Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn ochr yn ochr â gosod Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sef adroddiad statudol o dan Adran 23 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”). Wrth gyhoeddi’r ymateb hwn, hoffwn ddiolch i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“y Comisiynydd”) a’i dîm am eu hadroddiad trylwyr, cadarn a gwybodus. Cafodd yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ei gynnwys ym mhensaernïaeth y Ddeddf fel mecanwaith atebolrwydd hanfodol a fydd yn sbarduno Cymru tuag at gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol. Rwy’n annog pob corff cyhoeddus a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ymgysylltu’n llawn â’r Comisiynydd wrth ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.

Ar 20 Mawrth 2025, mynychais ddigwyddiad Goleuo’r Dyfodol yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad hwn yn un o gyfres o weithgareddau a digwyddiadau a gyflwynwyd fel rhan o gynllun cenedlaethol dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar gyfer nodi dengmlwyddiant y Ddeddf. Er bod y digwyddiad yn cydnabod y llu o lwyddiannau dros y deng mlynedd diwethaf, ac yn edrych ymlaen at ddyfodol y Ddeddf, gellir a dylid gwneud llawer mwy i gyflawni ein nodau llesiant. Ar 29 Ebrill mynychais hefyd fforwm i arweinwyr cyrff cyhoeddus yn Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau'r Dyfodol yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Roedd yn galonogol yno gweld  arweinwyr o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru yn dangos arweinyddiaeth unigol a dyfeisgarwch wrth ddefnyddio’r Ddeddf yn offeryn grymuso fel y’i bwriadwyd.

Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd yn garreg filltir bwysig tuag at weithredu ymrwymiad i lesiant Cymru yn well.

Mae’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu’r canlynol:

  • Asesiad o gynnydd ar y Ddeddf;
  • Cyngor wedi’i dargedu i Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar ffurf 50 o argymhellion; ac
  • Enghreifftiau o newid sydd eisoes yn digwydd drwy wasanaethau cyhoeddus.

Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol y mae Cymru wedi’i wneud mewn sawl maes polisi, gan bwysleisio lle nad yw ein nodau llesiant yn cael eu cyflawni’n llawn. Mae’r Comisiynydd wedi penderfynu canolbwyntio ei ganfyddiadau a’i argymhellion ar y saith cenhadaeth a’r meysydd ffocws yn ei Strategaeth Cymru Can

Rwy’n falch o nodi ein hymateb cychwynnol i’r canfyddiadau a’r argymhellion a wnaed yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd. Mae’n rhoi trosolwg mewn ymateb i bob un o feysydd ffocws a chenadaethau Cymru Can y Comisiynydd. Ochr yn ochr â’r holl gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried pob un o’r argymhellion yn fanylach dros yr hydref a byddant yn mynd yn ymwneud yn gadarnhaol â'r Comisiynydd a'i dîm i fwrw ymlaen â'r argymhellion.

Gweithredu ac Effaith

Dros y degawd diwethaf, mae’r Ddeddf wedi trawsnewid sut mae cyrff sector cyhoeddus Cymru yn blaenoriaethu llesiant pobl a’r blaned. Mae’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn dangos y newid yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gweithredu, gan arwain at greu timau datblygu cynaliadwy ymroddedig a phrosesau newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n cyd-fynd â’r pum ffordd o weithio. O ran Llywodraeth Cymru, tynnir sylw at hyn wrth gyflawni polisïau allweddol ar drafnidiaeth, yr economi gylchol, caffael cymdeithasol gyfrifol a mwy.

Fodd bynnag, mae meysydd lle mae’n rhaid gwneud datblygiadau i wella gweithrediad y Ddeddf. Rwy’n cydnabod y galw am werthusiad ôl-ddeddfwriaethol o’r Ddeddf ac rwy’n cydnabod y galw diweddar am hyn yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn adroddiad statudol yr Archwilydd Cyffredinol “Dim amser i’w golli: Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol”. Yn yr hydref, byddaf yn ystyried adroddiad ar gam cyntaf gwerthusiad o’r Ddeddf gan gymrawd polisi o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a, phan ddaw i ben, canfyddiadau’r ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i’r Ddeddf gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd.

Mae fy swyddogion yn ymgysylltu â chydweithwyr o bartneriaid cyflawni allweddol, gan gynnwys cydweithwyr o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, i wreiddio gwelliannau i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a nodwyd drwy raglen Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwreiddio’r 5 Ffordd o Weithio ymhellach o fewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynyddu eu dealltwriaeth systemig o’r Ddeddf a’r defnydd ohono.

Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus

Yn Llywodraeth Cymru, mae trefniadau i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn cael eu cyflawni drwy LlC2025, ein rhaglen tair blynedd ar gyfer datblygu sefydliadol. Drwy LlC2025 rydym yn rhoi egwyddor datblygu cynaliadwy’r Ddeddf wrth galon sut rydym yn ymddwyn a phopeth rydym yn ei wneud. Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddwyd Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Daeth hyn â dros 50 o gamau gweithredu at ei gilydd sydd wedi’u cynllunio i ddyfnhau’r ddealltwriaeth a’r defnydd o’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn credu fod ein dull gweithredu yn anfon neges bwysig i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru bod angen gwella a myfyrio parhaus ar agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ym mis Mai 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad cynnydd ar y Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus a oedd yn dangos ein bod wedi cwblhau 18 o’r camau gweithredu yn y Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus gwreiddiol, tra bo 15 arall wedi cael eu hymgorffori yn ein prosesau bob dydd. Mae’r 17 cam gweithredu sy’n weddill ar wahanol gamau cynnydd. Dyma rai o’r camau gweithredu nodedig a gwblhawyd: 

  • Gweithio gyda’r Comisiynydd i greu Hwb Dyfodol a fydd yn meithrin arbenigedd a chapasiti ym maes rhagargoeli a meddwl am y dyfodol ac yn codi ymwybyddiaeth o Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol ar hyd a lled Cymru.
  • Lansio Fframwaith Gallu ym maes Polisi Llywodraeth Cymru a fydd yn cefnogi swyddogion ac eraill i roi’r Ddeddf ar waith.
  • Gweithio gyda’r Comisiynydd, y Brifysgol Agored ac eraill i greu Ti, Fi a Dyfodol Cymru / You, Me and the Future of Wales a fydd yn helpu pawb yng Nghymru i ddysgu sut y gallent chwarae rhan weithredol yn y gwaith o greu’r Gymru rydyn ni ei eisiau. 

Yr Hinsawdd a Natur

Roedd datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019 a datganiad y Senedd o argyfwng natur yn 2021 yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael ar frys â newid yn yr hinsawdd a dirywiad yn ein bioamrywiaeth. Er bod cynnydd pendant wedi’i wneud tuag at dargedau, mae yna wir angen o hyd i gyflymu’r gweithredu a sicrhau bod pawb yn cael eu dwyn ymlaen ar y daith hon.

Bioamrywiaeth

Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gerbron y Senedd gan y Dirprwy Brif Weinidog ar 2 Mehefin 2025. Mae’r Bil yn cyflwyno fframwaith gosod targedau sy’n cynnwys gofynion i werthuso, monitro ac adrodd ar gynnydd. Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi cynlluniau manwl yn amlinellu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r targedau, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. 

Wrth osod targedau, rhaid i Weinidogion Cymru fod yn fodlon y bydd cyrraedd y targedau yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn enwedig drwy gynyddu nifer y rhywogaethau brodorol, gwella gwydnwch ecosystemau neu gynyddu amrywiaeth genetig.

Adfer Afonydd

Gan adeiladu ar gyngor y Comisiynydd, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi ehangu ffocws yr Uwchgynadleddau Afonydd blaenorol i gynnwys ansawdd dŵr yn ehangach. Canolbwyntiodd yr Uwchgynhadledd gyntaf, a gynhaliwyd ym mis Mai 2025, ar fuddsoddiad cwmnïau dŵr, draenio cynaliadwy ac atebion ar sail natur. Bydd yr Uwchgynhadledd nesaf, ym mis Medi 2025, yn canolbwyntio ar amaethyddiaeth a defnydd tir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid ar gyfer Byrddau Rheoli Maethynnau ar gyfer 2025/26 gan eu galluogi i weithredu’r cynlluniau cyflawni y maent wedi’u datblygu ac ymateb i’r materion penodol sy’n wynebu pob afon.

Buddsoddiad Cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy ar gyfer adfer natur. Bwriad y dull hwn yw cynyddu ac arallgyfeirio’r cyllid sydd ar gael fel y gallwn fynd i’r afael yn effeithiol â’r argyfwng natur a’r pwysau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth - gan gynnwys newid hinsawdd, llygredd, a rheolaeth anghynaladwy ar adnoddau naturiol. Bydd cynyddu graddfa a chyflymder y camau gweithredu i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth yn gofyn am gynyddu ac arallgyfeirio’r cyllid sydd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys cyllid gan y sector preifat, mentrau dan arweiniad y gymuned a rhoddion dyngarol. 

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy, bydd Llywodraeth Cymru, ar ôl dadansoddi’r ymatebion, yn cydweithio i ddatblygu strategaeth cyllid natur. I ddechrau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal cyfres o brosiectau peilot i gael rhagor o wybodaeth am sut gall buddsoddiad preifat gefnogi’r gwaith o adfer natur a chyflawni Sero Net.

Gan gydnabod yr angen am gapasiti ychwanegol yn y fan hon, rydym yn ariannu swydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddatblygu cynigion sy’n barod am fuddsoddiad. Rydym hefyd yn ariannu rheolwr rhaglen ar gyfer MARINE Fund Cymru a fydd yn ceisio buddsoddi mewn rhaglenni a phrosiectau sy’n galluogi, yn cynnal ac yn gwella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol.

Ynni Adnewyddadwy Lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau adnewyddadwy ac ynni carbon isel sy’n cael eu datblygu gan sefydliadau sydd wedi’u lleoli’n gyfan gwbl yng Nghymru, gan gynnwys grwpiau cymunedol, neu sy’n darparu budd cymesur i’r gymuned leol neu i Gymru gyfan. Mae seilwaith cynhyrchu ynni dan berchnogaeth leol yn gyfle cryf i gadw gwerth economaidd, gan gyfrannu at ffyniant. Cyhoeddwyd ein polisi ‘Perchnogaeth Leol ar Gynhyrchu Ynni’ yn 2020 ac mae’n cyd-fynd â’n targedau ar gyfer cynhyrchu dan berchnogaeth leol. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd da tuag at ein targed uchelgeisiol o gael o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol erbyn 2035. 

Er mwyn cefnogi cymunedau a datblygwyr i groesawu ynni adnewyddadwy, darparodd Llywodraeth Cymru ganllawiau yn y ddogfen Perchnogaeth leol a rhanberchnogaeth ar brosiectau ynni yng Nghymru. Ar ben hynny, mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Ynni Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru yn cefnogi datblygwyr masnachol sy’n gweithio gyda sefydliadau cymunedol i fwrw ymlaen â phrosiectau ar sail rhanberchnogaeth. 

Yn ddiweddar, caeodd Ynni Cymru ei ffenestr cyflwyno ceisiadau ar gyfer cynllun 2025-26 a bydd yn gweithio i ddyfarnu £10 miliwn mewn grantiau i gefnogi cynlluniau ynni lleol yn y flwyddyn i ddod.

I ategu ein cefnogaeth a’n camau gweithredu yn y man cymunedol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2024 y byddai Trydan Gwyrdd Cymru, datblygwr ynni yng Nghymru a sefydlwyd i gyflymu’r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn enwedig ynni gwynt ar y tir, yn cael ei sefydlu ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru a chynyddu eu gwerth i bobl Cymru. 

Dangosodd Adroddiad Effaith Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fod 8 prosiect solar ffotofoltäig cymunedol wedi cael eu cefnogi gan y gwasanaeth ynni hyd at eu cyfnod cau ariannol yn 2024/25. Roedd hyn yn cynnwys 1.59MW o brosiectau solar ffotofoltäig cymunedol newydd gydag arbedion carbon gydol oes o 4,250 tunnell o CO2. Ers 2018, mae’r gwasanaeth ynni wedi cefnogi 44 o brosiectau ar gyfer sefydliadau cymunedol a 9 prosiect ar gyfer cynghorau cymuned.  

Iechyd a Lles

Rwy’n croesawu ffocws Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ar bwysigrwydd symud at system iechyd sy’n canolbwyntio ar atal a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys drwy wella camau gweithredu ar benderfynyddion ehangach iechyd a gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus. Mae’r ffocws hwn yn adlewyrchu’r cyfeiriad a’r blaenoriaethau a nodir yn Cymru Iachach, ein strategaeth gyffredinol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Cymru eisoes yn genedl sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Dangosir yr ymrwymiad hwn drwy ymgorffori tegwch iechyd fel elfen strwythurol o’n fframweithiau deddfwriaethol a strategol gan gynnwys y Ddeddf ond hefyd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’n dull gweithredu ‘iechyd ym mhob polisi’. Er gwaethaf y fframwaith hwn sy’n destun cenfigen, mae gormod o bobl yn marw’n rhy gynnar oherwydd cyflyrau a chlefydau, y gellid eu hatal. Ac mae gormod o flynyddoedd o ddisgwyliad oes iach yn cael eu colli oherwydd afiechyd ac anabledd. 

I gefnogi ein hymdrechion i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ar ddiwedd mis Mawrth cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddwn yn gweithio gyda Sefydliad Tegwch Iechyd yr Athro Syr Michael Marmot i ddod yn Genedl Marmot gyntaf y byd. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu gweithio gyda nifer o gymunedau ar hyd a lled Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd gan ddefnyddio egwyddorion Marmot, yn yr un modd ag y mae Torfaen wedi bod mor llwyddiannus yn ei wneud ers i Went ddod yn rhanbarth Marmot. Rydym yn croesawu’r gefnogaeth i’r fenter hon fel rhan o argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol .

Ar ben hynny, rydym hefyd yn bwriadu gosod rheoliadau yn yr hydref i orfodi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio asesiadau o’r effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau, gan gryfhau ein dull gweithredu iechyd ym mhob polisi. Mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn atgyfnerthu’r ffaith bod atal salwch ddim yn waith y GIG yn unig, rhaid iddo fod wrth galon ein holl wasanaethau a chael ei ymgorffori ar draws strategaethau a chynlluniau. Mae’r blociau adeiladu ar gyfer iechyd da yn cynnwys bod â digon o arian yn ein pocedi, gwaith teg, addysg dda, a chartref diogel a chynnes. 

Yn y GIG, mae iechyd y boblogaeth ac atal salwch yn flaenoriaeth allweddol yn Fframwaith Cynllunio’r GIG ar gyfer 2025-28 ac yn faes y disgwylir i Berfformiad a Gwella GIG ganolbwyntio arno. Mae’r ffocws hwn yn cynnwys dangos sut mae’r GIG wedi ymgorffori ac ysgogi’r gwaith i atal salwch, gan sicrhau bod ymyriadau ar gyfer atal yn cael eu gwreiddio yn ei waith cynllunio, ei ddatganiadau ansawdd a’i ddatblygiadau rhwydwaith clinigol, a chyda’r data a’r dystiolaeth sydd ar gael, dangos symudiad tuag at fesurau ataliol wrth ddarparu gofal y GIG.

Rydym yn cydnabod bod atal afiechyd hefyd yn ymwneud â lleihau rhai o’r ffactorau risg mawr sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd hirdymor a chlefydau - ysmygu, alcohol, deiet sy’n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen a diffyg ymarfer corff. O’r rhain, mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn tynnu sylw’n briodol at yr angen i atal y cynnydd mewn gordewdra sydd wedi bod yn codi’n raddol dros nifer o flynyddoedd. 

Ein Strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach yw ein strategaeth hirdymor i fynd i’r afael â gordewdra a gorbwysau yng Nghymru, fel y nodir yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd, a disgwylir i’r nesaf gael ei gyhoeddi yn 2025. 

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar wneud y dewis iach yn ddewis hawdd, ond mae hefyd yn cydnabod bod llawer o’r rhesymau dros ein lefelau gorbwysau a gordewdra yn gymhleth ac yn gymdeithasol a bydd angen newid y system ar raddfa eang i’w hymgorffori. 

Mae tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio mewn rhannau eraill o’r byd yn dangos bod troi’r gromlin gordewdra ar lefel poblogaeth yn dasg enfawr sy’n galw am newid ar raddfa eang ar draws cymdeithas ac y bydd yn cymryd amser hir i’w gwreiddio. Bydd y cynllun cyflawni nesaf yn targedu camau gweithredu ac adnoddau ar ddechrau bywyd, tuag at blant a phobl ifanc, drwy ddull weithredu system gyfan ar lefelau cenedlaethol a chymunedol, i gael canlyniadau go iawn sy’n para cwrs bywyd ac yn gwreiddio arferion da ac iach mewn bywyd fel oedolion. 

Diwylliant a’r Gymraeg

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant. Roedd y ddogfen hon, a gydnabuwyd mewn Datganiad Llafar a wnaed gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar 20 Mai 2025, yn cydnabod pwysigrwydd y Ddeddf o ran gwella llesiant diwylliannol pobl Cymru. Mae lansio’r ‘Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant’ yn rhoi hwb a ffocws o’r newydd ar gyfer dyfodol tymor canolig i dymor hir y sector diwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £15 miliwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau newydd hyn, gan gynnwys £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol yn y sector celfyddydau.

Asedau Cymunedol

Gall asedau cymunedol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o rymuso cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Comisiwn Asedau Cymunedol i adolygu’r system bresennol o drosglwyddo asedau cymunedol. Bydd y Comisiwn yn cyflwyno ei adroddiad ac yn gwneud argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn hydref 2025. Bydd canfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn, yn ogystal â chanfyddiadau Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, yn sail i’n dull gweithredu o ran gwireddu’r potensial ar gyfer asedau cymunedol yng Nghymru. Mae gwaith y Comisiwn yn cynnwys ystyried y rôl y gall deddfwriaeth Hawl y Gymuned i Brynu ei chwarae yng Nghymru, ac wrth i ni aros am farn y Comisiwn, rydym yn cydnabod bod gan ddeddfwriaeth y potensial i chwarae rhan bwysig iawn.

Cyhoeddodd Ystadau Cymru Ganllaw Arferion Gorau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol sy’n cynnwys canllaw diwydrwydd dyladwy, enghraifft ymarferol o’r broses drosglwyddo, ac astudiaethau achos bywyd go iawn. Bydd y canllawiau’n cael eu hadolygu a’u diweddaru, ar ôl cael argymhellion y Comisiwn.

Cymraeg yn Llywodraeth Cymru a Chyrff Cyhoeddus

Fel y dangosir yn yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, mae defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn hanfodol i hyfywedd yr iaith ar hyd a lled Cymru. Mae nod 6 Cymraeg 2050, sef ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg, yn amlinellu ein gweledigaeth a’n strategaeth i gynorthwyo gweithleoedd i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio, ymarfer a dysgu Cymraeg. Mae Safonau’r Gymraeg (“safonau”) yn rhan bwysig o sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cynnig mwy o gyfleoedd i’w staff ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae safonau, ynghyd ag arweiniad a ddarperir gan Gomisiynydd y Gymraeg, wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus i wella’r ffordd maent yn cynllunio eu gweithlu dwyieithog ac yn darparu mwy o gyfleoedd i staff gydnabod, defnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg.

Yn ogystal, mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau yn ei strategaeth iaith Gymraeg ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o safonau a bennir o dan adran 26 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd yr adolygiad yn ystyried a oes angen diwygio unrhyw rai o’r safonau sy’n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau Cymraeg y gweithlu neu safonau hybu’r Gymraeg er mwyn hwyluso cyrraedd targedau a bennir yn strategaeth y Gymraeg, gan gynnwys targedau a osodir i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. 

Gwirfoddoli

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddoli a darparu cyfleoedd i bawb sy’n dymuno gwirfoddoli. Mae natur gwirfoddoli yn newid a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddatblygu Dull Newydd o Wirfoddoli. Bydd tair elfen i’r dull newydd hwn - gweledigaeth, fframwaith a chynllun gweithredu. Cafodd dwy o’r tair elfen hyn eu datgelu yn ystod Gofod3 ym mis Gorffennaf 2025 i greu’r adnodd ‘Dull Newydd o Wirfoddoli - y Fframwaith Gweledigaeth a Chyflawni’.

O’r gwaith rydym wedi’i wneud, er mwyn creu amgylchedd sy’n galluogi ar gyfer gwirfoddoli a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, gwyddom y bydd angen i ni sicrhau arweinyddiaeth gref; polisïau cefnogol ac ysgogiadau polisi, seilwaith da; a llywodraethiant a phartneriaethau cadarn. Bydd y Cynllun Gweithredu yn manylu ar yr anghenion yn y meysydd hyn ac awgrymiadau ar gyfer gwella yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir, a’r rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran helpu i’w cyflawni, gan gynnwys y cyfraniad y bydd yn ei wneud wrth symud tuag at economi llesiant.

Economi Llesiant

Ein gweledigaeth ni yw economi llesiant sy’n hybu ffyniant, yn amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pawb i gyflawni eu potensial. Mae hyn wedi’i wreiddio yn ein cynllun gweithredu economaidd presennol, Ffyniant i Bawb, gyda’i ddibenion blaengar o leihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth a llesiant ledled Cymru gyfan.

Cyflog Byw Gwirioneddol

Rydym wedi gweithio gyda sectorau penodol i annog pobl i fabwysiadu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hyn wedi cynnwys gofal cymdeithasol, lle rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig a chynorthwywyr personol, a’r sector manwerthu, lle rydym wedi gweithio drwy ein Fforwm Manwerthu i archwilio rhwystrau i’r Cyflog Byw Gwirioneddol a chodi ymwybyddiaeth o’i fanteision.   

Rydym hefyd yn cydweithio â Cynnal Cymru, y partner achredu Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru, gan roi cyllid blynyddol iddynt. Mae’r cymorth hwn yn gwella eu gallu i ymgysylltu â chyflogwyr, gan gynnwys cyrff cyhoeddus.  Mae nifer y cyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig yng Nghymru wedi parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. 

Mewn perthynas â chyrff cyhoeddus, ym mis Rhagfyr 2024, ysgrifennodd y Prif Weinidog at bob corff cyhoeddus yng Nghymru, gan eu hannog i ystyried manteision mabwysiadu’r Cyflog Byw Gwirioneddol a dod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig. Mae hyn yn dilyn gohebiaeth debyg a gyhoeddwyd mewn blynyddoedd blaenorol. 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau yng Nghymru sy’n cael arian cyhoeddus, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae’r Cod yn cynnwys 12 ymrwymiad, ac mae un ohonynt ar gyfer sefydliadau sydd wedi llofnodi i ystyried talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol a dod yn sefydliad achrededig Cyflog Byw Gwirioneddol.

Sector Busnes Cymdeithasol

Mae cefnogi busnesau cymdeithasol ar hyd a lled Cymru i ddatblygu a thyfu yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol a arweinir gan y gymuned yn rhan bwysig o’r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Mae sefydliadau cymunedol yn darparu cyfleoedd ar gyfer swyddi o ansawdd da, yn cefnogi economïau lleol ac, mewn llawer o achosion, yn diogelu asedau cymunedol a gwasanaethau hanfodol. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi mentrau cymdeithasol fel rhan o’i nodau ehangach sy’n ymwneud â thwf cynhwysol, gwydnwch cymunedol a chynaliadwyedd drwy raglenni megis Busnes Cymdeithasol Cymru a Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Mae mapio yn dangos bod ychydig dros 2,800 o Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru yn 2022, sy’n cyflogi tua 65,000 o bobl, sef cynnydd o 22% ers 2020. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cymorth i fentrau cymdeithasol drwy Busnes Cymru. Gall Busnes Cymru helpu i wella cadwyni cyflenwi ac mae’n gweithio gyda phrynwyr yn y sector cyhoeddus i alluogi busnesau yng Nghymru i sicrhau cyfran uwch o wariant y sector cyhoeddus. Mae hefyd yn darparu cyngor caffael i helpu busnesau, yn enwedig yn yr economi sylfaenol, cwmnïau sefydledig, a chlystyrau busnes, i wneud cais am gontractau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. 

Mae gan Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ddau argymhelliad ar y sector busnesau cymdeithasol - i osod targed i ddyblu maint y sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru erbyn 2035 ac i gefnogi mentrau cymdeithasol i ehangu i gadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae’r adroddiad yn nodi y bydd defnyddio’r dulliau hyn yn cyflawni uchelgais y Comisiynydd o gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol gan y byddai’n hyrwyddo meddwl hirdymor, cydlyniant cymunedol, a thwf economaidd cynhwysol. Gallai dyblu’r sector greu miloedd o swyddi, cynyddu perchnogaeth gymunedol ar asedau, sbarduno arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chyfrannu at nodau sero net drwy fentrau cymdeithasol gwyrdd. Yn ymarferol, mae manteision amlwg gan gynnwys mentrau cydweithredol a chymdeithasol yn ail-fuddsoddi eu helw’n lleol, darparu cyflogaeth sefydlog ac annog mentrau cymdeithasol i ymuno â chadwyni cyflenwi cyhoeddus a phreifat, lleihau’r ddibyniaeth ar gyflenwyr mawr nad ydynt yn lleol a meithrin arloesedd a chaffael moesegol.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Cenhadaeth newydd mewn perthynas â’n gweithgareddau yn yr Economi Sylfaenol. Roedd hwn yn ymateb i adborth gan randdeiliaid ac yn egluro ein nodau, ein camau gweithredu a’n gweithgareddau i sicrhau economi deg a llewyrchus ledled y wlad. Rydym yn canolbwyntio ar y sectorau hynny o’r economi sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n sail i fywyd bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau gofal ac iechyd (gan gynnwys gofal cymdeithasol a gofal plant), rheoli tai cymdeithasol, adeiladu adeiladau preswyl a masnachol, ynni a chyfleustodau, bwyd, gwasanaethau a manwerthu ar y stryd fawr, twristiaeth, a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Economi Sylfaenol yn rhan annatod o’n cenhadaeth economaidd - mae ei thyfu a’i chryfhau yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Oherwydd ei natur, mae’n drawsbynciol iawn, nid yn unig ar draws y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach, ond ar draws busnesau a bywyd pob dinesydd yng Nghymru, gan gyffwrdd â phob un o’r saith nod llesiant.

Mae’r Datganiad Cenhadaeth yn amlinellu pwysigrwydd y bobl sy’n gweithio yn y sectorau hyn, y nwyddau a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu a’r perthnasoedd economaidd a chymdeithasol sy’n sail iddyn nhw.  Mae hefyd yn nodi ein hamcanion Economi Sylfaenol o hybu swyddi a sicrhau cyflog teg; rhoi ‘mwy o fodd i fyw i aelwydydd’ a chynyddu mynediad cyffredinol at nwyddau a gwasanaethau sylfaenol o ansawdd uchel; adeiladu cadwyni cyflenwi lleol; helpu gyda datgarboneiddio ac annog arloesedd cydweithredol drwy fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a phrosiectau sy’n eiddo i’r gymuned.

Rydym hefyd yn gweithio ar set o fetrigau fel rhan o’r Datganiad Cenhadaeth a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Bydd y rhain yn ein helpu i greu darlun a mesur gwelliant ar draws yr Economi Sylfaenol yn ei chyfanrwydd, ac mewn sectorau allweddol. Maent yn cynnwys metrigau sy’n ymwneud â swyddi, twf y sector, gwaith teg a sgiliau.

Sgiliau ar gyfer Trawsnewidiad Cyfiawn

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn 2023 sy’n nodi 7 maes gweithredu allweddol. Ers hynny, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i fapio anghenion sgiliau sectorau allweddol ac wedi ymgynghori ar Fapiau a chrynodebau sgiliau’r Sector Allyriadau i’n helpu i ddeall cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen i gefnogi economi werdd yng Nghymru. Rydym yn defnyddio ein Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gael dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd ar hyd a lled Cymru ac rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddatblygu llwybrau gyrfa sero net clir. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Medr i edrych ar gyfleoedd i wneud y system cymwysterau a sgiliau yn fwy ymatebol i’r heriau deinamig o gefnogi diwydiannau Sero Net drwy wella canlyniadau ôl-16 yn ogystal â hyrwyddo tegwch a chyfle cyfartal.

Mae ein Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer galwedigaeth ac maent yn sail i amrywiaeth o gymwysterau prentisiaeth a chymwysterau galwedigaethol i oedolion ledled y DU a thramor. Mae Strategaeth y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cyfeirio at ymateb i’r agenda adferiad gwyrdd fel un o’i phrif flaenoriaethau. 

Deallusrwydd Artiffisial

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod Deallusrwydd Artiffisial yn creu manteision sylweddol i’r economi, i wasanaethau cyhoeddus ac, yn y pen draw, i’r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Rydym wedi datblygu set o egwyddorion i helpu i lywio’r defnydd cyfrifol o Ddeallusrwydd Artiffisial fel ei fod:

  • yn foesegol, yn ddibynadwy ac yn cyd-fynd â gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru;
  • yn gynhwysol, hygyrch a buddiol i bawb; arloesol, cydweithredol a chefnogol i’n hecosystem Ymchwil a Datblygu; a,
  • yn dryloyw, atebol, ac yn ddarostyngedig i’r llywodraethiant a’r oruchwyliaeth gywir.

I gefnogi hyn a sicrhau bod Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio’n gyfrifol ac yn foesegol ar draws sectorau yng Nghymru, mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi cyflogwyr yn y sector cyhoeddus ar sut i fabwysiadu’r technolegau newydd hyn. Mae’r canllawiau’n cymeradwyo egwyddorion mabwysiadu dull gweithredu partneriaeth gymdeithasol, cadw goruchwyliaeth a rhyngweithio dynol, sicrhau Gwaith Teg i bawb, meithrin gallu i reoli systemau Deallusrwydd Artiffisial, a diogelu swyddi. Gan adeiladu ar hyn, mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi dechrau ystyried sut i ddatblygu gweithlu medrus sy’n deall Deallusrwydd Artiffisial.

Canolfannau Atgyweirio ac Ailddefnyddio

Mae gan Lywodraeth Cymru ddau Ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chanolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio. Y rhain yw “Datblygu cyfleusterau ailgylchu cymunedol yng nghanol trefi a hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff”’ a “Cefnogi 80 o ganolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio yng nghanol trefi.”

Mae cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio wedi eu sefydlu mewn 18 o’r 22 awdurdod lleol, ac mae cyllid wedi’i gymeradwyo eleni ar gyfer y pedwar arall. Mae 130 o gaffis trwsio yn gweithredu ar hyd a lled Cymru gyda chymorth gan Caffi Trwsio Cymru drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yng nghanol trefi canolfannau gweithgareddau cymunedol, gyda mynediad hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym hefyd wedi ariannu Benthyg Cymru i gefnogi 30 Llyfrgelloedd o Bethau lle gall aelodau o’r cyhoedd logi eitemau am ffi nominal yn hytrach na phrynu rhai newydd. 

Mae’r gwaith hwn yn helpu i adfywio canol trefi.  Mae Aberdâr, Sir y Fflint a Chasnewydd yn enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth â thimau adfywio i ail-bwrpasu siopau gwag mewn trefi ac yng nghanol y ddinas sydd wedi cael eu hadnewyddu a’u troi’n ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio bywiog. 

Bwyd

Strategaeth Bwyd Cymunedol

Drwy’r Strategaeth Bwyd Cymunedol,, mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r uchelgais i feithrin gwydnwch bwyd lleol drwy bartneriaethau cydweithredol. Bydd y rhain yn galluogi dull gweithredu mwy gwybodus a chydgysylltiedig ar gyfer cynllunio a chyflenwi yn ymwneud â bwyd o fewn cymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i gael y mwyaf o’r potensial i fwyd lleol gyfrannu tuag at lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Bydd yn annog dulliau ataliol ar gyfer materion allweddol sy’n ymwneud â bwyd, megis tlodi bwyd a salwch sy’n gysylltiedig â deiet. Mae’r strategaeth yn gosod amcan i sicrhau’r manteision gorau posibl o ran tyfu yn y gymuned a garddwriaeth leol. Rydym am sicrhau twf o un flwyddyn i’r llall yn argaeledd ac amrywiaeth cynnyrch garddwriaethol lleol a chreu cysylltiadau cadwyn gyflenwi bwyd lleol newydd ar gyfer tyfwyr a ffermwyr cymunedol. Drwy’r strategaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynydd i helpu cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall sut mae ysgogi’r agenda fwyd, mabwysiadu systemau hirdymor ar gyfer gwydnwch bwyd lleol ac integreiddio polisïau bwyd yn eu cynlluniau llesiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid o dros £2m yn ystod 2025-26 i ddatblygu’r rhwydwaith o Bartneriaethau Bwyd Lleol ymhellach ar hyd a lled Cymru a chyflawni prosiectau bwyd cymunedol. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ar gyfer y partneriaethau hyn tan ddiwedd mis Mawrth 2028.

Bwyd o Bwys: Cymru

Mae Bwyd o Bwys: Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, yn dangos ein camau gweithredu ar y cyd, trawslywodraethol a’n dull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer polisi bwyd.  Mae’n cysylltu ein blaenoriaethau allweddol sy’n ymwneud â bwyd a diod yng Nghymru ar draws portffolios Gweinidogion. Fe’i lluniwyd gan ddefnyddio ein Fforwm Bwyd traws-Lywodraethol sy’n cyfrannu’n sylweddol at ein gwaith integredig a chyfannol o ddatblygu polisi bwyd, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Prydau Ysgol am Ddim a Rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o ran darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae’r cam pwysig hwn yn helpu i fynd i’r afael â thlodi plant, yn cefnogi dysgu, ac yn cyfrannu at well iechyd mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru. Mae plant sy’n bwyta’n dda yn dysgu’n well, yn teimlo’n well, ac yn tyfu’n gryfach. Gyda phlant yn treulio tua 40% o’u horiau effro yn yr ysgol, gall bwyd ysgol iachach siapio arferion bwyta gydol oes a lleihau anghydraddoldebau iechyd. 

Fodd bynnag, nid yw plant Cymru’n bwyta digon o ffrwythau a llysiau, gyda phlant o gartrefi tlotach yn bwyta’r lleiaf. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru ein safonau bwyd a maeth ar gyfer ysgolion cynradd i gyd-fynd â’r argymhellion dietegol diweddaraf, gan helpu pob plentyn yng Nghymru i ddatblygu arferion bwyta iach sy’n para am oes. Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion presennol ac mewn perthynas â llysiau, rydym yn cynnig cynyddu’r dognau o un i ddau bob dydd mewn prydau ysgol gynradd, ochr yn ochr â mwy o amrywiaeth o lysiau bob wythnos i annog dewisiadau iachach. Mae’r cynigion drafft yn nodi bod rhaid darparu o leiaf chwe math gwahanol o lysiau bob wythnos, ac o leiaf bedwar math gwahanol o ffrwythau. Yn ogystal â hyn, mae ein canllawiau statudol drafft yn cefnogi arlwywyr i ddarparu bwyd ysgol sy’n cydymffurfio ac yn annog y defnydd o lysiau tymhorol lle bo hynny’n bosibl.

Mae canlyniadau ein prosiectau bwyd a ariennir gan yr Economi Sylfaenol yn dangos cynnydd mewn bwyd lleol ar fwydlenni ysgolion, gyda chyflenwyr o Gymru yn nodi twf sylweddol mewn cynnyrch a ddosberthir i ysgolion. 

Mae’r prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’, sydd wedi ei ariannu gan yr Economi Sylfaenol, wedi gweld tyfwyr yn gweithio gyda’r cyfanwerthwr, Castell Howell, i ddatblygu 8 tyfwr newydd sy’n cyflenwi tua 10 tunnell o lysiau organig i ysgolion mewn 6 Awdurdod Lleol. Mae hyn wedi arwain at werthiannau lleol o dros £100,000, a fyddai fel arall yn mynd y tu allan i Gymru. Mae’r gweithgarwch hwn yn cael ei gynyddu a’i ehangu yn ystod 2025/26 i gynnwys mwy o dyfwyr, cyfanwerthwyr ac Awdurdodau Lleol.

Mae gwaith Larder Cymru o adolygu bwydlenni ysgolion a gwneud newidiadau er mwyn cynnwys bwyd mwy cynaliadwy a thymhorol o Gymru wedi golygu bod Cyngor Caerffili bron â dyblu’r swm y mae’n ei wario ar gynnyrch o Gymru.

Gosod Cyllideb ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Cynllun Gwella’r Gyllideb 

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylem weithio i leihau ansicrwydd o ran cyllid, a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yn llawn yr ansicrwydd o ran cyllid sy’n gysylltiedig â’r broses bresennol o bennu’r gyllideb. Fodd bynnag, rhaid i hyn fod yn amodol ar y cyfyngiadau penodol yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddynt. Mae amseriad digwyddiadau Cyllidol y DU, cylch etholiadol Llywodraeth y DU a chylch etholiadol y Senedd i gyd yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i gyflawni setliadau amlflwyddyn. 

Mae Cynllun Gwella’r Gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhoi ein gweledigaeth i wella proses gyllideb Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio er mwyn sicrhau gwelliant parhaus. 

Er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu uchelgeisiau tymor hir, rydym yn defnyddio arbenigedd y Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb, ochr yn ochr ag amrywiaeth o arbenigwyr a llywodraethau eraill. Nod y Grŵp hwn yw darparu cyngor arbenigol ar sut i weithredu gwelliannau i’n prosesau treth a chyllideb yn unol â’n Cynllun Gwella’r Gyllideb. 

Cyllidebu Ataliol 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio dull ataliol, lle bo hynny’n bosibl, ym mhrosesau ei chyllideb a’i chynlluniau gwario. Rydym wedi gweithio gyda swyddfa’r Comisiynydd i sefydlu diffiniad o atal sy’n glir ac yn hawdd ei ddeall. Rydym wedi ymrwymo o hyd i weithio’n agos gyda’r Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb i wella sut rydym yn defnyddio ac yn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth baratoi ar gyfer Cyllidebau Drafft.  

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r ddeialog barhaus gyda Phwyllgor Cyllid y Senedd a’n rhanddeiliaid i nodi a chytuno ar ba gamau gweithredu a pha elfennau o gyllid y dylid eu hystyried yn rhai ataliol.

Mae egwyddor hirsefydlog bod Llywodraeth Cymru yn osgoi neilltuo cyllid gan y gall hyn leihau gallu sefydliadau i reoli eu cyllidebau eu hunain yn unol â’u cyfrifoldebau. Mae’n heriol ynysu cyllid ar gyfer atal ac ymyrryd yn fuan yn effeithiol ac yn deg heb danseilio’r dull gweithredu ehangach o atal. Mae angen cael cydbwysedd rhwng darparu gwasanaethau ar unwaith a gallu cynllunio ar gyfer y tymor hir i atal yr angen i gael mynediad at y gwasanaethau hynny.  

Dyma’r Dyfodol

Hwb Dyfodol a Hyrwyddwyr Dyfodol

Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru Hwb Dyfodol, ochr yn ochr â phartneriaid yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a chyrff cyhoeddus. Mae Hwb Dyfodol yn grŵp newydd sy’n cynnwys nifer o randdeiliaid. Cafodd ei sefydlu i feithrin sgiliau o ran meddwl yn y tymor hir. Mae wedi blaenoriaethu cyfranogiad ar draws sectorau a sawl cenhedlaeth ac mae’n gweithio i ddatgloi syniadau ac atebion a fydd yn arwain at weithredu integredig ac ataliol hirdymor ar draws ein cyrff cyhoeddus. Lansiwyd Hwb Dyfodol yn ystod digwyddiad Goleuo’r Dyfodol yng Nghaerdydd ar 20 Mawrth, a oedd yn dathlu dengmwlyddiant y Ddeddf. 

Mae Llywodraeth Cymru yn bartner blaenllaw yn y gwaith o greu a defnyddio Hwb Dyfodol ac, felly, mae’n aelod craidd o’r strwythur llywodraethiant hwn gydag adnoddau penodol i gyflawni’r swyddogaeth hon. Ar hyn o bryd, mae’r adnodd hwn wedi canolbwyntio ar ffurfio Hwb Dyfodol ond bydd nawr yn ymgorffori swyddogaeth ‘Hyrwyddwr Dyfodol’ hefyd.

Yn ogystal, mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith cyn-fyfyrwyr o 17 o swyddogion ifanc sydd wedi graddio o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Academi, sy’n cael ei rhedeg gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn iddynt allu ymgorffori’r Ddeddf a meddwl am y dyfodol yn arferion gwaith o ddydd i ddydd Llywodraeth Cymru. 

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod allan ei gweledigaeth ar gyfer Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i’n helpu ni i greu Cymru rydym yn dymuno byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym am weithio gyda’n gilydd ar draws sectorau i rannu arbenigedd, symleiddio prosesau a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyflawni dros Gymru. Mae timau ymroddedig yn Llywodraeth Cymru sydd â’r rôl o gefnogi meysydd penodol o weithlu’r sector cyhoeddus wrth iddynt lywio effaith byd sy’n newid.

Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol

Yn 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Hadroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2026. Mae’r adroddiad hwn yn ddyletswydd statudol o dan y Ddeddf ac mae’n dwyn ynghyd, mewn ffordd integredig, y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy’n effeithio ar Gymru, ei phobl a’i chymunedau. Bydd Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2026 yn adeiladu ar yr Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol statudol cyntaf yn 2016 a’r ail un yn 2021. Bydd angen i’r adroddiad statudol nesaf hwn wella ymwybyddiaeth a hygyrchedd yr adnodd, diweddaru’r data a’r cynnwys; canolbwyntio ar ddefnyddio’r adnodd; ac archwilio beth yw’r goblygiadau polisi i Gymru.