rgb(0,0,0)
rgb(26,71,64)
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Ymunwch â ni ar ein llwybr antur drwy Gymru wrth i ni greu Coedwig Genedlaethol unigryw sy'n ymestyn ar hyd a lled Cymru.
Dysgwch fwy am Gynllun Statws Coedwig Cenedlaethol Cymru.
Ar 13 Mehefin 2022, agorwyd ceisiadau ar gyfer cylch cyntaf y Grant Buddsoddi mewn Coetir.
Bydd Grant Coetiroedd Bach yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025.
Darllenwch am rôl Swyddogion Cyswllt Coedwig Cenedlaethol Cymru.
Darllenwch y cynnydd diweddaraf am Goedwig Genedlaethol Cymru.
Deunyddiau hyrwyddo i randdeiliaid eu defnyddio i hyrwyddo Coedwig Genedlaethol Cymru.
Beth yw Coedwig Genedlaethol Cymru?
Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn fenter unigryw i greu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd.
Bydd yn:
- ymestyn hyd a lled Cymru, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb
- bod yn fenter gymunedol go iawn gyda choetiroedd newydd yn cael eu plannu gan gymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru
- creu ardaloedd newydd o goetiroedd yn ogystal ag adfer a chynnal coetiroedd unigryw ac anadferadwy Cymru
- gwarchod natur a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, gan gefnogi iechyd a lles cymunedau hefyd