Neidio i'r prif gynnwy

4. Myfyrwyr cwrs meistr ôl-radd a doethuriaeth

Ers mis Awst 2019, mae ôl-raddedigion cymwys sy'n dilyn cwrs meistr wedi gallu cael cymorth ar ffurf cyfuniad o grantiau a benthyciadau, ac yn cyfrannu at gostau cyffredinol, yn hytrach nag ar gyfer ffioedd a chynhaliaeth yn benodol. Mae Grantiau i Fyfyrwyr Anabl hefyd ar gael i’ch cefnogi tra byddwch yn astudio eich cwrs ôl-radd. Dysgwch fwy.

Mae’r ffigurau yn y tablau yn rhai enghreifftiol.

 
 Incwm Grant Benthyciad Cyfanswm
£18,370 £6,885 £11,885 £18,770
£20,000 £6,651 £12,119 £18,770
£25,000 £5,930 £12,840 £18,770
£30,000 £5,209 £13,561 £18,770
£35,000 £4,488 £14,282 £18,770
£40,000 £3,767 £15,003 £18,770
£45,000 £3,047 £15,723 £18,770
£50,000 £2,326 £16,444 £18,770
£55,000 £1,605 £17,165 £18,770
£59,200 neu fwy £1,000 £17,770 £18,770

Mae swm y grant wedi’i ostwng £1 am bob £6.937 ychwanegol o incwm dros £18,370. Mae myfyrwyr sy'n astudio'n rhan-amser yn cael yr un cyfanswm o gymorth â myfyrwyr amser llawn, ond telir cymorth ar sail pro rata dros gyfnod y cwrs.

Mae bwrsarïau Meistr newydd wedi bod ar gael i raddedigion sy’n astudio ar gyfer gradd Meistr yng Nghymru ers blwyddyn academaidd 2019 i 2020. Mae bwrsariaethau meistr ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024:

  • Bwrsariaeth gwerth £4,000 i bobl dros 60 oed. Nod y grant yw darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr dros 60 oed, nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael yr un cymorth ariannol â myfyrwyr iau oherwydd cyfyngiadau Trysorlys ei Mawrhydi.
  • Bwrsariaeth o £2,000 i raddedigion o bob oed sy'n astudio gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, y cyfeirir atynt yn aml fel pynciau 'STEMM'.
  • Bwrsariaeth gwerth £1,000 i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r fwrsariaeth yn ceisio parhau i ddatblygu'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg, a helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys am y bwrsarïau hyn a sut i wneud cais cysylltwch â’ch pbrifysgol yng Nghymru.

Ydych chi’n dechrau cwrs Doethuriaeth ôl-radd amser llawn neu ran-amser (fel PhD) gallwch wneud cais am Fenthyciad Doethuriaeth Ôl-radd o hyd at £28,395. Gall hyn helpu gyda ffioedd cyrsiau a chostau byw tra byddwch chi’n astudio.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael am gymorth ychwanegol ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru

Mae'r holl ffigurau yn ddarostyngedig i reoliadau.