Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gofrestru os ydych chi'n derbyn archebion am arhosiad dros nos yng Nghymru. Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn ystod hydref 2026. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pam mae angen i chi gofrestru 

Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn ystod hydref 2026. Mae’n rhaid i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn ôl y gyfraith os ydych yn derbyn archebion am arosiadau dros nos yng Nghymru.

Bydd cofrestru yn:

  • helpu ymwelwyr yn dod o hyd i lety cofrestredig
  • eich helpu chi i gasglu a  thalu'r ardoll ymwelwyr (os yw eich cyngor lleol yn ei chyflwyno)
  • darparu data i gefnogi twristiaeth yng Nghymru

Os nad ydych chi'n cofrestru:  

  • gallwch orfod talu cosbau 
  • ni fyddwch yn bodloni eich gofynion ardoll ymwelwyr (os bydd eich cyngor lleol yn ei chyflwyno), a gall hyn arwain at gosbau

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am gofrestru ac am yr ardoll ymwelwyr.  

Pwy sy'n gorfod cofrestru 

Rhaid i chi gofrestru yn ôl y gyfraith os yw'r ddau yma’n berthnasol: 

  • rydych chi'n derbyn archebion am arhosiad dros nos yng Nghymru
  • mae unrhyw un o'r archebion ar gyfer 31 noson neu lai

Mae hyn yn cynnwys:  

  • llety hunanarlwyo a mewn cartrefi, gan gynnwys ar Airbnb neu debyg 
  • gwestai, tai llety neu wely a brecwast 
  • safleoedd neu leiniau gwersylla 
  • hosteli neu dai bync 
  • carafannau, chalets, cabanau, cytiau bugail neu glampio 
  • llety dros dro ar gyfer digwyddiadau, gan gynnwys gwyliau  

Sut i gofrestru 

Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn ystod hydref 2026.  

Mae angen i chi:  

  • roi eich manylion cyswllt  
  • rhoi gwybodaeth am eich llety

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am gofrestru ac am yr ardoll ymwelwyr.  

Ym mha ffordd y mae cofrestru, yr ardoll ymwelwyr a thrwyddedu yn wahanol 

Cofrestru llety ymwelwyr:  

  • yn dechrau hydref 2026 
  • yn berthnasol i bob llety ymwelwyr 
  • yn berthnasol hyd yn oed os nad yw'r cyngor lleol yn cyflwyno'r ardoll ymwelwyr  

Bydd yr ardoll ymwelwyr:  

  • ond yn berthnasol i ardaloedd lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno
  • yn dechrau o 1 Ebrill 2027 ar y cynharaf

Darganfyddwch fwy am yr ardoll ymwelwyr  

Mae trwyddedu llety ymwelwyr:   

  • yn ffordd o ddangos bod llety yn bodloni safonau penodol
  • yn cael ei gynllunio

Nid oes angen trwyddedu llety ymwelwyr ar hyn o bryd.

Darganfyddwch fwy am gynlluniau ar gyfer trwyddedu llety ymwelwyr.  

Cysylltwch â ni 

I gael cymorth gyda chofrestru llety ymwelwyr, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru.