Yn y canllaw hwn
2. Israddedigion amser llawn
Mae israddedigion cymwys llawn-amser sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf yn medru gwneud cais am gymorth ariannol i helpu gyda’u costau byw tra byddant yn astudio. Mae’r cymorth yn gyfuniad o grantiau a benthyciadau (yn dibynnu ar gymhwysedd) ac, i’r rhan fwyaf, bydd yn gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs i gael benthyciad cynhaliaeth fel myfyriwr israddedig.
Gallai israddedigion llawn-amser fod yn gymwys am hyd at £14,635 y flwyddyn tuag at eu costau byw os ydynt yn byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, neu £11,720 y flwyddyn os ydynt yn byw oddi cartref ac yn astudio mewn mannau eraill yn y DU.
Bydd pob myfyriwr amser llawn cymwys yn derbyn grant o £1,000 o leiaf, beth bynnag yw incwm yr aelwyd. Gallai myfyrwyr o gartrefi sydd ag incwm is fod yn gymwys am grant o hyd at £10,124 os ydynt yn astudio yn Llundain, neu hyd at £8,100 os ydynt yn astudio yng ngweddill y DU. Nid oes rhaid talu'r grant hwn yn ôl.
Mae’r ffigurau yn y tablau yn rhai enghreifftiol.
Incwm aelwyd | Grant | Benthyciad | Cyfanswm |
---|---|---|---|
£18,370 | £8,100 | £3,620 | £11,720 |
£25,000 | £6,947 | £4,773 | £11,720 |
£35,000 | £5,208 | £6,512 | £11,720 |
£45,000 | £3,469 | £8,251 | £11,720 |
£59,200 neu fwy+ | £1,000 | £10,720 | £11,720 |
Incwm aelwyd | Grant | Benthyciad | Cyfanswm |
---|---|---|---|
£18,370 | £10,124 | £4,511 | £14,635 |
£25,000 | £8,643 | £5,992 | £14,635 |
£35,000 | £6,408 | £8,227 | £14,635 |
£45,000 | £4,174 | £10,461 | £14,635 |
£59,200 neu fwy+ | £1,000 | £13,635 | £14,635 |
Byw gartref
Incwm aelwyd | Grant | Benthyciad | Cyfanswm |
---|---|---|---|
£18,370 | £6,885 | £3,065 | £9,950 |
£25,000 | £5,930 | £4,020 | £9,950 |
£35,000 | £4,488 | £5,462 | £9,950 |
£45,000 | £3,047 | £6,903 | £9,950 |
£59,200 neu fwy+ | £1,000 | £8,950 | £9,950 |
O dan y pecyn cymorth, bydd myfyrwyr yn gymwys i gael benthyciadau i dalu am eu ffioedd dysgu. Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu dim ymlaen llaw am eu cwrs. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau'r Brifysgol Agored yng Nghymru wneud cais am gymorth rhan-amser, waeth beth am ddwyster y cwrs sy’n cael ei astudio.
Bydd myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn Awst 2018 yn parhau i gael y pecyn cymorth i fyfyrwyr y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd.
Yn ychwanegol at gymorth ar gyfer costau byw a ffioedd dysgu, gallech gael y cymorth canlynol:
Grant Gofal Plant: gallech dderbyn Grant Gofal Plant fel cyfraniad at gost eich gofal plant os bydd gennych blant mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy ac rydych yn astudio cwrs sydd â dwyster o 50% neu fwy. Bydd y swm y gallech ei dderbyn yn dibynnu hefyd ar incwm eich aelwyd. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y grant hwn os byddwch chi neu eich partner yn hawlio'r elfen gofal plant sy'n rhan o'r Credyd Treth Gwaith neu'r Credyd Cynhwysol, Lwfans Gofal Plant y GIG neu Gofal Plant Di-dreth oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Lwfans Dysgu i Rieni: gallech dderbyn cymorth ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chwrs astudio os bydd gennych blentyn neu blant dibynnol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £1,896 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwyster eich cwrs.
Grant Oedolion Dibynnol: gallech fod yn gymwys i gael eich ystyried am Grant Oedolion Dibynnol os bydd gennych bartner neu oedolyn arall sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £3,322 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwyster eich cwrs.
Mae Grantiau i Fyfyrwyr Anabl hefyd ar gael i’ch cefnogi tra byddwch yn astudio cwrs amser llawn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cymorth a nodwyd uchod ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cofiwch ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter a Facebook i gael gwybod y newyddion diweddaraf.
Bwrsarïau ac ysgoloriaethau - gallai rhai prifysgolion a cholegau gynnig bwrsarïau neu ysgoloriaethau yn ôl disgresiwn. Gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr i weld a oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael ichi. Os byddwch yn astudio cwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd, yna mae'n bosibl y gallech gael bwrsari gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau i Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.