Neidio i'r prif gynnwy

Creu system y Dreth Gyngor decach i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae’r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu:

  • ysgolion
  • gofal cymdeithasol
  • plismona
  • gwasanaethau trafnidiaeth leol
  • cannoedd o wasanaethau lleol hanfodol eraill

Canran gyfartalog gwariant y cynghorau ar wasanaethau

Image
Siart gylch sy’n dangos canran gyfartalog gwariant y cynghorau ar wasanaethau. Mae’r gwariant wedi’i rannu fel hyn: 33% Addysg, 26% Gwasanaethau cymdeithasol, 10% Yr Heddlu a'r Gwasanaethau Tân ac Achub, 10% Tai, 21% Pob gwasanaeth arall, Cyfanswm o 100%

 

Mae ‘pob gwasanaeth arall’ yn cynnwys gwariant ar amrywiaeth eang o wasanaethau eraill, fel yr amgylchedd, cynllunio a datblygu economaidd, llyfrgelloedd a hamdden, ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth.

Ffynhonnell: Gwariant refeniw llywodraeth leol wedi’i gyllidebu yn 2023 i 2024 (StatsCymru).

Mae'r Dreth Gyngor yn fath cyffredinol o dreth y mae pob un ohonom yn cyfrannu ati i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ein hardaloedd lleol. Nid yw wedi’i chynllunio i fod yn dâl uniongyrchol am bob gwasanaeth y gallech ei ddefnyddio.

Mae’r Dreth Gyngor rydych yn ei thalu yn seiliedig ar werth eich eiddo, y cartref rydych yn byw ynddo, gyda phwy arall rydych yn byw ac, mewn rhai achosion, faint o arian sydd gennych.

Mae pob eiddo domestig yng Nghymru yn cael ei roi mewn un o naw band (bandiau A i I). Mae’r bandiau yn seiliedig ar faint yw gwerth cartref a’r tir y mae’n sefyll arno.

Os ydych yn cael anhawster talu eich bil Treth Gyngor, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hynny heb oedi. Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o gyngor a chymorth ar wefan Advicelink Cymru, neu drwy ffonio Llinell Gymorth Advicelink ar 0800 702 2020.

Creu system y Dreth Gyngor decach i Gymru

Roedd ein hymgynghoriad Cam 1 (Gorffennaf i Hydref 2023) yn amlinellu ein nodau cyffredinol a’n rhaglen ar gyfer gwneud y Dreth Gyngor yn decach. Roedd ein hymgynghoriad Cam 2 (Tachwedd 2023 i Chwefror 2024) yn cynnig tri dull o newid y system, a thri dewis ar gyfer pryd y dylai’r newidiadau hynny gael eu rhoi ar waith.

Yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym ni

Rydym wedi gwrando ar yr hyn gwnaethoch ei ddweud wrthym drwy’r ymgynghoriad Cam 2. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu diwygio’r Dreth Gyngor dros yr amserlen arafach a gynigiwyd, gan wneud newidiadau yn 2028, gan mai dyma oedd y farn fwyaf poblogaidd. 

Bydd cynlluniau yn cael eu datblygu ymhellach i edrych ar ailbrisio eiddo a sut dylai’r bandiau treth a’r taliadau gael eu diwygio. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau pellach yn nhymor nesaf y Senedd. 

Rydym yn cyflawni deddfwriaeth sy’n gwneud cylchoedd ailbrisio rheolaidd ar gyfer y Dreth Gyngor yn gyfraith, drwy’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) sy’n cael ei ystyried yn y Senedd ar hyn o bryd. Byddwn yn ceisio diwygio’r Bil i gynnal ymarferion ailbrisio yn amlach ac yn fwy rheolaidd, bob 5 mlynedd, o 2028. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y prisiadau yn cael eu diweddaru’n gyson, a’ch bod yn talu’r swm cywir o’r Dreth Gyngor.

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i wella elfennau eraill o’r Dreth Gyngor, drwy:

  • adolygu’r trefniadau ar gyfer disgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau, er mwyn sicrhau bod y rhain yn addas i’r diben ac yn cyd-fynd â nodau’r polisi. Mae 53 o gategorïau i’w hadolygu
  • adolygu’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cenedlaethol, gan ddarparu cymorth ariannol hanfodol i aelwydydd incwm isel. Rydym wedi ymrwymo i gynnal y cynllun a’i wella
  • ymgymryd â gwaith rheoleiddio i ymwreiddio’r arferion gorau wrth ymdrin ag aelwydydd sy’n cael anhawster a chanddynt ôl-ddyledion
  • parhau i godi ymwybyddiaeth o sut mae’r Dreth Gyngor yn gweithio a’r hyn y mae’n talu amdano, mynd i’r afael â chamsyniadau cyffredin a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o gymorth sydd ar gael i bobl 
  • ymgymryd â gwaith rheoleiddio i wella’r broses apelio fel ei bod yn fwy effeithiol ac yn haws ei defnyddio, gan wella tryloywder gwybodaeth

Adolygu disgowntiau a gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae bron hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn cael rhyw fath o ddisgownt neu ostyngiad yn eu bil Treth Gyngor. Mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r trefniadau hyn oherwydd eu bod wedi bod ar waith ers amser maith, er mwyn sicrhau bod y rheolau’n parhau i gyfrannu at system deg.

Mae adolygiad ar y gweill o’r 53 o gategorïau o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau. Byddwn yn rhyddhau ymgyngoriadau ar newidiadau penodol wrth iddynt gael eu datblygu.

Rydym wedi penderfynu cadw’r disgownt person sengl o 25% i oedolion. Rydym wedi ymrwymo i wella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sy’n rhoi cymorth hanfodol i tua 261,000 o aelwydydd incwm isel ym mhob cwr o Gymru. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad technegol ar ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2024. Mae’r ymgynghoriad technegol hwn yn cynnig gwneud nifer o newidiadau i’r cynllun er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad iddo a’i wneud yn symlach i’w weinyddu. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6 Mehefin 2024.

Rydym yn parhau i fynd i’r afael ag effaith cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi ar gymunedau lleol. Bydd rhagor o amser i’r polisïau hyn arwain at effeithiau cadarnhaol ar gyflenwadau tai, cyn inni gyflwyno newidiadau pellach i’r Dreth Gyngor. 

Gwella mynediad at wybodaeth

Rydym yn gwybod o ymchwil flaenorol nad yw rhai pobl yn gwybod sut mae system y Dreth Gyngor yn gweithio, am beth y mae’n ei dalu, sut mae penderfyniadau amdani yn cael eu gwneud, a pha sefydliad sy’n gyfrifol am benderfynu ar y gwahanol reolau.

Rydym wedi ymrwymo i wella ymwybyddiaeth o’r Dreth Gyngor a gwella mynediad at wybodaeth drwy ein rhaglen ddiwygio ehangach.

Proses fwy effeithiol ar gyfer apelio

Byddwn yn diogelu hawliau pobl i apelio fel rhan o unrhyw newidiadau i’r system yn y dyfodol, gan ddefnyddio sefydliadau annibynnol fel Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Hwyluso’r broses o lywio rhwng y naill sefydliad a’r llall, a’i gwneud yn fwy tryloyw fydd ein nod.