Neidio i'r prif gynnwy

2. Rwyf am addasu lle uwchben siop yn fflat

Efallai y bydd modd ichi addasu lle uwchben siop (ac ambell le uwchben eiddo sydd â ffenestr arddangos), neu le uwchben swyddfa sydd ar y llawr gwaelod, yn un fflat heb gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio, os gallwch ymateb yn gadarnhaol i’r gofynion a ganlyn:

  • Mae’r lle yn perthyn i’r un dosbarth defnydd â’r siop neu’r swyddfa i ddechrau (naill ai Dosbarth A1 (siopau) neu A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol)).
  • Nid yw’r lle mewn uned gynllunio sydd ar wahân i’r defnydd presennol.
  • Ni fyddwch yn newid golwg allanol yr adeilad.
  • Os oes ffenestr arddangos ar y llawr gwaelod, ni fyddwch yn cynnwys dim o’r llawr gwaelod yn y fflat.

Rwyf am addasu lle uwchben siop yn fflat.