Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro sut mae RAAC wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru a'r gwaith sy'n cael ei wneud i reoli adeiladau sy’n cynnwys RAAC.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw RAAC

Mae RAAC yn ffurf ysgafn o goncrit wedi’i rag-gastio, a ddefnyddiwyd yn aml mewn adeiladau sector cyhoeddus yn y DU o ganol y 1960au i'r 1990au, cyn datganoli. Fe'i dyfeisiwyd yn Sweden yn y 1930au.

Fe'i defnyddiwyd yn bennaf mewn toeau, ac weithiau mewn lloriau a waliau. Yn weledol, gall planciau RAAC edrych yr un fath â choncrit wedi'i rag-gastio, ac mae’n bosibl eu bod wedi’u cuddio uwchben nenfydau ffug.

Mae RAAC yn llai gwydn na choncrit traddodiadol a bu problemau o ganlyniad i hynny, a allai arwain at ganlyniadau arwyddocaol o ran diogelwch.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod gan y deunydd hwn gapasiti llwytho strwythurol llawer is na chynhyrchion concrit cyfnerth generig eraill. Mae ei gyflwr yn dirywio ymhellach os oes dŵr yn bresennol, yn sgil gollyngiadau o doeau ac ati, a all beryglu’r bariau atgyfnerthu sydd wedi'u cynnwys o fewn planciau RAAC.

Amcangyfrifwyd bod hyd oes planciau o'r fath oddeutu 30 mlynedd.

Sut rydym wedi bod yn monitro a rheoli adeiladau sy’n cynnwys RAAC

Mae llywodraethau'r DU wedi bod yn ymwybodol o rai o ffactorau risg RAAC ers y 1990au. Cyhoeddwyd hysbysiad diogelwch ym mis Mai 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol (SCOSS) yn dilyn methiant sydyn to fflat a wnaed o RAAC mewn ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 i reoli adeiladau sy’n cynnwys RAAC.

Cafodd sefydliadau'r GIG yng Nghymru eu hysbysu am y risg o ran planciau RAAC yn methu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) ym mis Tachwedd 2019. Roedd yn ofynnol iddynt adolygu eu holl adeiladau i weld a oedd unrhyw rai yn cynnwys RAAC. Ar ôl i'r adolygiadau gael eu cwblhau, penodwyd peiriannydd strwythurol arbenigol ym mis Tachwedd 2022, i adolygu'r adroddiadau a'r lleoliadau lle nodwyd RAAC. 

Ym mis Chwefror 2023, anfonwyd hysbysiad pellach i'r GIG, ar argymhelliad y peiriannydd strwythurol arbenigol i roi sicrwydd pellach i NWSSP a Llywodraeth Cymru. Mae'r ymatebion i'r hysbysiad hwn yn cael eu hasesu.

Cafodd awdurdodau lleol wybod am y broblem bosibl gyda RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ym mis Chwefror 2020 ar ôl i'r hysbysiad diogelwch gael ei gyhoeddi gan SCOSS yn 2019.

Gofynnir am fanylion unrhyw achos neu ymwybyddiaeth o RAAC mewn ysgolion fel rhan o'r ymarfer casglu data addysg blynyddol ac, ers mis Mawrth 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a CLlLC. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwblhau adolygiad o’u hystad ysgolion ac mae’r adolygiad hwnnw yn mynd rhagddo mewn awdurdodau eraill.

Ym mis Mai 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru arolwg o gyflwr ac ynni yr holl ysgolion a cholegau sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth. Byddai hyn yn tynnu sylw at unrhyw strwythurau yr amheuir eu bod yn cynnwys RAAC i'w harchwilio ymhellach gan beirianwyr strwythurol arbenigol.

Ar 31 Awst 2023, dywedodd Llywodraeth y DU fod gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg am RAAC mewn lleoliadau addysg. Dywedodd Gweinidogion Llywodraeth y DU fod nifer o achosion wedi digwydd dros gyfnod yr haf a arweiniodd at risg diogelwch uwch.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu arolygon newydd brys o adeiladau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion. Mae'r GIG yn cwblhau'r gwaith cynnal arolwg ar draws ei ystad.

A yw adeiladau sy’n cynnwys RAAC yn ddiogel?

Bydd cael cyfundrefn archwilio reolaidd ar waith, a sicrhau bod adeiladau'n cael eu cynnal a'u cadw'n briodol, yn helpu i nodi unrhyw broblemau gyda RAAC yn gynnar.

Dywedodd Dr Wei Tan, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol, Pennaeth Mecaneg Grŵp Deunyddiau Cyfansawdd, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, a ddyfynnwyd ar wefan Science Media Centre:

Mae diogelwch adeiladau a adeiladwyd gyda choncrit awyredig awtoclafiedig (AAC), neu RAAC yn dibynnu ar ffactorau amrywiol, gan gynnwys ansawdd y gwaith adeiladu, y gwaith cynnal a chadw, a'r amgylchiadau penodol y maent yn dod i gysylltiad â hwy.

Dros amser, os nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol, gall y deunyddiau hyn ddirywio, gan arwain at broblemau strwythurol o bosibl. Fodd bynnag, nid yw pob adeilad a wneir gydag AAC neu RAAC yn ei hanfod yn beryglus. Mae'n hanfodol asesu cyflwr pob strwythur yn unigol er mwyn pennu unrhyw risgiau posibl.

Rydym wedi buddsoddi yn ein hystad ysgolion

Mae ein record o ran gwariant cyfalaf ar ysgolion yn wahanol iawn i'r dull a ddefnyddir yn Lloegr:

  • yn Lloegr, mae cyllid adeiladau addysg wedi gostwng tua 50% mewn termau real ers 2010
  • yng Nghymru, mae cyllid cyfalaf addysg wedi cynyddu tua 23% mewn termau real dros y degawd diwethaf

Canfu adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (2023) fod cyflwr adeiladau ysgolion sy’n dirywio yn Lloegr yn niweidio cyrhaeddiad disgyblion a chyfraddau cadw athrawon. Yng Nghymru, canfyddiad allweddol y Swyddfa Archwilio oedd bod Llywodraeth Cymru yn rheoli ei rhaglen adeiladau ysgolion yn dda.

Mae Cymru wedi bod yn gweithredu rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a disodli'r rhai sydd fwyaf angen eu disodli am resymau diogelwch ac ansawdd.

Mae ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwir gynt yn Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif) yn darparu'r rhaglen adeiladu ysgolion ac addysg bellach newydd fwyaf yng Nghymru ers y 1960au i fynd i'r afael ag ystad sy'n heneiddio. Cafodd dros £2.35 biliwn ei dargedu at brosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu sylweddol.

Yn ogystal, dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi £203 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i gynnal ysgolion a cholegau.

Faint y bydd hi'n ei gostio i ddelio â RAAC yng Nghymru?

Does dim amcangyfrif cyffredinol ynglŷn â beth fydd cost delio â RAAC dros y blynyddoedd nesaf.

Mewn rhai ardaloedd, er enghraifft Ysbyty Llwynhelyg, rydym wedi ariannu'r cynlluniau sydd ar waith i ymateb i bryderon sydd wedi'u nodi. Mewn ardaloedd eraill, mae arolygon yn cael eu cynnal ac mae cynlluniau'n cael eu datblygu.

Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth a phrif gyfrifoldeb pob corff cyhoeddus yw cynnal a chadw eu hadeiladau mewn cyflwr diogel.

Mae Trysorlys y DU wedi dweud na fydd arian newydd i ddelio â RAAC.