Neidio i'r prif gynnwy

5. Wneud cais

Mae angen arnom rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich cartref a'r math o lety sydd ar gael, fel y gallwn brosesu eich cynnig:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich rhif ffôn
  • eich cyfeiriad cartref
  • cyfeiriad y llety (os yw'n wahanol)
  • faint o bobl y gallwch eu lletya

Byddwn yn rhannu'r wybodaeth a roddwch gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i'w helpu i'ch paru ag unigolyn neu deulu o Wcráin.

Os oes gennych fwy nag un eiddo ar gael, bydd angen i chi gyflwyno cynnig ar wahân ar gyfer pob eiddo.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer unigolion sydd am gynnig lle yn eu cartref. Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad sy'n cynnig llety ar raddfa fawr, cofrestrwch fusnes neu sefydliad i helpu ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i Gymru.

Os oes gennych eiddo ar wahân ar gael, gallwch gynnig aros dros dro am ddim neu am bris gostyngol drwy Airbnb.org.