Horizon Europe yw'r rhaglen Ewropeaidd gyfredol ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Cynnwys
Crynodeb
Mae Horizon Ewrop yn darparu cyfle mawr i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gynnal gwyddoniaeth ac arloesi o'r radd flaenaf yng Nghymru, gyda golwg ar y llwyfan byd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn, ac ehangu enw da Cymru ym maes ymchwil ac arloesi.
Y diweddaraf am y berthynas y DU â Horizon Europe.
Mae’r DU bellach yn aelod cyswllt o Horizon Europe (1 Ionawr 2024).
Gall mudiadau gyflwyno cais a derbyn cyllid gan Horizon Europe ar gyfer rhaglen waith 2024 a rhaglenni blynyddoedd dilynol.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi:
- dod o hyd i alwad berthnasol ar y porthol cyfranogwyr
- dod o hyd i bartneriaid (mae angen tîm o 3 phartner o leiaf ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau)
- cyflwyno cynnig drwy'r porthol cyfranogwyr
Os ydych yn ystyried gwneud cais am y math hwn o gyllid ymchwil ac arloesi, mae croeso i chi gysylltu:
- e-bostiwch HorizonEwrop@llyw.cymru
- Cysylltu â’r Pwynt Cyswllt Cenedlaethol perthnasol yn y DU
Gall Uned Horizon Europe eich helpu chi gyda'r canlynol:
- cyngor ac arweiniad
- eich cyfeirio at gymorth arbenigol
- cysylltiadau â sefydliadau eraill a rhwydwaith Horizon
- datblygu sesiynau gwybodaeth a digwyddiadau wedi'u targedu
Grantiau sy'n cynnig cymorth i fanteisio ar raglen Horizon Europe
Mae rhaglen Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid (a ddarparwyd gynt drwy SCoRE Cymru) i gefnogi ceisiadau o Gymru i raglen Horizon Europe. Mae'r cymorth yn cynnwys paratoi consortia, ysgrifennu ceisiadau, hyfforddiant, a chamau eraill sy'n gwella ansawdd, nifer a maint y ceisiadau o Gymru.
Rydym yn croesawu ceisiadau a fydd yn helpu i:
- gynyddu nifer ac ansawdd y ceisiadau cydweithredol o Gymru i raglen Horizon Europe. Gall hynny gynnwys dyfnhau ac ehangu'r berthynas â phartneriaid Ymchwil a Datblygu tramor mewn themâu sy'n cyfrannu at flaenoriaethau polisi Cymru ac sydd â'r gobaith gorau o ddenu buddsoddiad
- cynyddu gwerth y grantiau a roddir i gyfranogwyr o Gymru, er enghraifft, darparu'r hyfforddiant neu gallu i gydlynu ceisiadau o dan raglen Horizon Europe
- ymwneud yn strategol â chyrff yr UE, megis Partneriaethau Horizon Europe, a rhwydweithiau Ymchwil a Datblygu sydd â rhan bwysig mewn darparu cyllid, naill ai drwy ddylanwadu ar bolisi neu drwy ffurfio consortia
- cynnal digwyddiadau a hyfforddiant penodol sy'n arwain at fwy o gyfranogiad o Gymru yn rhaglen Horizon Europe
- gwella cyfraddau llwyddiant Cymru mewn rhannau allweddol o'r rhaglen, megis MSCA a Chyngor Ymchwil Ewrop, er enghraifft drwy ddarparu hyfforddiant penodol a chymorth i ddatblygu ceisiadau
Sylwch fod cyllid ar wahân i Cymru Ystwyth hefyd ar gael. Os ydych yn fusnes sydd am ddod i un o'n digwyddiadau neu ddatblygu cais, edrychwch ar y cyllid sydd ar gael oddi wrth Innovate UK ac Innovate UK Business Growth.
Os ydych yn gweithio i brifysgol, mae'n bosibl y bydd cymorth ar gael oddi wrth Rwydwaith Arloesi Cymru, Cymru Fyd-eang a'r Academi Brydeinig.
Os nad ydych yn siŵr pa gynllun sy'n iawn i chi, cofiwch fod pob croeso ichi gysylltu â ni: HorizonEurope@llyw.cymru.
Cofiwch fod angen dilyn canllawiau Cymru Ystwyth.
Canllaw byr:
- caiff ceisiadau eu derbyn ar unrhyw adeg, ar yr amod bod cyllideb ar gael
- mae grantiau o hyd at £3,000 yn ddigon fel arfer ar gyfer teithio a digwyddiadau, a hyd at £10,000 ar gyfer gweithgarwch arall sy'n gysylltiedig â datblygu cynigion
- gallai rhaglenni gweithgareddau strategol, er enghraifft rhai sydd â Chyrff Cyswllt Cenedlaethol, neu sefydliadau sy'n arwain ceisiadau, neu glystyrau, gael symiau uwch
- byddem yn chwilio am gysylltiad cryf â chyfle o dan raglen Horizon Europe
- pan fo cais yn cael ei ddatblygu ar gyfer galwad benodol, rhaid i'r cynnig arfaethedig fod yn un cystadleuol a chredadwy, gan ddangos bod iddo ragoriaeth o ran ymchwil, ei fod yn arloesi mewn ffordd darfol neu fod ganddo rinweddau eraill sy'n bodloni gofynion yr alwad berthnasol
- byddwn yn cefnogi ceisiadau EICA llawn ond dim ond ar sail eithriadol y byddwn yn rhoi cymorth yn ystod cam cychwynnol y porth
- byddai angen i unrhyw gynigion sy'n gysylltiedig â hyfforddiant fod yn benodol i Horizon Europe, dylent ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth bresennol ac, yn ddelfrydol, byddai angen iddynt gefnogi sector neu glwstwr yng Nghymru yn hytrach na sefydliad unigol
- byddem yn disgwyl cyfraniad priodol at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Cymru Ystwyth
I wneud cais am gyllid Cymru Ystwyth ar gyfer cymryd rhan yn Horizon Europe.