Yn y canllaw hwn
7. Gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr
Caiff cyllid i fyfyrwyr o Gymru, neu, mewn rhai achosion, sy’n astudio yng Nghymru, ei ddarparu drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Gall myfyrwyr wneud cais am grantiau a benthyciadau i helpu gyda chostau byw a ffioedd dysgu.
Sut i wneud cais
Gall cais am gyllid myfyrwyr gael ei wneud arlein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gellir gwneud cais drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Bydd y system ymgeisio ar-lein ar gyfer astudiaethau israddedig llawnamser fel arfer yn agor yn y gwanwyn.
Bydd y systemau ymgeisio ar gyfer astudiaethau rhan-amser ac ôl-raddedig fel arfer yn agor ddechrau’r haf.
Mae’n well gwneud cais yn gynnar i sicrhau bod y cyllid yn ei le ar gyfer dechrau’r tymor. Nid oes angen i le’r myfyriwr ar y cwrs fod wedi’i gadarnhau cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr, a gellir diweddaru’r cais pan fydd cadarnhad ble fydd yn astudio, neu gellir tynnu’r cais yn ôl os oes angen.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd i wneud cais, dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar X(Twitter) a Facebook neu gosodwch nod tudalen i’r wefan. Cyhoeddir y dyddiadau cau yn ystod y cyfnod ymgeisio. Os bydd myfyrwyr yn methu’r dyddiad cau, gellir gwneud cais o hyd ac mae rhagor o wybodaeth am geisiadau hwyr ar gael gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
