Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Pwy all gynnig cartref

Er mwyn cynnig cartref yng Nghymru i ffoaduriaid o Wcráin bydd yn rhaid i chi:

  • fyw neu fod yn berchen ar eiddo preswyl yng Nghymru
  • gadarnhau nad ydych wedi eich paru â gwesteion o Wcráin
  • allu cynnig ystafell sbâr neu gartref ar wahân am o leiaf 6 mis
  • gadarnhau eich bod wedi cael caniatâd i aros yn y DU am o leiaf 6 mis
  • allu datgan nad oes gennych gofnod troseddol

Os oes gennych eiddo ar wahân ar gael, gallwch gynnig aros dros dro am ddim neu am bris gostyngol drwy Airbnb.org.