Canllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod - Pennod 6: arweiniad cam wrth gam ar ddatrys gwersylloedd diawdurdod
Canllawiau’n egluro sut y dylai awdurdodau cyhoeddus ddelio â cherbydau sydd ar dir heb gydsyniad perchennog neu feddiannydd y tir.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Dylai awdurdodau lleol ystyried yr adran hon o’r canllawiau wrth fynd i’r afael â gwersyll diawdurdod sydd wedi codi yn eu hardal. Er y dylai pob gwersyll gael ei asesu fesul achos, mae’r adran hon yn rhoi’r adnoddau i awdurdodau ddatblygu ymateb teg ac effeithiol.
Cam 1: rhoi gwybod am wersyll
Fel arfer, daw’r ymwybyddiaeth gyntaf o wersyll diawdurdod drwy adroddiadau gan drigolion lleol neu fusnesau yng nghyffiniau gwersyll sydd newydd ei ffurfio.
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt ddull effeithiol o ymateb i wersylloedd cyn gynted ag y byddant yn ymddangos. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn penodi Un Pwynt Cyswllt i ddelio â gwersylloedd diawdurdod yn eu hardal ac y dylid rhoi gwybod i holl staff yr awdurdod lleol beth yw manylion cyswllt yr Un Pwynt Cyswllt. Mae’n arbennig o bwysig bod y manylion hyn gan swyddogion cwynion a’r rheini sy’n gweithio ar y switsfwrdd.
Nid oes angen o reidrwydd i’r Un Pwynt Cyswllt fod yr un swyddog ar gyfer pob gwersyll. Fodd bynnag, bydd cael un cyswllt ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â gwersyll penodol yn helpu’r awdurdod lleol i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol, a gallai hyn arwain at well perthynas waith rhwng pawb dan sylw. Dylai'r awdurdod lleol sicrhau bod gan yr Un Pwynt Cyswllt y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni ei rôl a bod penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud ar lefel uwch. Dylai arweinwyr awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod modd cydlynu'r holl adrannau perthnasol yn effeithiol.
Bydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau a busnesau lleol am gynigion yr awdurdod lleol i ddelio â’r gwersyll yn helpu i sicrhau cydlyniant cymunedol a rheoli pryderon posibl pobl yn yr ardal gyfagos.
Pan gaiff awdurdod lleol ei hysbysu am wersyll diawdurdod am y tro cyntaf, dylai geisio cael cymaint o wybodaeth â phosibl gan y sawl sy'n gwneud yr adroddiad, gan barchu’r ffaith y gall ddymuno aros yn ddienw.
Gall gwybodaeth berthnasol gynnwys:
- lleoliad y gwersyll
- am ba mor hir y mae’r gwersyll wedi’i sefydlu
- tua faint o bobl a cherbydau sydd yno
- a oes unrhyw gyswllt wedi bod rhwng y person sy'n adrodd a'r meddianwyr, ac os oes, beth fu canlyniad y trafodaethau hynny
- a oes gan y sawl sy’n gwneud yr adroddiad unrhyw bryderon penodol am y gwersyll, fel y meddianwyr yn rhwystro mynediad at dir neu'n achosi niwsans cyhoeddus
- manylion cyswllt y person sy’n gwneud yr adroddiad os yw’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymateb yr awdurdod lleol i’r gwersyll
Cam 2: asesu lles
Dylai awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i ymgysylltu’n gynnar â phob teulu ar wersyll diawdurdod cyn ystyried sut i ymateb er mwyn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau’n gwbl wybodus ac yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau perthnasol.
Yn y cam hwn, nid yw cyfranogiad yr heddlu yn briodol. Dylai awdurdodau lleol arwain ac ymgysylltu'n uniongyrchol â theuluoedd, a dim ond cynnwys yr heddlu lle bodlonir y gofynion a nodir yng nghanllawiau NPCC.
Ar ôl i’r adroddiad am y gwersyll gael ei gofnodi, argymhellir bod yr Un Pwynt Cyswllt neu’r swyddog arweiniol yn ymweld â’r gwersyll i asesu lles y meddianwyr cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, o fewn 24 awr yn ddelfrydol.
Mae gan awdurdod lleol nifer o ddyletswyddau sy’n ymwneud â phobl sy’n byw yn ei ardal, gan gynnwys plant ac unigolion sydd mewn addysg, yn ogystal â deddfwriaeth sy'n ymwneud â thai. Mae’r dyletswyddau hyn yr un mor berthnasol i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod. Bydd asesiad lles effeithiol yn helpu awdurdodau lleol i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol hyn.
Mae templed cyffredinol ar gyfer Asesiad Lles ar gael yn Atodiad 3.
Yn y gorffennol, mae'n bosibl mai’r Un Pwynt Cyswllt neu swyddog arweiniol arall yn yr awdurdod lleol fyddai wedi cynnal asesiadau lles. Fodd bynnag, argymhellir y dylid ystyried penodi rhywun annibynnol sydd â dealltwriaeth arbenigol o anghenion penodol Sipsiwn a Theithwyr i gynnal asesiadau lles ar ran yr awdurdod lleol. Efallai y bydd pobl allanol yn cael eu hystyried yn fwy agored eu meddwl ac yn fwy agos-atoch gan feddianwyr gwersyll, a allai fod yn ddrwgdybus o swyddogion awdurdodau lleol.
Bydd yr asesiad lles yn fodd i’r awdurdod lleol ganfod gwybodaeth bwysig am y gwersyll, gan gynnwys:
- Pennu diogelwch y gwersyll ar gyfer y meddianwyr a’r gymuned ehangach.
- Rhesymau dros yr arhosiad ac am faint y bwriedir aros.
- Faint o feddianwyr a cherbydau (gan gynnwys carafannau) sydd yno.
- Faint o’r meddianwyr sy’n blant.
- Faint o’r meddianwyr sy’n bobl hŷn.
- A oes meddianwyr anabl yno.
- A oes unrhyw fabanod neu blant ifanc iawn ar y safle.
- A oes unrhyw faterion iechyd/cyflyrau meddygol sy'n effeithio ar y meddianwyr e.e. a oes unrhyw un o'r grŵp wedi bod yn yr ysbyty, a oes rhywun yn feichiog neu wedi cael babi'n ddiweddar, neu a oes rhywun yn gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol ac ati.
- Penderfynu a oes angen unrhyw gymorth penodol ar unrhyw un o’r meddianwyr, fel angen am lety preswyl parhaol neu unrhyw faterion yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol.
- A oes arholiadau ysgol ar y gweill.
- Pa wasanaethau awdurdod lleol sy'n cael eu hystyried yn briodol e.e. casglu sbwriel, toiledau symudol, dŵr ac ati.
Diben yr ymweliad hwn â’r gwersyll yw:
- nodi unrhyw broblemau posibl gan gynnwys cyflwr y tir a'r gwersyll
- penderfynu a oes angen cynnwys asiantaethau ychwanegol, fel Gwasanaethau Addysg i Deithwyr neu weithwyr iechyd proffesiynol
- penderfynu a fydd gwasanaethau’n cael eu darparu ar y safle, fel gwastraff neu lanweithdra
- asesu a yw’n rhesymol gofyn i’r meddianwyr dalu am unrhyw wasanaethau y gallai’r awdurdod lleol benderfynu eu darparu
- rhoi gwybod i’r meddianwyr pa gamau mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ymateb i’r gwersyll diawdurdod
- rhoi manylion cyswllt lleol i’r meddianwyr, gan gynnwys yr Un Pwynt Cyswllt neu swyddog arweiniol arall sy’n cynnal yr asesiad, ac unrhyw gyngor perthnasol ar ofal iechyd, gweithwyr addysg proffesiynol a Cyngor ar Bopeth
Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod meddianwyr agored i niwed sydd ar wersyll diawdurdod yn cael gwybod am y cymorth a’r gefnogaeth y gallai fod ganddynt hawl i'w cael, a bod adrannau perthnasol, yn benodol, yn cael gwybod:
- pan fydd plant dan 5 oed, pobl sydd â phroblemau iechyd arwyddocaol neu anghenion gofal cymdeithasol neu rywun beichiog ymhlith y meddianwyr
- pan fydd risgiau uniongyrchol i’r meddianwyr, fel tir halogedig neu beryglon traffig
- pan fydd plant oedran ysgol yn bresennol, o fewn 4 wythnos i ddiwedd y tymor
Dylai’r Un Pwynt Cyswllt neu’r swyddog arweiniol sy’n cynnal yr asesiad lles feddu ar yr hyfforddiant a’r arbenigedd sydd eu hangen i allu asesu anghenion y meddianwyr yn briodol. Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol na fydd rhai meddianwyr benywaidd, am resymau diwylliannol, yn cymryd rhan yn y broses hon os bydd Un Pwynt Cyswllt gwrywaidd yn dod atynt. Gan hynny, byddai’n arfer da i dîm rhyw gymysg ymgymryd â’r asesiad lles, lle bo hynny’n bosibl.
Dylid cydnabod hefyd y bydd ansawdd a maint y wybodaeth a gesglir yn ystod yr asesiad lles yn dibynnu, i ryw raddau, ar y berthynas mae’r Un Pwynt Cyswllt yn gallu ei datblygu gyda’r meddianwyr. Yn aml iawn, gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau cyfathrebu da fod yn bwysig i sicrhau bod asesiad effeithiol yn cael ei gwblhau. Gall hefyd fod yn fuddiol sicrhau nad y swyddogion o’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiadau lles sy’n cynnal unrhyw achosion gorfodi hefyd.
Bydd asesiadau lles yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Un Pwynt Cyswllt gysylltu â chydweithwyr perthnasol, fel y rhai yn adrannau addysg a thai’r awdurdod lleol, neu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.
Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw bŵer i fynnu bod gwybodaeth yn cael ei rhoi iddynt fel rhan o’r asesiad lles. Os bydd un o’r meddianwyr wedi penderfynu peidio â rhannu unrhyw wybodaeth gyda’r Un Pwynt Cyswllt, dylid cadw cofnod o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r penderfyniad i beidio ag ateb, ynghyd ag unrhyw reswm a roddwyd dros beidio ag ateb.
Dylid rhoi gwybod i feddianwyr y gallant ddarparu gwybodaeth drwy unigolyn arall maent yn ymddiried ynddo, os ydynt yn dymuno, a dylai’r Un Pwynt Cyswllt ddarparu ar gyfer hyn lle bo hynny’n ymarferol.
Mae deddfwriaeth diogelu data’n berthnasol i unrhyw wybodaeth bersonol a geir yn ystod ymweliadau ac ymholiadau. Dylid trin ffotograffau o unigolion hefyd fel data personol, os oes modd adnabod yr unigolion hynny ohonynt. Dylai awdurdodau egluro at ba ddiben mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a rhoi sicrwydd ynghylch sut caiff ei defnyddio a gyda phwy y gellid ei rhannu.
Dylid cadw asesiadau lles at ddibenion archwilio. Mae’n bosibl y byddant yn ofynnol hefyd os bydd unrhyw her gyfreithiol yn digwydd i ymateb i achosion cymryd meddiant y gall yr awdurdod lleol fynd ar eu trywydd wedi hynny.
Arferion da
Yn Wrecsam, mae gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol gytundeb sefydledig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynd i’r gwersylloedd diawdurdod i gynnal asesiadau lles pan fo angen.
Mae’r system hon yn golygu bod modd asesu anghenion lles yn briodol gan weithwyr proffesiynol nad ydynt yn rhan o unrhyw drefniadau troi allan. Mae’n debygol y bydd y meddianwyr yn fwy tebygol o gyfrannu mewn achosion fel hyn.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (asesiadau lles).
Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ymweld â’r gwersyll fwy nag unwaith i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol tuag at y meddianwyr.
Dylid rhoi gwybod i’r meddianwyr hefyd y gallant gysylltu â’r Un Pwynt Cyswllt neu swyddogion arweiniol eraill o’r awdurdod lleol i ofyn am ymweliad ychwanegol os ydynt o’r farn bod angen unrhyw gymorth ychwanegol i ddiogelu eu lles.
Wrth ddarparu gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol i feddianwyr, bydd gofyn ystyried unrhyw angen am ddeunyddiau hygyrch. Efallai y bydd rhai Sipsiwn a Theithwyr yn cael anawsterau gyda llythrennedd ac felly mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod meddianwyr yn gallu darllen unrhyw ddogfennau a roddir iddynt a’u deall.
Cam 3: dadansoddiad cost a budd o ddatrys y mater
Gall dod o hyd i fannau aros dros dro/a negodwyd gynnig datrysiad hirdymor pragmatig a chost-effeithiol fydd yn galluogi’r awdurdod lleol i adleoli gwersyll o leoliad amhriodol, gan gydnabod yr angen i ddarparu cymorth ar gyfer ffordd nomadig Sipsiwn a Theithwyr o fyw.
Bydd awdurdodau lleol sy’n darparu safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na dim ond cymryd camau gorfodi adweithiol yn erbyn gwersylloedd diawdurdod, yn aml yn arbed arian yn y tymor hir. Gall mabwysiadu’r dulliau a ganlyn o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod fod yn gost-effeithiol:
- Darparu lleiniau a safleoedd awdurdodau lleol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle gwelir bod angen yn yr ardal. Mae lleiniau awdurdodau lleol yn rhoi modd i awdurdodau lleol godi rhent, trethi a’r dreth gyngor ar breswylwyr.
- Nodi mannau aros dros dro/a negodwyd yn yr ardal leol lle gellid adleoli a rheoli gwersylloedd diawdurdod am gyfnod byr. Gallai awdurdodau lleol osgoi costau gorfodi diangen os yw’r gwersyll yn gallu mynd i safle dros dro.
- Gall darparu gwasanaethau fel casglu sbwriel, toiledau a dŵr ffres leihau costau glanhau sylweddol.
- Gall negodi taliadau rhesymol gan feddianwyr am y gwasanaethau hyn adennill swm sylweddol o'r gwariant sy'n gysylltiedig â darparu'r rhain.
Arferion da
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd Cyngor Dinas Leeds ganfyddiadau’r Panel Craffu ar Gymdogaethau a’r Amgylchedd, a argymhellodd gynllun peilot ‘Mannau Aros a Negodwyd’. Roedd y cynllun yn adolygu tir posibl ar gyfer mannau aros dros dro gan ddefnyddio’r meini prawf a ganlyn:
Bod y tir yn ‘lle y gellid ei amddiffyn’ gan fod y tir a oedd ar gael yn gyfyngedig ac y byddai unrhyw wersyll gan hynny’n gyfyngedig o ran maint.
Bod perchnogion busnes lleol, yr heddlu ac aelodau etholedig i gyd yn ‘ymrwymo’ rhywfaint i’r prosiect.
Bod y lleoliad yn ddiogel i’r meddianwyr a’u bod yn barod i aros yno.
Roedd y cytundeb cychwynnol yn para 3 mis ac roedd yr awdurdod yn darparu toiledau ac yn gwaredu gwastraff pob teulu. Roedd Cyfnewidfa Sipsiwn a Theithwyr Leeds (GATE) yn darparu cymorth cyswllt rhwng meddianwyr a’r awdurdod lleol.
Daethpwyd o hyd i ail leoliad yn fuan ar ôl hynny a dywedodd aelodau etholedig lleol eu bod yn fodlon i’r cynllun gael ei ymestyn. Mae Cyngor Dinas Leeds yn amcangyfrif ei fod wedi arbed dros £100,000 hyd yma drwy leihau’r costau troi allan a glanhau sy’n gysylltiedig â gwersylla diawdurdod.
Cyngor Dinas Leeds a GATE Leeds (man aros dros dro/a negodwyd).
Mae Pennod 2 (Ymdrin â gwersylloedd diawdurdod a datrysiadau) yn nodi'r 3 llwybr y bydd awdurdodau lleol fel arfer yn eu hystyried wrth ymdrin â gwersylloedd diawdurdod a datrys y mater.
- Llwybr 1: derbyn y gwersyll diawdurdod.
- Llwybr 2: dod o hyd i safle arall.
- Llwybr 3: ceisio a chael meddiant o’r safle a feddiennir (trefniadau troi allan).
Mae'r dadansoddiad cost a budd ar gyfer Llwybr 1 a Llwybr 2 wedi dangos mai derbyn gwersyll am gyfnod byr neu ei symud i fan aros y cytunwyd arno yw'r ateb mwyaf effeithiol i bawb o bosibl.
Llwybr 3 Bydd troi meddianwyr allan o wersyll diawdurdod yn aml yn arwain at gostau sylweddol i’r awdurdod lleol ac i’r heddlu, a bydd yn cymryd amser i ddatrys yr achos. Mae'n bosibl na fydd hyn yn cynnig ateb hirdymor chwaith: os yw’r meddianwyr wedi sefydlu gwersyll diawdurdod yn ardal gyffredinol yr awdurdod lleol oherwydd prinder lleiniau cyfreithlon; yn absenoldeb unrhyw ddewisiadau eraill addas, gallent symud i wersyll diawdurdod arall yn yr un ardal.
Mae angen i awdurdodau cyhoeddus sy’n dilyn y llwybr hwn fod yn fodlon bod camau meddiant yn gyfiawn ac yn gymesur ac nad ydynt yn ymyrryd yn anghyfreithlon â hawliau dynol y meddianwyr. Bydd asesiadau lles yn helpu i ddangos bod yr awdurdod lleol wedi ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ac wedi penderfynu troi allan ar ôl cydbwyso hawliau’r meddianwyr â hawliau’r gymuned sefydlog ehangach.
Gellid ystyried a ddylid cysylltu â’r heddlu ynghylch unrhyw fwriad i droi’r meddianwyr allan.
