Neidio i'r prif gynnwy

Y nod ar gyfer Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cyfranogiad chwaraeon

Cynhaliwyd yr arolwg ar chwaraeon ysgol diweddaraf yn ystod 2022 a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn yr hydref. Roedd yr arolwg blaenorol yn 2018 yn dangos bod 48% o ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yn yr ysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos. Nid oedd hyn wedi newid ers 2015, yn dilyn cynnydd sylweddol ers 2013.

Ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd yn y cyfraddau cyfranogi cyffredinol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda 47% o ddisgyblion cynradd (7 i 11 oed) a 48% o ddisgyblion uwchradd (11 i 16 oed) yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos.

Roedd bechgyn yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd na genethod (50% o’i gymharu â 46%), ond roedd y bwlch wedi lleihau o’i gymharu â’r arolwg blaenorol yn 2015. Roedd cyfraddau cyfranogi disgyblion o’r ysgolion lleiaf difreintiedig yn tueddu i fod yn uwch nag ar gyfer disgyblion o’r ysgolion mwyaf difreintiedig. Roedd y cyfraddau hefyd yn uwch ar gyfer disgyblion o grŵp cymysg neu aml-ethnig ac ar gyfer disgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Roedd ymchwil Chwaraeon Cymru yn ystod y pandemig wedi darganfod erbyn mis Awst 2021 bod oedolion yn dweud bod eu plant yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol nag y byddent fel arfer wedi’i wneud cyn y pandemig.

Image
Siart far yn dangos canran y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2013, 2015 a 2018. Yn 2015 a 2018 roedd y ffigur yn 48 y cant.

Cyfranogiad yn y celfyddydau

Mae data gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod cyfran y plant a phobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er bod gostyngiad bach wedi bod yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer. Fe gododd o 76.3% yn 2010 i 86.7% yn 2019. Nid yw data ar gael eto ar gyfer cyfnod y pandemig.

Nid yw cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tua 86% i 87% o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd at 2019.

Mae gwahaniaethau o ran presenoldeb a chyfranogiad yn ôl rhywedd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Roedd genethod a phlant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fynychu a chymryd rhan yn y celfyddydau, er bod y bwlch rhwng bechgyn a genethod wedi gostwng yn 2019.

Image
Siart linell ar gyfer 2010 i 2019 yn dangos canran yr unigolion 7 i 18 oed a oedd yn mynd i ddigwyddiadau celfyddydau unwaith y flwyddyn neu'n amlach. Mae'r siart yn dangos cynnydd rhwng 2010 a 2019 o 76 y cant i 87 y cant, er bod rhywfaint o ostyngiad wedi bod yn ystod rhai blynyddoedd hefyd.

Defnydd o'r Gymraeg

Plant a phobl ifanc yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad ac arolygon, gyda’r ddwy ffynhonnell yn awgrymu bod tua 40% o’r rhai rhwng 3 a 15 oed yn gallu gwneud hynny. Mae pobl iau y tu hwnt i oedran addysg orfodol yn llai tebygol o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg.

Mae’r Arolwg Defnydd o’r Gymraeg yn darparu dadansoddiad o’r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant ac oedolion. Roedd yn dangos mai plant sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac mae hynny'n debygol o fod yn sgil ei defnyddio’n rheolaidd mewn ysgolion. Roedd canran y plant rhwng 3 a 15 oed a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn sylweddol uwch nag unrhyw grŵp oedran arall, gyda bron i chwarter ohonynt yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae canran y rhai rhwng 3 a 15 oed sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn debyg i ganran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd, er nad ydym yn gwybod a ydynt o reidrwydd yr un plant.

Mae plant rhwng 3 a 15 oed yn llawer mwy tebygol o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol na’r rhai 65 oed neu hŷn (69% o’i gymharu â 15%). Mae’n debygol mai’r rheswm am hyn yw’r newid sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyffredinol yn nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael eu hagor ledled Cymru.

Mae’r grŵp oedran ieuengaf yn llai tebygol o fod ag o leiaf un rhiant sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae 36% o blant rhwng 3 a 15 oed wedi adrodd am hyn, o’i gymharu â 69% o bobl 65 oed neu hŷn.

Ffynonellau data a darllen pellach