Neidio i'r prif gynnwy

5. Rwyf am adeiladu estyniad i'm fflat sydd ar y llawr gwaelod

Rhaid ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i ychwanegu estyniad at eich fflat.

Os yw eich fflat yn adeilad rhestredig, mae'n debygol y bydd arnoch angen caniatâd adeilad rhestredig, a dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith.

Mae cyflawni gwaith sy'n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.

Os yw eich fflat mewn ardal gadwraeth ac os yw eich cynigion yn cynnwys elfen o ddymchwel, efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth, a dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor.