Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'canllaw manwl: polisi a strategaeth' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • esbonio polisi'r llywodraeth

Peidiwch â'i ddefnyddio ar gyfer:

  • ymgynghoriadau
  • adroddiadau ymchwil
  • asesiadau effaith
  • polisïau mewnol
  • canllawiau

Sut i'w greu

Creu canllaw manwl: polisi a strategaeth newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Policy and strategy.
  5. Dewiswch Policy and strategy o'r maes Detailed Guide type.
  6. Llenwch y maes Title.
  7. Llenwch y maes Summary.
  8. Dewiswch Add Content Section.
  9. Llenwch y maes  Section title.
  10. Os ydych am rannu eich cynnwys yn adrannau, dewiswch Add Content Section a phastiwch y cynnwys i'r maes Content.
  11. Os ydych am ychwanegu mwy o adrannau cynnwys, ewch drwy gamau 7 i 9 eto.
  12. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  13. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  14. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw manwl: polisi a strategaeth.
  15. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r canllaw manwl: polisi a strategaeth naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  16. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  17. Dewiswch Save and Create New Draft.
  18. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  19. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  20. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  21. I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  22. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu canllaw manwl: polisi a strategaeth presennol

  1. Dewch o hyd i'r canllaw manwl: polisi a strategaeth presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y canllaw manwl: polisi a strategaeth.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y canllaw manwl: polisi a strategaeth.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiwn Cymraeg o'r canllaw manwl: polisi a strategaeth.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content section

Defnyddiwch y paragraff adran cynnwys i dorri tudalennau hirach yn llai gyda phenawdau.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Dilynwch ddiffiniad acordion i ychwanegu acordion. 

Paragraphs: related links

Dilynwch ddiffiniad dolenni perthnasol i ychwanegu dolenni perthnasol.

Paragraphs: call out message

Dim ond y negeseuon galw canlynol allwch chi ddefnyddio ar ganllaw manwl: polisi a strategaeth:

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Paragraphs: launcher

Peidiwch â defnyddio'r paragraff lansio ar ganllaw manwl: polisi a strategaeth.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.

Internal links (node)

Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw manwl: polisi a strategaeth.

Internal links (terms)

Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.

External links

Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.