Neidio i'r prif gynnwy

7. Rwyf am newid ffenestri fy fflat

Mae’r drefn gynllunio ar gyfer fflatiau a maisonettes yn wahanol mewn llawer o ffyrdd pwysig i’r drefn ar gyfer tai.

Efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod ffenestri newydd (megis ffenestri gwydr dwbl) yn eich fflat neu’ch maisonette. Ni fydd angen caniatâd cynllunio arnoch i ychwanegu gwydr eilaidd mewnol.

Ni ddylai fod angen caniatâd cynllunio arnoch os ydych yn gosod ffenestri newydd sydd yr un fath yn union â’r hen rai. Fodd bynnag, os yw golwg neu faint y ffenestri newydd yn wahanol i’r hen rai (er enghraifft, os yw patrymau’r gwydr yn wahanol), efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Os ydych yn lesddeiliad, efallai y bydd angen ichi gael caniatâd eich landlord, eich

rhydd-ddeiliad neu’ch cwmni rheoli yn gyntaf.

Os yw’ch fflat mewn adeilad rhestredig, mae’n debygol iawn y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch, a dylech gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol i ofyn am gyngor ar ddyluniad a deunyddiau cyn dechrau ar y gwaith. Mae gwneud gwaith sy’n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.

Os yw’ch fflat mewn ardal gadwraeth ac os yw’ch cynigion yn cynnwys elfen o ddymchwel, efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth, a dylech gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol i ofyn am gyngor.