Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, a lansiwyd gan Weinidog yr Economi ym mis Tachwedd 2021. Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth parhaus i bobl ifanc 16 a 24 oed yng Nghymru ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Dyma'r ail Adroddiad Blynyddol ac mae'n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiadau Cam 2 a Cham 3 Sgwrs Genedlaethol y Warant i Bobl Ifanc a'r ymateb cychwynnol.

2022 i 2023

Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud

Ymarfer Sgwrs Genedlaethol y Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru

Mae pobl ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae pryderon na fydd eu rhagolygon o ran gyrfa a llesiant byth yn adfer yn dilyn y pandemig a'r argyfwng costau byw. 

Canfu ein hadroddiad ar gam cyntaf Sgwrs Genedlaethol y Warant i Bobl Ifanc fod pobl ifanc yn wynebu problemau difrifol o ran hyder ac iechyd meddwl, nododd 76% o'r bobl ifanc a gymerodd ran fod diffyg hyder yn eu hatal rhag cyflawni eu nodau o ran gwaith, addysg neu hyfforddiant. Roedd bron hanner yr ymatebwyr wedi cael diagnosis ffurfiol o gyflwr iechyd meddwl (20%) neu wedi cael gwybod bod eu hiechyd meddwl yn dioddef (24%).

Roedd problemau eraill yn cynnwys argaeledd a chost trafnidiaeth, gyda 79% o'r ymatebwyr yn nodi bod hyn yn ei gwneud hi'n fwy anodd iddynt gael y swydd, yr addysg neu'r hyfforddiant y maent yn dymuno ei chael/gael, weithiau neu drwy'r amser. 

Y prif rwystr arall a nodwyd oedd nad oedd 21% o bobl ifanc byth wedi gwneud unrhyw brofiad gwaith.

Ffocws ein hadroddiadau ar yr ail a'r trydydd cam yn 2023 oedd dadansoddi'r rhwystrau hyn a rhai eraill i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant ymhellach. 

Thema gyffredin a ddaeth i'r amlwg yn ystod y sgyrsiau â phobl ifanc oedd effaith fawr gorbryder ynghylch arholiadau, wrth i lawer sôn am y pwysau aruthrol y maent yn ei deimlo i ragori yn academaidd a sicrhau addysg yn y brifysgol. Roedd y pwysau hyn yn ymwneud â'u gweithgareddau academaidd yn ogystal â'u rhyngweithiadau cymdeithasol, lle roedd dychwelyd i amgylcheddau cymdeithasol ar ôl y pandemig wedi achosi straen i rai. At hynny, roedd yn ymddangos bod yr oes ddigidol wedi gwaethygu hunanamheuaeth, a bod natur dreiddiol y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach. Roedd unigolion ifanc yn aml yn cymharu eu hunain â'u cyfoedion, gan arwain at gred bod eraill yn ddieithriad yn fwy cymwys neu'n fwy addas ar gyfer y rolau y maent yn gwneud cais amdanynt.

Roedd profiadau pobl ifanc o drafnidiaeth yn tueddu i fod yn negyddol. Daeth annibynadwyedd i'r amlwg fel pryder sylweddol, gyda chyfeiriadau mynych at wasanaethau llawn, hwyr, wedi'u canslo heb ddigon o rybudd, neu ddiffyg gwasanaeth o gwbl. Roedd cost trafnidiaeth gyhoeddus, hyd yn oed pan fyddai wedi'i disgowntio drwy docynnau teithio, yn parhau i fod yn destun dadl ymysg ymatebwyr. Roedd y baich ariannol yn dal i fod yn sylweddol, a phrin oedd gwerth canfyddedig disgowntiau o'r fath o ystyried cost gyffredinol teithio'n rheolaidd. I rai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, roedd diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn agos at eu cartrefi yn golygu eu bod yn gorfod dibynnu ar gael lifft, nad oedd yn opsiwn rhwydd neu nad oedd yn gyfleus bob amser o bosibl, gan arwain at ymdeimlad o ynysigrwydd a dibyniaeth. Roedd pryderon am iechyd a llesiant, fel gorbryder ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn rhwystrau sylweddol i rai hefyd. Gall straen defnyddio systemau trafnidiaeth gorlawn neu annibynadwy waethygu cyflyrau o'r fath, gan olygu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn llai ymarferol i'r rheini sy'n wynebu'r problemau hyn.

Roedd pobl ifanc yn ystyried bod profiad gwaith yn allweddol i feithrin sgiliau bywyd a chael cyfleoedd a allai lywio eu llwybr gyrfa. Dywedodd cyfranogwyr ifanc fod profiadau o'r fath yn gam cychwynnol i 'brofi dyfroedd' llwybr gyrfa posibl, gan roi cipolwg iddynt ar yr agweddau ymarferol ar fywyd gwaith a'u helpu i benderfynu pa drywydd i'w ddilyn yn y dyfodol.

O ran y bobl ifanc hynny a oedd wedi cael profiad gwaith, roedd y mwyafrif o'r sylwadau a wnaed yn y grwpiau ffocws yn gadarnhaol. Nododd y cyfranogwyr ifanc amrywiaeth o brofiadau, yn amrywio o raglenni strwythuredig mewn lleoliadau addysg, i drefniadau anffurfiol a wnaed drwy rwydweithiau personol. Fodd bynnag, nid oedd y darlun mor gadarnhaol ymysg y bobl ifanc a oedd yn NEET, nad oedd bron un rhan o dair ohonynt erioed wedi cael unrhyw fath o brofiad gwaith.

Canfu ein hadroddiadau fod y rhwystrau y cyfeiriwyd atynt eisoes yn aml yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl. I bobl ifanc anabl yng Nghymru, roedd diffyg hyder ac iechyd meddwl gwael yn rhwystrau amlwg i gael swyddi, addysg neu hyfforddiant. Daeth trafnidiaeth i'r amlwg fel rhwystr sylweddol i bobl ifanc anabl yng Nghymru fanteisio ar gyfleoedd am swyddi, addysg neu hyfforddiant. Roedd 34% o'r ymatebwyr ifanc anabl yn wynebu heriau cyson o ganlyniad i broblemau trafnidiaeth, ac roedd hanner ohonynt yn wynebu'r anawsterau hyn o bryd i'w gilydd. Roedd ymatebwyr anabl yn llawer mwy tebygol o nodi anfodlonrwydd ar sawl agwedd ar eu profiad gwaith.

Dangosodd y sgyrsiau ag ymatebwyr ifanc anabl hefyd fod llawer yn dewis aros mewn addysg am eu bod yn ansicr ynglŷn â'u camau nesaf. Ailbwysleisiodd rhai nad oeddent yn gwbl siŵr sut y gwnaethant benderfynu cymryd eu cam nesaf ar ôl gafael addysg. 

Wrth ystyried cyfnodau pontio allweddol (fel arfer wrth ddewis pa bynciau a chymwysterau i'w dilyn), roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr arolwg yn dueddol o fod yn fwyaf ymwybodol o gymwysterau mwy ‘traddodiadol’ fel TGAU a Safon Uwch, ond roedd gwahaniaeth sylweddol rhwng ymwybyddiaeth pobl ifanc o gymwysterau galwedigaethol ac ymwybyddiaeth eu rhieni ohonynt. Er bod 74% o'r rhieni a gymerodd ran yn yr arolwg wedi dweud eu bod ymwybodol o gymwysterau o'r fath, dim ond 46% o'r bobl ifanc 16 i 24 oed oedd wedi clywed amdanynt. Yn ystod y cyfnodau pontio hollbwysig ym Mlwyddyn 11 a Blwyddyn 13, roedd pobl ifanc yn dangos dyheadau a phrofiadau amrywiol. Roedd gan rai nodau gyrfa clir ac uchelgeisiol, tra bod eraill yn wynebu heriau i ddilyn eu breuddwydion o ganlyniad i'w hamgylchiadau a'r rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig roeddent yn eu hwynebu. 

Fel y nodwyd eisoes yn yr adroddiad hwn, mae'r adroddiadau ar gam 2 a cham 3 Sgwrs Genedlaethol y Warant i Bobl Ifanc ac ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r adroddiad hwn.

Mynegai Ieuenctid NatWest Ymddiriedolaeth y Tywysog

Mewn mannau eraill, ceir nifer o arolygon ledled y DU, gan gynnwys Mynegai Ieuenctid NatWest Ymddiriedolaeth y Tywysog, sy'n rhoi darlun blynyddol o deimladau pobl ifanc am eu bywyd a'u gwaith, eu hiechyd corfforol ac emosiynol, eu haddysg a'u cydberthnasau, ymhlith pethau eraill. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod yr heriau sy'n deillio o'r argyfwng costau byw yn cael effaith anghymesur ar bobl ifanc sy'n NEET hefyd. Mae un o bob 10 (9%) person ifanc sy'n NEET wedi gwrthod swydd am na allent fforddio'r costau a oedd yn gysylltiedig â hi, a dywedodd un rhan o dair (33%) o'r bobl ifanc sy'n NEET na allent fforddio ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gael y swydd y maent yn dymuno ei chael. 

Mae'r canfyddiadau hefyd yn dangos bod pobl ifanc sy'n NEET yn fwy tebygol o wynebu iechyd meddwl gwael a phoeni am gostau byw na'r rheini sydd mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg. Gall hyn, yn ei dro, effeithio ar eu gallu i ddod o hyd i waith, ac mae llawer yn ei chael hi'n fwy anodd dychwelyd i waith po hiraf y maent yn ddi-waith.

Adolygiadau Cyflym o'r Dystiolaeth

Yn 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiadau cyflym o'r dystiolaeth ar y canlynol hefyd: 

Fel y mae'r adroddiadau'n nodi, nid oes nodwedd 'ddiffiniol', na set o nodweddion hyd yn oed, sy'n golygu y bydd person ifanc yn NEET. Yn lle hynny, ceir cyfres o ffactorau risg, yr ymddengys fod rhai ohonynt yn cael mwy o effaith nag eraill, a all ryngweithio â'i gilydd, gan gynyddu'r risg y bydd person ifanc yn dod yn NEET ymhellach drwy gyfyngu ar ei gymhelliant, ei allu a/neu'r cyfleoedd sydd ar gael iddo.

Pa gamau rydym wedi eu cymryd (2023)

Cymorth ychwanegol

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyflwyno cymorth ychwanegol yn ymwneud â rhaglen Twf Swyddi Cymru+, gan gynnwys dyblu cyfradd y Lwfans Hyfforddi i £60; lwfans prydau am ddim newydd; caniatáu i 100% o gostau teithio gael eu hadennill ac ymestyn yr ystod oedran cymwys i bobl ifanc 19 oed, o ystyried effaith andwyol y pandemig ar y rheini yn y garfan oedran honno. Llwyddodd Twf Swyddi Cymru+ i gyflawni ei tharged i gefnogi dros 5,000 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn gyntaf ac ers ei lansio ym mis Ebrill 2022 (ac erbyn diwedd mis Medi 2023) roedd 8,420 wedi ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (16 i 19 oed). O ran y rhaglenni sydd wedi dod i ben, sicrhaodd 59% ganlyniad cadarnhaol yn seiliedig ar gyrchfannau'r cyfranogwyr o fewn pedair wythnos i gwblhau'r rhaglen.

Ar ddechrau'r flwyddyn, darparwyd mwy na £700,000 o gyllid ychwanegol hefyd i gefnogi iechyd a llesiant dysgwyr sy'n dilyn prentisiaeth, staff a sefydliadau. Rhwng mis Tachwedd 2021 a diwedd mis Ebrill 2023, roedd 12,725 o bobl ifanc dan 25 oed wedi dechrau prentisiaeth, yn ôl ffigurau dros dro.

Ym mis Mawrth 2023, rhannodd y colegau addysg bellach yng Nghymru £900,000 i ddiwallu anghenion cymorth dysgwyr a llenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth addysg bellach bresennol, gyda'r nod eang o leihau'r risg y byddai'r dysgwyr hynny'n dod yn NEET. Cefnogodd y cyllid ymyriadau cynnar i ddiwallu anghenion cymhleth amrywiol y dysgwyr. Prif ddiben y cyllid oedd sicrhau bod staff ar gael i roi mwy o amser i ddysgwyr a oedd yn wynebu risg, ar adeg hollbwysig, gan sicrhau nad oedd dysgwyr risg uchel yn dod yn NEET. Dengys gwaith gwerthuso cynnar fod mwy na 3,000 o ddysgwyr wedi cael eu cefnogi.

Ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, roedd £3 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer colegau addysg bellach a chweched dosbarth awdurdodau lleol ar gyfer Cyllid Pontio sy'n cefnogi dysgwyr ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11 i gymryd y cam nesaf ar eu taith addysg neu hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i ymweld â cholegau a, lle y bo'n bosibl, cymryd rhan mewn gweithgareddau pontio perthnasol, er enghraifft diwrnodau rhagflas mewn colegau, dosbarthiadau meistr, gweithdai rhyngweithiol a rhaglenni dros yr haf.

Ym mis Ebrill 2023, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), gan ei gynyddu o £30 yr wythnos i £40 ar gyfer myfyrwyr addysg bellach cymwys mewn chweched dosbarth ysgolion neu golegau. Cafodd Cronfa Ariannol Wrth Gefn (Addysg Bellach) ei chynyddu 6.5% ar gyfer 2023 i 2024, er mwyn helpu i liniaru rhai o'r problemau a wynebwyd gan ddysgwyr agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw.

At hynny, cafodd y cymorth cynhaliaeth a delir i fyfyrwyr addysg uwch llawnamser a rhan-amser o Gymru ei gynyddu 9.4% ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. I'r gwrthwyneb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd o 2.8% i fyfyrwyr a oedd yn preswylio fel arfer yn Lloegr.

Parhaodd pob un o'n Rhaglenni Cyflogadwyedd i alluogi cyfranogwyr i gael cymorth ariannol uniongyrchol ar gyfer rhwystrau fel costau teithio a chynhaliaeth wrth ymgymryd â hyfforddiant, mynychu lleoliad profiad gwaith, neu fynd i gyfweliadau. Yn yr un modd, gellir ariannu costau gofal plant tra bydd unigolion yn ymgymryd â hyfforddiant a chaiff costau sefydlu hanfodol ar gyfer y rheini sy'n dechrau hunangyflogaeth hefyd eu hariannu.

Mae llawer o'r rhaglenni yn cynnig cymorth cyfannol i unigolion, sy'n cynnwys, yn ôl yr angen, atgyfeiriadau at wasanaethau cyngor ar ddyledion a thai a banciau bwyd lleol. Mae timau cyflawni hefyd yn hyrwyddo'r cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Rydym hefyd wedi cynyddu ein rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, a gefnogir gan Gynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.

Parhaodd gwasanaeth Cymru'n Gweithio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i wella ei adnodd Canfod Cymorth, gan gynnwys symleiddio'r cyfleuster i weithwyr proffesiynol chwilio drwy'r rhaglenni sydd ar gael a galluogi gweithwyr proffesiynol i gysylltu'n uniongyrchol â'i gilydd.

Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus gyda dysgwyr ym Mlwyddyn 10, mae Gyrfa Cymru yn ymgysylltu ymhellach â chyflogwyr ac yn anelu at ddarparu hyd at 500 o leoliadau profiad gwaith wedi'u targedu yn 2023 i 2024. Mae Gyrfa Cymru wedi cael £500,000 er mwyn cynnig lleoliadau profiad gwaith i gefnogi dysgwyr ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11 sydd wedi ei chael hi'n anodd ailafael yn eu haddysg yn dilyn y tarfu a achoswyd gan y pandemig. Ar gyfer y rhaglen beilot, dangosodd arolwg blynyddol Gyrfa Cymru o hynt disgyblion fod 80 o'r 87 o ddysgwyr a gwblhaodd eu lleoliad ar ddiwedd Blwyddyn 11 yn 2023 wedi symud ymlaen o Flwyddyn 11 i gyrchfan ôl-16 cadarnhaol.

Canllawiau

Ym mis Tachwedd, fel rhan o'n gwaith i gefnogi partneriaid i ddefnyddio'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, gwnaethom gyhoeddi canllawiau pellach ar adnabod pobl ifanc sy'n wynebu risg o ddod yn NEET neu'n ddigartref yn gynnar. Nod y canllawiau yw sicrhau mwy o gysondeb o ran adnabod pobl ifanc yn gynnar ar lefel genedlaethol, gan gadw hyblygrwydd o ran y prosesau sydd ar waith mewn ardaloedd lleol.

Rhaglenni monitro, ymchwil ac adolygiadau

Cyfleoedd i bobl sy'n ystyried eu bod yn dod o gefndir ethnig amrywiol

Lansiwyd ail gam prosiect Ewch i mewn i Dai ym mis Hydref, wedi'i gefnogi gan gyllid y Warant i Bobl Ifanc ochr yn ochr â Chymdeithas Adeiladu Principality a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae'r prosiect, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2022 gan Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Cadwyn, Hafod, United Welsh, Taff Housing, Tai Wales & West a Linc Cymru, yn cynnig cyfleoedd i bobl sy'n ystyried eu bod yn dod o gefndir ethnig amrywiol. Mae'r cam diweddaraf yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr fod rhwng 18 a 24 oed, yn ddi-waith, yn byw yn ne Cymru, ac ystyried eu bod yn dod o gefndir ethnig amrywiol. Yn ystod y cam cyntaf yn 2022, sicrhaodd 75% o'r cyfranogwyr gyflogaeth barhaol ar ôl cymryd rhan yn y prosiect, y gwnaeth 47% ohonynt aros yn y sector tai.

Anogwyr cyflogaeth gefnogol

Cyhoeddwyd gwerthusiad o gynllun treialu anogwyr cyflogaeth gefnogol Twf Swyddi Cymru+ ym mis Mai. Yn dilyn y cynllun treialu hwn, mae'r ddarpariaeth bellach wedi cael ei phrif-ffrydio o fewn y rhaglen.

Trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr

Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad o drefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr ym mis Hydref. Mae'r camau nesaf bellach yn cael eu hystyried.

Y Cynnig o Gymwysterau 14 i 16 yng Nghymru

Yn 2023, cynhaliwyd hefyd ymgynghoriad ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16 yng Nghymru. Bydd Cymwysterau Cymru yn cyflwyno Cymwysterau Cenedlaethol 14 i 16 newydd, i'w rhoi ar waith erbyn mis Medi 2027. Bydd hyn yn cynnwys cymwysterau o lefel mynediad i lefel 2, mewn amrywiaeth o bynciau. Bydd ysgolion yn gallu cynnig y mathau canlynol o gymwysterau i ddysgwyr: 

  • TGAU Gwneud-i-Gymru
  • Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd
  • Cymwysterau sylfaen
  • Cyfres Sgiliau, gyda chymwysterau mewn Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Phrosiect Personol

Mae wrthi'n datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer y Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd, y Gyfres Sgiliau a'r cymwysterau Sylfaen newydd, a gyhoeddir ar ddiwedd 2024.

Rhaglen Beilot Llwybrau Gyrfa

Mae amrywiaeth o waith llwybrau yn mynd rhagddo, gan gynnwys Rhaglen Beilot Llwybrau Gyrfa Ynys Môn, a sefydlwyd ym mis Mai 2023 fel rhaglen gydweithredol rhwng Ysgolion Uwchradd Ynys Môn, adran Addysg yr awdurdod lleol, Gyrfa Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Prif nod y rhaglen beilot yw sicrhau bod pobl ifanc ar Ynys Môn yn ymwybodol o'r llwybrau gyrfa gwahanol sydd ar gael yn y rhanbarth a sicrhau bod pob sefydliad yn gweithio mewn ffordd fwy craff a chydgysylltiedig i sicrhau bod dysgwyr yn symud ymlaen i hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys sesiynau gwybodaeth am y farchnad lafur i athrawon ar lwybrau gyrfa; gan sicrhau bod y colegau a'r ysgolion yn cydweithio i gyflwyno gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i bobl ifanc ar bob llwybr sydd ar gael iddynt, gan gynnwys prentisiaethau.

Adolygiad Estyn o rôl y prif weithiwr

Rydym wedi comisiynu Estyn iAsesu dyfnder, ehangder ac effeithiolrwydd rôl y prif weithiwr NEET ledled Cymru’. Bydd hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar waith y rheini mewn awdurdodau lleol sydd â rôl allweddol i ddilyn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid. Dechreuodd yr adolygiad ar ddiwedd 2023 a bydd yn dod i ben yn ystod haf 2024.

Ennyn diddordeb pobl ifanc

Ym mis Ebrill 2023, ar ôl cwblhau ymarferion y Sgwrs Genedlaethol a chyda chymorth Plant yng Nghymru, gwnaethom sefydlu'r Bwrdd Cynghori ar y Warant i Bobl Ifanc er mwyn cynghori ar bolisïau newydd a helpu i'w llunio, a rhagweld materion a mynd i'r afael â nhw. Bellach, mae gan y Bwrdd hyd at 16 o aelodau ac mae wedi cynnal sesiynau gyda Trafnidiaeth Cymru, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, cyfranogwyr Twf Swyddi Cymru+ a Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru, ymhlith eraill.

Cyrhaeddiad a chanlyniadau

Rydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni ein Gwarant i Bobl Ifanc, ac mae mwy na 27,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd a sgiliau yn unig (ers ei lansio ym mis Tachwedd 2021).

Fel y nodwyd eisoes, mae hyn yn cynnwys mwy na 8,000 sydd wedi dechrau ar raglen Twf Swyddi Cymru+ a mwy na 12,700 o bobl ifanc dan 25 oed sydd wedi dechrau prentisiaeth, yn ôl ffigurau dros dro.

O ran rhaglen Twf Swyddi Cymru+, roedd 24% o'r rhai a ymunodd â'r rhaglen ym mlwyddyn ariannol 2022 i 23 yn bobl ifanc sy'n ystyried eu hunain yn anabl a/neu fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Yn 2022 i 2023, roedd 6% o'r rhai a ymunodd â'r rhaglen yn ddysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Yn seiliedig ar gyrchfannau'r dysgwyr o fewn pedair wythnos i gwblhau'r rhaglen, mae 1,160 o unigolion wedi dod o hyd i gyflogaeth hyd yma. Mae ystadegau manylach, gan gynnwys canlyniadau, ar gael.

Sicrhaodd Cymunedau Dros Waith a Mwy allu mentora ychwanegol er mwyn helpu pobl sydd bellaf o'r farchnad lafur i gael cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. Mae mwy na 6,800 o bobl ifanc wedi cael cymorth ers lansio'r Warant i Bobl Ifanc, ac mae mwy na 2,300 o bobl ifanc wedi cael cyflogaeth hyd yma.

O ran cymorth hunangyflogaeth, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2023, mae 183,788 o bobl ifanc dan 25 oed wedi cael eu cynnwys mewn weminarau a gweithdai menter wedi'u harwain gan Fodelau Rôl i gynyddu eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o hunangyflogaeth. Mae 2,599 o bobl ifanc wedi datblygu eu syniadau ar gyfer busnes ac wedi cael cyngor busnes ac, o ganlyniad, mae 509 o gleientiaid wedi dechrau eu busnes.

Lansiwyd Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc ym mis Gorffennaf 2022 er mwyn darparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl ifanc ddi-waith. Rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2022, cyflwynwyd 1,308 o Ddatganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y Grant, ac ar ôl cael cyngor busnes, rydym wedi cyhoeddi 456 o geisiadau a bellach wedi cymeradwyo 403 o grantiau i bobl ifanc i'w helpu i ddechrau busnes.

Yn dilyn cyflwyno Biwroau Cyflogaeth a Menter gwell yn 2022, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £2 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol i ddarparu amrywiaeth o gymorth cyflogaeth a chyfleoedd i symleiddio'r broses bontio o ddysgu i weithio drwy'r Biwroau. Amcangyfrifir bod y Biwroau wedi ymgysylltu â mwy na 30,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed drwy eu darpariaeth, sy'n cynnwys: darparu cyswllt rheolaidd a strwythuredig i ddysgwyr â byd gwaith drwy bartneriaethau busnes ffurfiol, cyflwyniadau gan gyflogwyr a gweithgareddau ysbrydoledig gyda chyflogwyr, sgiliau cyfweliad, ysgrifennu CV, ymweliadau â diwydiant, profiad gwaith, ffeiriau gyrfaoedd, ymweliadau â cholegau a phrifysgolion, a chysylltiadau â darparwyr allanol.

Mae'r Gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Di-waith yn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, a'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur, i adfer eu bywydau a dychwelyd i hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth.

Mae'n canolbwyntio ar gynnig cymorth hirdymor i bobl sy'n adfer o broblemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys pobl fanc 16 i 24 oed sy'n NEET.

Rhwng mis Hydref 2022 a mis Rhagfyr 2023, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi mwy na 1,150 o bobl ifanc 16 i 24 oed. O blith y rhain: 

  • mae 259 wedi ennill tystysgrif neu gymhwyster sy'n berthnasol i waith
  • mae 86 wedi dilyn llwybr addysg
  • mae 191 wedi chwilio am swydd
  • mae 88 wedi dechrau cyflogaeth
  • mae 137 wedi cynyddu eu cyflogadwyedd drwy gwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli

Dim ond ym mis Ebrill 2023 y dechreuodd y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, ond rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr, mae 99 o gleientiaid 16 i 24 oed â salwch corfforol a/neu salwch meddwl wedi cael eu cefnogi gan y gwasanaeth. O blith y rhain:

  • mae 88 yn gyflogeion sy'n wynebu risg o fod yn absennol o'r gwaith
  • mae 11 yn absennol o'r gwaith
  • nododd 30 eu bod wedi cael cymorth i aros yn y gwaith
  • nododd 31 fod eu hiechyd wedi gwella

Cymru'n Gweithio yw Gwasanaeth Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd Cenedlaethol Cymru, darperir y gwasanaeth, sydd ar gael i bawb dros 16 oed, gan swyddogion cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd proffesiynol sy'n cynnig cyngor arbenigol, personol a diduedd ar yrfaoedd a chymorth cyflogaeth. Mae'n parhau i gefnogi'r Warant i Bobl Ifanc a niferoedd helaeth o bobl ifanc.

Rhwng 1 Tachwedd 2021 a 31 Rhagfyr 2023, cefnogodd Cymru'n Gweithio 23,076 o bobl ifanc 16 i 24 oed. Roedd y cymorth a roddwyd yn cynnwys: 

  • 58,203 o ryngweithiadau unigol, sef cyfanswm o fwy na 32,000 o oriau o gymorth uniongyrchol
  • 26,153 o weithgareddau eirioli, sef cyfanswm o bron 5,000 o oriau ychwanegol o waith ar ran cwsmeriaid
  • 30,193 o atgyfeiriadau at gymorth a chyfleoedd pellach
  • 27,952 o gyfnodau o gymorth Cymru'n Gweithio, gan olygu ei fod wedi darparu ychydig dros 1.2 o gyfnodau o gymorth fesul cwsmer ar gyfartaledd dros y cyfnod hwnnw

Rydym wedi cryfhau ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc (Bydd Bositif) er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod ble y gallant gael yr help a'r cyngor sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu hopsiynau ôl-16, gan ganolbwyntio ar fideos byr ysbrydoledig, a ddefnyddir ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram a TikTok, ac ymgyrchoedd ar y teledu a'r radio. Yn ôl ffigurau mis Rhagfyr 2023, mae pobl wedi clicio, hoffi a rhannu ymgyrchoedd marchnata'r Warant i Bobl Ifanc mwy na 320,000 o weithiau.

Mae Atodiad 1 i Adroddiad Blynyddol y flwyddyn diwethaf, Allbynnau Ystadegol/Setiau Data sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc yn nodi'r allbynnau ystadegol a'r setiau data sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc sydd, ochr yn ochr â'n sgwrs genedlaethol (gweler yr adran nesaf) ac amrywiaeth o waith arolygu a gwerthuso arall, yn llywio dyluniad y rhaglen a'r gwaith o'i monitro.

Carreg Filltir Genedlaethol

Yn yr hirdymor, mae'r Warant i Bobl Ifanc ochr yn ochr â rhaglenni Llywodraeth Cymru a gwaith ein partneriaid, yn rhan o ymdrech ar y cyd i sicrhau bod 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET) erbyn 2050, yn unol â Charreg Filltir Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Yng Nghymru, mae'r amcangyfrifon dros dro diweddaraf yn dangos bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2022, o gymharu ag 83.7% yn 2021.

Mae'r amcangyfrifon terfynol yn awgrymu bod cyfran y bobl ifanc 16 i 18 a oedd yn NEET wedi cynyddu rhwng 2020 a 2021 i 14.2%, sef y lefel uchaf erioed. Mae'r amcangyfrifom dros dro yn awgrymu bod y gyfran hon wedi gostwng wedyn i 13.3% yn 2022. 

Mae'r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2021 yn awgrymu bod cyfran y bobl ifanc 19 i 24 a oedd yn NEET wedi cynyddu o 15.6% yn 2020 i 17.3% yn 2021. Mae'r amcangyfrifom dros dro yn awgrymu bod y gyfran hon wedi gostwng wedyn i 14.6% yn 2022.

Atodiad 1: Allbynnau ystadegol/setiau data sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc

Ceir amrywiaeth o gyhoeddiadau ystadegol Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc. Mae'r rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, cyfranogiad ac ystadegau canlyniadau ar gyfer nifer o sectorau addysg, ac ystadegau sy'n gysylltiedig â rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Rhestrir hefyd nifer o gyhoeddiadau eraill sy'n rhoi gwybodaeth gyd-destunol ddefnyddiol am bobl ifanc yng Nghymru.

Ystadegau am y farchnad lafur a/neu statws addysg pobl ifanc

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Gorffennaf.
  • Yn darparu gwybodaeth am weithgareddau dysgu pobl ifanc 16 i 24 oed a'u statws yn y farchnad lafur. 
  • Hefyd yn darparu'r prif fesur o bobl ifanc sy'n NEET (cyfres y Datganiad Ystadegol Cyntaf). 
  • Cyhoeddir y data yn ôl rhywedd. Mae cyfyngiadau'r data yn golygu nad oes modd dadgyfuno'r ystadegau hyn yn ôl nodweddion gwarchodedig eraill ar hyn o bryd. 

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Cyhoeddir yn chwarterol (fel arfer ym mis Ionawr, mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Hydref).
  • Yn crynhoi'r ystadegau sydd ar gael ynglŷn â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
  • Mae'r amcangyfrifon hyn yn fwy amserol ond llai ystadegol gadarn na'r prif fesur.
  • Mae'r amcangyfrifon wedi'u dadansoddi yn ôl oedran, anabledd, ethnigrwydd, a rhanbarth am gyfnod cyfartalog o dair blynedd.

Ystadegau'r farchnad lafur (arolwg blynyddol o'r boblogaeth)

  • Cyhoeddir yn chwarterol. 
  • Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cyfuno samplau atgyfnerthu'r Arolwg o'r Llafurlu. Yr Arolwg o'r Llafurlu yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion ar gyfer y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy o faint yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn golygu bod modd llunio amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
  • Yn cynnwys adran ar bobl ifanc 16 i 24 oed (yn ôl rhyw). 

Hynt disgyblion

  • Arolwg blynyddol o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol yw hynt disgyblion, a gynhelir gan Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. 
  • Mae Gyrfa Cymru dan rwymedigaeth gytundebol i ddarparu data i Lywodraeth Cymru ar hynt disgyblion o bob ysgol a gynhelir ac ysgol anghenion arbennig sydd o fewn oedran gadael ysgol neu’n hŷn.
  • Mae’r arolwg yn rhoi cipolwg defnyddiol ar hynt disgyblion y gall staff gyrfaoedd ei defnyddio wrth weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr. 
  • Mae’r data a gesglir hefyd yn gymorth gwerthfawr i bartneriaid sy’n ymwneud â chynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddiant a chyflogaeth. 

Ystadegau addysg eraill/ffynonellau

Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd

  • Cyhoeddir yn chwarterol (fel arfer ym mis Chwefror, mis Mai, mis Awst a mis Tachwedd). 
  • Ceir data yn ôl rhanbarth domisil, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.
  • Ceir hefyd fesur o gynnydd tuag at darged y rhaglen lywodraethu, sef 125,000.

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a dysgu cymunedol

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Chwefror.
  • Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, rhanbarth domisil, dull astudio, math o raglen a lefel astudio.

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 – cyrchfannau dysgwyr

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Medi.
  • Cyrchfannau dysgwyr mewn chweched dosbarth ysgolion, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd ar ôl gadael eu rhaglen dysgu ôl-16.
  • Yn darparu mesurau o gyflogaeth barhaus a/neu ddysgu parhaus.
  • Mae dadansoddiadau ar gael yn ôl math o raglen, lefel, rhywedd, oedran, ethnigrwydd, degradd amddifadedd, darpariaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol a chymhwystra i gael Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod addysg orfodol.

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 – cyflawniad

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Chwefror.
  • Cyflawniad mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach.
  • Gohiriwyd am ddwy flynedd yn ystod y pandemig ond caiff data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2023.
  • Dadansoddiadau yn ôl math o raglen, lefel, oedran, rhywedd a degradd amddifadedd. Caiff rhagor o ddadansoddiadau eu cynnwys yn y datganiad nesaf.

Mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Chwefror.
  • Data ar ganlyniadau dysgwyr yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, maes sector/pwnc, rhywedd, oedran, rhanbarth domisil, degradd amddifaded ac ethnigrwydd
  • Gohiriwyd am ddwy flynedd yn ystod y pandemig ond caiff data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2023.

Myfyrwyr mewn addysg uwch

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Ionawr.
  • Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd. Gwybodaeth ychwanegol ar StatsCymru

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Gorffennaf.
  • Yn cynnwys ystadegau am niferoedd y dysgwyr mewn adrannau chweched dosbarth ysgolion a'u nodweddion.

Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio

  • Cyhoeddir yn flynyddol, fel arfer ym mis Awst.
  • Yn cyflwyno ystadegau ar lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio (18 i 64 oed) yng Nghymru.
  • Ceir dadansoddiad ar gyfer y grŵp 18 i 24 oed.
  • Mae dadansoddiadau eraill yn cynnwys rhyw, ethnigrwydd, awdurdod lleol, statws cyflogaeth a'r Gymraeg.

Monitor entrepreneuriaeth y byd (GEM)

  • Mae GEM yn creu mynegai o weithgarwch entrepreneuraidd cam cynnar (a elwir yn TEA), a gyhoeddir fel arfer ym mis Medi. 
  • Yn cyflwyno lefel entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru yn ôl demograffeg gyda chwestiynau penodol am ddyheadau pobl ifanc am entrepreneuriaeth a'u gweithgarwch entrepreneuriaeth cam cynnar (TEA).

Eiddo deallusol, busnesau newydd a busnesau deilliedig | HESA (Saesneg yn unig)

  • Yr Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch – Busnes a Chymuned (HEBCI) yw'r prif gyfrwng ar gyfer mesur maint a chyfeiriad y rhyngweithio rhwng busnesau a darparwyr addysg uwch yn y DU, a'r gymuned ehangach.

Arolwg canlyniadau graddedigion (Saesneg yn unig)

  • Cyflwynir yr arolwg gan HESA (Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch). 
  • Arolwg Canlyniadau Graddedigion yw'r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU ac mae'n cyfleu safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion. Gofynnir i bob unigolyn graddedig sydd wedi cwblhau cwrs addysg uwch gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Ystadegau twf swyddi Cymru+

Cyhoeddir yn chwarterol (fel arfer ym mis Mawrth, mis Medi a mis Rhagfyr). 

  • Gwybodaeth am raglenni dysgu Twf Swyddi Cymru+ a'r dysgwyr sy'n cofrestru â nhw.
  • Mae hwn yn ddatganiad newydd. Cyhoeddir y prif ystadegau bob chwarter gyda datganiad blynyddol manylach sy'n dadansoddi data yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Adroddiad blynyddol Estyn 2021 i 2022

  • Adroddiad blynyddol gan Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru ar yr hyn sy'n mynd yn dda a'r hyn y mae angen ei wella o ran addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Llesiant Cymru

Llesiant Cymru

  • Diweddariad blynyddol ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Mae'n rhoi naratif am dueddiadau ynghyd â'r dangosyddion cenedlaethol a chynnydd yn erbyn cerrig milltir.

Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol

  • Tudalennau HTML ar bob un o'r dangosyddion cenedlaethol (gyda dolenni i wybodaeth ychwanegol)

Llesiant Cymru 2022: llesiant plant a phobl ifanc

  • Adroddiad untro a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022. 

Poblogaeth Cymru

  • Amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth (set swyddogol o amcangyfrifon poblogaeth Cymru).
  • Mae'r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio a chânt eu cyhoeddi'n flynyddol.

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol Cymru

  • Mae'r amcanestyniadau hyn yn arwydd o faint a strwythur posibl poblogaeth Cymru. 
  • Mae amcanestyniadau poblogaeth yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar dybiaethau am dueddiadau yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Nid yw effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ymddygiad demograffig yn glir eto ac mae hyn yn cyfrannu at fwy o ansicrwydd.

Amcanestyniadau is-genedlaethol o’r boblogaeth (awdurdodau lleol): 2018 i 2043

  • Mae'r amcanestyniadau hyn yn arwydd o faint a strwythur posibl poblogaeth awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2018 a 2043 yn ôl rhyw ac un flwyddyn oed.
  • Nid rhagolygon yw'r amcanestyniadau. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd na ffactorau eraill (fel pandemig y coronafeirws) ar boblogaeth y dyfodol.