Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i ddyddiad cau ein hymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid agosáu, rwyf wedi bod yn adlewyrchu'n ehangach ar yr hyn y mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid nodedig i Gymru wedi'i gyflawni hyd yma. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ein Diweddariad ar yr Ail Flwyddyn ac rwy'n falch o'r cynnydd clir a wnaed yn 2023.

Ein huchelgais yw bod pob anifail yng Nghymru yn byw bywyd da. Mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid yn hyrwyddo safonau rhagorol, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, gorfodi effeithiol, ymchwil ac addysg, gwreiddio perchnogaeth gyfrifol a hyrwyddo lles anifeiliaid. Mae ein cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos sut mae'r dull hwn yn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau a sbarduno newid sylweddol. 

Rydym yn cryfhau ein polisïau gorfodi a thrwyddedu. Ar ôl cwblhau Galwad am Dystiolaeth yn gynnar yn 2023 lansiwyd ein hymgynghoriad trwyddedu ym mis Rhagfyr. Mae'n dod i ben ar 1 Mawrth 2024, a dyma'r cam cyntaf ar gyfer datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid.

Mae Prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol, Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, bellach wedi ei hen sefydlu gydag 11 swyddog gorfodi rhanbarthol, dau swyddog cymorth a dau gydlynydd systemau wedi dechrau ar eu swyddi. Mae pedwar cwrs hyfforddi wedi'u cyflwyno i 58 o swyddogion ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru. 

Ym mis Hydref 2023, fe wnes i gynnal Uwchgynhadledd ar Berchnogaeth Ci Cyfrifol: Gweithredu ar Gŵn Peryglus, gan ddwyn ynghyd gynrychiolwyr awdurdodau lleol a'r heddlu, aelodau'r trydydd sector ac arbenigwyr er mwyn trafod a nodi meysydd gweithredu a gwella. Bydd mwy o weithdai yn dilyn trwy gydol 2024, er mwyn sicrhau nad yw momentwm yn cael ei golli, a'r cyntaf o'r rhain wedi ei gynnal ar 15 Chwefror. 

Roedd ein gweithgareddau yn Sioe Frenhinol Cymru 2023 hefyd yn canolbwyntio ar berchnogaeth anifeiliaid anwes cyfrifol. Gan weithio ochr yn ochr â Thrwyddedu Anifeiliaid Cymru, gwnaethom ymdrin ag ystod o bynciau pwysig megis dewis y brîd cŵn cywir ar gyfer eich amgylchiadau, bridio cŵn anghyfreithlon, gorfodi a pherchnogaeth gyfrifol. Fel rhan o'r ymgyrch hon, gwnaethom hefyd gyhoeddi tudalennau gwe pwrpasol ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵnpherchnogaeth cathod a chyfrifoldeb, gan gyfeirio at ddeunydd perthnasol a gynhyrchwyd gan aelodau ein trydydd sector gan gynnwys Dogs Trust, Blue Cross, yr RSPCA a Cat's Protection. 

Ar ôl ymgynghori ar gynigion, rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod CCTV mewn lladd-dai, ym mhob ardal lle mae anifeiliaid byw yn bresennol, yn y gwanwyn.

Mae yna adegau pan fo manteision clir i gydweithio â Llywodraeth y DU i wella lles anifeiliaid. Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd ar gynigion i wella lles anifeiliaid yn ystod y broses o'u cludo. Cyflwynwyd y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i Senedd y DU ym mis Rhagfyr. Bil Llywodraeth y DU yw hwn i wahardd allforio da byw a cheffylau i'w lladd. Rwyf am weld diwedd ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd. Dyna pam rwyf wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r Bil pwysig hwn wrth iddo agosáu at ei gamau terfynol.

Mae ymosodiadau da byw yn parhau i fod yn bryder a gyda'r tymor wyna wedi hen ddechrau, byddwn yn annog perchnogion cŵn i ymgysylltu â'n tudalennau gwe perchnogaeth gyfrifol ac ymgyfarwyddo â Chod Cefn Gwlad Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ymosodiadau ar dda byw yn achosi goblygiadau emosiynol, ariannol a lles ac mae modd eu hatal trwy fod yn berchennog cyfrifol ar gŵn. 

Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lwyddiant, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid ac asiantaethau sy'n allweddol i'r cynnydd a wnaed hyd yma. Roedd presenoldeb amlasiantaethol a'r camau dilynol a wnaed yn dilyn yr Uwchgynhadledd a'r gweithdai ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth. Edrychaf ymlaen at weld beth arall y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd ym mlwyddyn tri.