Aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy'n rhan o Mastertrust Legal & General. Mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i'r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% ychwanegol o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw'r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i'w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o'r cynllun os yw eisoes yn yr oedran pensiwn neu'n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. (Mae'r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun, ond noder y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau)

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk

Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n gyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actiwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i'w aelodaeth lawn o'r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae'r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.

Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Lluosrifau cyflog

Mae'r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae'n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy'n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf cydnabyddiaeth ariannol gweithlu'r sefydliad.

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod pensiynau. Ni thalodd ACC unrhyw dâl neu fonysau a oedd yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2021 i 2022 na 2020 i 2021.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022 oedd £100,000-105,000 (2020 i 2021: £95,000-100,000). Roedd hyn 2.6 gwaith yn uwch na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £40,100 (2020 i 2021: 2.3 gwaith, £42,660). Gan ddefnyddio pwynt canol yr ystodau cyflog wedi'u bandio ar gyfer y cyfarwyddwr â'r cyflog uchaf, roedd hyn yn gynnydd o 5.1%. Gostyngodd cyflog cyfartalog y sefydliad 3.1%.

Rhwng 2021 a 2022 a 2020 i 2021, ni dderbyniodd unrhyw staff dâl uwch na'r cyfarwyddwr â'r cyflog uchaf. Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £21,300 i £100,820 (2020 i 2021: £20,500 i £99,344).

Cydnabyddiaeth ariannol staff chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf
Blwyddyn Cyflog y 25ain canradd Cymhareb gyflog y 25ain canradd Cyflog canolrifol Cymhareb cyflog canolrifol Cyflog y 75ain canradd Cymhareb gyflog y 75ain canradd
2021-22 29,430 3.5:1 40,100 2.6:1 57,190 1.8:1
2020-21 28,850 3.5:1 43,760 2.2:1 60,830 1.6:1

Gostyngodd y cyflog canolrifol o 2020 i 2021, hyd at 2021 i 2022. Roedd hyn o ganlyniad i gynnydd yn nifer y gweithwyr newydd a ymunodd â'r sefydliad, gyda llawer ohonynt yn ymuno ar waelod eu graddfa gyflog, yn sgil yr ataliad ar recriwtio a weithredwyd yn 2020 i 2021 tra bod y sefydliad yn canolbwyntio ar ymateb i effeithiau COVID-19. Mae polisi cyflog ACC yn golygu bod staff sydd islaw'r SCS yn symud drwy bwyntiau cyflog bob blwyddyn nes cyrraedd pwyntiau uchaf eu band cyflog, gyda 3 neu 4 pwynt cyflog ym mhob band cyflog. Oherwydd hyn, mae staff mwy newydd yn fwy tebygol o fod ar bwynt is yn eu band cyflog.

Adroddiad Staff

Costau staff

Costau staff yn ystod y cyfnod
  Staff
a gyflogwyd yn barhaol
Staff
contract ac asiantaeth
Cyfanswm Cyfanswm
2021-22
£000
2021-22
£000
2021-22
£000
2020-21
£000
Cyflogau 3,110 195 3,305 3,252
Costau nawdd cymdeithasol 342 5 347 337
Costau pensiwn eraill 870 14 884 841
Cyfanswm 4,322 214 4,536 4,430

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys staff sydd ar fenthyg i ACC gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy'n dal i gael eu cyflogi'n barhaol gan y cyflogwyr Gwasanaeth Sifil hwnnw.

Roedd y staff contract ac asiantaeth ar gyfer y cyfnod yn cynnwys nifer fach o staff asiantaeth (4) a chontract cyfnod penodol (6).

Mae'r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU.

Yn ogystal, ar gyfer staff contract ac asiantaeth, gall cyflog hefyd gynnwys ffioedd asiantaeth a TAW ar y gyfradd berthnasol. Mewn rhai achosion, cynhwysir costau nawdd cymdeithasol a chostau pensiwn eraill ar gyfer staff contract ac asiantaeth o dan y ffigurau ar gyfer cyflogau am eu bod yn cael eu hanfonebu ar sail gros.

Roedd costau staff yn ystod y cyfnod yn is na'r disgwyl, a hynny oherwydd bod rhai rolau wedi’u recriwtio'n hwyrach na'r disgwyl. Roedd hyn o ganlyniad i flaenoriaethau’n newid yn ystod y flwyddyn wrth i'r sefydliad addasu i weithio yn ystod COVID-19.

Cynllun pensiwn

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir, ac felly ni all yr Awdurdod nodi’r gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016.

Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.

Ar gyfer 2021 i 2022, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £878,107 yn daladwy i'r PCSPS (2020 i 2021: £763,395) ar 1 o 4 cyfradd o fewn yr ystod 26.6-30.3% (yn 2021 i 2022 a 2020 i 2021) o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Mae Actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o'r cynllun. Mae'r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu profiad y cynllun yn y gorffennol.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, neu bensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £6,298 (2020 i 2021: £5,833) i un neu fwy o'r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac maent yn amrywio rhwng 8-14.75% (yn 2021 i 2022 ac yn 2020 i 2021) o dâl pensiynadwy. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i'r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu'n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3% o dâl pensiynadwy.

Nid oedd unrhyw un (naill ai yn 2021 i 2022 nac yn 2020 i 2021) wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch; felly, roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

SCS yn ôl band cyflog

Nifer yr aelodau SCS yn ôl band cyflog
Band cyflog 31 Mawrth 2022 31 Mawrth 2021
SCS 2 1 1
SCS 1 3 3

Nid oes gan ein sefydliad unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).

Nifer y bobl a gyflogir

Personau a gyflogir (gan gynnwys SCS) - cyfwerth ag amser llawn (FTE) ar gyfartaledd
  2021-22 2020-21
Staff parhaol 67 59
Staff ar fenthyg 3 6
Staff cyfnod penodol 3 4
Cyfanswm 73 69

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd staff cyfnod penodol yn cynnwys rolau fel cyflenwi ar gyfer staff presennol oherwydd absenoldeb rhiant neu amser arall o’r gwaith, neu pan mai gofyniad dros dro oedd ar gyfer y rôl.

Yn ogystal â’r staff cyflogedig fel y nodir uchod, nifer y staff asiantaeth cyfwerth ag amser llawn (CALl) a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn oedd:

Staff asiantaeth - cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd (CALl)
  2021-22 2020-21
Staff asiantaeth 1 2

Cyfansoddiad y staff

Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion triniaeth gyfartal, ac rydym yn cadw ac yn adolygu gwybodaeth am gydraddoldeb ymhlith ein staff er mwyn llywio ein penderfyniadau ac adolygu cynnydd. Mae gennym bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac rydym yn ystyried yr effaith ar unigolion a grwpiau sydd â nodweddion wedi'u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhywedd) ar gyfer recriwtio, hyfforddi, datblygu gyrfa, a dyrchafu. Darparwyd goruchwyliaeth o gydraddoldeb yn ACC gan y Bwrdd a'r Tîm Arwain yn ystod y cyfnod adrodd, a chymeradwyodd y Bwrdd ein Hadroddiad Cydraddoldeb 2022 ym mis Mawrth 2022. Er bod yr wybodaeth cydraddoldeb yma’n cael ei hadolygu'n fewnol, yn y rhan fwyaf o achosion nid ellir cyhoeddi’r dadansoddiad o staff oherwydd, fel cyflogwr bach, byddai'n galluogi i unigolion neu grwpiau bach gael eu hadnabod. Eithriad i hyn yw proffil ein staff o ran rhywedd, sydd wedi'i gynnwys isod.

Personau a gyflogir yn ôl rhywedd
  Ar 31 Mawrth 2022 Ar 31 Mawrth 2021
Menywod Dynion Menywod Dynion
SCS 2 2 1 2
Gweithwyr eraill 44 31 39 27

Roedd y prosesau a ddefnyddiwyd neu a weithredwyd yn ystod y cyfnod i hyrwyddo triniaeth gyfartal yn cynnwys:

  • achrediad cyflogwr Cyflog Byw
  • hyrwyddo ein hymrwymiad 'Hapus i Drafod Gweithio Hyblyg' ar ein tudalennau recriwtio, gan hysbysebu pob rôl fel rhai sydd ar gael yn hyblyg
  • Hyderus o ran Anabledd – Statws cyflogwr ymroddedig
  • cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol rôl
  • ceisiadau recriwtio sy’n ‘cuddio enwau’ i ddileu cyfeiriadau at fanylion personol ac enwau sefydliadau addysgol
  • gofyn yn rhagweithiol i bob ymgeisydd a ydynt angen addasiadau neu ddewisiadau amgen yn ystod unrhyw broses recriwtio
  • paneli recriwtio â chymysgedd rhywedd sydd i gyd wedi cwblhau hyfforddiant
  • hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i'r holl staff
  • darparu gwasanaethau Rhaglen Iechyd Galwedigaethol a Chymorth i Weithwyr ar gyfer staff sy'n mynd yn sâl
  • Grŵp Llesiant gweithredol i gefnogi'r Strategaeth Lesiant, sy’n trefnu ystod eang o ddigwyddiadau llesiant i staff
  • darparu gliniaduron i'r holl staff er mwyn caniatáu iddynt weithio gartref
  • Asesiadau Offer Sgrin Arddangos (DSE) ar gyfer yr holl staff i nodi unrhyw addasiadau ac offer sydd eu hangen i weithio gartref yn ddiogel yn ystod y cyfnodau clo
  • absenoldeb arbennig i weithwyr sy’n ofalwyr neu’n rhieni ac yn wynebu aflonyddwch oherwydd COVID-19

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel Dyddiau Gwaith a Gollwyd yn Flynyddol (AWDL):

AWDL fesul blwyddyn staff = cyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn / cyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl.

Mae hyn yn well cynrychiolaeth o'r diwrnodau a gollir yn wirioneddol o gymharu â ffyrdd eraill o gyfrifo AWDL, am nad yw'n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint yn ystod y cyfnod salwch.

Mae defnyddio cyfanswm o flynyddoedd staff hefyd yn cyfrifo staff rhan-amser, ymgeiswyr newydd, a'r rhai sy'n gadael yn ystod y cyfnod yn gywir. Er enghraifft, byddai rhywun sy'n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos yn cael blwyddyn staff o 0.5.

Roedd lefel yr absenoldeb oherwydd salwch yn ACC yn 10.77 (2020 i 2021: 6.23). Mae hyn rhywfaint yn uwch na ffigyrau AWDL diweddaraf y Gwasanaeth Sifil (2020 i 2021: 6.1).

Mae ein ffigwr ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch staff yn cynnwys absenoldeb estynedig 6 aelod o staff yn sgil salwch difrifol, rhywbeth sy’n gallu cael effaith sylweddol ar gyfrifiadau sefydliad bach fel ein un ni. O eithrio eu habsenoldeb hwy o'r cyfrifiad, yr AWDL fesul blwyddyn staff oedd 3.39 (2020 i 2021: 2.9).

Trosiant

Cyfrifir ffigurau trosiant yn y Gwasanaeth Sifil mewn 2 ffordd:

  • Trosiant = staff sy’n gadael y Gwasanaeth Sifil yn ei gyfanrwydd
  • Trosiant adrannol = staff sy'n gadael y Gwasanaeth Sifil neu gyflogwr penodol

Cyfrifir y ffigur trosiant trwy rannu nifer y rhai sy'n gadael o fewn y cyfnod â chyfartaledd y staff sydd mewn swydd dros y cyfnod.

Yn 2021 i 2022, roedd y trosiant yn 5.3% a’r trosiant adrannol yn 14.7%.

Roedd y rhan fwyaf o'r trosiant yn ymwneud â staff yn ymuno â chyflogwyr eraill o fewn y gwasanaeth sifil, yn aml oherwydd dyrchafiad, yn ogystal â symudiadau ochrol, benthyciadau i adrannau eraill, a chontractau cyfnod penodol yn dod i ben.

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Arolwg ymgysylltu â chyflogeion trawslywodraethol yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Bob blwyddyn, mae tua 300,000 o weision sifil o 100 a mwy o sefydliadau yn cymryd rhan.

Cyfrifir y Mynegai Ymgysylltu fel cyfartaledd wedi'i bwysoli o'r ymatebion i 5 cwestiwn sydd yn ddangosyddion cryf o ymgysylltiad gweithwyr:

  • Rwy’n falch o ddweud wrth bobl fy mod yn rhan o ACC
  • Byddwn yn argymell ACC fel lle gwych i weithio
  • Mae gen i ymlyniad personol cryf i ACC
  • Mae ACC yn fy ysbrydoli i wneud fy ngorau yn fy swydd
  • Mae ACC yn fy ysbrydoli i'w helpu i gyflawni ei amcanion

Gall y canlyniadau amrywio o 0% i 100%. Mae sgôr o 0% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘anghytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 cwestiwn. Mae sgôr o 100% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘gytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 cwestiwn. 

Canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ACC
  2021 2020
Mynegai Ymgysylltu 78% 80%

Mae'r sgoriau hyn yn cynrychioli lefel uchel o ymgysylltiad cyflogeion ac maent yn sylweddol uwch na chanolrif y Gwasanaeth Sifil (2021 a 2020: 66%).

Mae ein canlyniadau llawn ar gyfer pob blwyddyn i'w gweld ar ein gwefan: Arolwg Pobl ACC.

Costau ymgynghori

Costau ymgynghori yn ystod y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Costau ymgynghori 155 55

Pan fo angen parhaol am unigolion medrus, fel arfer byddwn yn recriwtio gweithiwr neu dîm i ymgymryd â'r gweithgareddau. Fodd bynnag, ar gyfer gwaith arbenigol tymor byrrach, nid yw hyn yn ymarferol nac yn gost-effeithiol.

Mae’n fwy cost-effeithiol i waith o’r fath gael ei gwblhau gan sefydliad ymgynghorol arbenigol yn hytrach nag unigolyn. Mae'r dull hwn yn galluogi ein sefydliad i brynu'r arbenigedd a'r gwasanaethau y mae ei angen, heb gostau afresymol a heb ymrwymo i gontractau cyfnod penodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan ein bod yn sefydliad bach, na all weithredu'r arbedion maint sydd ar gael i sefydliadau mwy sy’n gallu cadw mwy o feysydd gwaith arbenigol yn fewnol, ac rydym yn dal i weithredu rhai meysydd gwaith am y tro cyntaf.

Bu cynnydd yn y defnydd o sefydliadau ymgynghori arbenigol yn 2021 i 2022 o'i gymharu â 2020 i 2021. Roedd hyn oherwydd bod un prosiect newydd, yn edrych ar y potensial i ACC gefnogi'r gwaith o ddatblygu trethi eiddo sy’n amrywio’n ddaearyddol yn y dyfodol, gan ddefnyddio dull platfform data. Roedd costau ymgynghori eraill yn debyg i 2020 i 2021, ac roeddent yn cynnwys contractau ar gyfer sgiliau arbenigol yn ymwneud â seiberddiogelwch, profion system awtomataidd, a gwasanaethau rhwydwaith.

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Trefniadau oddi ar y gyflogres yw'r rhai lle caiff unigolion, naill ai rhai hunangyflogedig neu rhai sy’n gweithredu drwy gwmni gwasanaeth personol, eu talu'n gros gan y cyflogwr.

O 6 Ebrill 2017, daeth diwygiadau i ddeddfwriaeth cyfryngwyr (a elwir yn IR35) i rym. Roedd y rhain yn newid y rheolau ar gyfer pobl sydd oddi ar y gyflogres sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ac yn symud y rhwymedigaeth i bennu statws treth oddi wrth y contractwr i’r ymgysylltydd.

Mae'r holl swyddi oddi ar y gyflogres presennol wedi bod yn destun asesiad seiliedig ar risg. Gwneir hyn er mwyn penderfynu a oes angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu'r swm cywir o dreth. Lle bo angen, gofynwyd am y sicrwydd hwnnw.

Ymrwymiadau cyflog uchel oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2022, gweithwyr a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer o swyddi a oedd yn bodoli eisoes ar 31 Mawrth 2022 2
O'r rhain:
Nifer sydd wedi bodoli ers llai na blwyddyn 0
Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 1 i 2 flynedd 0
Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 2 i 3 flynedd 1
Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 3 i 4 flynedd 1
Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 4 mlynedd neu fwy 0
Pob gweithiwr oddi ar y gyflogres, cyflog uchel a gyflogwyd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer y gweithwyr dros dro oddi ar y gyflogres a ymgysylltwyd â hwy yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 5
O'r rhain:
Nifer a aseswyd nad oeddent yn ddarostyngedig i deddfwriaeth oddi ar y gyflogres  0
Nifer a aseswyd eu bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod o fewn cwmpas IR35 1
Nifer a aseswyd eu bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod y tu allan i gwmpas IR35 4
Nifer yr ymrwymiadau a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn 2
Nifer y swyddi a welodd newid statws IR35 yn sgil yr adolygiad 0
Unrhyw swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau’r Bwrdd ac/neu uwch swyddogion gyda chyfrifoldeb ariannol sylweddol (rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022)
Nifer y swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau’r Bwrdd ac/neu uwch swyddogion gyda chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol 0
Nifer yr unigolion ar, ac oddi ar, y gyflogres sydd wedi’u penodi’n aelodau’r Bwrdd ac/neu uwch swyddogion gyda chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol 13

Cynllun y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

Mae'r tabl isod yn dangos cyfanswm nifer y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac sydd wedi’u cyfrif yn 2021 i 2022 (gwnaed 1 taliad yn 2020 i 2021). Oherwydd mai dim ond 1 taliad a wnaed yn 2020 i 2021, nid yw cyfanswm y gost wedi’i nodi gan y gallai hyn effeithio ar breifatrwydd yr unigolyn.

Nifer y pecynnau ymadael yn ystod y cyfnod
  Nifer y diswyddiadau gorfodol Nifer yr ymadawiadau eraill y cytunwyd arnynt Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost
2021-22 2021-22 2021-22 2020-21
<£10,000 0 0 0 0
£10-000 - £25,000 0 0 0 1
£25,000 - £50,000 0 0 0 0
£50,000 -£100,000 0 0 0 0
£100,000 - £150,000 0 0 0 0
£150,000 - £200,000 0 0 0 0
Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael 0 0 0 1

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Telir costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS), sef cynllun statudol a wnaed o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Os yw ACC yn cytuno i ymddeoliadau cynnar, telir y costau ychwanegol gan ACC yn hytrach na chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd afiechyd yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y tabl.

Cynhwysir taliadau diswyddo o fewn ymadawiadau eraill a ddangosir uchod. Telir y rhain o dan rai amgylchiadau i gyflogeion, contractwyr ac eraill y tu allan i ofynion statudol neu gontractiol arferol, wrth adael cyflogaeth yn y gwasanaeth cyhoeddus, p'un ai eu bod yn ymddiswyddo, yn cael eu diswyddo, neu'n dod i derfyniad contract y cytunir arno.

Materion eraill sy'n ymwneud â chyflogeion

Y 2 fater mwyaf arwyddocaol i weithwyr yn ystod y cyfnod hwn oedd bod y rhan fwyaf o'n pobl yn gweithio gartref – oherwydd effaith cyfyngiadau clo COVID-19 a chan nad oedd gennym brif swyddfa ers i’n safle yn Nhrefforest gael ei ddifrodi’n sylweddol gan Storm Dennis a’i gau o ganlyniad yn 2020 – a chynefino staff newydd i'r sefydliad.

Wrth i'r cyfyngiadau ar fynychu swyddfeydd a chadw pellter cymdeithasol newid rydym wedi parhau i roi blaenoriaeth i sicrhau bod ein pobl â’r wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn ddiogel. Cafodd hyn ei gymhlethu gan nad oedd gennym swyddfa newydd barhaol, ac felly bu'n rhaid trefnu llety dros dro, ond nid yw wedi bod mor addas o ran cefnogi ein ffyrdd o weithio â’n swyddfa barhaol flaenorol. Er bod ein pobl yn awyddus i ddychwelyd i weithio wyneb yn wyneb, mae hyn wedi bod yn anodd i'n staff gan nad oes ganddynt swyddfa breifat, yn enwedig i’r rhai sy'n gweithio gyda gwybodaeth gyfrinachol. Rydym yn disgwyl penderfyniad ar ein lleoliad newydd yn ystod 2022 i 2023.

Mae sicrhau bod pobl newydd sy'n ymuno â'r sefydliad o bell neu mewn modd hybrid yn ymgynefino’n llwyddiannus wedi bod yn flaenoriaeth arall. Mae addasu ein prosesau i sicrhau mwy o gyfathrebu cyn ymuno a phroses gynefino symlach wedi ein galluogi i barhau i weithio ar y cyd ac yn gynhwysol.

Mae diogelwch staff wedi parhau i fod yn flaenoriaeth drwy gydol y cyfnod ac mae amrywiaeth o brosesau i sicrhau ei fod yn cael ei adolygu a'i gynnal yn barhaus. Mae'r defnydd o asesiadau risg a thrafodaethau rheolaidd gyda'n pobl am eu hiechyd a'u diogelwch wedi golygu ein bod yn gallu sicrhau diogelwch corfforol a llesiant ein pobl – boed hynny wrth weithio gartref neu wrth fynychu’r swyddfa. Mae Grŵp Llesiant wedi'i sefydlu ac wedi sicrhau bod y Strategaeth Llesiant yn parhau i gael ei gweithredu drwy ei addasu ar gyfer cyd-destun gweithio o bell/hybrid. Mae’r cymorth ychwanegol i staff yn ystod y cyfnod wedi cynnwys archebu offer TG a gweithio gartref ychwanegol, cyflwyno addasiadau rhesymol pan fo’n briodol, a mwy o weithgareddau llesiant a chyfarfodydd rhithwir rheolaidd i'r holl staff a thimoedd. Yn ogystal, cydnabyddir 3 undeb llafur gan ein sefydliad i gynrychioli cyflogeion.

Er na dderbyniwyd unrhyw gwynion chwythu'r chwiban yn ystod y cyfnod, rhoddwyd pwyslais arbennig ar sicrhau bod ein pobl yn deall y llwybrau ar gyfer adrodd ac yn cael eu hannog i leisio unrhyw bryderon. Mae hyn wedi bod yn rhan o'n cyfathrebu rheolaidd, ar draws ACC ac o fewn timau hefyd.

Cynrychiolir 14 o wahanol broffesiynau yn ein sefydliad. Cynhaliwyd dysgu a datblygu sylweddol ar gyfer y gweithlu cyfan, gan gynnwys hyfforddiant cyffredinol a phenodol i rolau neu broffesiynau, yn ystod y cyfnod, gyda rhai o'r rolau wedi'u cynnig ar sail benthyciad – i mewn ac allan o ACC - er mwyn annog rhannu gwybodaeth gyda chyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil.

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
25 Gorffennaf 2022

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Maent yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a'r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglwyd a'u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM.

Yn fy marn i, mae'r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2022 ac o'i wariant gweithredu net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglwyd a'u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM; ac
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd faterol, mae'r gwariant a'r incwm yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodiadau ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol Cyrff y Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy'n annibynnol o'r corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol ar gyfer darparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ar wahân i'r datganiadau ariannol, rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir ac adroddiad fy archwiliwr arnynt. Nid yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf y wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn faterol anghyson â'r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu’n ymddangos fel petai wedi'i cham-ddatgan yn faterol fel arall. Os byddaf yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol posibl, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad materol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, ar sail y gwaith yr wyf wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad materol o’r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i'w adrodd yn hyn o beth.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddiadau a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf y wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr adroddiad blynyddol wedi'i baratoi yn unol â'r canllawiau.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae'r wybodaeth a roddir yn yr adroddiad blynyddol yn gyson â'r datganiadau ariannol.

Er nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol am Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi paratoi adroddiad o'r fath ac, yn fy marn i, mae'r rhan y mae'n ofynnol ei harchwilio fel arfer wedi'i pharatoi'n briodol yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad: 

  • mae'r wybodaeth a roddir yn y Datganiad Llywodraethiant ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac mae'r Datganiad Llywodraethiant wedi'i baratoi yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru;
  • mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad ar Berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad ar Berfformiad na'r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • nad yw cofnodion cyfrifyddu digonol wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni treth digonol ar gyfer fy archwiliad wedi’u cyflwyno gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â hwy;
  • nad yw'r datganiadau ariannol a'r rhan o'r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a archwiliwyd yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu;
  • na ddatgelwyd gwybodaeth a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o ran cydnabyddiaeth ariannol a thrafodiadau eraill; neu
  • nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a'r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir dan y Ddeddf honno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am y rheolaeth fewnol a ddyfernir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, materion sy'n ymwneud â busnes gweithredol ac i ddefnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu, oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau'r Archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol

Fy amcanion i yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy'n cynllunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, er mwyn canfod camddatganiadau materol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau'n cynnwys y canlynol:

  • Holi'r rheolwyr, yr archwilwyr mewnol a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys caffael ac adolygu dogfennau ategol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy'n ymwneud â:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau, ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i beryglon twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a’r
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
  • Fel tîm archwilio, ystyried sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw a phostio cyfnodolion anarferol;
  • Sicrhau dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy ngweithdrefnau ar gyfer ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau'r datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol er mwyn asesu cydymffurfiaeth â'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi'r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg am ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd; a
  • drwy fynd i'r afael â'r risg o dwyll wrth i reolwyr ddiystyru rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion a chywiriadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wneir wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o duedd bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodiadau arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i'r cwrs busnes arferol.

Cyfleais hefyd ddeddfau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i bob tîm archwilio gan gadw llygaid barcud am unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan anhawster cynhenid canfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a maint y gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra'r trafodiadau ariannol.

Mae'n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Ann-Marie Harkin
Ar gyfer ac ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

26 Gorffennaf 2022

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Cyfrifon Adnoddau

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr
  Nodyn 2021-22
£000
2020-21
£000
Costau staff  2 4,536 4,430
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff 2 82 139
Costau gweithredu eraill 2 1,440 1,490
Dibrisiant 3.1 31 31
Amorteiddiad 3.2 63 804
Gwariant gweithredu net   6,152 6,894
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn   6,152 6,894
Datganiad o Sefyllfa Ariannol
  Nodyn 2021-22
£000
2020-21
£000
Asedau anghyfredol
Cyfarpar 3.1 94 69
Asedau anniriaethol 3.2 83 137
Cyfanswm asedau anghyfredol   177 206
Asedau cyfredol
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 4 116 112
Arian parod a chyfwerth ag arian parod 5 868 659
Cyfanswm asedau cyfredol   984 771
Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau masnach a symiau taladwy eraill 6 (909) (864)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (909) (864)
Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol   252 113
Ecwiti trethdalwyr
Cronfa gyffredinol   252 113

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
25 Gorffennaf 2022

Datganiad o Lifau Arian Parod
  Nodyn 2021-22
£000
2020-21
£000
Llifau arian parod o weithgareddau gweithredol
Gwariant gweithredu net   (6,152) (6,894)
Addasiadau ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn rhai arian parod
Gostyngiad mewn masnach a symiau derbyniadwy eraill   (4) 28
(Gostyngiad)/cynydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill   45 (96)
Dibrisiant ac amorteiddiad 3.1, 3.2 94 835
Arian parod net (all-lif) sy'n deillio o weithgareddau gweithredu  (6,017) (6,127)
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Ychwanegu cyfarpar 3.1 (56) (66)
Ychwanegu asedau anniriaethol 3.2 (9) (107)
Arian parod net (all-lif) sy’n deillio o weithgareddau buddsoddi (65) (173)
Llifau arian parod o weithgareddau cyllido
Cyllid gan Lywodraeth Cymru   6,291 6,716
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod 5 209 416
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau'r cyfnod 5 659 243
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod 5 868 659
Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr
  Cronfa Gyffredinol
£000
Balans as 31 Mawrth 2020 291
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2020-21
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru 6,541
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru 175
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (6,894)
Balans ar 31 Mawrth 2021 113
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2021-22
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru 6,226
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru 65
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (6,152)
Balans ar 31 Mawrth 2022 252

Nodiadau i'r Cyfrifon Adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2021-22 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol. 

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi'u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Cyfrifwyd am wariant ar sail croniadau. Mae cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi'i nodi yn AP1.7.

1.3 Busnes Gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail "busnes gweithredol" gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei gyllid refeniw ganddynt i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir rhagweld.

1.4 Defnyddio Dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a'r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

Nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Y Gweinidog yn unig sy'n cyfarwyddo'r gofod swyddfa a ddyrennir i ACC i'w ddefnyddio.

1.5 Cronni Gwyliau Blynyddol

Caiff croniadau gwyliau blynyddol Staff eu cyfrif o fewn Costau Staff Eraill. Dim ond y symudiad yn ystod y flwyddyn sy'n cael ei godi. Mae'r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu'r gwyliau blynyddol sy'n ddyledus neu sy'n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn.

1.6 Treth Ar Werth (TAW)

Mae ACC wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Caiff gwariant nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol CThEM.

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn Ddyraniad Grant) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â'r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe'u credydir i'r Gronfa Gyffredinol. Mae'r FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod yw unig gynnwys y balansau sydd gan ACC gyda Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

1.9 Adrodd segmentau

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a'u hardaloedd daearyddol. Mae ACC yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adroddiadau ychwanegol.

1.10 Lesau

Ar gyfer 2021 i 2022, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau prydlesu fel prydleswr neu lesddeiliad o dan IAS17. Gohiriwyd gweithredu IFRS 16 yn y sector cyhoeddus tan Ebrill 2022 oherwydd COVID-19. Yn 2022 i 2023 bydd ACC yn adolygu ei drefniadau cytundebol ac angytundebol i sefydlu a oes les yn bodoli fel y'i diffiniwyd.

1.11 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl y mae offerynnau ariannol wedi'i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog.

1.12 Asedau Anghyfredol

Cyfarpar

Caiff cyfarpar ei gario ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi'i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn.

Mae’r holl gyfarpar a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC ac a oedd yn costio £5,000 neu fwy wedi’i gyfalafu.

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe'i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel y dangosir isod.

Oes ddefnyddiol disgwyliedig yr offer
Categori offer Oes ddefnyddiol ddisgwyliedig
Cyfarpar TGCh 3 blynedd
Cyfarpar Arall 5 blynedd
Asedau Anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd eu natur benodol, caiff asedau anniriaethol eu datgan ar gostau hanesyddol a'u hamorteiddio ar sail llinell syth, dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddio yn y mis ar ôl i'r ased gael ei gaffael fel y nodir isod.

Oes ddefnyddiol ddisgwyliedig asedau anniriaethol
Categori o Ased Anniriaethol Oes ddefnyddiol amcangyfrifedig
Trwyddedau a meddalwedd 3 blynedd

2. Gwariant

Gwariant yn ystod y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Staff a chostau cysylltiedig
Cyflogau 3,232 3,120
Costau pensiynau 884 841
Costau nawdd cymdeithasol 347 337
Costau asiantaeth 73 132
  4,536 4,430
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff
Hyfforddi a datblygu 82 71
Teithio a chynhaliaeth 4 2
Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogeion [1] (4) 66
  82 139
Costau gweithredu eraill
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill 61 68
Costau'r Bwrdd a chostau cysylltiedig 42 60
Ffi archwilio allanol 31 30
Costau sy'n gysylltiedig â TGCh 987 1,038
Ffi archwilio mewnol 16 15
Costau proffesiynol eraill 303 279
  1,440 1,490
Amorteiddiad a Dibrisiant 94 835
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn 6,152 6,894

Mae dadansoddiad pellach o gostau staff a chostau cysylltiedig i'w gael yn yr Adroddiad Staff.

Nodiadau

[1] Dangosir hyn fel credyd yn 2021 i 2022 gan fod y symudiad yn y croniad buddion cyflogeion yn ostyngiad o £10,000 (cynydd o £54,000 yn 2020 i 2021).

3. Asedau anghyfredol

Cyfarpar
  Cyfarpar TGC
£000
Cyfarpar arall
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2021 159 11 170
Ychwanegiadau 56 0 56
Ar 31 Mawrth 2022 215 11 226
Dibrisiant
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2021 95 6 101
Tâl am y flwyddyn 29 2 31
Ar 31 Mawrth 2021 124 8 132
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2021 64 5 69
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2022 91 3 94
3.1b Cyfarpar
  Cyfarpar TGC
£000
Cyfarpar arall
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2020 93 11 104
Ychwanegiadau 66 0 66
Ar 31 Mawrth 2021 159 11 170
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2020 66 4 70
Tâl am y flwyddyn 29 2 31
Ar 31 Mawrth 2021 95 6 101
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2020 27 7 34
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2021 64 5 69
3.2a Asedau anniriaethol
  Trwyddedau
£000
Meddalwedd
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2021 130 2,531 2,661
Ychwanegiadau 9 9
Gwarediadau (66) 0 (66)
Ar 31 Mawrth 2022 64 2,540 2,604
Amorteiddiad
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2021 79 2,445 2,524
Tâl am y flwyddyn 21 42 63
Gwarediadau (66) 0 (66)
Ar 31 Mawrth 2022 34 2,487 2,521
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2021 51 86 137
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2022 30 53 83
3.2b Intangible assets
  Trwyddedau
£000
Meddalwedd
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2020 66 2,488 2,554
Ychwanegiadau 64 43 107
Ar 31 Mawrth 2021 130 2,531 2,661
Amorteiddiad
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2020 59 1,661 1,720
Tâl am y flwyddyn 20 784 804
Ar 31 Mawrth 2021 79 2,445 2,524
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2020 7 827 834
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2021 51 86 137

4. Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall ar ddiwedd y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 116 112
Balans ar 31 Mawrth 116 112

5. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Balans ar ddechrau'r cyfnod  659  243
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod  209  416
Balans ar 31 Mawrth  868  659

Mae'r holl falansau'n cael eu cadw gan Wasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

6. Symiau masnach a symiau taladwy eraill

Symiau masnach a symiau taladwy eraill ar ddiwedd y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Symiau masnach taladwy (730) (672)
Symiau taladwy eraill (179) (192)
Balans ar 31 Mawrth (909) (864)

Mae'r rhan fwyaf o'r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol. 

7. Trafodiadau partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. O'r herwydd, mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hystyried yn rhiant adran ac felly'n barti cysylltiedig. Mae ACC wedi cael nifer o drafodiadau materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru.

Derbyniwyd cyllid refeniw o £6.23 miliwn yn ystod y flwyddyn (2020 i 2021 £6.54 miliwn). Y cyllid cyfalaf a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn oedd £64,500 (2020 i 2021 £175,000). 

Gwnaed taliadau o £4.7 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2021 i 2022 yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres, costau staff ar secondiad, a chostau cwmwl TGCh (2020 i 2021 £4.7 miliwn).

Ni ymgymerodd unrhyw aelodau o'r Bwrdd, uwch swyddogion na phartïon cysylltiedig, ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC.

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2022.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2022.

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Refeniw, Incwm a Gwariant Arall, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod a'r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y'u dehonglwyd a'u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM.

Yn fy marn i, mae'r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2022 a'r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd fel y'u dehonglwyd a'u haddasu gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM; ac
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd faterol, mae'r gwariant a'r incwm yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodiadau ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol Cyrff y Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy'n annibynnol o Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ar wahân i'r datganiadau ariannol ac adroddiad fy archwiliwr arnynt. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn faterol anghyson â'r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu’n ymddangos fel petai wedi'i cham-ddatgan yn faterol fel arall. Os byddaf yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol posibl, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad materol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, ar sail y gwaith yr wyf wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad materol o’r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barnau ar faterion eraill

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad: 

  • mae'r wybodaeth a roddir yn y Datganiad Llywodraethiant ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac mae'r Datganiad Llywodraethiant wedi'i baratoi yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru;
  • mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad ar Berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac mae'r Adroddiad ar Berfformiad wedi'i baratoi yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad ar Berfformiad na'r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • nad yw cofnodion cyfrifyddu digonol wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni treth digonol ar gyfer fy archwiliad wedi’u cyflwyno gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â hwy;
  • nad yw'r datganiadau ariannol yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu;
  • nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a'r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir dan y Ddeddf honno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am y rheolaeth fewnol a ddyfernir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n berthnasol, materion sy'n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau'r Archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol

Fy amcanion i yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy'n cynllunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, er mwyn canfod camddatganiadau materol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau'n cynnwys y canlynol: 

  • Holi'r rheolwyr, archwilwyr mewnol y corff a archwiliwyd a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys caffael ac adolygu dogfennau ategol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy'n ymwneud â:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau, ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i beryglon twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a’r
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
  • Fel tîm archwilio, ystyried sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw a phostio cyfnodolion anarferol.
  • Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy ngweithdrefnau ar gyfer ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau'r datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi'r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg am ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd; a
  • drwy fynd i'r afael â'r risg o dwyll wrth i reolwyr ddiystyru rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion a chywiriadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wneir wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o duedd bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodiadau arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i'r cwrs busnes arferol.

Cyfleais hefyd ddeddfau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i bob tîm archwilio gan gadw llygaid barcud am unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan anhawster cynhenid canfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a maint y gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra'r trafodiadau ariannol.

Mae'n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Ann-Marie Harkin
Ar gyfer ac ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

26 Gorffennaf 2022

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Datganiad Treth

Datganiad o Refeniw, Incwm Arall, a Gwariant
  Nodyn 2021-22
£000
2020-21
£000
Refeniw
Trethi a thollau
Treth Trafodiadau Tir (TTT) 2.1 402,245 210,510
Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) 2.2 45,334 31,719
Cyfanswm trethi a thollau   447,579 242,229
Incwm arall
Cosbau 2.3 503 136
Llog 2.3  86 130
Cyfanswm cosbau a llog   589 266
Cyfanswm y refeniw   448,168 242,495
Gwariant
Llog a dalwyd  3.1 (120) (82)
Colledion refeniw 3.2 (248) (119)
Cyfanswm y gwariant   (368) (201)
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru   447,800 242,294

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt mewn man heblaw am y Datganiad Refeniw, Incwm, a Gwariant Arall uchod.

Mae’r nodiadau sy'n dilyn y Datganiad o Lifau Arian Parod yn ffurfio rhan o'r datganiad hwn.

Datganiad o Sefyllfa Ariannol
  Nodyn 2021-22
£000
2020-21
£000
Asedau cyfredol
Symiau derbyniadwy 4.1 3,106 2,598
Trethi cronedig derbyniadwy 4.1 19,600 17,994
Arian parod 5 12,935 7,314
Cyfanswm asedau cyfredol   35,641 27,906
Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif 6 110 789
Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys 7 1,114 0
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   1,224 789
Cyfanswm yr asedau net   34,417 27,117
Cynrychiolir gan      
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 9 34,417 27,117

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
25 Gorffennaf 2022

Datganiad o Lifau Arian Parod
  Nodyn 2021-22
£000
2020-21
£000
Llif arian net o weithgareddau gweithredol A 446,121 264,878
Arian parod a dalwyd i'r Gronfa Gyfunol   (440,500) (260,400)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn B 5,621 4,478

Nodiadau ar y Datganiad o Lifau Arian Parod

A: Cysoniad llif arian newydd â symudiad mewn cronfeydd net
  2021-22
£000
2020-21
£000
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 447,800 242,294
Gostyngiad/(cynnydd) mewn asedau nad ydynt yn arian parod (2,114) 22,665
(Gostyngiad)/cynnydd mewn rhwymedigaethau  (679) (81)
(Gostyngiad)/cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau  1,114 0
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 446,121 264,878
B: Dadansoddiad o'r newidiadau yn y gronfa arian net
  2021-22
£000
2020-21
£000
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn 5,621 4,478
Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc) 7,314 2,836
Arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol) 12,935 7,314

Nodiadau i'r datganiad treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2021-22 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol. 

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw'r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach nag fel pennaeth.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Datganiad Treth yn unol â'r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniadau.

1.3 Cydnabod refeniw

Trethiant

Caiff trethi eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan:

  • mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o'r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru.
  • mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfraddau uwch, eu cydnabod hyd at 30 Ebrill yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol.

Cosbau a llog

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy.

Cydnabyddir refeniw pan:

  • gaiff y gosb neu dâl llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC

Mae refeniw cosbau cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifiad:

  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu'r asiant ar y ffurflen dreth.
  • pan gaiff cosb ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC
  • pan fo cosb, oherwydd apêl neu am resymau cyfreithiol eraill, yn cael ei chanslo

Lle bernir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddir mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw'r hyn a ddangosir uchod, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad y tybir ei fod yn anghasgladwy.

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y Datganiad Treth. Dyma'r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr atebolrwydd damcaniaethol), a’r hyn a gesglir. Mae'r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon yn cynrychioli'r dreth a fyddai'n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad Senedd Cymru wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ysbryd y gyfraith).

Gohiriadau

Mae gohiriad yn digwydd pan fo sawl cam gosod pris prynu yn digwydd mewn trafodiad tir a phan fo un neu fwy o'r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio; cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan roddir y caniatâd cynllunio. 

Ymholiadau a Thribiwnlysoedd

Yn unol â’r FReM, nid yw refeniw treth ynghyd ag ad-daliadau treth neu gosb sy'n deillio o achosion ymholiad neu dribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon nes bydd y penderfyniad neu'r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy'n ymwneud ag ymholiadau neu dribiwnlysoedd.

1.4 Defnyddio Dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad polisïau cyfrifyddu a'r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

  • mae datgelu rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer ad-dalu cyfraddau uwch TTT yn y cyfrifon yn seiliedig ar fodelu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a'u dyfarniadau. Nid oes gennym ddata digonol ar gael eto er mwyn modelu prisiad cywir o rwymedigaeth ad-dalu yn y dyfodol.

1.5 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, Offerynnau Ariannol, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl y mae offerynnau ariannol wedi'i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid oes unrhyw amlygiad i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor.

1.6 Cyfrinachedd trethdalwyr

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn datgelu unrhyw fanylion cyfrinachol trethdalwyr yn y Datganiadau Ariannol a waherddir o dan Adran 17 DCRhT 2016 oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.

1.7 Symiau derbyniadwy

Nid yw'r FReM yn ei gwneud yn ofynnol i ACC bennu amhariadau yn unol ag IFRS 9: Offerynnau Ariannol, gan fod y safon yn ymwneud ag offerynnau ariannol. Daw trethi o statud yn hytrach na chontract, fodd bynnag, mae namau wedi'u mesur gan ddefnyddio'r model colli credyd a nodir yn IFRS 9. Mae'r model amhariad yn IFRS 9 yn seiliedig ar y rhagosodiad o ddarparu ar gyfer colledion disgwyliedig gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a chan ystyried y tebygolrwydd o gasglu.

Caiff gwerth symiau derbyniadwy ACC eu hadolygu'n unigol ar ddyddiad pob cyfnod adrodd i benderfynu a oes unrhyw arwydd o amhariad. Os oes arwydd o'r fath yn bodoli, adroddir ar y gwerthoedd yn y Datganiad o Sefyllfa Ariannol ar ôl yr amhariad er mwyn adlewyrchu'r swm sy'n debygol o gael ei gasglu.

Mae colledion refeniw yn digwydd pan fydd ACC yn rhoi'r gorau’n ffurfiol i weithgarwch casglu. Mae'r mwyafrif llethol yn cael eu gyrru gan ansolfedd unigol a busnesau. Daw colledion refeniw o ollyngdod a dileu dyledion. Mae gollyngdodau’n ddyledion y gellir eu hadfer ond bod ACC wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y ddyled ar sail gwerth am arian. Bydd ACC ond yn dileu dyledion y mae'n eu hystyried yn rhai na ellir eu hadfer pan nad oes modd ymarferol mynd ar drywydd y ddyled.

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol.

2. Refeniw ac incwm arall

2.1 Treth Trafodiadau Tir
  2021-22
£000
2020-21
£000
Preswyl  271,822 152,092
Amhreswyl  130,423 58,418
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir 402,245 210,510

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae cyfraddau preswyl uwch TTT yn daladwy wrth brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd uwch yn ad-daladwy i'r trethdalwr pan werthir prif breswylfa'r trethdalwr o fewn 3 blynedd i brynu'r eiddo ychwanegol.

Ar 30 Ebrill, gwerth y trafodiadau ardrethi uwch ar gyfer 2021 i 2022 oedd £140.36 miliwn (2020 i 2021 £92.98 miliwn). Mae'r ffigur hwn wedi'i ostwng ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch o £24.23 miliwn (2020 i 2021 £15.95 miliwn) sydd bellach yn cael eu trin fel prif gyfraddau preswyl lle mae trethdalwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ad-daliad.

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi
  2021-22
£000
2020-21
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi 45,334 31,719
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi 45,334 31,719

Telir TGT pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi a chaiff ei gyfrifo yn ôl y pwysau a’r math o wastraff.

2.3 Cosbau a llog
  2021-22 2020-21
Cosb
£000
Llog
£000
Cosb
£000
Llog
£000
Treth Trafodiadau Tir 503  85 136 72
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0  1 0 58
Cyfanswm cosbau a llog 503  86 136 130

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, pan fydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Codir llog ar daliadau treth hwyr neu gosbau.

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd
  2021-22
£000
2020-21
£000
Treth Trafodiadau Tir (120) (82)
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm y llog a dalwyd (120) (82)

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau.

3.2 Colledion refeniw
  2021-22 2020-21
Amhariad ar y Dreth
£000
Dyled wedi'i Dileu
£000
Amhariad ar y Dreth
£000
Dyled wedi'i Dileu
£000
Treth Trafodiadau Tir (233) (15) (119) 0
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0 0 0
Cyfanswm y colledion refeniw (233) (15) (119) 0

Mae colledion refeniw yn cynnwys dileu dyledion a'r symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer amhariad ar dreth (gweler nodyn 4.2).

Dilëir dyledion pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth ofalus, ystyrir na ellir adennill y symiau hyn.

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy

4.1 Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus
  2021-22 2020-21
Symiau derbyniadwy
£000
Refeniw Cronedig Derbyniadwy
£000
Symiau derbyniadwy
£000
Refeniw Cronedig Derbyniadwy
£000
Treth Trafodiadau Tir 3,459 9,359 2,717 10,891
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 10,241 0 7,103
Cyfansymiau cyn Amhariad 3,459 19,600 2,717 17,994
Heb yr Amhariad 
(nodyn 4.2)
(353) 0 (119) 0
Cyfanswm 3,106 19,600 2,598 17,994

Mae symiau derbyniadwy yn cynrychioli rhwymedigaethau trethdalwyr lle mae’r symiau sy'n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog a ysgwyddwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond ni dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen.

Mae'r refeniw cronedig derbyniadwy yn cynrychioli symiau sy'n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth lle mae'r rhwymedigaeth dreth wedi'i sefydlu ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen. Felly gwneir croniad â llaw.

4.2 Darpariaeth amhariad
  2021-22 2020-21
Treth Trafodiadau Tir
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi
£000
Treth Trafodiadau Tir
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi
£000
Ar 1 Ebrill 2021 119 0 0 0
Symudiad mewn Amhariad 234 0 119 0
Balans ar 31 Mawrth 353 0 119 0

Gwneir darpariaeth amhariad pan fo'n debygol na dderbynnir y dreth neu gosbau sy'n ddyledus yn llawn. Mae amhariad yn ddyled yr ystyrir ei bod yn debygol o fod yn un na ellir ei hadfer yn y tymor hwy. Adroddir ar symiau derbyniadwy yn y Datganiad ar y Sefyllfa Ariannol ar ôl didynnu gwerth amcangyfrifedig amhariadau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer amhariad yn seiliedig ar nifer o ffactorau, megis pan mae dyledwr, yn anffodus, ar fin mynd i ddwylo’r gweinyddwyr neu pan fydd camau cyfreithiol wedi'u cychwyn. Mae’r symudiad yn ystod y flwyddyn yn gyson â’r niferoedd treth a’r cosbau na ellir eu hadfer a’r oedi o gyfnod brig COVID.

5. Arian parod

Balans arian parod ar ddiwedd y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth 12,935 7,314
Balans ar 31 Mawrth 12,935 7,314

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae'r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth.

6. Symiau taladwy a balansau ar gyfrif

Symiau taladwy a balansau ar gyfrif ar ddiwedd y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Treth Trafodiadau Tir 110 789
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm 110 789

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddyledus gan ACC a lle nad yw'r taliad wedi'i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae'r balansau hyn yn ymwneud ag ad-daliadau treth, cosbau, neu log sy'n ddyledus, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch, lle mae'r symiau wedi’u pennu ar ddyddiad y fantolen fel rhai sy'n ddyledus.

7. Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys

Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys ar ddiwedd y cyfnod
  2021-22
£000
2020-21
£000
Treth Trafodiadau Tir 0 0
Treth Gwarediadau Tirlenwi 1,114 0
Cyfanswm 1,114 0

Fel y nodwyd ym mholisi cyfrifyddu 1.3, nid yw refeniw sy'n ymwneud ag achosion tribiwnlys yn cael ei gydnabod yn y cyfrifon hyd nes y cyhoeddir y penderfyniad neu'r dyfarniad. Sefydlwyd y ddarpariaeth i gydnabod bod ACC wedi derbyn taliadau pan fo'r trethdalwr wedi apelio i dribiwnlys mewn perthynas â'r dreth sy'n ddyledus.

8. Rhwymedigaethau digwyddiadol

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiadau preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae angen i’r trethdalwr gyflwyno hawliad er mwyn derbyn yr ad-daliad.

Datgelir yr ad-daliad posibl hwn o dreth cyfraddau uwch fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y Datganiad Treth oherwydd ansicrwydd yr ailhawliadau a'u hamseriadau. Ar gyfer 2021 i 2022, yr amcangyfrif yw £20.0 miliwn (2020 i 2021 £14.4 miliwn) a gyfrifwyd ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

9. Balans sy'n ddyledus i Gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

  2021-22
£000
2020-21
£000
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill 27,117 45,223
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 447,800 242,294
Ar ôl tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru (440,500) (260,400)
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 34,417 27,117

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Geirfa

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau annirweddol – ased adnabyddadwy nad yw'n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo; er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan y Senedd ac a ddyrennir wedyn drwy Gynnig Cyllidebol.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol ddiriaethol.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM)

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EM ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y Llywodraeth yn defnyddio'r rhain fel sail eu paratoadau ar gyfer eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy'n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sydd angen eu talu i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.