Neidio i'r prif gynnwy

Data sy’n cyflwyno canlyniadau profion cyfanredol ar gyfer pob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9.

Mae hyn yn ategu allbynnau tebyg eraill yn edrych ar yr asesiadau athrawon a chanlyniadau CA4  ac absenoldeb gan hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Mae’r prif ganlyniadau o'r profion cenedlaethol darllen a rhifedd 2017 yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst 2017. Mae'r Atodiad i'r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth cefndir ac ansawdd pwysig ar gyfer y profion a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r data yn y datganiad hwn.

Canlyniadau allweddol

  • Ar y cyfan, mae perfformiad disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM) yn is na disgyblion sydd ddim a’r hawl ym mhob un o’r profion cenedlaethol.
  • Mae disgyblion eFSM o gwmpas tair gwaith yn llai tebygol i gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o dros 115 yn y profion cenedlaethol.
  • Mae disgyblion eFSM mwy na dwywaith mwy tebygol o gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o is na 85 yn y profion cenedlaethol.
  • Mae’r bwlch mewn perfformiad ar gyfer sgorau safonedig yn ôl oedran rhwng 85 ac 115 yn amrywio rhwng 4 a 7 pwynt canran ar draws y gwahanol brofion. Mae hyn yn is na’r bwlch yn yr ystod sgorau ‘dros 115’ ac ‘is na 85’.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a'r hawl i brydau am ddim, 2017: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 23 KB

ODS
23 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.