Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond gan weithredu hefyd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig trwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’):

  • cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
  • lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, 
  • cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu
  • cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau sy’n cael eu datblygu ar gael yn Grantiau a thaliadau gwledig | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.

Mae’r nodiadau cyfarwyddyd hyn yn esbonio’r cynllun Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig (Ffermio Bro) a’r math o brosiectau a allai fod yn gymwys i gael cymorth. Darllenwch nhw’n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler ‘Gwneud cais am grant Ffermio Bro’ yn adran I a’r llyfryn Sut i gwblhau.

Adran A: cyflwyniad

Mae ein Tirweddau Dynodedig (Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol) yn arbennig ac unigryw ac mae angen eu rheoli, eu gwella a’u diogelu gan gefnogi’r ffermwyr a’r cymunedau sy’n gweithio ynddynt. (Mae’r Tirweddau Dynodedig yn cynnwys 3 Pharc Cenedlaethol a 5 Tirwedd Genedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol). Maent yn gorchuddio 24% o Gymru). 

Datblygwyd Ffermio Bro er mwyn:

  • darparu buddsoddiad ychwanegol yn ein Tirweddau Dynodedig i alluogi ffermwyr i weithio mewn partneriaeth â chyrff rheoli i sicrhau canlyniadau mwy a gwell i’r amgylchedd, pobl a chymunedau
  • ymgorffori cymhellion ar gyfer arferion ffermio cadarnhaol â dibenion Tirweddau Dynodedig, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng y cyrff sy’n gyfrifol am reoli’r tirweddau hyn a’r rhai sy’n rheoli ac yn ffermio’r tir. Mae hwn yn gyfle i gyrff Tirweddau Dynodedig, ffermwyr ac eraill weithio’n well gyda’i gilydd, gan arwain gwaith ar lefel tirwedd unigol a datblygu perthnasoedd sy’n bodoli eisoes
  • dangos yr hyn y gall cyrff Tirweddau Dynodedig ei gyflawni trwy hwyluso cyflawni ar y cyd. Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i gyrff Tirweddau Dynodedig gydweithio a rhannu gwersi, a deall, trwy werthuso, pa ymyriadau sy’n gweithio orau mewn gwahanol leoedd a pham. Bydd yn eu galluogi i brofi dulliau newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn targedu adfer natur ar raddfa tirwedd
  • cefnogi cyflawni’r ymrwymiad i ddiogelu 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030 (30x30), a
  • llywio haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cyflawnir y rhaglen gan ffermwyr, yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff Tirweddau Dynodedig. Y cyrff a’r ffermwyr sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu eu tirweddau a’u cymunedau. 

Mae’r cynllun yn rhan allweddol o gam paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn enwedig yr haen gydweithredol. Mae Ffermio Bro eisoes yn cefnogi grwpiau o ffermwyr i weithio gyda’i gilydd i gyflawni gweithgarwch ar raddfa tirwedd a bydd yn parhau i helpu i lywio haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ogystal â chyfeirio rheolwyr tir at haenau cyffredinol ac opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y cynllun yn cynnwys prosiectau cydweithredol amgylcheddol, adfer natur a lliniaru hinsawdd ar nifer o ffermydd, gyda’r prosiectau hyn hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ddarganfod, mwynhau a deall y tirweddau gan gynnwys eu treftadaeth ddiwylliannol.

Bydd ystod eang o brosiectau yn gymwys i dderbyn cyllid ar yr amod eu bod yn bodloni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy, y canllawiau a ddarperir a blaenoriaethau cynllun rheoli corff Tirwedd Ddynodedig. 

Mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi ymrwymo i warchod 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030 (30x30), i gefnogi’r targed 30x30 byd-eang y cytunwyd arno yn Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) yn 2022. Pwyslais Ffermio Bro fydd helpu i gyflawni 30x30 trwy ganolbwyntio ar brosiectau sy’n gwella gwydnwch ecosystemau. Bydd hyn yn cynnwys camau sy’n cryfhau ac yn gwella cynefinoedd blaenoriaeth a lled-naturiol, gan wella cysylltedd cynefinoedd lled-naturiol, eu graddfa, eu gallu i addasu neu eu hamrywiaeth, a chryfhau gwydnwch rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru trwy weithio ar raddfa tirwedd i wella cysylltedd a chyflwr.

Fel rhan o’r gwaith hwn, gall y cynllun hefyd ddarparu cyllid ar gyfer gweithredu atebion ar sail natur, gan wella priddoedd cyfoethog mewn carbon fel mawndir, plannu coed, rheoli coetir ac adfywio naturiol, gweithredu dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltiad y cyhoedd a diogelu tirweddau a nodweddion hanesyddol. 

Fel cynllun sydd â’r nod o gefnogi’r diwydiant amaethyddol, mae’n ofynnol i Ffermio Bro weithio tuag at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Mae’r Cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff Tirweddau Dynodedig wneud cais am gyllid i Lywodraeth Cymru/Taliadau Gwledig Cymru hyd at gyfanswm y cytunir arno gyda chyrff Tirweddau Dynodedig. Ni ddylai ffermwyr wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru; yn hytrach, byddant yn gwneud cais am gyllid i’r corff Tirwedd Ddynodedig lleol sy’n rheoli’r cynllun yn eu hardal. 

Bydd angen i gyrff egluro sut bydd y rhaglen yn cefnogi amcanion y cynllun, gan gynnwys cydweithio, sut bydd y gweithgaredd yn integreiddio â’u cynllun rheoli a strategaethau eraill, a gwydnwch ecosystemau. 

Os yn llwyddiannus, rhaid i chi allu cwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol erbyn 31 Mawrth 2027 neu 2028, gan ddibynnu ar y flwyddyn y dyfarniad y mae’r dyraniad yn ymwneud â hi.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Adran B: Camau’r cynllun a gweithgareddau allweddol

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer Ffermio Bro yn 2026-28 yn digwydd mewn dau gam. 

  • Cam 1: 9 Mawrth – 27 Mawrth 2026. Rhaid i’r corff rheoli Tirwedd Ddynodedig sy’n arwain gwaith cyflawni lleol gyflwyno cais yn ystod y cyfnod hwn trwy RPW Ar-lein, gan amlinellu sut byddan nhw’n cyflawni amcanion cyffredinol y cynllun. Bydd y cais yn cael ei werthuso ac, os bydd yn llwyddiannus, bydd y corff yn cael cynnig cyllid hyd at y dyraniad y cytunwyd arno ar gyfer y corff hwnnw. 
  • Cam 2: 1 Ebrill 2026 ymlaen 
    • Bydd cyrff yn gwahodd ceisiadau ac yn eu hasesu, ac yna’n gwneud dyfarniad i’r ffermwr.
    • Yr unig fanylion y bydd angen i gyrff eu darparu yw Cyfeirnod Cwsmer a chod post y ffermydd y maent wedi dyfarnu cyllid iddynt trwy RPW Ar-lein. Bydd RPW yn cynnwys y rhain ar gynnig grant diwygiedig (ni fydd angen i gyrff Tirweddau Dynodedig wneud unrhyw beth). 
    • Ni fydd angen cymeradwyaeth gan RPW cyn i’r cyrff Tirweddau Dynodedig ddechrau ar eu gwaith. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar y cyrff hyn i sicrhau nad oes unrhyw gyllid dwbl. Bydd angen i’r cyrff Tirweddau Dynodedig benderfynu ar hyn trwy drafod â’r ffermwr, a dylai’r ffermwr ddarparu gwarant/ymwadiad ysgrifenedig yn eu cais am grant neu ffurflen dderbyn. Os nad yw’r corff Tirwedd Ddynodedig yn gallu cadarnhau a oes cyllid dwbl wedi digwydd, mae’n bosibl y bydd RPW yn gallu cynnal gwiriadau ar sail eithriadol.
    • Ni fydd angen i’r corff Tirwedd Ddynodedig hysbysu RPW am amrywiadau ffurfiol yn y gwaith a gyflawnir. 
    • Gall cyrff Tirweddau Dynodedig roi Cyfeirnod Cwsmer i RPW ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r prosiect yn ymwneud â hi. Cynghorir cyrff i gyflwyno’r rhain mewn sypiau, er enghraifft ar ôl i Banel Asesu Lleol gyfarfod a gwneud cyfres o ddyfarniadau cyllid. Bydd canllawiau ar ddarparu’r data hwn yn cael eu darparu i gyrff.
  • Cam 3: 
    • Rhaid i gyrff hawlio arian trwy RPW Ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r dyfarniad yn ymwneud â hi. Dim ond pan fydd prosiectau wedi’u cwblhau’n foddhaol y gallwch wneud cais am gyllid. 
    • Rhaid i chi gwblhau proffil cyflawni chwarterol fel rhan o’ch dyfarniad grant, a’i ddiweddaru yn ôl yr angen yn ystod y flwyddyn. Rhaid cynnwys dogfennau ategol gydag unrhyw hawliad:
      • ar gyfer staff cyflogedig, bydd angen i chi ddarparu taenlen o bobl, eu tâl fesul awr ac oriau a weithiwyd yn y cyfnod hawlio. Rhaid i’r Cyrff gadw tystiolaeth o daliadau, yn ogystal â’r dystiolaeth a chyfrifiad cefndir i gefnogi cyfrifo’r tâl fesul awr
      • ar gyfer costau refeniw eraill fel hwyluso, hyfforddiant ac asesiadau, bydd angen i chi ddarparu cofnod o’r costau a ysgwyddwyd a chadw cofnodion caffael
  • Ar gyfer pob Cyfeirnod Cwsmer, bydd RPW yn darparu map o’r holl dir sydd wedi’i gofrestru i’r Cyfeirnod Cwsmer hwnnw o fewn y ffurflen hawlio er mwyn i’r corff Tirwedd Ddynodedig fapio, lle bo hynny’n berthnasol, y camau gweithredu y darparwyd cyllid ar eu cyfer. 

Mae angen i nifer o weithgareddau allweddol ddigwydd i sicrhau bod y cynllun yn cael ei reoli’n effeithiol yn genedlaethol ac yn lleol, a bod amcanion y cynllun yn cael eu cyflawni.

Cyn Cam 1, rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig:

  • wneud trefniadau mewnol i reoli’r cynllun, gan gynnwys cynllunio ar gyfer unrhyw recriwtio trwy broses deg ac agored
  • datblygu Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol (EPS) manwl sy’n nodi sut byddwch yn targedu’r cynllun yn effeithiol yn eich tirwedd i wneud y mwyaf o’ch cyfraniad at yr ymrwymiad 30x30
  • trafod amcanion y cynllun gyda rhanddeiliaid lleol

Rhwng Cam 1 a Cham 2, rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig:

  • benodi neu gyflogi cynghorydd/cynghorwyr a gweinyddwyr ar gyfer y cynllun Ffermio Bro i gynorthwyo i gyflawni gwaith yn lleol
  • hyrwyddo’r cynllun a chefnogi ffermwyr i gydweithio
  • cynghori ar gamau gweithredu cymwys a helpu ffermwyr i ddatblygu prosiectau cydweithredol
  • gyda chefnogaeth Panel Asesu Lleol, penderfynu pa brosiectau y dylid eu cefnogi trwy’r cynllun

Ar ôl Cam 2, bydd cyrff Tirweddau Dynodedig yn:

  • cynghori ffermwyr am eu dyraniadau a darparu cynnig o gyllid gan gynnwys yr awdurdod i RPW ddarparu mapiau fferm i’r corff eu cwblhau trwy RPW Ar-lein.
  • cefnogi ffermwyr i gyflawni’r prosiectau y cytunwyd arnynt.
  • Monitro cyflawni a sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau grant a meini prawf y cynllun.
  • casglu gwybodaeth am y prosiectau a gefnogir a’u darparu i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys RPW, Rheolwr y Rhaglen, ac eraill fel y cytunwyd.

Gellir dod o hyd i fanylion am sut i ymgeisio yn: Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig (Cam 1): defnyddio RPW Ar-lein i wneud cais | LLYW.CYMRU

Cydweddu â Haenau Cyffredinol ac Opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 

Mae Ffermio Bro yn rhan o gam paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Mae Ffermio Bro eisoes yn cefnogi grwpiau o ffermwyr i weithio gyda’i gilydd i gyflawni gweithgarwch ar raddfa tirwedd a bydd yn parhau i helpu i lywio haen gydweithredol yr SFS yn ogystal â chyfeirio rheolwyr tir i’r haenau cyffredinol ac opsiynol yr SFS.

Dechreuodd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar 1 Ionawr 2026 ac mae’n cynnwys Haenau Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol. Bydd y tair haen hyn yn eistedd uwchben Llinell Sylfaen Reoleiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chod Cyffredinol. Mae’r Haen Gyffredinol yn cynnwys 12 Gweithred Gyffredinol; bydd yn ofynnol i ffermwyr yn y cynllun fodloni pob un o’r 12 Gweithred Gyffredinol hyn, os ydynt yn berthnasol i’w fferm unigol, er mwyn derbyn y Taliad Cyffredinol. Gall ffermwyr ddewis mynd ymhellach ac adeiladu ar y Gweithredoedd Cyffredinol hyn trwy ymgymryd â Gweithredoedd Opsiynol i gyflawni gwaith mwy penodol. Efallai hefyd y ceir cyfleoedd i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig â ffermwyr eraill ac ymgymryd â Gweithredoedd Cydweithredol, er enghraifft helpu i gyflawni canlyniadau ar raddfa tirwedd, nad oes modd eu cyflawni ar un fferm.

Mae Ffermio Bro yn arbennig o berthnasol i’r Haen Gydweithredol, ond gall hefyd fod yn offeryn pwysig i gynyddu ymgysylltiad ffermwyr â’r Haenau Opsiynol a Chyffredinol: 

  • Opsiynol – yn sgil gwaith hwyluso gan gynghorwyr Ffermio Bro, efallai y ceir cyfleoedd i gyflawni rhai Gweithredoedd Opsiynol y mae ffermwyr yn eu hystyried ar raddfa ehangach nag y byddid wedi’i hystyried fel arall. Gallai hyn gynnwys:
    • Creu cynefinoedd parhaol a dros dro
    • Gweithredu Rhestr Waith Safleoedd Dynodedig
    • Ar gyfer Rheoli Coetiroedd yn Well a Chreu Coetir, cyfeiriwch at y nodiadau ar wahân yn y canllawiau hyn.
  • Cyffredinol – mewn rhai achosion, gall ymgysylltu â chynghorwyr Ffermio Bro cefnogol annog ffermwyr i ystyried cael mynediad at haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy lle na fyddent wedi gwneud hynny fel arall. 

Pwyntiau allweddol

  • Ym mhob achos, bydd cyfraddau talu safonol Ffermio Bro yn cydweddu â chyfraddau talu ar gyfer cynlluniau eraill. 
  • Rhaid i unrhyw waith a wneir fel rhan o Weithred Gydweithredol ategu (yn hytrach na dyblygu) gwaith a wneir fel rhan o Weithredoedd Cyffredinol neu Opsiynol presennol. 
  • Rhoddir arweiniad, hyfforddiant a chyngor pellach i gyrff Tirweddau Dynodedig wrth i’r SFS gael ei gyflwyno, er mwyn sicrhau y caiff y gwaith ei dargedu a’i gyflawni yn y modd mwyaf priodol ac effeithiol.
  • Taliadau cyfalaf yn unig a gaiff ffermwyr sy’n manteisio ar gyllid Ffermio Bro; ni fydd yna unrhyw gyllid rheoli parhaus nac iawndal am incwm a gollwyd.
  • Dylai Cynghorwyr a Phaneli Asesu Lleol ystyried a yw llwybrau cyllido amgen trwy gyfrwng yr haen opsiynol yn fwy addas ar gyfer prosiect penodol neu ran o brosiect, gan gyfeirio ffermwyr yn briodol.
  • Mae gwahanol fathau o gymorth a chyngor ar gael gan Cyswllt Ffermio, gan gynnwys hyfforddiant, mentora a chyngor arbenigol. Bydd canllawiau pellach yn cael eu rhoi i gyrff Tirweddau Dynodedig ynglŷn â’r ffordd orau o gael gafael ar y cyngor hwn i wella’r modd y cyflawnir prosiectau Ffermio Bro.

Asesu

Bydd cyrff Tirweddau Dynodedig yn rhedeg ffenestr neu ffenestri i ffermwyr a rheolwyr tir yn eu hardaloedd i allu gwneud cais am arian grant trwy geisiadau prosiect. Bydd y broses ymgeisio yn gystadleuol, gydag ymgeiswyr yn cael eu hasesu’n rheolaidd drwy gydol y ffenestr. Bydd prosiectau sy’n sgorio’n uchel yn erbyn cyfres o feini prawf cyson ar draws yr holl gyrff Tirweddau Dynodedig yn cael cynnig cytundeb. 

Bydd angen cyflwyno prosiectau cydweithredol sy’n cynnwys ffermydd lluosog gerbron paneli, yn ogystal â manylu ar geisiadau ffermydd unigol. 

Pan fydd prosiect yn costio llai na £15,000 (hyd yn oed os yw’n cynnwys ceisiadau gan ffermydd lluosog), gall y corff Tirwedd Ddynodedig ei hun wneud asesiad. Pan fydd yn costio mwy na’r trothwy hwn, rhaid i Banel Asesu Lleol asesu’r prosiect; cynhelir paneli o’r fath yn rheolaidd drwy gydol y ffenestr ymgeisio. 

Pan fydd cyfanswm gwerth prosiect unigol neu brosiect cydweithredol (ar draws pob daliad sy’n cymryd rhan) yn fwy na £15,000, y Panel Asesu Lleol a fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniad ynglŷn â’r cais. Pan fydd cyfanswm y gwerth (ar draws pob daliad) yn llai na £15,000, yna caiff y corff Tirwedd Ddynodedig ei hun wneud y penderfyniad. Sylwch fod yn rhaid i’r Panel Asesu Lleol benderfynu ar yr holl geisiadau dwy flynedd (lle bydd gwaith yn digwydd yn 2026/27 a 2027/28), ni waeth be fo’u gwerth.

Gellir cynnull Paneli Asesu Lleol wyneb yn wyneb neu’n rhithwir, yn ôl disgresiwn y tîm arweiniol. Pan fydd prosiect yn mynd gerbron y panel, bydd y Swyddog Rhaglen sy’n cynrychioli pob Tirwedd Ddynodedig yn gwneud dyfarniad cychwynnol ynglŷn â cheisiadau cyn i’r Panel Asesu Lleol eu hystyried. 

Bydd Paneli Asesu Lleol hefyd yn cael cofnod o’r holl benderfyniadau cyllido a wnaed sydd o dan y trothwy £15,000. 

Dylai paneli gynnwys cynrychiolwyr o’r corff Tirwedd Ddynodedig perthnasol, y gymuned ffermio a chyrff cadwraeth. Dylid gwahodd cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn bresennol hefyd.

Bydd Paneli Asesu Lleol yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu ceisiadau: mater i’w benderfynu’n lleol gan y corff perthnasol fydd pa mor aml. Gall cyrff weithio gyda’i gilydd lle bo hynny’n briodol i ddatblygu Paneli Asesu Lleol ar y cyd er gallai rhannu adnoddau sicrhau effeithlonrwydd, gweddu’n well i broblemau capasiti a chynnig cyfleoedd ar gyfer rhannu gwersi ac arbenigedd. Os oes panel dyfarnu grantiau eisoes ar waith (e.e. panel Cronfa Datblygu Cynaliadwy), gellid ystyried cyfuno paneli i greu un panel grantiau unigol, ar yr amod bod yr aelodau’n meddu ar y profiad a’r sgiliau gofynnol.

Bydd Rheolwr y Rhaglen yn rhoi canllawiau llawn ar benodi a chynnal Paneli Asesu Lleol, gan gynnwys meini prawf asesu a Chylch Gorchwyl. Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig gydymffurfio â’r canllawiau a ddarperir oni bai y ceir amgylchiadau eithriadol.

Cyflawni prosiectau

Dyrennir cyllid grant cyfalaf ar gyfer cyflawni gwaith ar ffermydd ym mhob un o’r Tirweddau Dynodedig yn unol â fformiwla y cytunwyd arni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai cyrff Tirweddau Dynodedig yn penderfynu cydweithio’n ffurfiol trwy ganiatáu i gorff Tirwedd Ddynodedig arall reoli’r gwaith cyflawni ar ei ran. Bydd taliad yn cael ei wneud i’r corff arweiniol yn unig yn yr achosion hynny. Unwaith y bydd cyrff wedi penderfynu pa gorff Tirwedd Ddynodedig fydd yn arwain pob rhaglen leol, a Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am y trefniadau hynny, bydd uchafswm dyraniadau i bob corff yn cael ei bennu’n derfynol.

Bydd cyllid grant refeniw hefyd yn cael ei ddyrannu i alluogi recriwtio cynghorwyr y cynllun Ffermio Bro mewn cyrff Tirweddau Dynodedig arweiniol. Bydd canllawiau’n cael eu darparu i gyrff ar recriwtio, gan gynnwys templedi disgrifiadau swydd. 

Hefyd, bydd cyllid grant refeniw yn cael ei ddarparu i gyrff i gynnal neu hwyluso contractau, hyfforddiant arbenigol, ac asesiadau, pan na fônt ar gael o ffynonellau eraill fel Cyswllt Ffermio.

Nid yw costau refeniw eraill yn gymwys o dan y cais a wneir trwy RPW Ar-lein, er y gall cyrff geisio ffynonellau cyllid eraill mewn rhai achosion. 

Bydd Rheolwr y Rhaglen yn parhau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac arweiniad ychwanegol i gynghorwyr Ffermio Bro a staff cyrff Tirweddau Dynodedig sy’n cefnogi’r cynllun. 

Ni all prosiect sy’n cael ei ariannu gan Ffermio Bro dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau neu waith sydd eisoes yn derbyn arian grant trwy gynlluniau neu raglenni eraill sy’n cael eu darparu ar gyfer neu ar ran Llywodraeth Cymru neu unrhyw ddarparwyr cyllid eraill.

Gall y cynllun gynnwys gweithgareddau sy’n gymwys o dan gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, ar yr amod nad ydynt eisoes yn cael eu hariannu gan y cynlluniau neu’r rhaglenni hynny – ac eithrio gweithgareddau a restrir yn adran Gweithgareddau Anghymwys y canllawiau hyn. 

Bydd unrhyw geisiadau neu hawliadau ar gyfer gweithgareddau a fyddai’n gymwys o dan gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru yn amodol ar gymhwystra, cyfraddau cyllido a thelerau ac amodau’r cynlluniau hynny.

Bydd prosiectau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd trwy gydol y cam cyflawni er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni yn unol â’r amserlen ac o fewn y gyllideb, eu bod yn cyflawni’r camau a’r allbynnau disgwyliedig, a’u bod yn cynnig gwerth da am arian. Os gwelir nad yw prosiectau yn cyflawni’n effeithiol, bydd cyllid grant prosiect mewn perygl. Hefyd, bydd prosiectau’n cael eu hadolygu i asesu unrhyw effaith ar weithgareddau prosiect sy’n deillio o newidiadau posibl neu i reoliadau neu gynlluniau. 

Fel arfer, bydd yr arian yn cael ei dalu ar ffurf ôl-daliadau (h.y. ar ôl i dderbynnydd y grant wario’r arian). 

Adran C: cymhwystra ar gyfer y cynllun

Cymhwystra Corff Arweiniol/Ymgeisydd

I wneud cais am gyllid trwy RPW Ar-lein, rhaid i chi fod yn gorff rheoli Tirwedd Ddynodedig yng Nghymru neu fod â chyfrifoldeb rheoli am Dirwedd Ddynodedig yng Nghymru. Gallai hyn fod naill ai’n Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n dîm Tirwedd Genedlaethol ynghlwm wrth Awdurdod Lleol. Ni ddylai ffermwyr wneud cais yn uniongyrchol am y cynllun hwn i Ffermio Bro.

Os ydych yn cydweithio â chorff rheoli Tirwedd Ddynodedig arall i reoli Ffermio Bro mewn mwy nag un Dirwedd Ddynodedig, rhaid cytuno ar hyn ymlaen llaw gyda thîm polisi Llywodraeth Cymru a Rheolwr y Rhaglen. Os na, ni allwch barhau â’r cais.

Rhaid i gyrff gynnull Panel Asesu Lleol.

Cymhwystra Ffermwr/Rheolwr Tir 

Mae’r adrannau canlynol yn nodi manylion ynglŷn â chymhwystra ymgeiswyr i gorff rheoli Tirwedd Ddynodedig.

Mae’r gofynion cymhwystra ar gyfer Ffermio Bro yr un fath â’r gofynion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – Haen Gyffredinol:

Bydd angen i’r ymgeiswyr ddangos y meini prawf canlynol:

Rhaid iddynt:

  • fod ag o leiaf 3 hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru (gan gynnwys dosraniad tir comin) wedi’i gofrestru gydag RPW, neu 
  • allu dangos eu bod yn ymgymryd â mwy na 550 o oriau llafur safonol ar weithgareddau amaethyddol neu ategol ym mlwyddyn y cynllun ac yn meddu ar o leiaf 0.10 hectar o dir amaethyddol cymwys. Rhaid i’r tir cymwys fod o fewn parseli unigol sy’n 0.1ha o faint o leiaf.

Rhaid iddynt:

  • fod â rheolaeth ar y tir am o leiaf 10 mis o’r flwyddyn galendr, a rhaid i’r cyfnod hwn gynnwys 15 Mai 2026 
  • ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol neu ategol yn ystod blwyddyn y cynllun. Diffinnir gweithgareddau amaethyddol neu ategol yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru). 

Mae gweithgareddau amaethyddol yn cynnwys: 

  • cadw a bridio da byw. Defnyddio tir ar gyfer garddwriaeth, ffermio cnydau âr a ffermio llaeth
  • defnyddio tir fel tir pori ac fel coetir fferm neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth. Yn cynnwys amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, tyfu planhigion i’w gwerthu neu werthu rhan o’r planhigyn megis cynhyrchu hadau
  • cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer y gweithgareddau a restrir uchod

Mae gweithgareddau ategol yn cynnwys: 

  • cymryd camau, ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, i greu a rheoli cynefinoedd, neu at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â chadwraeth natur, i liniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, neu i gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau
  • gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu dosbarthu cynhyrchion sy’n deillio o amaethyddiaeth

Bydd angen i’r ymgeiswyr fodloni’r meini prawf canlynol wrth wneud cais i’r corff Tirwedd Ddynodedig ar gyfer y cynllun:

  • rhaid i’r holl brosiectau gyflawni’r prif amcan canlynol mewn perthynas â Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu 
  • rhaid i’r holl brosiectau gefnogi’r gwaith o gyflawni eich Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol (EPS) yn ogystal â’ch Cynllun Rheoli Tirwedd Ddynodedig. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall cyrff Tirweddau Dynodedig ystyried prosiectau nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn; rhaid iddynt gael cytundeb ymlaen llaw gan Reolwr y Rhaglen
  • bydd prosiectau’n cael eu hatgyfnerthu trwy gyflawni o leiaf un o’r 3 chanlyniad arall mewn perthynas â Rheoli Tir yn Gynaliadwy, sef:
    • lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd
    • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy
    • Gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, annog mynediad y cyhoedd iddyn nhw ac i ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni.
  • Rhaid i dimau Tirweddau Dynodedig flaenoriaethu prosiectau sy’n galluogi a chefnogi grwpiau o ffermwyr neu glystyrau o ffermydd sy’n bodoli eisoes a rhai newydd i ddatblygu prosiectau cydweithredol sy’n darparu canlyniadau ecosystemau a chanlyniadau eraill ar raddfa tirwedd. Mae mwy o wybodaeth am gydweithio ar gael isod

Cydweithio

Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â ffermwyr a rheolwyr tir eraill o fewn Tirwedd Ddynodedig. Cyrff Tirweddau Dynodedig, a’r ffermwyr sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hynny, sy’n deall orau y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu eu tirweddau a’u cymunedau.  Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i gyrff Tirweddau Dynodedig a ffermwyr gydweithio’n well, gan arwain gwaith ar lefel tirwedd unigol a datblygu perthnasoedd sy’n bodoli eisoes. 

Yn 2025-26, nid oedd yn orfodol i’r holl ymgeiswyr fod yn rhan o brosiect tirwedd cydweithredol ehangach, yn enwedig os oedd modd i’r prosiect arfaethedig ddangos ei fod yn cyfrannu at wydnwch ecosystemau ar raddfa briodol. Gydag amserlen gyflawni fyrrach, cafwyd cymysgedd o gyflawni ar lefel ffermydd unigol a chydweithredu anffurfiol a mwy ffurfiol. Yn 2026-28, bydd timau Tirweddau Dynodedig yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau a fydd yn galluogi ac yn cefnogi grwpiau o ffermwyr i gyflawni canlyniadau ecosystem a chanlyniadau eraill ar raddfa tirwedd.

Ceir disgwyliad bellach y bydd yr holl wariant neu’r rhan fwyaf ohono yn cael ei dargedu at brosiectau sy’n cyflawni newid ehangach ar raddfa tirwedd trwy sawl fferm. Dylid dyrannu isafswm canllaw o 80% (ar gyfer gwaith mewn Parciau Cenedlaethol) a 70% (ar gyfer gwaith mewn Tirweddau Cenedlaethol) o gyfanswm gwariant cyfalaf 2026-27 i brosiectau cydweithredol sy’n cynnwys ffermydd lluosog. Yn 2027-28, bydd yr isafswm hwn yn codi i 90% (ar gyfer gwaith mewn Parciau Cenedlaethol) ac 80% (ar gyfer gwaith mewn Tirweddau Cenedlaethol). Bydd hyn yn cael ei fonitro gan Reolwr y Rhaglen a Llywodraeth Cymru. Mewn rhai achosion, gan gynnwys cyfyngiadau daearyddol, deallwn fod trefniadau cydweithredol yn fwy heriol i’w datblygu. Byddwn yn parhau i weithio gyda chyrff Tirweddau i’w cefnogi i fodloni’r meini prawf hyn. Ni fydd y gofyniad hwn yn cael ei adrodd i RPW nac yn cael ei fonitro gan RPW.

Gall cydweithredu fod ar sawl ffurf:

  • ffermydd lluosog cyffiniol neu gyfagos (a ddiffinnir fel daliadau nad yw eu ffiniau yn fwy nag 1 cilometr o ffiniau’r daliad nesaf sy’n cymryd rhan) yn gweithio gyda’i gilydd i wella bioamrywiaeth (yn ogystal â chanlyniadau eraill fel mynediad ac atafaelu carbon) ar raddfa tirwedd, er enghraifft trefniant cydweithredol yn ymwneud â dalgylch afon sy’n gwella ansawdd dŵr a phridd
  • ffermydd lluosog, nad ydynt o angenrheidrwydd yn gyffiniol, yn cyflawni gwaith gyda’i gilydd ar un thema, megis gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau blaenllaw sydd mewn perygl, fel y gylfinir neu’r frân goesgoch
  • nifer o borwyr ar dir comin cofrestredig yn gweithio gyda’i gilydd i wella arferion pori a gweithgareddau eraill, gan arwain at wella cynefinoedd. Dylai cyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod unrhyw geisiadau am weithgaredd ar dir comin yn cael eu cefnogi gan gydsyniad ysgrifenedig y tirfeddiannwr ar gyfer unrhyw gamau gweithredu sy’n wahanol i’r hawliau cofrestredig dros ardal y tir comin dan sylw.

Rhaid i bob math o gydweithredu gael ei arwain gan Gynllun Rheoli’r corff Tirwedd Ddynodedig a’i flaenoriaethau natur gofodol a thematig. 

Er bod rhai ffermwyr eisoes yn gweithio gyda’i gilydd, rhaid i brosiectau Ffermio Bro gynnwys elfen o gael eu cydgysylltu gan y corff Tirwedd Ddynodedig er mwyn sicrhau y bodlonir amcanion y cynllun. Ond yn y mwyafrif o achosion, y cyrff Tirweddau Dynodedig a fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros feithrin, cefnogi a chyflawni cydweithredu yn eu hardaloedd. I gydnabod hyn, gall cyrff gael mynediad at gyllid refeniw ychwanegol yn 2026-28 i gynorthwyo i hwyluso grwpiau o ffermwyr. Gall hyn gynnwys cymdeithasau pori.

Er na cheir un model pendant ar gyfer cydweithredu, dylai cydweithredu effeithiol gynnwys cymysgedd o weledigaeth a rennir, gweithredoedd cydgysylltiedig, a strwythurau cefnogol. Byddem yn disgwyl i’r nodweddion cydweithredu canlynol ddatblygu’n brif fodel yn ystod 2026-28, a byddwn yn gwerthuso llwyddiant y cynllun yn gyffredinol ac i ba raddau y llwyddodd cyrff arweiniol unigol i addasu i’r model hwn.

1. Nodau a Gweledigaeth a Rennir

  • mae ffermwyr yn cytuno ar amcanion bioamrywiaeth cyffredin, megis adfer gwrychoedd, creu coridorau bywyd gwyllt, neu wella iechyd y pridd
  • mae’r nodau hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau lleol (e.e., Cynlluniau Rheoli, cynlluniau adfer rhywogaethau, targedau ansawdd dŵr)

2. Cynllunio Cydgysylltiedig

  • mae cydweithio yn digwydd ar draws ffiniau ffermydd, gan ganolbwyntio ar y cysylltiad rhwng cynefinoedd yn hytrach nag ar gamau ynysig
  • mae ffermwyr yn cyfrannu at lunio’r cydweithredu, gan lywio sut mae’n gweithio i gyflawni ei amcanion sylfaenol.
  • defnyddio offer mapio tirweddau (System Gwybodaeth Ddaearyddol, mapiau cynefinoedd) i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymyriadau
  • sesiynau cynllunio ar y cyd â ffermwyr, timau Tirweddau Dynodedig a rhanddeiliaid lleol eraill i sicrhau bod camau gweithredu yn ategu ei gilydd

3. Cyflawni cydgysylltiedig

  • Mae enghreifftiau’n cynnwys: 
    • Rhwydweithiau gwrychoedd sy’n cysylltu ffermydd.
    • Lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr i leihau dŵr ffo.
    • Gwelliannau ar draws y rhwydwaith Llwybrau Tramwy i wella profiad ac ymgysylltiad y defnyddwyr, gan gyfuno hyn â gwelliannau bioamrywiaeth.

4. Rhannu gwybodaeth

  • dysgu gan gymheiriaid trwy gyfrwng clystyrau neu grwpiau o ffermwyr.
  • rhannu arferion gorau, monitro canlyniadau, ac addasu strategaethau ar y cyd.
  • defnyddio hwyluswyr dibynadwy i sicrhau bod y cyfathrebu’n parhau i lifo.

5. Monitro ac adborth

  • monitro bioamrywiaeth ar y cyd (e.e. cyfrif adar, arolygu pryfed peillio)
  • adroddiadau tryloyw er mwyn i bawb allu gweld effaith y cydymdrechion
  • rheoli addasol – newid dulliau ar sail canlyniadau.

Gofynnir i dirweddau gadarnhau a yw’r elfennau uchod yn cael eu bodloni ar gyfer pob trefniant cydweithredu fel rhan o waith monitro’r rhaglen, ac ystyrir y graddau y cymhwyswyd y model hwn i brosiectau unigol fel rhan o werthusiad y cynllun. Gall Rheolwr y Rhaglen neu Lywodraeth Cymru roi canllawiau i dirweddau ynghylch a yw trefniant cydweithredu arfaethedig yn bodloni gofynion y cynllun.

Nid oes angen cytundeb ffurfiol i gymryd rhan yn y cynllun, ond efallai y bydd y corff Tirwedd Ddynodedig yn penderfynu bod angen cytundeb mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mater i’r corff Tirwedd Ddynodedig, nid mater i Lywodraeth Cymru/RPW, fydd penderfynu a yw hyn yn ddigonol, a yw’n dal dŵr ac a yw’n cynnig sicrwydd i’r corff a’r holl fuddiolwyr arfaethedig; a hefyd, y corff Tirwedd Ddynodedig, nid Llywodraeth Cymru/Taliadau Gwledig Cymru, a fydd yn rheoli’r risg mewn perthynas â hyn. 

Bydd angen i bob ffermwr sy’n rhan o gynllun cydweithredol wneud cais am ei elfen o’r prosiect i’r corff Tirwedd Ddynodedig perthnasol.

Rhaid i bob ffermwr unigol fod wedi cofrestru ag RPW ac wedi derbyn Cyfeirnod Cwsmer. Mae manylion ar gyfer cofrestru gydag RPW ar gael yma.

Tir cymwys

Mae’n rhaid i’r holl dir fod yng Nghymru. 

Bydd pob math o dir yn gymwys ar gyfer camau arfaethedig, gan gynnwys tir comin a phori ar y cyd. 

Mae tir sydd eisoes yn rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol, neu unrhyw gytundeb/dyfarniad grant arall ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, yn gymwys i fod yn rhan o brosiect cydweithredol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw weithgareddau neu brosesau rheoli a gynigir ragori ar y gofynion yn y cytundebau/dyfarniadau grant presennol.

Rhaid i’r holl dir sy’n rhan o’r cynllun arfaethedig fod o dan reolaeth y partneriaid sy’n cydweithio. Rhaid i bartneriaid sy’n cydweithio gael rheolaeth lawn a sicrwydd deiliadaeth dros y tir yn eich cais am gyfnod llawn y cynigion. Os nad oes ganddynt reolaeth lawn dros y tir, rhaid iddynt gael cydsyniad ysgrifenedig yr holl bartïon eraill sydd â rheolaeth dros y tir a rhaid iddynt roi tystiolaeth o’r gymeradwyaeth gyda’r cais (neu gael cydlofnod ar y cais gan y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr, y landlord neu’r corff perthnasol) i’r corff Tirwedd Ddynodedig.

Os yw prosiect yn cynnwys tir ym meddiant un neu fwy o ffermwyr tenant, dylid darparu tystiolaeth sy’n dangos bod ffermwyr tenant wedi cael eu cynnwys o’u gwirfodd yn y broses o gydweithio a gwneud penderfyniadau heb newidiadau i’w hawliau tenantiaeth na’u cytundebau yn groes i’w hewyllys.

Ffiniau Tirweddau Dynodedig

Rhaid i bob gwaith fod wedi’i leoli o fewn ffiniau cyfreithiol y Dirwedd Ddynodedig neu, os caiff ei leoli y tu allan, o fewn 1 cilometr i’r ffin. Pan fydd gweithgarwch yn syrthio y tu allan i ffin y Dirwedd, rhaid iddo fod yn rhan o brosiect cydweithredol a rhaid i’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch gael ei gyflawni y tu mewn i’r ffin. Efallai y ceir rhesymau ecolegol cymhellol dros gyflawni gweithgarwch ymhellach oddi allan i’r ffiniau, er enghraifft prosiect dalgylch afon neu dir comin ucheldir cyffiniol mawr. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylech drafod y rhesymau hyn gyda Rheolwr y Rhaglen cyn gwneud dyfarniad.

Targedu ecolegol

Yn 2021, datganodd y Senedd argyfwng natur, ac rydym hefyd wedi ymrwymo i’r nodau byd-eang 30 erbyn 30. Mae ein Harchwiliad Dwfn Bioamrywiaeth yn nodi argymhellion uchelgeisiol ar gyfer cyrraedd y targed 30 erbyn 30, a byddwn yn cryfhau hyn trwy gyfrwng targedau statudol newydd a fframwaith bioamrywiaeth newydd. Mae Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yn hollbwysig o ran helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae hi’n hollbwysig i ni weithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid eraill i wella cysylltiadau rhwng cynefinoedd, ynghyd â gwella cyflwr, maint ac amrywiaeth cynefinoedd, ar raddfa ac ar gyflymder priodol, ac mae Ffermio Bro yn cynnig llwybr ar gyfer gwneud hynny. 

Mae canllawiau Cynlluniau Rheoli CNC (a ddiweddarwyd yn 2024) yn nodi: Er mwyn cyflawni 30 erbyn 30, mae angen i awdurdodau Tirweddau Dynodedig baratoi a chyflawni cynlluniau gweithredu ar gyfer natur trwy eu cynlluniau rheoli. 

Os nad yw cyrff Tirweddau Dynodedig eisoes wedi cyrraedd y cam hwn, dylent ddechrau datblygu fframwaith gofodol ar gyfer llywio cynllun adfer natur â blaenoriaeth, gan gyd-destunoli rôl Ffermio Bro a manylu ar y rôl honno yn hyn o beth. Rhaid rhoi hyn ar waith yn ystod 2026-27; er, efallai y bydd angen mwy o amser i’w gwblhau a’i ddiweddaru. 

Disgwyliwn i’r gwaith o gyflawni Ffermio Bro dynnu ar egwyddorion sylfaenol allweddol:

  • Gweithio gyda ffermwyr er mwyn deall y cyfoeth o wybodaeth sydd ganddynt am eu tir a’r syniadau sydd ganddynt ynglŷn â sut i wneud gwelliannau i helpu natur i ffynnu.
  • Defnydd clir o dystiolaeth ofodol i lywio pa weithgareddau y dylid eu cyflwyno, a ble.
  • Creu rhwydweithiau o gynefinoedd – rhai mwy o ran maint, gwell, a mwy cysylltiedig.
  • Blaenoriaethu coridorau a llecynnau bach o gynefinoedd er mwyn galluogi rhywogaethau i symud ac addasu i’r hinsawdd.
  • Ei gwneud yn bosibl i ddarparu bioamrywiaeth ochr yn ochr â gwasanaethau ecosystemau eraill (atafaelu carbon, rheoleiddio dŵr, hamdden).
  • Defnyddio offer gofodol i bennu pa ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf. 
  • Ymgysylltu â ffermwyr, tirfeddianwyr, cymunedau, a sefydliadau anllywodraethol yn gynnar yn y broses gynllunio.
  • Defnyddio mapiau a phrosesau penderfynu clir a hygyrch i lywio cynnydd buddsoddi. 

Disgwylir i dargedau a dangosyddion bioamrywiaeth statudol ar gyfer cyrff Tirweddau Dynodedig (Awdurdodau Parc Cenedlaethol neu Awdurdodau Lleol) gael eu cyflwyno i helpu i gyflawni 30 erbyn 30. Bydd eich cynllun gweithredu ar gyfer natur yn ffordd hollbwysig o ddangos cynnydd yn erbyn y targedau hyn.

Er mwyn cael gafael ar gyllid gan Ffermio Bro, bydd yn ofynnol i gyrff Tirweddau Dynodedig baratoi Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol (EPS) – sef cyfres o flaenoriaethau adfer natur strategol ar gyfer 2026/28 (gallant fod yn ddaearyddol, yn thematig neu’r ddau) a ddefnyddir i lywio’r modd y byddwch yn cyflawni Ffermio Bro yn lleol. Dylai’r rhain (lle bo’n bosibl) gysylltu’n uniongyrchol â’ch cynllun rheoli, eich cynlluniau gweithredu gofodol presennol/sy’n cael eu datblygu ar gyfer adfer natur a’r Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur (NRAP) ar gyfer eich tirwedd/ardal. 

Gallai blaenoriaethau adfer natur strategol posibl gynnwys y categorïau canlynol:

  • Blaenoriaethau gofodol, e.e. a fyddwch yn canolbwyntio ar, neu’n rhoi blaenoriaeth i, ardaloedd daearyddol penodol o’ch Tirwedd Ddynodedig.
  • Cynefinoedd wedi’u targedu penodol ar gyfer adfer, gwella, creu neu ddatblygu coridorau cysylltu o fewn y Dirwedd. Gall y rhain fod yn eang neu’n lleol i ardaloedd penodol o’r Dirwedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys mawndir, glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau, coetir brodorol, ffriddoedd a gwlyptiroedd. Dylai tirweddau nodi manylion am y mathau o gynefinoedd, ardaloedd gofodol perthnasol ac enghreifftiau o weithgareddau.
  • Dalgylchoedd afonydd wedi’u targedu penodol ar gyfer ansawdd dŵr ac ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol.  Dylai tirweddau nodi eu blaenoriaethau ecolegol o fewn y dalgylch hwnnw, y modd y bydd y Dirwedd yn cydweithio â phartneriaeth berthnasol y dalgylch (os yn berthnasol) a’r mathau o weithgareddau y byddant yn ceisio eu hariannu.
  • Rhywogaethau neu dacsonau penodol â blaenoriaeth y bydd gwaith rheoli’n cael ei dargedu ar eu cyfer. Gall y rhain gynnwys rhywogaethau penodol, fel Llygoden Bengrwn y Dŵr, yr Afancod neu’r Frân Goesgoch – neu dacsonau eang, fel pryfed peillio. Dylai tirweddau nodi’r mathau o weithgaredd a fyddai’n cael eu hystyried ac unrhyw dargedu gofodol penodol.
  • Gweithgareddau penodol a gefnogir yn eang ar draws y Dirwedd, sydd â budd penodol i’r ecosystem. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno pori ar dir comin/mynyddig. Dylai tirweddau nodi’r mathau o weithgaredd ac unrhyw gyfyngiadau gofodol ar weithgareddau cysylltiedig.

Dylid darparu tystiolaeth bod gan y corff ddull gofodol, a gaiff ei arwain gan ddata a thystiolaeth, ar gyfer adfer natur (neu ei fod yn datblygu dull o’r fath), a dylid crynhoi sut bydd Ffermio Bro yn cael ei lywio gan hyn. Pan fydd corff arweiniol yn cyflawni ar ran corff tirwedd llai, disgwyliwn i’r ddau barti gymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r datganiad hwn. Byddem yn croesawu cymorth i’r cyrff hynny nad oes ganddynt yr arbenigedd ecolegol gofynnol. 

Rhaid mynd ati i dargedu ardaloedd gofodol a/neu ffermydd a chlystyrau o ffermydd ar sail gan nodweddion Ardaloedd Cymeriad Tirwedd (LCA), y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth (PEN) a gwaith mapio cynefinoedd eraill â blaenoriaeth, ynghyd â gwaith mapio Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn a ddaw i’r amlwg (lle bwriwyd ymlaen â hyn), ac unrhyw dystiolaeth newydd rydych yn ymwybodol ohoni, megis gwaith maes i gadarnhau gwaith mapio cynefinoedd blaenorol. 

Er y byddem yn disgwyl i’r mwyafrif o brosiectau gydweddu â’ch targedu gofodol, efallai na fydd rhai prosiectau’n gwneud hynny mewn amgylchiadau eithriadol. Gallai eithriadau o’r fath gynnwys prosiectau ag allbynnau a chanlyniadau sydd o Werth Mawr Iawn i Natur, gan gynnwys rhai ar ffermydd unigol.

Sylwch y bydd angen i’ch Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol gael ei gwblhau a’i gytuno gan y tîm Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad a Rheolwr y Rhaglen cyn y gallwch wneud cais ffurfiol ar RPW Ar- lein. Os methir â dangos strategaeth ddigon cadarn, efallai y ceir oedi neu efallai na fydd cyllid yn cael ei gynnig.

Adran D: gofynion cyffredinol y cynllun

Rhaid i chi fod yn fodlon bod ffermwyr yn bodloni gofynion canlynol y cynllun fel rhan o’ch gwiriadau:

  • rhaid i unrhyw waith sy’n cael ei wneud ar dir sy’n cael ei reoli a/neu ei berchenogi ragori ar rwymedigaethau a gofynion cyfreithiol.
  • rhaid i brosiectau ddangos na allant gael eu rhoi ar waith heb gymorth ac na fyddai’r prosiect yn mynd rhagddo heb gymorth grant.
  • rhaid i brosiectau ddangos nad yw’r costau’n ormodol o ystyried natur y gweithgaredd.
  • rhaid i brosiectau ddangos cydymffurfiaeth gyfreithiol a hyfywedd ariannol.
  • rhaid i brosiectau ddangos cynaliadwyedd hirdymor.
  • rhaid i brosiectau ddangos mai swm y grant yn y cais yw’r cyllid llenwi bwlch lleiaf sydd ei angen i’r prosiect fynd rhagddo.
  • mae’n rhaid i geisiadau nodi a yw prosiect wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol neu wedi’i sicrhau, a lle bo angen, nodi bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i sicrhau.
  • rhaid recriwtio staff allweddol trwy gystadleuaeth deg ac agored.
  • cydymffurfiaeth â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch; lle bo hynny’n briodol a/neu’n angenrheidiol.
  • rhaid i brosiectau gadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.
  • rhaid i brosiectau ddarparu cadarnhad nad oes cais wedi’i wneud am unrhyw arian cyhoeddus arall ar gyfer gweithgareddau arfaethedig.
  • rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

Adran E: gweithgareddau cymwys

Cyllid cyfalaf

Ffermio Bro can provide capital funding linked to on-farm activities. Activities can include: 

  • plannu coed dwysedd isel wedi’i dargedu lle mae gwella cynefin yn digwydd. Gallai hyn gynnwys ar lethrau serth, ceunentydd a nentydd ucheldirol, corneli caeau, a chreu coed pori
  • adfer coetir
  • adfywio naturiol
  • adfer a chreu gwrychoedd
  • symud a dileu Rhywogaethau Estron Goresgynnol (pan fo Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn bresennol yma ac acw a phan fo modd eu dileu o fewn oes y prosiect)
  • ymyriadau rheoli perygl llifogydd yn naturiol (NFRM), gan gynnwys Deunydd Coediog Mawr mewn nentydd ac afonydd
  • gwella a chreu gwlyptiroedd trwy gyfrwng mesurau ailwlychu a chynnal pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau
  • gwella a chreu cynefinoedd glannau afon
  • gwella cynefinoedd afonydd a llwybrau pysgod trwy ddisodli cwlferi, rhwystrau eraill yn y sianel neu rydau gyda phontydd rhychwant clir
  • gwella cynefinoedd a mewndir yr ucheldir a heb eu hamgáu (lle bo’n briodol, gweler isod)
  • gwella a chreu cynefin iseldir
  • mesurau wedi’u targedu i greu a gwella cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio, megis dolydd blodau gwyllt, pyllau dŵr tymhorol, a phlannu rhywogaethau penodol i ddenu pryfed peillio
  • adfer gweirgloddiau traddodiadol, a chreu lleiniau a llecynnau i adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio
  • gwarchod a rheoli Henebion Cofrestredig a Nodweddion Hanesyddol
  • gwelliannau i’r amgylchedd hanesyddol ehangach, gan gynnwys adfer ffiniau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi
  • gwella mynediad i gefn gwlad trwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd
  • mesurau wedi’u targedu i helpu i adfer rhywogaethau bywyd gwyllt penodol yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 – Rhestrau Adran 7 o Gynefinoedd a Rhywogaethau Pwysig Iawn i Gymru megis creu a sefydlu cynefinoedd nythu a bwydo; i gefnogi’r rhywogaethau hynny fel rhan o’r camau gweithredu ehangach ar raddfa tirwedd
  • mesurau wedi’u targedu i wella ansawdd dŵr, megis rheoli stoc

Cyllid refeniw

Ochr yn ochr â’r gweithgareddau cyfalaf y gall eu hariannu ar gyfer cyflawni ar y fferm, gall Ffermio Bro ddarparu cyllid refeniw i gyrff Tirweddau Dynodedig i gydlynu’r cynllun yn lleol. Dim ond ar gyfer y canlynol y gellir defnyddio’r arian hwn: 

Costau Cyflawni Craidd

  • Costau cyflogaeth ar gyfer cyflogi cynghorwyr a gweinyddwyr Ffermio Bro, gan gynnwys costau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn. 

Hwyluso, hyfforddiant ac asesiadau

  • Costau hwyluso – costau ychwanegol yn ymwneud â gweithgareddau sy’n cynorthwyo i ddatblygu trefniadau cydweithredu rhwng ffermydd, megis llogi lleoliadau ac arlwyo, costau hwyluswyr arbenigol. 
  • Costau hyfforddi – costau’n ymwneud â darparu hyfforddiant arbenigol a fydd yn gwella manteision a llwyddiant prosiectau cydweithredol, megis gweithdai i ffermwyr yn ymwneud â gweithgarwch allweddol o fewn prosiect. Er mwyn i’r costau hyfforddi fod yn gymwys, rhaid iddynt fod wedi’u hanelu’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ffermwyr sy’n ymwneud â chyflawni prosiectau Ffermio Bro. Efallai y bydd hyfforddiant perthnasol hefyd ar gael trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio a dylid ymchwilio i hyn fel opsiwn cyn cael cyllid o gyllideb Ffermio Bro. Dim ond ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a fydd yn gallu cael yr hyfforddiant hwn. Disgwylir i ffermwyr gyfrannu at gostau Cyswllt Ffermio a gall cyrff Tirweddau Dynodedig ad-dalu’r costau hyn o’u dyraniad hyfforddiant os ystyrir bod hynny’n briodol.  I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac ynglŷn â’r cyfleoedd hyfforddi a gynigir, ewch i’r dudalen sgiliau a hyfforddiant neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.
  • Costau Asesu. Pan ystyrir bod asesiadau’n elfen hanfodol o ryw brosiect cyfalaf, gellir eu hawlio fel costau cyfalaf. Efallai y bydd cyrff Tirweddau Dynodedig o’r farn fod asesiadau eraill yn angenrheidiol i gyflawni’r cynllun yn well o fewn eu tirwedd, megis arolwg arbenigol o gynefinoedd neu rywogaethau, a bydd y rhain yn gymwys fel costau refeniw. Gellir ategu costau asesu hefyd trwy gyfrwng Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio a dylid ymchwilio i hyn fel opsiwn cyn cael cyllid o gyllideb Ffermio Bro. Dim ond ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a fydd yn gallu cael gafael ar y cyngor hwn. Disgwylir i ffermwyr gyfrannu at y costau sydd ynghlwm wrth gael cyngor trwy gyfrwng Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio a gall cyrff Tirweddau Dynodedig ad-dalu’r costau hyn o’u dyraniad asesu os ystyrir bod hynny’n briodol.  I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gwasanaeth Cynghori, ewch i’r dudalen Gwasanaeth Cynghori neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.

Capasiti sefydliadol

Mae hyn yn cynnwys Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer cynghorwyr y cynllun, costau’r Panel Asesu Lleol, ac offer ar gyfer cynghorwyr. Ni ddylid hawlio’r rhain trwy gyfrwng RPW, a bydd trefniadau ar wahân yn cael eu rhoi ar waith.

Ni ellir rhoi cyllid refeniw i ffermwyr i gefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau cyfalaf neu daliadau cynnal a chadw.  

Cyllid amlflwyddyn

Bydd cyrff Tirweddau Dynodedig yn cael cynnig cyllid gan Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd – 2026-27 a 2027-28. Mewn rhai achosion, gellir ystyried ceisiadau a chynnig cyllid i ffermwyr ar gyfer prosiectau ar draws y ddwy flynedd, h.y. mewn blynyddoedd ariannol lluosog. At ddibenion cyllido, rhaid i’r cyrff drin prosiectau o’r fath fel pe bai ganddynt gyfnodau neilltuol. Ceir manylion am sut i gyflwyno hawliadau am brosiectau sy’n cwmpasu dwy flwyddyn ariannol yn adran L – Taliadau.

Rhaid i brosiectau amlflwyddyn fod yn gydweithredol (sef cynnwys dwy fferm o leiaf). Mae manteision sylweddol yn perthyn i gyflawni prosiectau amlflwyddyn; fodd bynnag, dylid cydbwyso hyn â’r angen am hyblygrwydd a chyfleoedd i gyrraedd rhagor o ffermwyr. Felly, ni ddylai Tirwedd Ddynodedig ymrwymo mwy na 50% o’i dyraniad cyfalaf ar gyfer 2027-28 fel rhan o brosiect amlflwyddyn a gymeradwywyd yn 2026-27.

Dylai dyfarniadau amlflwyddyn ddangos rhesymeg gref dros wneud hynny a dylent gyflawni mwy o ganlyniadau ecolegol nag a fyddai wedi cael eu cyflawni pe bai dyfarniadau un flwyddyn wedi’u dyfarnu. Dylai Paneli Asesu Lleol ystyried pob dyfarniad amlflwyddyn yn ofalus; dylai’r Panel asesu’r rhesymeg, gan gynnwys y canlyniadau ecolegol, dros ddarparu dyfarniad o’r fath.

Creu coetir

Rydym yn awyddus i alluogi’r arfer o blannu coed priodol, yn unol â Safon Coedwigaeth y DU. Gall ffermwyr gyflawni hyn mewn sawl ffordd, ac mae’n bwysig iddynt hwy, ac unrhyw gynghorwyr proffesiynol sy’n eu cynorthwyo, ystyried yn ofalus y gwahanol opsiynau sydd ar gael yn seiliedig ar yr amcanion y cytunwyd arnynt mewn perthynas â chreu coetir. Bydd ystyriaethau’n cynnwys canlyniadau y dymunir eu gweld yn sgil y plannu, y raddfa arfaethedig a’r goblygiadau ariannol. Pa bynnag lwybr a ddewisir, mae’n bwysig ceisio cyngor ynghylch lleoliadau priodol, rhywogaethau presennol a rheolaeth yn y dyfodol. 

Yn 2025, gwnaed newidiadau pwysig i’r cymhwystra ar gyfer arlwy Creu Coetir Llywodraeth Cymru (sy’n cynnwys y Grant Creu Coetir a Grantiau Bach – Creu Coetir) gan gynnwys: 

Ar gyfer y Grant Creu Coetir:

  • rhaid i’r cais gynnwys isafswm arwynebedd o 0.25ha o blannu cymeradwy a all gynnwys blociau o goed gydag isafswm arwynebedd o 0.01ha
  • ar gyfer unrhyw opsiynau plannu Amaeth-goedwigaeth, yr arwynebedd lleiaf fydd 0.5ha o blannu cymeradwy.  
  • caiff opsiynau amaeth-goedwigaeth daliad cynnal a chadw blynyddol o £70 yr hectar am 12 mlynedd, heb bremiwm, tra caiff opsiynau eraill daliadau cynnal a chadw ymlaen llaw sy’n gostwng dros y 12 mlynedd 

Ar gyfer Grantiau Bach – Creu Coetir (sy’n gymwys ar ardaloedd sensitifrwydd isel lle na cheir rhesymau penodol dros osgoi plannu coed – rhagor o wybodaeth yn Grantiau Bach – Creu Coetir 2025 - MapDataCymru):

  • cyfanswm lleiaf yr arwynebedd plannu newydd ar gyfer bod yn gymwys yw 0.1ha
  • cyfanswm mwyaf yr arwynebedd fesul cais yw 1.99ha o blannu, a all gynnwys blociau o goed gydag isafswm arwynebedd o 0.01ha

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud yn 2026:

  • cynhaliwyd adolygiad taliadau. Bydd yn cael ei roi ar waith yng nghynlluniau creu coetir 2026, a bydd cymhelliant ychwanegol yn cael ei gyflwyno ar gyfer rhai opsiynau plannu er mwyn annog yr arfer o blannu coed
  • cymorth ar gyfer taliadau cyfalaf gogyfer plannu ar lannau afonydd, gan gynnwys cyllid ar gyfer seilwaith fel cafnau a phibellau dŵr pan fydd ffynonellau dŵr wedi’u ffensio oddi wrth dda byw

Gall rheolau a chyfraddau talu newid, felly mae’n bwysig edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mewn rhai achosion, gall hyn olygu y bydd y mathau o waith adfer a phlannu coed a ariannwyd trwy Ffermio Bro yn 2025-26 yn dod yn fwy deniadol i’r tirfeddiannwr trwy gyfrwng gwahanol gynigion y Grant Creu Coetir.

Mae’r cyngor canlynol yn nodi’r senarios creu coetiroedd:

  • adfywio naturiol a phlannu dwysedd isel iawn – (llai na 50 o goed yr hectar) – Ffermio Bro yn unig (dylai hyn fod o fewn yr haen Grantiau Bach – Creu Coetir yn unig, er mwyn atal adfywio amhriodol ar gynefinoedd sensitif. Os ydych yn dymuno mynd ar drywydd hyn y tu allan i’r haen, rhaid ceisio cymeradwyaeth – efallai y bydd angen i chi gael eich asesu fesul safle. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Rheolwr y Rhaglen)
  • ar gyfer unrhyw blannu y tu allan i’r haen Grantiau Bach – Creu Coetir neu dros 2ha, nid yw Ffermio Bro yn briodol, a dylai’r cyfranogwyr ddefnyddio’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn unig
  • ar gyfer prosiectau gweithgarwch cymysg – lle cyfunir plannu coed dwysedd isel (y tu mewn i’r haen Grantiau Bach – Creu Coetir) ag ymyriadau eraill fel Rheoli Llifogydd yn Naturiol, adfer neu blannu gwrychoedd a gwelliannau mynediad – efallai mai Ffermio Bro yw’r cynllun mwyaf priodol i osgoi ceisiadau lluosog am grantiau
  • ar gyfer senarios eraill, dylai Tirfeddianwyr ymgyfarwyddo â manylion y Cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir a’r Cynllun Creu Coetir er mwyn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa gyllid fydd fwyaf priodol i’w prosiect

Os dilynir y cyngor uchod, gall plannu coed o dan y cynllun Ffermio Bro gynnwys: 

  • plannu ar lethrau serth 
  • plannu ceunentydd a nentydd ucheldirol 
  • plannu corneli caeau a phlannu coed newydd y tu allan i goetiroedd
  • creu coed pori 
  • cefnogi a galluogi adfywio naturiol 

Gall adfer coetir o dan Ffermio Bro gynnwys:

  • rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
  • rheoli pori
  • gwaith wedi’i dargedu i reoli prysgwydd
  • gweithgareddau adfer eraill sy’n seiliedig ar gyngor ac arweiniad ecolegol arbenigol

Cyngor a monitro

Mae’n bwysig i dirfeddianwyr gael dewisiadau clir rhwng cynlluniau, gan ddeall y manteision a’r cyfyngiadau sy’n perthyn i bob cynllun. Dylai pob cynghorydd gyfathrebu’r opsiynau hyn yn dryloyw.

Mae gan CNC rôl bwysig o ran darparu cyngor cyn gwneud cais ar gyfer creu coetiroedd – sef cyngor sydd ar gael i bob tirfeddiannwr, ni waeth be fo’r cynllun. Mae gan gynghorwyr Ffermio Bro, gyda chymorth arbenigwyr proffesiynol mewn cyrff partneriaid neu gyrff Tirweddau Dynodedig, rôl bwysig i’w chwarae hefyd. 

Dylai cynghorwyr Ffermio Bro fod yn ymwybodol o Ganllaw Cynllunwyr Creu Coetir CNC a’r map cyfleoedd coetir.  Mae’r rhain ar gael yma: Map Cyfleoedd Coetir 2025 – MapDataCymru a Grantiau Bach – Creu Coetir 2025 - MapDataCymru. Er na chyhoeddir y canllaw ar-lein oherwydd problemau hygyrchedd, gellir ei ddarparu ar gais trwy anfon e-bost i’r cyfeiriad GwirioCynllunCoetir@cyfoethnaturiolcyrmu.gov.uk. Gellir defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn hefyd os hoffech gael cyngor cyn gwneud cais.

Bydd Rheolwr y Rhaglen a Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o arweiniad. Bydd Llywodraeth Cymru a CNC yn darparu cyngor a hyfforddiant yn ymwneud â’r Canllaw a’r map cyfleoedd coetir (WOM).

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru a CNC yn awyddus i fonitro rôl cynghorwyr Ffermio Bro o ran atgyfeirio tirfeddianwyr at y Cynllun Creu Coetir. Felly, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am atgyfeiriadau; bydd CNC hefyd yn monitro atgyfeiriadau. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Grantiau Bach – Creu Coetir yma: Grantiau Bach – Creu Coetir | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Grantiau Creu Coetir yma: Grantiau a thaliadau gwledig | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

Cynllun Tirwedd y Goedwig Genedlaethol

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru wedi darparu dros £2.8 miliwn i gefnogi nifer o brosiectau tirwedd uchelgeisiol a chydweithredol ar gyfer 2025-28 a fydd:

  • yn gwireddu manteision economaidd, cymunedol bioamrywiaeth a hamdden ein coetiroedd
  • yn esgor ar drefniadau cydweithredol rhwng nifer o dirfeddianwyr ar raddfa tirwedd
  • yn bodloni pob un o 6 chanlyniad Coedwig Genedlaethol Cymru

Agorwyd un o ffenestri’r Gronfa Her trwy gyfrwng cynllun Partneriaethau Natur Lleol rhwng Gorffennaf a Medi 2025 er mwyn i bob un o’r 25 Partneriaeth Natur Leol allu gwneud cais ar ran grwpiau o fewn eu partneriaeth. Mae’r cynllun yn adeiladu ar gynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd ar ddechrau 2025.

Cymeradwywyd 13 o brosiectau ledled Cymru ar gyfer cymorth gan y Cynllun ac mae ganddynt tan 31 Mawrth 2027 i gyflawni’r gwaith. Bydd safleoedd prosiect priodol yn mynd ymlaen i wneud cais am Statws Coedwig Genedlaethol Cymru, gan ein helpu i barhau i dyfu ac ehangu ein rhwydwaith.

Bydd y prosiectau a gymeradwywyd yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni ystod o ganlyniadau a thargedau’r Goedwig Genedlaethol megis:

  • plannu coed a choetiroedd newydd.
  • creu llwybrau troed newydd a/neu well.
  • cynyddu cyfleoedd newydd i wirfoddoli.
  • cyfleoedd hamdden/twristiaeth/addysgol newydd.
  • cyfranogwyr mewn gweithgareddau dysgu.

Os bydd ffenestri’n agor yn y dyfodol ar gyfer Cynllun Tirwedd y Goedwig Genedlaethol, efallai y bydd yna gyfleoedd priodol i grwpiau o ffermwyr wneud cais, ar yr amod eu bod yn bodloni pob un o 6 chanlyniad y Goedwig Genedlaethol. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth a chysylltiadau y gall cyrff Tirweddau Dynodedig drafod prosiectau posibl ymhellach â nhw.

Mawndir

At ddibenion cyllid Ffermio Bro, yn fras gellir rhannu gweithgareddau mawndir yn ddau gategori:

  • Categori 1: Ailwlychu ar raddfa fawr ac adfer mawndiroedd (anghymwys ac eithrio’r eithriadau isod)
  • Categori 2: Adfer a gwella cynefinoedd mawndir lleol ar raddfa fach, gan gynnwys ailwlychu ar ardaloedd sy’n llai na 1ha, a gweithgareddau ategol sy’n rheoli, yn cynnal ac yn cyfoethogi ecosystemau mawndir yn well (cymwys)

Ni ddylai cyrff Tirweddau Dynodedig ariannu prosiectau sy’n rhan o gategori 1 trwy gyfrwng Ffermio Bro. Mae natur arbenigol y gwaith hwn, y costau sylweddol ac arbenigedd gofynnol y contractwyr yn golygu y dylai cyrff Tirweddau Dynodedig gyfeirio prosiectau posibl o’r math hwn at y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol hon yn darparu strwythur ar gyfer cydlynu, ysgogi a chyflawni gwaith i adfer mawndiroedd, ynghyd â monitro ac adrodd ar adfer mawndiroedd a chyflwr mawndiroedd yng Nghymru. Dylid cyfeirio ymholiadau at npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Gellir ariannu prosiectau Categori 2 o dan Ffermio Bro os ydynt yn cydweddu â Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol y corff Tirwedd Ddynodedig. Gall cyrff ariannu prosiectau ar raddfa lai ar fawndiroedd, sef prosiectau sy’n ceisio adfer neu wella’r cynefin a gwarchod rhywogaethau cysylltiedig. Ni ddylai prosiectau o’r fath gynnwys gweithgareddau ailwlychu ar ardaloedd sy’n fwy nag 1ha.

Dyma’r unig eithriadau i’r uchod:

  • gall cyrff Tirweddau Dynodedig ystyried ariannu prosiectau cwmpasu ac asesiadau sy’n hwyluso i adfer mawndiroedd categori 1 ar raddfa fwy yn y dyfodol trwy gyfrwng y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd os ydynt yn cydweddu â Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol Ffermio Bro y corff Tirwedd Ddynodedig. Gallai hyn gynnwys arolygu dyfnder a chyflwr y mawn. Dylid trafod y prosiectau cwmpasu hyn gyda Rheolwr y Rhaglen a thîm y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn CNC 
  • gweithgareddau sy’n ategol i brosiectau Categori 1 hanesyddol neu arfaethedig a ariennir gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Gallai’r mesurau a gefnogir gynnwys clirio prysgwydd, conwydd a rhywogaethau estron goresgynnol, mesurau i hwyluso rheoli pori neu ei ailgyflwyno neu ddarpariaeth mynediad ar ffurf lwybrau pren, llwybrau eraill a chlwydi. Ni chaniateir ariannu gweithgareddau ailwlychu, byndiau cyfuchliniau nac argaeau ar gyfer ardaloedd sy’n fwy nag 1ha 

Dylai Cyrff Tirweddau Dynodedig gysylltu â Rheolwr y Rhaglen os nad ydynt yn siŵr a yw prosiect yn addas ar gyfer cyllid Ffermio Bro.

Mae’n ofynnol i’r cyfranogwyr adrodd ar yr holl gamau gweithredu ar fawndiroedd yn unol â phrotocolau adrodd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd er mwyn sicrhau y gellir monitro ac adrodd canlyniadau ar lefel genedlaethol, a dylent gysylltu â npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu arweinwyr mawndiroedd y corff Tirwedd Ddynodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Mynediad

Un o ddibenion allweddol cyrff Tirweddau Dynodedig yw cynyddu cyfleoedd i bobl fwynhau’r dirwedd a reolir ganddynt. Gall prosiectau mynediad ennyn diddordeb trigolion ac ymwelwyr mewn natur ac adfer natur. Anogir cyrff Tirweddau Dynodedig i ariannu prosiectau sy’n gwella ac ychwanegu at Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac sy’n anelu at sicrhau rhwydwaith gwell yn y Dirwedd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys cerdded, beicio a marchogaeth. Yn gyffredinol, bydd y gweithgareddau a ariennir yn cynnwys rhai a fydd yn gwella mynediad ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys y rhai sydd â symudedd cyfyngedig. 

Gall y prosiectau hyn gynnwys gwaith i wella arwyneb llwybrau er mwyn galluogi ystod ehangach o ddefnyddwyr, a gosod clwydi yn lle camfeydd (‘mynediad lleiaf rhwystrol’). Gall cyrff ystyried ariannu llwybrau newydd a hyrwyddir ar hawliau tramwy presennol, neu wella’r rhai presennol, trwy osod arwyddion a darparu deunyddiau dehongli, yn enwedig pan fo hyn yn gwella mwynhad y cyhoedd o dreftadaeth naturiol neu ddiwylliannol. Gallai gweithgareddau addas eraill gynnwys darparu standiau ar gyfer beiciau, offer atgyweirio neu ffynonellau dŵr ar bennau llwybrau ac mewn mannau mynediad hawliau tramwy, neu brosiectau tebyg eraill sy’n cynorthwyo beicwyr neu farchogion.

Ceir rhagdybiaeth yn erbyn ariannu llwybrau caniataol newydd neu geisio creu Hawliau Tramwy Cyhoeddus cyfreithiol newydd. Dylai’r cyrff ofalu na chaiff ffermwyr eu hariannu ar gyfer gweithgareddau sydd o fewn cyfrifoldeb cyfreithiol y tirfeddiannwr, megis clirio rhwystrau oddi ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus neu gynnal a chadw camfeydd a chlwydi. Mae llinell sylfaen reoleiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys cadw at gyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â Hawliau Tramwy Cyhoeddus a thir Mynediad Agored.

Sylwch y dylai pob prosiect Ffermio Bro gefnogi’n bennaf y gwaith o gyflawni’r amcan o ran Rheoli Tir yn Gynaliadwy, sef ‘Cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu’, a dylai gweithgareddau mynediad fod yn atodol i’r amcan hwn mewn unrhyw brosiect, yn hytrach na bod yn brif elfen.

Fodd bynnag, efallai y bydd cyrff yn dymuno ystyried a ellir defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus i gynorthwyo i greu trefniant cydweithredol rhwng ffermwyr. Yn gyffredinol, byddai hyn yn digwydd pan fo Hawl Dramwy Gyhoeddus yn mynd trwy nifer o ffermydd cyfagos, a gellid strwythuro unrhyw gydweithio o amgylch gwella a chreu cynefinoedd ar ddaliadau ar hyd yr hawl dramwy honno. 

Pan fydd corff yn ariannu prosiect mynediad, mae’n ofynnol iddo lenwi Ffurflen Fonitro’r Prosiect Mynediad yn unol â’r canllawiau a ddarperir gan Reolwr y Rhaglen.

Treftadaeth

Mae amgylchedd naturiol y dydd sydd ohoni yn gynnyrch miloedd o flynyddoedd o ryngweithio rhwng pobl ac ecosystemau naturiol. Ceir cysylltiad annatod rhwng elfennau diwylliannol a naturiol tirweddau; mae’r ddwy elfen yn hanfodol, ac mae’r ddwy’n agored i niwed. Felly, yn ogystal â bod yn dda i natur a bioamrywiaeth, gall cynnal, gwella ac adfer cynefinoedd gyfoethogi’r amgylchedd hanesyddol. Nid cyfyngiad y dylid ei osgoi yw asedau hanesyddol yn ardal eich prosiect – maent yn cynnig cyfle i gyflawni manteision ehangach, ac mae rheolaeth amgylcheddol integredig yn hanfodol i gyflawni canlyniadau da.

Felly, mae’n hanfodol i chi ystyried effaith eich cynigion ar yr amgylchedd hanesyddol o’r cychwyn cyntaf, a chwilio am gyfleoedd i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn ffordd gadarnhaol.

Mae treftadaeth ein Parciau Cenedlaethol a’n Tirweddau Cenedlaethol yn gyfoethog. Mae ein Tirweddau Dynodedig yn cynnwys 1360 o Henebion Cofrestredig – mwy na 30% o’r cyfanswm ar gyfer Cymru. Yn anffodus, mae 465 o’r rhain mewn cyflwr anffafriol (eto, mwy na 30% o’r cyfanswm ar gyfer Cymru). Hefyd, mae 447 o’r Henebion Cofrestredig a leolir mewn Tirweddau Dynodedig o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), neu’n croestorri â nhw, ac mae 144 ohonynt mewn cyflwr anffafriol. Felly, gallai Ffermio Bro chwarae rôl hanfodol o ran dychwelyd rhai o’n Henebion Cofrestredig i gyflwr mwy ffafriol, gan helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Anogir cyrff Tirweddau Dynodedig i gefnogi prosiectau sydd o fudd i asedau hanesyddol neu sy’n gwella asedau hanesyddol (megis trwy glirio prysgwydd neu atgyweirio erydiad), neu’n annog mwynhad ohonynt (trwy gyfrwng gwaith sy’n gwella mynediad at y nodweddion hyn, megis gwella mynediad ffisegol, byrddau dehongli).

Rhaid i brosiectau treftadaeth a ariennir ragori ar ofynion haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Rhaid i dirweddau ystyried yr effaith a gaiff prosiectau ar nodweddion yr amgylchedd hanesyddol a Henebion Cofrestredig cyn dyfarnu cyllid. Dylai’r cyrff adolygu pob cais yn erbyn mapiau o’r Amgylchedd Hanesyddol er mwyn penderfynu a oes unrhyw asedau hanesyddol wedi’u lleoli o fewn ardal y prosiect:

Gellir dod o hyd i leoliad holl henebion cofrestredig Cymru yn: Chwilio cofnodion Cadw | Cadw 

Gellir dod o hyd i leoliad Nodweddion yr Amgylchedd Hanesyddol yma: WOM21 Nodweddion yr Amgylchedd Hanesyddol (HEF) | MapDataCymru 

Henebion Cofrestredig (SMs)

  • Os yw ardal y prosiect o fewn heneb gofrestredig neu'n gorgyffwrdd â hi, rhaid i gorff y Dirwedd Ddynodedig ymgynghori â Cadw (e-bost: ScheduledMonuments@llyw.cymru.
  • Os bydd gweithgaredd (megis gosod pyst ffens, gwaith palu neu blannu coed) yn aflonyddu'r ddaear mewn ardal restredig rhaid ymgynghori â Cadw cyn gwneud y gwaith. 
  • Pan fydd prosiect yn cael ei gynnal ar Heneb Gofrestredig neu o fewn 100m iddi, rhaid i gorff y Dirwedd Ddynodedig ymgynghori â Cadw i sicrhau nad yw'r prosiect yn cael effaith andwyol ar yr heneb na'i lleoliad. 
  • Os bydd y weithgaredd yn cyflwyno da pori neu'n newid y drefn bori, heb aflonyddu wyneb y ddaear, yna gall y prosiect fynd yn ei flaen heb ymgynghori â Cadw. Ond dylech roi gwybod i Cadw (drwy e-bost) bod y drefn bori wedi'i newid (e-bostiwch scheduledmonuments@gov.wales). 
  • Pan fydd posibilrwydd y gallai'r prosiect effeithio ar heneb gofrestredig, rhaid darparu prawf bod Cadw wedi cytuno i'r gwaith (e.e. copi o gadarnhad mewn e-bost gan Cadw). Rhaid i'r cam hwn gael ei wneud cyn i unrhyw benderfyniad terfynol ar gyllid gael ei wneud.

Pwysig: I weld lleoliad, maint, cyfeirnod ac enw'r heneb gofrestredig a disgrifiad byr ohoni, cliciwch ar y ddolen hon: Chwilio cofnodion Cadw | Cadw

Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig

  • Os yw ardal y prosiect o fewn Parc neu Ardd Hanesyddol neu'n gorgyffwrdd, rhaid i gorff y Dirwedd Ddynodedig ymgynghori â Cadw (e-bost: lisa.fiddes@gov.wales).
  • Pan fydd prosiect yn cael ei gynnal mewn Gardd neu Barc Hanesyddol neu o fewn 100m iddo, rhaid i gorff y Dirwedd Ddynodedig ymgynghori â Cadw i sicrhau nad yw'r prosiect yn cael effaith andwyol ar y parc neu’r ardd hanesyddol na'i leoliad. 
  • Pan fydd posibilrwydd y gallai'r prosiect effeithio ar Ardd neu Barc Hanesyddol, rhaid darparu prawf bod Cadw wedi cytuno i'r gwaith (e.e. copi o gadarnhad mewn e-bost gan Cadw). Rhaid i'r cam hwn gael ei wneud cyn i unrhyw benderfyniad terfynol ar gyllid gael ei wneud.

Pwysig: I weld lleoliad, maint, cyfeirnod ac enw'r Ardd neu’r Parc Hanesyddol Cofrestredig a disgrifiad byr ohono, cliciwch ar y ddolen hon: Chwilio cofnodion Cadw | Cadw'

Nodweddion yr Amgylchedd Hanesyddol

  • Os yw'r prosiect yn cael o fewn nodwedd amgylcheddol hanesyddol sydd heb ei dynodi, neu o fewn 50m iddi, dylai corff y Dirwedd Ddynodedig ystyried a all y prosiect effeithio'n niweidiol ar y nodwedd neu ei lleoliad.
  • Yn gyffredinol, os na fydd prosiect yn aflonyddu'r ddaear o fewn 50m i'r nodwedd, ni fydd yn effeithio arni. 
  • Os ym marn corff y Dirwedd Ddynodedig nad yw'r prosiect yn cael unrhyw effaith negyddol ar y nodwedd na'i lleoliad, dylai’r corff roi gwybod i Heneb. Bydd Rheolwr y Rhaglen yn darparu rhagor o wybodaeth i gorff y Dirwedd Ddynodedig am y broses ar gyfer gwneud hynny. 
  • Nid oes angen ymateb gan Heneb i hysbysiad i fwrw ymlaen â chais prosiect. Dim ond os gallai'r prosiect, yn eu barn nhw, gael effaith negyddol ar Nodwedd Amgylcheddol Hanesyddol y bydd angen i Heneb ymateb i hysbysiad. Nid oes angen i gorff y Dirwedd Ddynodedig aros am ymateb, ond os yw Heneb yn ymateb, rhaid i’r corff ystyried a oes angen newid y prosiect mewn unrhyw ffordd.
  • Pan fydd corff y Dirwedd Ddynodedig o'r farn y gallai prosiect gael effaith negyddol ar Nodwedd Amgylcheddol Hanesyddol neu ei lleoliad , dylai'r corff ymgynghori â Heneb. Dylai corff y Dirwedd Ddynodedig ymgynghori hefyd â Heneb os nad ydynt yn siŵr a allai prosiect gael effaith o'r fath. Gallai prosiectau o'r fath olygu aflonyddu’r ddaear, gwaith ar gyrsiau dŵr ac ail-wlychu mawndir, neu lle mae gan nodweddion newydd fel lleiniau cysgodi y potensial i effeithio'n weledol ar leoliad nodwedd amgylcheddol hanesyddol neu ei pherthynas â nodweddion eraill. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, a dylid gofyn am gyngor Heneb os nad yw corff y Dirwedd Ddynodedig yn siwr.
  • Bydd Rheolwr y Rhaglen yn darparu proses ymgynghori. Os bydd angen ymgynghori dylai corff y Dirwedd Ddynodedig aros am ymateb gan Heneb, a ddylai gymryd dim mwy na 2 wythnos. Dylai’r corff holi Heneb fel rhan o'r broses o ddatblygu'r prosiect, a dylai Heneb gymeradwyo'r prosiect cyn i unrhyw benderfyniad terfynol ar gyllid gael ei wneud.

Rhywogaethau Estron Goresgynnol 

Dim ond pan fo modd cyflawni gwaith rheoli cynaliadwy o fewn blwyddyn (neu erbyn 31 Mawrth 2028 ar gyfer prosiectau a ariennir dros ddwy flynedd) y dylid ymgymryd â phrosiectau’n ymwneud â Rhywogaethau Estron Goresgynnol.

Sylwer, ceir rhai cyfyngiadau, sydd eisoes wedi’u nodi yn y gyfraith, a fydd yn gymwys i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn benodol (y rhai a ddaw o dan y ‘llinell sylfaen reoleiddiol’). Ni ddylai tirfeddianwyr gael cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n torri’r llinell sylfaen reoleiddiol. Er enghraifft, ni ddylid plannu planhigion a restrir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 neu Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019, na chymryd camau a fyddai ‘fel arall yn achosi iddynt dyfu’.

Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod y partïon sy’n ymgymryd â rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn meddu ar brofiad ac arbenigedd priodol, a bod ganddynt unrhyw drwyddedau priodol. Dylid cadw dogfennau sy’n dangos cymhwysedd y partïon sy’n ymgymryd â’r gwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo prosiectau islaw’r trothwy gwerth ar gyfer gweithdrefnau caffael y dylid eu dilyn. Efallai y bydd yn briodol ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhai achosion.

Mae nodiadau technegol wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer camau rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol ar gyfer haen opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae’r dogfennau hyn yn ymdrin yn bennaf â ffyrdd o reoli planhigion goresgynnol tirol a dŵr croyw. Maent hefyd yn cwmpasu’r wiwer lwyd a’r minc. Byddant yn disgrifio safon y gwaith sy’n ofynnol er mwyn cael taliadau. Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig ystyried y dogfennau hyn, a byddwn yn eu dosbarthu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.

Cyrsiau Dŵr a Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Anogir cyrff Tirweddau Dynodedig i ariannu prosiectau cydweithredol sy’n adfer cynefinoedd mewn sianel, cynefinoedd glannau afon a chynefinoedd gorlifdir, ac sydd hefyd yn gwella ansawdd dŵr ac yn Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar raddfa’r dalgylch neu’r dirwedd. Mae cyfraddau safonol ar gael ar gyfer llawer o weithgareddau cysylltiedig; ond oherwydd natur unigryw prosiectau ar gyrsiau dŵr, cydnabyddwn y gallai fod angen cael costau pwrpasol y tu allan i’r manylebau safonol.

Mae prosiectau sy’n cynnal gweithgareddau mewn, neu wrth ymyl, cwrs dŵr yn debygol o fod angen caniatâd neu gydsyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru a/neu’r Awdurdod Lleol. Pan fo hyn yn hanfodol i’r prosiect, gellir ystyried bod y gost sydd ynghlwm wrth gael caniatâd a chydsyniad o’r fath yn cyfateb i eitem gyfalaf, a gellir ei hariannu o dan Ffermio Bro. Dylai Tirweddau ystyried yr amser a’r mewnbwn sy’n ofynnol ar gyfer yr eitemau hyn wrth gwmpasu prosiectau posibl. 

Dylid hysbysu arweinwyr llifogydd Awdurdodau Lleol ynglŷn ag unrhyw waith a gwblhawyd mewn perthynas â Rheoli Llifogydd yn Naturiol, fel y gellir gwella ein sylfaen dystiolaeth gyfunol.

Dylai cyrff Tirweddau Dynodedig ofyn am gyngor arbenigol, yn enwedig ar gyfer prosiectau mwy cymhleth. Dylid ceisio cyngor gan arbenigwyr yn eich sefydliad, CNC a Llywodraeth Cymru. Lle bo angen, gellir ceisio arbenigedd allanol hefyd trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio; neu, pan na fo hynny’n addas, gellir ei ariannu trwy ddyraniadau cyllid refeniw Ffermio Bro. Os bydd y cyrff mewn amheuaeth, dylent ymgynghori â Rheolwr y Rhaglen.

Gweithio ar safleoedd dynodedig

Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol i ddiogelu amrywiaeth, ansawdd ac amrywiaeth cynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol naturiol ledled Cymru. Mae angen cydsyniad SoDdGA gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn ymgymryd â gweithgareddau rheoli sydd wedi’u rhestru ar y rhestr Gweithrediadau sy’n Debygol o Niweidio’r Diddordeb Arbennig (OLDSI), sy’n unigryw i bob SoDdGA. 

Yn ogystal â chael eu dynodi’n SoDdGa, mae rhai rhannau o dir hefyd wedi’u dynodi’n safleoedd Ewropeaidd – naill ai’n Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), wedi’u dynodi ar gyfer adar, neu’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), wedi’u dynodi i warchod rhywogaethau a chynefinoedd eraill. 

Efallai y bydd angen gwaith ar SoDdGA, AGA ac ACA fel rhan o brosiect Ffermio Bro ac mae hyn yn cael ei annog. Ni ddylai cyrff Tirweddau Dynodedig a Phaneli Asesu Lleol sgorio prosiectau’n uwch dim ond oherwydd eu bod yn cefnogi safle dynodedig. Fodd bynnag, lle mae gweithgareddau ar SoDdGA a safleoedd dynodedig eraill yn cydweddu â’r blaenoriaethau a nodir yn Natganiad Blaenoriaethu Ecolegol corff, dylent geisio cefnogi’r gwaith hwn, a dylai’r cydweddiad hwn arwain at sgôr uwch i’r prosiect.

Dylai tirweddau ymgysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheolaidd fel rhan o ddatblygu prosiect Ffermio Bro. Disgwylir i gyrff Tirweddau Dynodedig gynnal cyfarfodydd misol gyda Thimau Amgylchedd perthnasol CNC (lle bo angen), a dylai pob Panel Asesu Lleol gynnwys cynrychiolydd o CNC. Dylai cyrff lenwi’r Ffurflen Ymgysylltu SoDdGA ar gyfer pob gwaith a allai effeithio ar SoDdGA a’i chyflwyno’n brydlon i Dimau Amgylchedd CNC, yn unol â’r canllawiau a ddarperir gan Reolwr y Rhaglen. Dylai cyrff ymdrechu i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol gan CNC ar gyfer prosiectau ar SoDdGA a safleoedd dynodedig eraill. 

Dylai’r ymgysylltiad hwn alluogi trafodaeth gynnar am brosiectau mewn safle dynodedig a/neu sy’n debygol o effeithio ar safle Ewropeaidd fel bod y cynnig rheoli wedi’i gynllunio mewn modd a fydd yn cynnal ac, yn ddelfrydol, yn gwella nodweddion arbennig y safleoedd gwarchodedig perthnasol. Dylai hyn olygu wedyn y bydd y broses o ystyried a rhoi caniatâd SoDdGA yn syml.

Yn ogystal, dylai cyrff gyflwyno gwybodaeth am y prosiect i aelodau Panel Asesu Lleol CNC ddim llai na phythefnos cyn y cyfarfod panel, ac eithrio lle mae amgylchiadau eithriadol yn atal hyn. Sylwch fod gan CNC rôl reoleiddiol yn achos SoDdGA a safleoedd dynodedig eraill, ond ar gyfer prosiectau y tu allan i safleoedd dynodedig mae ganddynt rôl ymgynghorol fel rhan o’r Panel. 

Bydd y Rheolwr Rhaglen yn parhau i ddatblygu cyfleoedd i gryfhau’r ymgysylltiad â CNC, gan gynnwys hyfforddiant i gynghorwyr Ffermio Bro a chysylltiad cynnar â Thimau Amgylchedd perthnasol CNC i wneud y broses o gael caniatâd SoDdGA yn syml ac amserol. 

O dan yr SFS, bydd cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig yn cael eu datblygu ar gyfer pob SoDdGA yn raddol rhwng 2026 a 2030. Felly, bydd llawer o safleoedd dynodedig yn y tirweddau dynodedig heb gynllun rheoli wedi’i gwblhau yn ystod y cyfnod cynllun hwn sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2028. Yn yr achosion hyn, gall cyrff ddewis ariannu gwaith ar y safleoedd hyn yn seiliedig ar fewnbwn ecolegol, Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol y corff a chynlluniau strategol eraill ac ar sail trafodaeth â CNC a chael cydsyniad SoDdGA gan CNC. Wrth i amser fynd rhagddo, bydd cynlluniau rheoli yn cael eu datblygu i gydnabod a chefnogi buddsoddiad gan Ffermio Bro a chynlluniau cyfalaf eraill, felly dylid rhannu gwybodaeth am natur ymyriadau yn rhydd gyda swyddogion y cynlluniau rheoli. 

Pan fydd cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig ar gael, dylai cyrff gael eu harwain gan y rhain, a heblaw dan amgylchiadau eithriadol, dim ond y gweithgareddau hynny a nodir yn y cynllun y dylid eu hariannu ar y safleoedd hyn. Dylai’r gweithgareddau hyn eisoes fod â chaniatâd SoDdGA dilys, a gafwyd pan gytunwyd ar y cynllun rheoli, ac felly ni ddylai caniatâd SoDdGA ychwanegol fod yn angenrheidiol, yn amodol ar ganllawiau a chyfarwyddyd CNC. Mae cyrff yn gallu ychwanegu at y cynlluniau rheoli hyn a dylent ymgysylltu â phersonél perthnasol CNC i sicrhau bod cynlluniau rheoli yn cyd-fynd yn briodol â blaenoriaethau yn eu Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol Ffermio Bro a’u prosiectau Ffermio Bro arfaethedig. Bydd mecanwaith yn cael ei ddatblygu ar RPW i sicrhau bod unrhyw weithredoedd a ariennir gan Ffermio Bro yn cael eu cofnodi ar gynlluniau rheoli Safleoedd Dynodedig a gedwir yn RPW.

Lle bo hynny’n bosibl, dylai cyrff ymgysylltu â CNC i gydweddu ymweliadau â safleoedd gan dimau cynlluniau rheoli SoDdGA CNC a staff Ffermio Bro er mwyn osgoi ymweliadau dyblyg a allai achosi dryswch i dirfeddianwyr. 

Tir comin

Dylai cyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod unrhyw geisiadau am weithgaredd ar dir comin yn cael eu cefnogi gan gydsyniad ysgrifenedig y tirfeddiannwr ar gyfer unrhyw gamau gweithredu sy’n wahanol i’r hawliau cofrestredig dros ardal y tir comin dan sylw. Awgrymir hefyd yr angen i nodi’n glir pa gamau gweithredu sydd angen cydsyniad ffurfiol o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006 neu ddeddfwriaeth berthnasol arall, ynghyd â’r camau gweithredu nad oes angen cydsyniad ffurfiol ar eu cyfer. Os oes angen cydsyniad ffurfiol, dylai’r corff Tirwedd Ddynodedig ofyn i’r ymgeisydd nodi beth yw’r amserlen debygol i sicrhau’r caniatâd angenrheidiol. 

Er mwyn osgoi tanseilio unrhyw gytundeb, dylai’r tirfeddiannwr gytuno i beidio ag arfer ei hawl i bori’r ‘gweddillion’ lle mae porwyr yn lleihau nifer y da byw sy’n pori fel rhan o’u cytundeb rheoli. 

Pan fo tir comin yn SoDdGA, mae angen cydsyniad CNC.

Os nad yw ceisiadau ar dir comin yn cynnwys pob parti sydd â buddiant cyfreithiol dros unrhyw ran o ardal y cais, dylai cyrff Tirweddau Dynodedig sicrhau bod ymgeiswyr yn nodi’n glir yn y cais sut bydd amcanion a chanlyniadau’r cynnig yn cael eu cyflawni ac na fyddant yn cael eu peryglu drwy beidio â chynnwys pawb sydd â buddiant cyfreithiol.

Adran F: costau cymwys

Rhaid i’r holl gostau fod â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau’r prosiect sy’n cefnogi nodau a ffocws y prosiect (e.e. ni fyddai adnewyddu ffens ar ffin cae yn gymwys, ond byddai ffens newydd er mwyn galluogi plannu gwrych newydd yn gymwys,) 

Lle mae gan Lywodraeth Cymru gost safonol ar gyfer gweithgaredd/eitem fel rhan o gynlluniau cyfredol, a’i bod ar gael ar gyfer y cynllun hwn, rhaid cynnig y Costau Safonol hyn a dilyn y fanyleb dechnegol. 

Lle na ellir defnyddio’r Fanyleb Dechnegol, er enghraifft oherwydd ystyriaethau amgylcheddol, gall cyrff Tirweddau Dynodedig gyfrifo gwerth y grant gan ddefnyddio’r costau gwirioneddol. Rhaid i’r corff gadw cofnod o pam nad yw’r gost safonol wedi’i defnyddio, a pham y bu’n rhaid dilyn y llwybr caffael hwn, ynghyd â gwybodaeth arall am y prosiect.

Ar gyfer offer cyfalaf, lle mae cyrff yn penderfynu ariannu rhan o weithgaredd sydd â chost safonol yn hytrach na chost lawn, dylent barhau i ddefnyddio 40% o’r gost wirioneddol fel sail ar gyfer cyfrifo cyfraniad Ffermio Bro. Er enghraifft, elfen unigol o system trin gwartheg neu offer arall.

Ar gyfer gwaith amgylcheddol, os oes prosiect ar waith lle nad oes cost safonol ar gael, gellid talu hyd at 100% o gostau prosiect lle mae’n uniongyrchol gysylltiedig â budd amgylcheddol ac na fydd y ffermwr yn gwneud elw masnachol preifat neu nad yw’n gysylltiedig â chynhyrchu sylfaenol. 

Os bydd y ffermwr yn elwa’n fasnachol ar brosiect, bydd y rhaglen yn ariannu cyfran o’r costau. Bydd y swm yn dibynnu ar faint fydd busnes y ffermwr yn elwa ar y prosiect. Dylai cyrff Tirweddau Dynodedig gynnal yr asesiad hwn ac, os oes amheuaeth, dylid gofyn am gyngor gan Reolwr y Rhaglen.

Lle nad yw cyfraddau talu safonol yn cael eu defnyddio, rhaid dilyn rheolau caffael pob corff Tirwedd Ddynodedig sy’n rheoli’r grant. O ran gweithgaredd pwrpasol er budd amgylcheddol ac ymyriadau sy’n cyflenwi nwyddau cyhoeddus yn bennaf, bydd angen i ymgeiswyr gael dyfynbrisiau am y gwaith (gan ddilyn rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus) ar sail cost wirioneddol.  Ariennir hyd at 100% o’r gost ar sail costau yr eir iddynt, pan fo cysylltiad uniongyrchol â budd amgylcheddol ac nad oes cysylltiad ag elw masnachol preifat neu gynhyrchu sylfaenol. Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig ystyried i ba raddau y mae budd masnachol i’r ffermwr a phenderfynu ar gyfradd ymyrraeth briodol rhwng 40% a 100%.

Gall eitemau cyfalaf neu beiriannau sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau’r prosiect fod yn gymwys os yw’r prosiect yn gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ffocws y prosiect, gan arwain at ganlyniadau arwyddocaol a’u bod yn cynnig gwerth da am arian. Dylai’r rhain gael eu hadolygu fesul prosiect gan y corff Tirwedd Ddynodedig, ac os penderfynir eu bod yn gymwys, gellir gwneud cyfraniad at y costau ar y sail honno. Os mai’r bwriad yw i un ymgeisydd brynu offer ac yna ei rannu â ffermydd eraill fel rhan o brosiect cydweithredol, rhaid gwneud hyn ar sail ddielw yn ystod oes y prosiect a thu hwnt. Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig dderbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y buddiolwr y bydd hyn yn wir. Nid yw eitemau cyfalaf neu beiriannau cost uchel sy’n gysylltiedig â chynhyrchu sylfaenol neu weithgarwch masnachol yn gymwys. Os oes amheuaeth, dylid gofyn am gyngor gan Reolwr y Rhaglen.

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio cyfraddau talu safonol penodol a/neu fanylebau technegol yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan ddyfarniad grant. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw ddiwygiadau a byddant yn gymwys i geisiadau am unrhyw ddyfarniadau a wneir gennych o’r adeg y byddwn yn eich hysbysu. 

Ar gyfer dyfarniadau dwy flynedd, lle mae cyfraddau talu wedi’u newid ar ôl i grant gael ei ddyfarnu, gall cyrff Tirweddau Dynodedig gymhwyso’r gyfradd newydd ar gyfer ail flwyddyn y grant. Yn yr achosion hyn, bydd angen i’r Panel Asesu Lleol wneud y penderfyniad hwn a darparu dyfarniad grant newydd i’r derbynnydd neu’r derbynyddion.

Os yw ffermwr yn dewis peidio â chwblhau gwaith oherwydd bod cyfradd wedi cynyddu ar ôl i’r dyfarniad gael ei wneud, ni chaniateir ail-wneud cais yn y blynyddoedd i ddod am yr un eitemau er mwyn cael cyfradd fwy ffafriol. 

Nid yw ffioedd proffesiynol, ffioedd ymgynghorydd, costau technegol, arolygon safleoedd ecolegol a hydrolegol a ffioedd sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd; ffioedd a chostau ceisiadau cynllunio; ffioedd ar gyfer caniatâd, trwyddedau a chydsyniad statudol yn gymwys oni bai bod y corff Tirwedd Ddynodedig yn ystyried y rhain yn gostau cyfalaf ac yn hanfodol er mwyn i’r gwaith cyfalaf gael ei wneud.

Mae’n bwysig iawn bod cyrff Tirweddau Dynodedig yn cadw cofnodion i ddangos:

  • eu bod wedi cymhwyso cyfraddau safonol i daliadau.
  • lle nad ydynt wedi cymhwyso cyfraddau safonol, bod cofnod o’r penderfyniad hwn, gydag esboniad
  • eu bod yn fodlon nad oes cyllid dwbl – trowch i Adran G: cyllid dwbl i gael rhagor o wybodaeth
  • bod unrhyw gydsyniad a gofynion eraill ar waith
  • cofnod o gynnydd yn erbyn dangosyddion y cynllun

Effeithlonrwydd cyfalaf – offer

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd drwy ffenestri cais. Bwriedir y bydd y rhain ar gael trwy Haen Opsiynol yr SFS. Yn gyffredinol, dylid cyfarwyddo ffermwyr i wneud cais ar wahân am offer effeithlonrwydd cyfalaf. Fodd bynnag, lle mae ffermwyr wedi nodi angen am offer o’r fath o fewn prosiect ehangach Ffermio Bro, gellir ariannu hyn trwy Ffermio Bro. Ar gyfer unrhyw gyfraddau ar gyfer offer, rhaid i chi ddefnyddio’r cyfraddau cyhoeddedig diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth CymruGellir adolygu cyfraddau talu yn 2027-28.

Mae’r offer a allai fod yn gymwys yn cynnwys peiriannau (e.e. cylch peiriannau a pheiriannau fel cynaeafwyr hadau, atodiadau beiciau cwad, driliau hadau, offer da byw symudol), seilwaith neu offer arall i hwyluso adfer, gwella, gwydnwch neu greu ecosystemau, gan gynnwys hwyluso pori cynaliadwy (e.e. systemau trafod neu graets gwartheg symudol). 

Gallai hefyd gynnwys cyllid ar gyfer technoleg ac offer arloesol fel pyst plastig gyda gleiderau i wthio ffensys un llinyn i fyny ac allan o’r ffordd yn ystod llifogydd a’u gostwng eto yn yr haf i atal da byw rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr, cafnau a phympiau solar, coleri gwartheg, a chafnau moch daear.

Mae angen ystyried rhai costau cyfalaf cymwys yn ofalus, a bydd cyngor ar wahân yn cael ei ddarparu gan Reolwr y Rhaglen. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: coleri gwartheg GPS, ffensys a gatiau metel, gwarchodwyr coed cactws a gwyndynnydd llysieuol. Bydd Rheolwr y Rhaglen yn cynnal ac yn cyhoeddi canllawiau ar weithgareddau o’r fath a rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig gymryd pob cam rhesymol i gadw at y canllawiau hyn.

Adran G: cyllid dwbl

Ni all prosiect Ffermio Bro cymeradwy dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau neu waith sy’n cael eu hariannu gan gynlluniau neu raglenni eraill ar hyn o bryd oni bai bod y gweithgaredd neu’r rheolaeth Ffermio Bro yn rhagori ar y gofyniad presennol. 

Ni all prosiect dderbyn cyllid ar gyfer gweithgareddau/eitemau tebyg am debyg sy’n disodli gweithgareddau/eitemau a ariannwyd yn flaenorol oni bai bod y prosiect yn parhau i reoli neu wella neu adfer y gweithgareddau hynny ac nad oedd yn ofyniad o dan y grant gwreiddiol i wneud hynny. 

Gall tir sy’n rhan o brosiect Ffermio Bro fod yn rhan o raglenni neu gynlluniau eraill neu gynnwys rhaglenni neu gynlluniau eraill sy’n gwella neu’n ategu canlyniadau’r prosiect, ond rhaid diffinio’r gwahaniad yn glir gan nodi pa weithgareddau sy’n cael eu hariannu trwy bob cynllun rhaglen, a rhaid i unrhyw weithgareddau neu reolaeth ragori ar ofynion y contractau presennol.

Ni fydd angen cymeradwyaeth gan RPW, megis gwiriadau cyllid dwbl, i’r cyrff Tirweddau Dynodedig ddarparu cynigion cyllid i ffermwyr allu dechrau gwaith. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar y cyrff hyn i sicrhau nad oes unrhyw gyllid dyblyg. Rhaid i’r cyrff Tirweddau Dynodedig benderfynu ar hyn trwy drafod â’r ffermwr, a rhaid i’r ffermwr ddarparu gwarant/ymwadiad ysgrifenedig yn ei gais am grant neu ffurflen dderbyn. Fodd bynnag, bydd RPW yn gwirio nad oes cyllid dwbl yn y cam hawlio. Os daw cyllid dwbl i’r amlwg, ni wneir taliad am swm y cyllid dwbl. Rhaid i’r cyrff Tirweddau Dynodedig gadw cofnodion fel tystiolaeth eu bod yn fodlon nad oes cyllid dwbl, gan gynnwys ffotograffau â geotag cyn ac ar ôl i unrhyw waith gael ei wneud.

Rhan H: costau anghymwys

Gweithgareddau anghymwys 

Mae nifer o weithgareddau a buddsoddiadau yn anghymwys i dderbyn cyllid o dan Ffermio Bro:

  • buddsoddi mewn cynhyrchu sylfaenol cynhyrchion amaethyddol neu bren
  • taliadau rheoli cynefinoedd fel y’u nodir mewn cynlluniau presennol neu gynlluniau etifeddol
  • unrhyw waith ffisegol neu wariant arall a wnaed cyn dyddiad dechrau’r prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o weithgareddau nad ydynt yn gymwys am gymorth grant. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth, a bydd pob un o’r eitemau yn cael eu hystyried fesul achos:

  • cyfathrebu a lledaenu: ni allwch hawlio costau i gefnogi cyfathrebu’r gweithgareddau prosiect arfaethedig; dylai hyn gael ei wneud gan y corff Tirwedd Ddynodedig ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen
  • gwerthuso: ni all ffermwyr hawlio am gost cynnal unrhyw werthusiad o’r prosiect, oni bai bod adroddiad yn cael ei ystyried yn ofyniad hanfodol, a bod y corff Tirwedd Ddynodedig yn eu hystyried yn gostau cyfalaf Un o brif ganlyniadau Ffermio Bro yw deall sut mae cynlluniau lleol a chenedlaethol yn gweithredu, a bydd Rheolwr y Rhaglen/Llywodraeth Cymru felly yn gwneud trefniadau i ddysgu gwersi o’r prosiectau a gyflwynir a’r rhaglen yn ei chrynswth
  • lle mae’r ffensys at ddiben rheoli stoc yn unig heb reswm gwella cynefinoedd, yna ni fyddai hyn yn briodol ar gyfer grant Ffermio Bro
  • adnewyddu ffensys ffiniau, lle nad oes ffin draddodiadol yn cael ei chreu neu ei hadfer a fyddai, fel arfer, yn galw am ffensys amddiffynnol
  • prynu tir
  • prynu da byw
  • prynu adeiladau
  • prynu peiriannau gwerth uchel ac asedau cyfalaf eraill nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â chanlyniadau amgylcheddol a/neu ffocws y prosiect neu weithgareddau uniongyrchol y prosiect
  • prynu ceir, faniau, beiciau modur, beiciau ac unrhyw fath arall o gludiant personol (at ba ddiben bynnag)
  • prynu cerbydau ar gyfer cludiant allanol (megis lorïau, bysiau, faniau, bysiau mini, neu unrhyw fath arall o gerbyd a ddefnyddir i gludo nwyddau neu bobl) 
  • gwaith dros dro nad oes ganddo gysylltiad uniongyrchol â chyflawni’r prosiect
  • cymorth ar gyfer gweithgareddau y gellir eu darparu trwy ddulliau eraill y tu allan i gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis trefniadau presennol i ddatblygu sector
  • costau cynnal a chadw ar gyfer adeiladau, peiriannau neu offer presennol
  • eitemau tebyg am debyg newydd
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract prydlesu, fel elw’r prydleswr, costau ariannu llog, gorbenion a chostau yswiriant
  • costau trefnu benthyciadau, TAW a threthi eraill y gellir eu hadennill gan y buddiolwr, costau gweinyddol a chostau staff neu dâl digolledu a delir i drydydd partïon i’w difeddiannu, ac ati 
  • gorbenion a ddyrennir neu a ddosrennir ar gyfraddau sy’n sylweddol uwch na’r cyfraddau ar gyfer costau tebyg yr eir iddynt gan ddulliau cyflawni tebyg eraill 
  • gwariant tybiannol
  • taliadau am weithgarwch o natur wleidyddol
  • dibrisiad, amorteiddiad ac amhariad asedau 
  • darpariaethau
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • argyfyngau
  • difidendau i gyfranddalwyr
  • taliadau llog
  • taliadau gwasanaethau o ganlyniad i brydlesau cyllid, trefniadau hurbwrcasu a threfniadau credyd
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • costau sy’n gysylltiedig â dirwyn cwmni masnachol i ben
  • taliadau i bensiynau heb eu hariannu
  • tâl digolledu am golli swydd
  • dyledion drwg sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • taliadau am anrhegion a rhoddion
  • adloniant personol (gan gynnwys alcohol)
  • dirwyon a chosbau statudol
  • trethi statudol (ac eithrio TAW nad oes modd ei hadennill)
  • dirwyon ac iawndal troseddol
  • treuliau cyfreithiol mewn perthynas ag ymgyfreitha.
  • TAW y gellir ei hadhawlio
  • meddalwedd gyfrifiadurol ac apiau ar gyfer cynnal systemau rheoli busnes cyffredinol / cyfrifon / marchnata a hyrwyddo / gwefannau / gwerthiannau ar-lein
  • cymorth ar gyfer gweithgareddau y gellir eu darparu trwy ddulliau eraill y tu allan i gynlluniau datblygu gwledig a phontio Llywodraeth Cymru, megis trefniadau presennol i ddatblygu sector
  • nid yw cymorth ar gyfer cydlynu cadwyni cyflenwi pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaeth yn gymwys o dan y cynllun hwn
  • eitemau cyfalaf neu beiriannau cost uchel sy’n gysylltiedig â chynhyrchu sylfaenol neu weithgarwch masnachol

Rhan I: gwneud cais am grant Ffermio Bro

RPW Ar-lein

Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein i gwblhau cais am grant Ffermio Bro. Os oes gennych chi Gyfeirnod Cwsmer yn barod, dylech fod wedi derbyn llythyr yn eich hysbysu am eich cod actifadu er mwyn sefydlu eich cyfrif. Os nad yw’r llythyr gennych chi, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun – Iau 8:30 – 17:00, Dydd Gwener 8:30 – 16:30) a rhoi’ch Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredwr. Bydd cod actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllaw sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o fanylion am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae Ffermio Bro ar gael yn yr adran “Ceisiadau a Hawliadau” yn eich cyfrif.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, neu am gwblhau’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu darparu cyngor, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein gwefan.

Cyflwyno cais 

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno’ch cais trwy RPW Ar-lein ar gael yma.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth sydd wedi’i darparu i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel ein bod ni’n gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r arfarniad.

Rhan J: arfarnu

Bydd pob cais gan gorff Tirwedd Ddynodedig yn cael ei arfarnu gan dîm polisi Llywodraeth Cymru gyda mewnbwn gan Reolwr y Rhaglen, er mwyn sicrhau bod y cyflawni lleol yn cydymffurfio â disgwyliadau ac amcanion y cynllun. 

Meini prawf gwerthuso Ffermio Bro 

Ar gyfer y grant, bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn cyfres o feini prawf dethol a’u sgorio gan ddefnyddio graddfa o Isel, Canolig neu Uchel. 

Adran i’w hasesuSgôr
 Rheoli’r RhaglenIsel-Uchel
– Cyd-destun StrategolIsel-Uchel
 CydweithioIsel-Uchel
 Datganiad Blaenoriaethu Ecolegol                                             Isel-Uchel
5 Gwerth am ArianIsel-Uchel

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn cael ei wneud ar sail yr wybodaeth a’r dystiolaeth sydd wedi’u darparu a lle mae prosiectau’n gallu dangos yn y cais sut mae’r gweithredoedd a’r ymyriadau arfaethedig yn cyflawni nodau a chanlyniadau strategol y cynllun. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yr holl arian yn cael ei ddyrannu, nac y bydd pob cais yn cael ei ddewis i dderbyn y grant os nad ydynt yn sgorio’n ddigon uchel.

Cwestiynau’r cais

Bydd angen i gyrff ddangos y canlynol ar gyfer y Dirwedd Ddynodedig berthnasol: 

  • sut bydd Ffermio Bro yn cael ei reoli’n effeithiol. Dylai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drefniadau llywodraethiant, staffio a rheoli, trefniadau asesu, hyfforddiant a hyrwyddo
  • sut byddan nhw’n cefnogi cyflawni ar raddfa tirwedd trwy gydweithio
  • sut byddan nhw’n sicrhau y bydd amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy, yn enwedig “Cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu”, yn cael eu cyflawni trwy ddarparu’r grant
  • sut byddan nhw’n cydweddu cyflawni â’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun/Cynlluniau Rheoli statudol perthnasol ac unrhyw ddogfen strategol allweddol arall, e.e. Datganiadau Ardal, Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur
  • sut byddan nhw’n blaenoriaethu cyflawni er mwyn cynyddu cymaint â phosibl eu cyfraniad at y targed 30x30, trwy Ddatganiad Blaenoriaethu Ecolegol (EPS)
  • sut byddan nhw’n sicrhau y bydd costau’r prosiect yn rhesymol ac yn briodol, a sut bydd gwerth am arian yn cael ei ymgorffori

Sgorio

Bydd y sgoriau canlynol yn cael eu defnyddio i arfarnu ceisiadau Ffermio Bro gan gyrff Tirweddau Dynodedig:

Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth sylweddol i gefnogi ei gais. Mae wedi darparu tystiolaeth arwyddocaol a chlir y bydd y prosiect yn cael ei reoli’n briodol ac y bydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir. 

Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth foddhaol i gefnogi ei gais. Mae wedi darparu digon o dystiolaeth y bydd y prosiect yn cael ei reoli’n briodol ac y bydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir, er y gellid bod wedi cryfhau hyn mewn rhai meysydd.

Isel: Mae’r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth anghyflawn neu annigonol i gefnogi ei gais. Nid yw wedi darparu digon o dystiolaeth y bydd y prosiect yn cael ei reoli’n briodol ac y bydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.

Byddai sgôr Isel mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried ar gyfer y grant. 

Bydd modd sicrhau sgôr uwch trwy ddarparu esboniadau gyda thystiolaeth gadarn sy’n cael eu hategu gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig. 

Canlyniad yr arfarniad a chynnig dyfarniad grant

Mae dau ganlyniad posibl i’r arfarniad:

a. Nid yw eich prosiect yn gymwys am y grant. Byddwch yn cael gwybod y rhesymau pam na fu’ch cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

b. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Bydd Llythyr Dyfarnu Grant yn cael ei anfon atoch yn nodi telerau ac amodau’r dyfarniad drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Wrth gytuno, byddwch yn derbyn y telerau a’r amodau ynddo. Bydd y Dyfarniad Grant yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith hefyd. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod y Dyfarniad o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn o fewn y 30 niwrnod, caiff y cynnig ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y grant.

Bydd manylion llawn erbyn pryd y mae’n rhaid i chi dderbyn y cynnig a’r dyddiad cau ar gyfer hawlio yn y Llythyr Dyfarnu Grant.

Os ydych yn derbyn eich Llythyr Dyfarnu Grant, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau pryd fyddwch chi’n cyflwyno hawliadau a’u gwerth.

Os, ar ôl cael eich dewis, y byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’ch Dyfarniad Grant neu os na fyddwch yn derbyn y Dyfarniad Grant o fewn yr amser a ganiateir, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais am Ffermio Bro yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl cyn cwblhau’r gwaith, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais am Ffermio Bro yn y dyfodol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i gyhoeddi enw’r cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd iddo a chrynodeb o’r prosiect.

Rydym ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda sefydliadau sy’n falch o’u henw da, yr hyn maen nhw’n ei gyflawni a’u hymddygiad. Bydd y ddolen ganlynol yn eich cyfeirio at ganllawiau sydd wedi’u cynllunio i amlygu ac egluro’r mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu ‘gwireddu’ gan y sawl sy’n cael grantiau ganddi. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant [HTML] | LLYW.CYMRU.

Dechrau ar y gwaith

Rhaid i chi beidio â dechrau gwaith nes eich bod wedi cael cynnig Dyfarniad Grant. Os byddwch yn dechrau gwaith, gall Llywodraeth Cymru wrthod y gwaith a gychwynnwyd neu derfynu’r Dyfarniad ac adennill y taliad a wnaed.

Rhan K: Amodau’r grant

Mae Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig yn ddarostyngedig i amrywiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran R). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant Ffermio Bro yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich Llythyr Dyfarnu Grant, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd cyfnod dyfarnu’r grant yn ymestyn o’r dyddiad y caiff y dyfarniad ei wneud tan 31 Mawrth 2028.

Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu at adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr yn y ffurflen gais, y ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth ddilynol. Mae’n drosedd gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol.

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig yn gyntaf i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. 

Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a chyfraith y DU.

Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys y lleoliad, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn nodiadau cyfarwyddyd y cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen hawlio contract RPW Ar-lein, a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sy’n ofynnol o dan y cynllun.

Rhaid cyflwyno hawliadau yn unol â’r amserlen a nodir yn y llythyr dyfarniad grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Mae’n rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r prosiect i ben.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu gwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol, a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran L: taliadau

Hawliadau

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hawlio contract yn eich cyfrif RPW Ar-lein i hawlio grant Ffermio Bro. Bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl dilysu’ch hawliad yn llwyddiannus.

Gallwch wneud hawliadau interim yn ystod oes eich prosiect. 

Mae’r Canllaw ar sut i lenwi’r ffurflen Hawlio Contract yn esbonio sut i hawlio, ac mae ar gael yn Sut i gyflwyno hawliad contract trwy RPW Ar-lein | LLYW.CYMRU

Bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl dilysu’ch hawliad yn llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliad yn cael ei anfon i’ch cyfrif banc trwy drosglwyddiad electronig.

Dylid cyflwyno ceisiadau terfynol am daliad grant cyn gynted â phosibl ar ôl i’r gwaith ymarferol ar y prosiect gael ei gwblhau a heb fod yn hwyrach na dyddiad gorffen y contract. Rhaid derbyn pob hawliad terfynol erbyn 31 Mawrth o’r flwyddyn ariannol y mae’r prosiect yn ymwneud â hi fan bellaf.

Bydd cyrff Tirweddau Dynodedig yn derbyn un cynnig o gyllid gan Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd – 2026-27 a 2027-28. Gallant, mewn rhai achosion, ystyried ceisiadau a gwneud cynigion o gyllid i ffermwyr ar gyfer prosiectau ar draws y ddwy flynedd hyn, h.y. mewn sawl blwyddyn ariannol. Rhaid i gyrff drin prosiectau o’r fath fel rhai sydd â chyfnodau gwahanol at ddibenion ariannu. Rhaid i ffermwyr hawlio cyllid gan gyrff Tirweddau Dynodedig erbyn 31 Mawrth o’r flwyddyn ariannol pan gynhelir y gweithgaredd. Rhaid i gyrff Tirweddau Dynodedig hefyd hawlio cyllid drwy RPW erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol pan gynhelir y gweithgaredd. Bydd dyraniadau cyllid ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cael eu nodi yn y llythyr dyfarnu a rhaid i gyrff gadw at y dyraniadau hyn wrth gyflwyno hawliadau. 

Enghraifft: Mae corff Tirwedd Ddynodedig yn dyfarnu £50,000 i brosiect, £25k yn 2026-27 a £25k yn 2027-28. Rhaid i’r ffermwr neu’r ffermwyr wneud hawliad am waith a wneir yn ystod 2026-27 erbyn 31 Mawrth 2027 a hawlio am waith a wneir yn 2027-28 erbyn 31 Mawrth 2028. Rhaid i’r corff Tirwedd Ddynodedig hefyd hawlio’r swm cyfatebol o gyllid trwy RPW ym mhob blwyddyn ariannol.

Ni roddir estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer hawliadau terfynol y tu hwnt i 31 Mawrth yn y flwyddyn y mae’r grant yn ymwneud â hi.

Gall methu â chwblhau’r prosiect a chyflwyno’r hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau uchod arwain at orfod ad-dalu’r grant a dalwyd hyd hynny.

RHAID cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru.  Ni ellir ei newid heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod oes y grant, pan gaiff hawliadau eu cyflwyno, mae’n bosibl y bydd angen craffu arnynt er mwyn sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn cyd-fynd â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol.

Er mwyn derbyn taliad Ffermio Bro, mae’n rhaid i chi:

  • Fod wedi derbyn dyfarniad Ffermio Bro o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig a chydymffurfio â’r holl ofynion.
  • Sicrhau na fyddwch wedi ymgymryd ag unrhyw waith heblaw gwaith cymwys i gyflawni “Dibenion” eich Llythyr Dyfarnu Grant. 
  • Cyflwyno’r hawliadau gan ddefnyddio’r ffurflen hawlio contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio – 31 Mawrth 2027 ar gyfer gweithgareddau a gynhelir yn 2026-27 neu 31 Mawrth 2028 ar gyfer gweithgareddau a gynhelir yn 2027-28.
  • Cyflwyno Atodlen 5 eich llythyr Dyfarnu Grant.

Bydd taliad yn cael ei anfon i’r cyfrif banc sy’n gysylltiedig â phrif Gyfeirnod Cwsmer y cais.

Ar gyfer staff cyflogedig, bydd angen i chi ddarparu taenlen o bobl, eu tâl fesul awr ac oriau a weithiwyd yn y cyfnod hawlio.

Ar gyfer costau sy’n ymwneud â hwyluso, hyfforddiant ac asesiadau, bydd angen i chi ddarparu taenlen sy’n manylu’r holl wariant a wneir o bob cyllideb refeniw. Rhaid i chi gadw copïau o anfonebau a sicrhau bod y rhain ar gael ar gais.

Gallwch gyflwyno tystiolaeth trwy ei sganio a’i hanfon trwy “Fy Negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r ffurflen hawlio contract a hyd nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi’u cyflwyno.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r gwaith. 

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sy’n weddill trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Os nad ydych yn cwblhau 80% o’r gwerth ar gyfer yr holl brosiectau gwaith cyfalaf ar draws blwyddyn ariannol, neu’n derbyn contract ac yna’n tynnu yn ôl, rydym yn cadw’r hawl i leihau dyraniadau yn y dyfodol a/neu efallai y cewch eich eithrio o’r ffenestr nesaf sydd ar gael ar gyfer Ffermio Bro.

Atodlen 5

Bydd angen i Brif Swyddog Ariannol neu Gyfarwyddwr Ariannol y corff Tirwedd Ddynodedig gyflwyno datganiad atodlen 5 i gymeradwyo Tystysgrif Dyrannu Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, os yw’r cyllid yn llai na £100,000, nid oes angen ei gyflwyno.

Hawliadau anghywir a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys, a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Rhaid i’r holl weithgarwch/costau a ysgwyddir ddigwydd ar ôl i’r dyfarniad gael ei gynnig.

Mae eich hawliad yn anghywir yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych wedi ymgymryd â gweithgarwch / ysgwyddo costau cyn i’r dyfarniad gael ei gynnig
  • nid ydych wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawliadau

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw’r camgymeriad yn fwy na 10% o’r cyfanswm sy’n cael ei hawlio, yna rhoddir cosb ariannol. Bydd swm y gwariant cymwys yn cael ei leihau yn ôl swm y camgymeriad, ac felly bydd cyfanswm y grant i’w dalu yn is na’r disgwyl.

Troseddau

Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy. 327)) yn sefydlu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn gymwys i Ffermio Bro. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Newid prosiect sydd wedi’i gymeradwyo

Mae newid neu ailwerthuso prosiect yn golygu’r broses o gytuno ar newidiadau arwyddocaol i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo. Os bydd y prosiect y byddwch yn ei gynnal yn wahanol i’r hyn y cytunwyd arno, mae angen i chi ofyn am ailwerthusiad a gofyn am gymeradwyaeth i’r newidiadau.

Rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i unrhyw newidiadau i brosiect. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni fod angen newid eich prosiect, byddwn yn esbonio wrthych sut byddwn yn trin y newidiadau. 

Adran M: tendro cystadleuol a chaffael

Os yw ffermwyr yn gwneud cais i chi ariannu eitem neu weithgaredd nad oes cost safonol gyfatebol ar gael ar ei chyfer neu ar ei gyfer, bydd angen i chi sicrhau bod rheolau tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus yn cael eu dilyn, a chael dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith ar sail cost wirioneddol. Gofynnir i chi ddarparu trosolwg o’ch rheolau caffael fel rhan o’ch cais Cam 1.

Er y bydd angen i chi sicrhau bod eich gweithdrefnau eich hun yn cael eu dilyn, gallwch hefyd gyfeirio at ganllawiau a gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Tendro Cystadleuol, sydd ar gael yn Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol.

Adran N: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn deddfwriaeth (gan gynnwys newidiadau o ran dehongli)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro, a bydd yn ofynnol i chi a’r buddiolwyr rydych chi’n eu hariannu gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i reolau’r cynllun neu’r Dyfarniad Grant

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich dyfarniad grant. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli er mwyn ystyried y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein gwefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran O: rheolaethau, monitro a chadw cofnodion

Rheolaethau

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Ffermio Bro. 

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod eich corff wedi dilyn Rheolau’r Cynllun a bod y rheolau caffael wedi eu dilyn cyn y gwneir taliad i chi neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad.

Byddwn ni a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod ymweliadau’n tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae’n ofynnol i rai ymweliadau fod yn ddirybudd, sy’n golygu na fydd modd rhoi rhybudd i chi o reidrwydd. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad mewn blwyddyn galendr. 

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n peidio â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allech gael eich erlyn. 

Gofynnir i chi ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd prosiectau rydych yn eu hariannu trwy gyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd er mwyn eu cymharu â’ch cais. 

Dysgu allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru 

Bydd gweithgarwch o fewn y cynllun hwn hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu prosesau, methodolegau a dulliau gweithredu er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu elfen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn barhaus, gan gynnwys casglu mwy o dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau ar raddfa rheoli fferm a thirwedd.

Bydd Llywodraeth Cymru a Rheolwr y Rhaglen yn creu rhwydwaith o randdeiliaid Ffermio Bro er mwyn rhannu dysg a gwybodaeth.

Monitro a gwerthuso 

Fel cynllun i gefnogi’r diwydiant amaethyddol, bydd yn ofynnol i Ffermio Bro weithio tuag at yr amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac fel rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Un o ofynion y llythyr dyfarniad grant i brosiectau llwyddiannus yw bod angen cadw’r eitemau a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau eu bod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddynt gael eu defnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y dyfarniad grant. Gwneir hyn er mwyn sicrhau hirhoedledd y prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr sylfaenol yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Mae’n rhaid i chi archwilio’r eitemau a brynwyd dros y cyfnod hwn o bum mlynedd. Gellid cynnal ymweliadau safle â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd ar ôl eu cwblhau’n derfynol (dyddiad cau y llythyr cynnig grant).

Mae’n rhaid i chi hefyd gydweithio â’r sawl a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i werthuso’r cynllun.

Dangosyddion cynlluniau

Bydd y dangosyddion canlynol yn cael eu defnyddio yn 2026-28. Rhaid i gyrff gadw data priodol a chadarn ar allbynnau a buddiolwyr cynllun, a’u cadw’n unol â’u rheolau diogelu a chadw data eu hunain:

Dangosydd

Nifer yr unedau neu’r camau gweithredu ymwybyddiaeth, cyngor a hyfforddiant a gefnogir

Nifer yr hectarau neu’r unedau da byw sy’n elwa ar eco-Gynlluniau 

Nifer yr hectarau sy’n elwa ar gymorth ar gyfer ardaloedd sy’n wynebu cyfyngiadau naturiol neu gyfyngiadau penodol eraill, gan gynnwys dadansoddiad fesul math o ardal - Tirweddau Dynodedig

Nifer yr hectarau sy’n elwa ar gymorth ar gyfer ardaloedd sy’n wynebu cyfyngiadau naturiol neu gyfyngiadau penodol eraill, gan gynnwys dadansoddiad fesul math o ardal - Safleoedd Gwarchodedig / Dynodedig 

Cilometrau o wrychoedd wedi’u gwella

Cilometrau o wrychoedd newydd wedi’u plannu 
Coed brodorol wedi’u plannu

Nifer o weithrediadau neu unedau cydweithio eraill a gefnogir  

Mynediad wedi’i reoli i gefn gwlad a’r arfordir - km o hawliau tramwy wedi’u gwella neu eu creu

Mynediad wedi’i reoli i gefn gwlad a’r arfordir - prosiectau i gael gwared ar rwystrau

Mynediad wedi’i reoli i gefn gwlad a’r arfordir - cyfanswm y prosiectau

Nifer yr asedau/nodweddion treftadaeth a gefnogir

Arwynebedd (ha) o goetir a gefnogir

Arwynebedd (ha) o gynefin mawndir wedi’i wella 

Nifer y prosiectau Rheoli Llifogydd Naturiol

Cilometrau o afonydd wedi’u gwella 
 

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel sy’n cael ei nodi yn eich cynnig grant.

Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • darparu unrhyw wybodaeth i ni am eich prosiect Ffermio Bro o fewn y cyfnod a bennir gennym
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch prosiect i ni, ein personau awdurdodedig neu ein hasiantiaid
  • caniatáu i ni gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Adran P: Gweithdrefn apelio a chwyno

Gweithdrefn apelio

Ar ôl i chi dderbyn cynnig grant, bydd apeliadau yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried o dan y ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’.

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW 
  • Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb i gam 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidog Llywodraeth Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Ni chodir tâl ar gyfer Cam 1 o’r broses, ond codir tâl yng Ngham 2. Ar gyfer apeliadau Cam 2 a dderbynnir ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026, codir tâl o £229 am wrandawiad ysgrifenedig neu £290 am wrandawiad llafar. Mae’r tâl wedi codi i gyd-fynd â chost ffioedd y Panel Apêl Annibynnol heddiw (ni fydd unrhyw gost arall yn cael ei chynnwys). Mae’r taliadau hyn yn cael eu had-dalu’n llawn os yw’r apêl Cam 2 yn llwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i law o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg, a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg os mai Cymraeg yw eich dewis iaith. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Rhaid i apelwyr neu eu cynrychiolwyr beidio â gwneud cysylltiad uniongyrchol ag aelodau’r Panel Apeliadau Annibynnol. Efallai y byddwn yn ystyried hyn yn Ymddygiad Annerbyniol yn unol â chanllawiau Rheoli Ymddygiad Annerbyniol Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru. Gall ymddygiad annerbyniol arwain at ddileu taliadau a/neu wrthod ceisiadau neu hawliadau. Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais RPW Ar-lein ar gael gan Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW, neu ar ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.

Gweithdrefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion yn unol â’n gweithdrefn gwyno. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh.

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran Q: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Rydym ni’n darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach a mwy ffyniannus.

Ni fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am gyllid grant. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym ni’n cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n bosibl y bydd angen i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu’r cyllid grant rydych chi wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi’r gorau i ddarparu’r cyllid grant presennol i chi.

Bydd cofnod o unrhyw risg sy’n gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

I asesu cymhwystra, efallai hefyd y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru 
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Mae hefyd yn bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth gydag arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o’r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr a fydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynlluniau y talwyd cyllid grant ar eu cyfer. Fodd bynnag, i bobl sy’n derbyn llai na’r hyn sy’n cyfateb i £1,250 mewn cyllid grant, ni fydd yr enw’n cael ei gyhoeddi. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 10 mlynedd ar ôl dyddiad y taliad terfynol. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad i chi eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol sydd gennym amdanoch
  • i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau), ac
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, 
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW.

Adran R: deddfwriaeth

Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond gan weithredu hefyd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig trwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’):

  • cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy,
  • lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd,
  • cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu,
  • cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â nhw, a chynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso ei defnydd.

Gwneir y dyfarniad hwn o Gyllid yn amodol ar yr Amodau ac o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru sy'n gweithredu yn unol â swyddogaethau a drosglwyddir o dan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 (pob un fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Sefydliad Masnach y Byd a rheoli cymorthdaliadau

Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’. Mae potensial i gynigion prosiect arloesol neu newydd fod angen offer neu adnoddau sydd y tu allan i’r cwmpas hwn. Os yw’n hanfodol ar gyfer y prosiect, mae’n bosibl y bydd yr eitemau a’r gweithredoedd yn destun cytundebau rheoli cymhorthdal unigol, a byddan nhw’n cael eu diffinio yng nghytundeb y prosiect. 

Adran S: cysylltiadau

Ymholiadau: Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid

Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i’n gwefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch gofrestru hefyd i dderbyn yr e-newyddlen Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym ni’n eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai yn Hysbysiadau neu’r dudalen Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).