Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith ein cynllun i wella hawliau pobl anabl sy’n byw yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau gweithredu y mar Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau a chyfleoedd pobl anabl yng Nghymru. Rydym am wneud Cymru yn genedl gynhwysol a hygyrch lle gall pobl anabl gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, heb gyfyngiadau na gwahaniaethu. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu drwy gyflawni Cynllun Hawliau Pobl Anabl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, sy'n nodi dull cynhwysfawr o chwalu rhwystrau, hyrwyddo cydraddoldeb, a chefnogi pobl anabl i gyrraedd eu llawn botensial.
Cefndir
Roedd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pobl ar draws y byd, gan ddwysáu anghydraddoldebau ac anfanteision economaidd-gymdeithasol. Cafodd Covid effaith anghymesur ar rai cymunedau yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2021, roedd yr adroddiad ‘Drws ar glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o’r ymatebion i’r adroddiad oedd sefydlu’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid.
Ffurfiodd y Tasglu ddeg gweithgor thematig i argymell camau gweithredu a fyddai’n gwella bywydau pobl anabl, sef:
- ymgorffori a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru)
- mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
- byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
- byw’n annibynnol: iechyd a llesiant
- teithio
- mynediad at gyfiawnder
- cyflogaeth ac Incwm
- tai fforddiadwy a hygyrch
- plant a phobl Ifanc
- llesiant (fel gweithdy)
Cefnogwyd y gweithgorau hyn gan ddehongliadau a chapsiynau Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Cafodd holl aelodau’r Tasglu a’r gweithgorau gynnig sesiynau hyfforddi ar y Model Cymdeithasol o Anabledd a Sgiliau Cydgynhyrchu.
Cydweithio
Gweithiodd y Tasglu mewn partneriaeth â dros 350 o randdeiliaid allanol a 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru i ddatblygu argymhellion gyda'r nod o wella canlyniadau i bobl anabl yng Nghymru.
Roedd pobl anabl yn arweinwyr a phartneriaid gweithredol ym mhroses y Tasglu, gan rannu gwybodaeth a phrofiadau uniongyrchol sydd wedi llywio camau gweithredu i roi sylw i hawliau pobl anabl ac i chwalu’r rhwystrau presennol.
Roeddem yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc anabl i ddysgu o’u profiadau, ac i ddatblygu datrysiadau i fynd i’r afael â’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu o ran defnyddio’r iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i mannau. Bu tîm y Tasglu yn ymgysylltu ag ysgolion gan gynnwys:
- Ysgol Tŷ Coch: ysgol arbennig i blant 3 i 19 oed ym Mhontypridd
- Ysgol y Deri: ysgol arbennig i blant 3 i 19 oed ym Mhenarth
- Ysgol Greenfields: ysgol arbennig i blant 3 i 19 oed ym Merthyr Tudful
Gan weithio ar y cyd â 'Fforwm Cymru Ifanc' Plant yng Nghymru, casglwyd safbwyntiau plant a phobl ifanc, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu cynrychioli wrth lunio argymhellion ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Ar ben hynny, hwylusodd y gweithgor Plant a Phobl Ifanc drafodaeth 'Rhiant / Gofalwr', gan alluogi rhieni a gofalwyr plant anabl i rannu eu profiadau bywyd, eiriol ar eu rhan, a thynnu sylw at realiti eu rolau gofalu.
Cynhaliodd y Tasglu weithdy gyda ffocws penodol ar lesiant pobl anabl, gan ddenu dros 100 o gyfranogwyr. Roedd y sesiwn yn edrych ar bynciau hollbwysig gan gynnwys mynediad at feysydd diwylliant, chwaraeon, treftadaeth, celf a cherddoriaeth sy'n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gyfoethogi bywydau, meithrin ymdeimlad o berthyn, a chwalu rhwystrau cymdeithasol. I bobl anabl, mae mynediad cyfartal at y gweithgareddau hyn yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer boddhad personol, creadigrwydd a hunanfynegiant, ond hefyd ar gyfer adeiladu cymunedau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan lawn ym mywyd diwylliannol Cymru.
Mae'r Tasglu argymhellion wedi cael ei ddefnyddio i lywio camau gweithredu a chanlyniadau'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl Drafft. Bydd yr argymhellion hyn yn parhau i fod yn adnodd pwysig y gall Llywodraeth Cymru ddychwelyd ato yn y dyfodol i nodi ei chamau gweithredu tymor canolig i hirdymor er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer pobl anabl.
Integreiddio
Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn mabwysiadu dull gweithredu trawslywodraethol integredig ac mae cydweithio a chydweithredu yn ganolog iddo, yn enwedig gan y rheini sydd â phrofiadau uniongyrchol o anabledd, wrth ei ddatblygu a'i weithredu. Mae datblygu a gweithredu'r cynllun hwn yn dibynnu ar bartneriaeth barhaus ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, y sector cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector, a chymunedau. Roedd dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sail i ddatblygu'r Cynllun.
Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, heb gyfyngiadau na gwahaniaethu. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn i wneud pob agwedd ar fywyd Cymru yn hygyrch, gan gynnwys iechyd, addysg, cyflogaeth, tai a theithio.
Wrth wraidd ein dull gweithredu mae ymgorffori’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n ein helpu i ddeall sut gall pobl anabl gael eu dal yn ôl gan y byd o’u cwmpas, a sut gallwn ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y byd. Rydym ni hefyd yn cael ein harwain gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.
Costau ac arbedion
Gan gydnabod bod newid parhaol yn cymryd amser, rydym wedi sefydlu cynllun 10 mlynedd trawslywodraethol. Mae camau gweithredu tymor byr yn canolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei gyflawni yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan sicrhau hyblygrwydd i lywodraethau'r dyfodol benderfynu ar gamau tymor canolig a thymor hir tuag at y nodau cyffredinol.
Effaith
Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac arweiniad ystyrlon drwy gydol y gwaith o weithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol dylanwadol ac annibynnol. Bydd y Bwrdd hwn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad, monitro cynnydd, a chynyddu effaith y Cynllun, gan weithredu fel cyswllt hanfodol rhwng pobl anabl, llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau. Bydd ei gyfrifoldebau'n cynnwys cynghori ar gyflawni, nodi heriau sy'n dod i'r amlwg, argymell gwelliannau, a sicrhau bod lleisiau ac anghenion pobl anabl yn parhau i fod yn ganolog i bob gweithgaredd a phenderfyniad.
Bydd y Bwrdd yn cael ei sefydlu yn 2026 a bydd yn gweithredu yn unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd, gan sicrhau bod yr holl drafodaethau ac argymhellion yn seiliedig ar realiti bywydau pobl anabl. Ceisir mewnbwn y Bwrdd ar bob cam allweddol, o gynllunio strategol i werthuso, i sicrhau bod y Cynllun yn cyflawni newid gwirioneddol a pharhaol a bod yr holl gamau gweithredu'n dryloyw, yn atebol ac yn ymatebol i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae hyn yn cynnwys mesur cynnydd parhaus y Cynllun yn erbyn camau gweithredu unigol, yn ogystal ag asesiad ehangach o'r effaith gyffredinol a wnaed yn erbyn ei ganlyniadau arfaethedig yn y tymor hirach.
Adran 8. casgliad
Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?
Gweithiodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl gyda dros 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol i ddatblygu argymhellion gyda'r nod o wella canlyniadau a sicrhau bod hawliau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu gwireddu'n llawn. Roedd pobl anabl yn bartneriaid gweithredol ym mhroses y Tasglu, gan rannu gwybodaeth a phrofiadau bywyd sydd wedi llywio camau gweithredu i roi sylw i hawliau pobl anabl ac i chwalu’r rhwystrau presennol.
Mae profiadau uniongyrchol pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl wedi cyfrannu at nodi rhwystrau a blaenoriaethau allweddol, fel yr angen am gyfathrebu hygyrch a chynhwysiant digidol. Arweiniodd adborth gan Sefydliadau Pobl Anabl at gynnwys camau gweithredu penodol ar fyw'n annibynnol, cyflogaeth a thrafnidiaeth hygyrch. Mae dulliau ymgysylltu parhaus, fel y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, yn sicrhau y bydd lleisiau pobl anabl yn parhau i siapio'r gwaith o weithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Drwy ymgysylltu â phobl anabl, mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod bod cysylltiad annatod rhwng mynediad at iechyd a diwylliant, gan gefnogi llesiant cyffredinol pobl anabl a'u cyfranogiad mewn cymdeithas. Drwy hyrwyddo gwasanaethau gofal iechyd hygyrch a chyfleoedd diwylliannol cynhwysol, mae'r Cynllun yn annog ymgysylltu gweithredol gan leihau arwahanrwydd a gwella llesiant. Mae gwell iechyd yn galluogi mwy o gyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, tra gall cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorfforol, gan ddangos y berthynas sy'n atgyfnerthu'r naill berthynas a'r llall rhwng y ddau faes.
Mae adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl a'r Gymraeg yn dangos bod siaradwyr Cymraeg anabl yn wynebu rhwystrau ychwanegol o ran cael gafael ar wasanaethau, addysg a chyflogaeth. Bydd cyhoeddi'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn ymgorffori gwybodaeth a gasglwyd gan sefydliadau Cymraeg eu hiaith a phobl ifanc Cymraeg eu hiaith ag anableddau dysgu, gan sicrhau bod eu profiadau'n sail i gamau gweithredu a blaenoriaethau parhaus.
Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn adlewyrchu ymgysylltiad helaeth â phlant ac oedolion anabl, Sefydliadau Pobl Anabl, rhieni, gofalwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Mae'n defnyddio profiadau bywyd i nodi rhwystrau a blaenoriaethau fel dulliau cyfathrebu hygyrch, cynhwysiant digidol, byw'n annibynnol, cyflogaeth a thrafnidiaeth. Mae'r Cynllun hwn yn cyd-fynd ag UNCRDP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol. Mae'n cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi a gwahaniaethu, gwreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd, a hyrwyddo cynhwysiant digidol. Bydd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl a Bwrdd Cynghori Allanol yn darparu goruchwyliaeth ac arweiniad parhaus i sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu'n effeithiol ac yn ymateb i anghenion y gymuned.
Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Bydd y fframwaith a’r canlyniadau o fewn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cefnogi mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail anabledd, cynyddu cyfle cyfartal a meithrin perthnasoedd da.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (UNCRDP)
Cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ei gadarnhau gan y DU yn 2009, gan ymrwymo i gynnal a hybu hawliau pobl anabl. Yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, rydym yn cyfeirio'n gyson at y confensiwn fel y 'Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl' neu UNCRDP, yn hytrach na'i deitl ffurfiol - y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae'r dewis bwriadol hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'n nod i ddefnyddio iaith sy'n cyd-fynd â phrofiadau go iawn a dewisiadau pobl anabl.
Ym mhob un o’r pedair thema allweddol, mae’r cynllun 10 mlynedd hwn yn amlinellu sut mae ei gamau gweithredu a’i ganlyniadau’n cefnogi’r egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn erthyglau perthnasol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl. Drwy wneud yn siŵr bod ein camau gweithredu a’n canlyniadau yn cyd-fynd â’r egwyddorion hyn, ein nod yw sicrhau bod ein cynllun yn hybu mynediad at hawliau a chynhwysiant fel y bwriedir gan y confensiwn ar gyfer pob person anabl yng Nghymru.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Mae Erthygl 23 yn nodi y dylai plant anabl gael gofal a chymorth er mwyn iddynt allu byw bywydau llawn ac annibynnol (caiff yr erthygl hon ei hatgynhyrchu gan erthygl 7 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau).
Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i’r fframwaith a’r cynllun gweithredu. Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi cael ei gynnal fel rhan o’r Asesiad Effaith Integredig.
Y Gymraeg
Nid oes unrhyw effaith negyddol amlwg ar y Gymraeg wedi’i nodi. Bydd y cynllun terfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ogystal, mae Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei chwblhau fel rhan o’r Asesiad Effaith Integredig.
Hyrwyddo Cyfleoedd Economaidd i Bawb (trechu tlodi)
Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu tymor byr sy’n cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol, fel pobl anabl, yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Sefydlwyd gweithgor Cyflogaeth ac Incwm y Tasglu Hawliau Anabledd i drafod materion sy’n ymwneud â mynd i’r afael â thlodi a chlywed am brofiadau pobl anabl. Mae camau gweithredu o fewn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl wedi cael eu cydgynhyrchu yn dilyn y cyfarfodydd hyn.
Y Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â’u cyfoedion. Mae’r Model yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau: strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethu, sy’n cyfyngu ar gyfranogiad pobl anabl. Mae rhwystrau strwythurol yn cynnwys adeiladau anhygyrch. Mae rhwystrau diwylliannol yn deillio o agweddau, credoau ac arferion mewn cymdeithas sy’n arwain at allgáu, gwahaniaethu a rhagfarn sy’n ffafrio pobl nad ydynt yn anabl. Drwy herio’r safbwyntiau hyn, gall cymdeithas ddangos nad rhywbeth negyddol yw bod yn anabl, a bod cymdeithas a chymunedau’n gryfach ac yn fwy cydlynol gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl anabl. Mae’r model hwn yn grymuso pobl anabl i arfer eu hawliau ac yn dathlu eu hamrywiaeth a’u cyfraniadau.
Mae'r Cynllun hwn wedi'i ddylunio i gael gwared ar rwystrau drwy sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus, adeiladau a llwyfannau digidol yn hygyrch i bobl anabl. Mae'n hyrwyddo prosesau dylunio cynhwysol ym maes trafnidiaeth, tai a thechnoleg ddigidol, ac yn herio agweddau negyddol drwy hyfforddiant staff ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus.
Cynhwysiant Digidol a Hygyrchedd
Bydd yr holl wasanaethau a gohebiaeth ddigidol yn cael eu dylunio i fodloni safonau hygyrchedd, gydag opsiynau ar gyfer dehongli Iaith Arwyddion Prydain, Hawdd ei Ddarllen, print bras, sain a'r iaith Gymraeg. Mae'r cynnig yn cefnogi’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru, gan sicrhau bod gan bobl anabl fynediad at ddyfeisiau, cysylltedd a hyfforddiant sgiliau digidol. Bydd adborth gan ddefnyddwyr anabl yn cael ei ddefnyddio i wella hygyrchedd digidol yn barhaus.
Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
Mae'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn gyfle i randdeiliaid gynghori Llywodraeth Cymru ar y prif faterion sy'n effeithio ar bobl anabl. Pwrpas y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yw rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am faterion sy'n dod i'r amlwg a rhoi cipolwg ar brofiadau uniongyrchol pobl anabl.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol – y saith nod llesiant – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n rhoi manylion sut mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi nodau llesiant Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.
Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn dilyn yr asesiad effaith hwn.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?
Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac arweiniad ystyrlon drwy gydol y gwaith o weithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol dylanwadol ac annibynnol. Bydd y Bwrdd hwn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad, monitro cynnydd, a chynyddu effaith y Cynllun, gan weithredu fel cyswllt hanfodol rhwng pobl anabl, llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau.
Mae'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd, sef tîm o broffesiwn Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae hyn yn cynnwys mesur cynnydd parhaus y Cynllun yn erbyn camau gweithredu unigol, yn ogystal ag asesiad ehangach o'r effaith gyffredinol a wnaed yn erbyn ei ganlyniadau arfaethedig yn y tymor hirach.
