Neidio i'r prif gynnwy

4. Rwyf am addasu'r atig yn fy fflat sydd ar y llawr uchaf

Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio os gwaith mewnol yn unig a wneir. Fodd bynnag, gall dehongliadau lleol amrywio, a dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor.

Bydd angen caniatâd os byddwch yn estyn neu’n newid y lle yn y to.

Yn ogystal, dylech gadarnhau a ydych yn berchen ar y lle yr ydych am ei addasu yn y to. Os ydych yn lesddeiliad, efallai y bydd angen cael caniatâd eich landlord, eich rhydd-ddeiliad neu’ch cwmni rheoli.

Os yw’ch fflat yn adeilad rhestredig, mae’n debygol y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch, a dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith. Mae gwneud gwaith sy’n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.

Os yw’ch fflat mewn ardal gadwraeth ac os yw’ch cynigion yn cynnwys elfen o ddymchwel, efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth, a dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor.