rgb(26,71,64)
Coedwig Genedlaethol Gymru
Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn ased cenedlaethol sy'n cynnwys gwahanol fathau o goetiroedd a choedwigoedd, a phob un ohonynt yn darparu manteision hanfodol ac amrywiol i Gymru.
Coedwig Genedlaethol Cymru:
- mae'n ymestyn ar hyd a lled Cymru
- mae'n tynnu sylw at ragoriaeth ar draws gwahanol fathau o goedwigaeth, ac yn cydnabod a chynrychioli'r rhagoriaeth honno
- mae'n cynnwys pob math o goetir, o goetiroedd cymunedol bach i goedwigoedd mawr, cynhyrchiol
- mae'n cynnwys amrywiol goetiroedd sydd o feintiau gwahanol ac sydd â ffocws gwahanol
- mae ganddi safleoedd sydd dan berchnogaeth a rheolaeth sefydliadau ac unigolion gwahanol
- mae'n creu coetiroedd newydd yn ogystal ag adfer a chynnal coedwigoedd presennol unigryw Cymru, y byddai eu colli'n golygu eu colli am byth
- mae'n hwyluso rhwydwaith, gan alluogi perchnogion coetiroedd i rannu, dysgu a chydweithio
- mae'n helpu i hyrwyddo a chyfleu manteision amryfal coed a choetiroedd
Dysgwch sut y gall eich safle ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Dysgwch fwy am Goedwig Ymchwil Cymru.
Llwybr sy'n eich cysylltu â rhai o safleoedd ein Coedwigoedd Cenedlaethol yn Ne Cymru.
Cwrdd â rhai o'n safleoedd
Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn glytwaith o goetiroedd rhagorol sy'n cynrychioli pwysigrwydd ac ehangder y sector coedwigaeth ledled Cymru:
- Prif nod rhai o'n safleoedd yw ennyn diddordeb cymunedau lleol, ac maent yn cynnig manteision llesiant ac iechyd iddynt;
- Mae safleoedd eraill yn fwy anghysbell ac yno mae'r ffocws ar gadwraeth ac ymchwil;
- Tra bo rhai eraill yn darparu gwasanaeth cynhyrchu pren gwerthfawr sy'n cefnogi swyddi gwledig hanfodol
- Ac mae rhai yn cyflawni hyn oll!
Mae'r Goedwig Genedlaethol yn cydnabod ac yn hyrwyddo rhagoriaeth drwyddi draw.
Safle bach effaith fawr
Llwyddiant adfer ar raddfa fawr
Trysor Deheuol yng Nghoedwig Genedlaethol Cymru
Casgliad o goetiroedd masnachol arobryn
Un o safleoedd mwyaf amrywiol Coedwig Genedlaethol Cymru
Yng nghanol Cymru, safle llawn hanes a diwylliant
Coetir newydd ei blannu a grëwyd trwy gydweithrediad eithriadol
