Neidio i'r prif gynnwy

3. Israddedigion rhan-amser

Mae israddedigion cymwys rhan-amser sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025 yn medru gwneud cais am gymorth tebyg gyda’u costau byw ar sail pro rata. Mae’r cymorth hwnnw yn gyfuniad o grantiau (Grant Cynnal) a benthyciadau (Benthyciad Cynhaliaeth), fel y cymorth i fyfyrwyr amser llawn.

Os byddwch yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ac mae eich cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 bydd swm y grant a'r benthyciad a gewch yn dibynnu ar ddwyster eich cwrs ac incwm eich aelwyd. Mae'r ffigurau isod yn cynnig canllaw i fyfyrwyr rhan-amser newydd yn unig ac maent yn dangos yr uchafsymiau y gallech eu cael.

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'n hawdd nodi a ydych yn fyfyriwr newydd neu'n un sy'n parhau i astudio, ond mae'n bosibl y bydd yna amgylchiadau sy'n seiliedig ar gwrs dysgu blaenorol a allai effeithio ar beth y gallwch wneud cais amdano a sut y gallwch wneud cais. Os byddwch yn ansicr a ydych yn gymwys fel myfyriwr newydd neu un sy'n parhau i astudio, gofynnwch i'ch Prifysgol neu i Cyllid Myfyrwyr Cymru beth yw eich statws.

Rhaid ichi fod yn astudio cwrs sydd â dwyster o 25% o leiaf i gael grant a benthyciad rhan-amser at gostau byw ac i wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu rhan-amser. Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau'r Brifysgol Agored yng Nghymru wneud cais am gymorth rhan-amser, waeth beth am ddwyster y cwrs sy'n cael ei astudio.

Mae’r ffigurau yn y tablau yn rhai enghreifftiol.

Enghreifftiau o ddwyster cwrsIncwm aelwydGrant CynnalBenthyciad Cynhaliaeth Cyfanswm
25%£25,000 neu lai£1,500£741£2,241
25%£45,000£769£1,472£2,241
25%£59,200 neu fwy£250£1,991£2,241
50%£25,000 neu lai£3,000£1,483£4,483
50%£45,000£1,539£2,944£4,483
50%£59,200 neu fwy£500£3,983£4,483
75% neu fwy£25,000 neu lai£4,500£2,224£6,724
75% neu fwy£45,000£2,308£4,416£6,724
75% neu fwy£59,200 neu fwy£750£5,974£6,724

Mae swm y grant yn seiliedig ar ffigur o £6,000 cyfwerth ag amser llawn, wedi’i ostwng £1 am bob £6.84 ychwanegol o incwm dros £25,000, ac wedi’i gyfrifo ar sail pro rata yn ôl dwyster yr astudio.

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cyfrifo faint o Grant Cynnal y gallech ei gael yn gyntaf, a bydd yr hyn sy'n weddill yn cael ei roi fel Benthyciad Cynhaliaeth. Bydd eich grant a'ch benthyciad yn cael eu talu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc ar ôl ichi gofrestru ar eich cwrs ac ar ôl i'ch presenoldeb gael ei gadarnhau gan eich prifysgol neu eich coleg bob tymor.

O dan y pecyn cymorth, gall myfyrwyr cymwys rhan-amser sy'n astudio cwrs sydd â dwyster o 25% o leiaf wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i helpu i dalu costau eu ffi dysgu. Caiff eich Benthyciad Ffioedd Dysgu ei dalu mewn tri rhandaliad i'ch prifysgol neu i'ch coleg yn uniongyrchol ar ôl i'ch presenoldeb gael ei gadarnhau.

Lleoliad eich cwrsY Benthyciad Ffioedd Dysgu sydd ar gael
Os byddwch yn astudio mewn prifysgol yng Nghymru neu'n astudio yn y Brifysgol Agored£2,625
Os byddwch yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU ond y tu allan i Gymru£6,935
Os byddwch yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU ond y tu allan i Gymru sydd wedi'u hariannu'n breifat£4,625

 

Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu dim ymlaen llaw am eu cwrs. Os bydd eich prifysgol neu eich coleg yn codi tâl sy’n fwy na'r Benthyciad Ffioedd Dysgu sydd ar gael, bydd rhaid ichi ariannu'r gwahaniaeth eich hunan (mae'n bosibl mai dyna'r sefyllfa ar gyfer prifysgolion neu golegau a gaiff eu hariannu'n breifat).

I gael gwybod am gyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd ar eu cyrsiau cyn mis Awst 2018 yn parhau i dderbyn y pecyn cymorth myfyrwyr y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

Cofiwch, nid oes rhaid ad-dalu grantiau fel arfer, ond bydd rhaid ad-dalu benthyciadau gan gynnwys y llog. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau a'r llog y bydd yn cael ei godi ar wefan ad-dalu benthyciadau.

Yn ychwanegol at gymorth ar gyfer costau byw a ffioedd dysgu, gallech gael y cymorth canlynol os ydych yn astudio cwrs sydd â dwyster o 25% neu fwy:

Grant Gofal Plant: gallech dderbyn Grant Gofal Plant fel cyfraniad at gost eich gofal plant os bydd gennych blant mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y grant hwn os byddwch chi neu eich partner yn hawlio'r elfen gofal plant sy'n rhan o'r Credyd Treth Gwaith neu'r Credyd Cynhwysol, Lwfans Gofal Plant y GIG neu Gofal Plant Di-dreth oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Bydd maint y grant y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ddwyster eich cwrs ac incwm eich aelwyd, hyd at yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer myfyriwr rhan-amser.

Lwfans Dysgu i Rieni: gallech dderbyn cymorth ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chwrs astudio os bydd gennych blentyn neu blant dibynnol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £1,914 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwyster eich cwrs.

Grant Oedolion Dibynnol: gallech fod yn gymwys i gael eich ystyried am Grant Oedolion Dibynnol os bydd gennych bartner neu oedolyn arall sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £3,353 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwyster eich cwrs.

Mae Grantiau i Fyfyrwyr Anabl hefyd ar gael i’ch cefnogi tra byddwch yn astudio cwrs rhan-amser. Rhaid ichi fod yn astudio cwrs sydd â dwyster o 25% neu'n fwy ar gyfer y grant hwn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gymorth ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cofiwch ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter a Facebook i gael gwybod y newyddion diweddaraf.

Bwrsarïau ac ysgoloriaethau: gallai rhai prifysgolion a cholegau gynnig bwrsarïau neu ysgoloriaethau yn ôl disgresiwn. Gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr i weld a oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael ichi. Os byddwch yn astudio cwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd, yna mae'n bosibl y gallech gael bwrsari gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau i Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r holl ffigurau yn ddarostyngedig i reoliadau.