Neidio i'r prif gynnwy

Data sy’n cyflwyno canlyniadau profion cyfanredol ar gyfer pob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9.

Mae hyn yn ategu allbynnau tebyg eraill yn edrych ar yr asesiadau athrawon a chanlyniadau CA4  ac absenoldeb gan hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Mae’r prif ganlyniadau o'r profion cenedlaethol darllen a rhifedd 2018 yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst 2018. Mae’r Nodiadau yn y datganiad hwnnw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am gefndir ac ansawdd ar gyfer y profion, a dylid eu darllen ochr yn ochr â’r data yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae sgorau safonedig yn ôl oedran yn darparu mesur o berfformiad cymharol yn unig. Mae sgôr o dros 115 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn uwch na’r rhai ar gyfer rhan fwyaf y plant o’r un oedran. Mae sgôr o rhwng 85 ac 115 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn cyfateb i ran fwyaf y plant o’r un oedran. Mae sgôr is na 85 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn is na’r rhai ar gyfer rhan fwyaf y plant o’r un oedran.

Mae’r canlyniadau ar gyfer pob grŵp blwyddyn a phrofi wedi'u safoni yn annibynnol bob blwyddyn. Felly, ni all y data yn y datganiad hwn gael ei ddefnyddio i gymharu perfformiad cymharol o ddisgyblion rhwng y gwahanol brofion.

Nodwch gan fod y data wedi'u safoni yn annibynnol bob blwyddyn, ni ellir cymharu’r canlyniadau dros amser.

Canlyniadau allweddol ar gyfer 2018

  • Ar y cyfan, mae perfformiad disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM) yn is na disgyblion sydd ddim a’r hawl ym mhob un o’r profion cenedlaethol.
  • Mae disgyblion eFSM rhwng dwy a hanner a phedair gwaith yn llai tebygol i gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o dros 115 ym mhob un o’r profion cenedlaethol.
  • Mae disgyblion eFSM rhwng dwy a tair gwaith mwy tebygol o gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o is na 85 yn y profion cenedlaethol.

Symud tuag at asesu darllen a rhifedd ar-lein

O ddechrau'r flwyddyn academaidd 2018/19, caiff asesiadau ar-lein eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau gyda rhifedd gweithdrefnol yn 2018/19. Dros amser bydd yr asesiadau ar-lein yn cymryd lle'r profion cenedlaethol presennol sydd ar bapur. Ceir gwybodaeth ychwanegol ar wefan Dysgu Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a'r hawl i brydau am ddim, 2018: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 20 KB

ODS
20 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.