Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a chyngor ariannol i’ch helpu gyda’ch costau tai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Tenantiaid

Os ydych yn credu y byddwch yn cael trafferth talu'ch rhent, dylech gysylltu â'ch landlord cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn cysylltu, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu.

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth gyda'ch costau tai.

Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai

Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar gael i denantiaid y sector cymdeithasol a’r sector preifat.

Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn darparu arian yn ychwanegol at unrhyw fudd-daliadau a gewch.

Mae'n bosib y cewch y cymorth hwn os yw eich awdurdod lleol yn penderfynu bod angen cymorth ychwanegol arnoch i dalu eich costau tai.

I fod yn gymwys am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, rhaid i chi fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

  • yr hen gynllun Budd-dal Tai
  • yr elfen o gyfraniad costau tai drwy’r Credyd Cynhwysol

I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Perchnogion tai

Os ydych yn meddwl y byddwch yn cael trafferth talu eich morgais, dylech gysylltu â'ch benthycwr cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn cysylltu, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu.

Cymorth i Aros – Cymru

Os ydych yn berchennog tŷ, efallai y gallwch gael cymorth gan gynllun Cymorth i Aros – Cymru.

Gall y cynllun roi benthyciad ecwiti a rennir i ymgeiswyr cymwys er mwyn helpu i leihau eu taliadau morgais i lefel fforddiadwy.

Dysgwch fwy am Help i Aros – Cymru.

Cymorth ar gyfer llog ar forgais

Os ydych yn berchennog tŷ, efallai y byddwch yn gallu cael help tuag at daliadau llog ar:

  • eich morgais
  • benthyciadau rydych chi wedi eu cymryd ar gyfer rhai atgyweiriadau a gwelliannau i'ch cartref

Gelwir yr help hwn yn Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais.

Ceir rhagor o wybodaeth am Gymorth ar gyfer Llog Morgais ar GOV.UK

Cymorth arall ar gyfer costau tai

Os nad ydych yn derbyn budd-dal tai neu'r elfen cyfraniad costau tai drwy’r Credyd Cynhwysol, ond eich bod o oedran gweithio, ar incwm isel ac yn cael trafferth gyda chostau sy'n gysylltiedig â thai, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gallu helpu i'ch atal rhag dod yn ddigartref.

I gael gwybod mwy am y cymorth y gallech fod yn gymwys i'w gael, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.