Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Gallwch helpu pobl o Wcráin drwy gynnig lle iddynt aros yn eich cartref neu mewn eiddo yr ydych yn berchen arno.
Bydd angen i chi wneud cais a darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi eich hun a'r llety y gallwch ei gynnig.
Byddwch yn cael £500 y mis yn ddiolch ac i’ch helpu ag unrhyw gostau. Cewch ddal i ofyn i’ch gwesteion gyfrannu swm rhesymol tuag at y biliau, ond ni chewch godi rhent.
Bydd y taliad diolch o £500 yn ddi-dreth. Ni fydd yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau nac i ostyngiad yn eich treth gyngor.
Rydym yn eich annog i fynychu sesiwn 'Cyflwyniad i westeia' am ddim i'ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch dod yn westeiwr ai peidio. Mae hefyd llinell gymorth, hyfforddiant pellach a gweithdai i rannu profiadau gyda gwesteiwyr eraill. Dysgwch mwy a chofrestru ar gyfer sesiwn.
Byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r awdurdod
Byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r awdurdod lleol perthnasol a fydd yn cynnig cymorth ymarferol drwy gydol y broses lletya.
a fydd yn cynnig cymorth ymarferol drwy gydol y broses lletya.
Mae pob cynnig yn amodol ar wiriadau diogelu ac archwiliadau eiddo, er mwyn sicrhau bod gwesteion yn cael lle diogel ac addas i aros.