Neidio i'r prif gynnwy

2. Israddedigion amser llawn

Gall israddedigion llawnamser cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf wneud cais am gymorth ariannol bob blwyddyn i helpu gyda’u costau byw a'u ffioedd dysgu wrth iddynt astudio. 

Costau byw 

Mae grant a benthyciad cynhaliaeth ar gael ar gyfer costau byw. Mae'r cymorth yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr, fel arfer mewn 3 rhandaliad, ar ôl iddo gofrestru ar y cwrs ac ar ôl i'r brifysgol neu'r coleg gadarnhau ei bresenoldeb bob tymor.

Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs i gael mynediad at fenthyciad cynhaliaeth israddedig ar gyfer costau byw. Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran i gael grant cynhaliaeth ar gyfer costau byw.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru wneud cais am gymorth costau byw rhan-amser, waeth beth fo dwysedd eu hastudiaethau.

Bydd swm y grant cynhaliaeth yn dibynnu ar incwm yr aelwyd. 

Ffioedd dysgu

Gall myfyrwyr wneud cais am fenthyciad i dalu eu ffioedd dysgu, sy'n golygu nad oes angen i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu unrhyw beth ymlaen llaw am eu cwrs. Caiff Benthyciad Ffioedd Dysgu ei dalu mewn tri rhandaliad yn uniongyrchol i'r brifysgol neu goleg ar ôl i bresenoldeb y myfyriwr gael ei gadarnhau.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru wneud cais am gymorth ffioedd dysgu rhan-amser, waeth beth fo dwysedd eu hastudiaethau. 

Nid yw Benthyciad Ffioedd Dysgu yn seiliedig ar incwm yr aelwyd ac nid oes cyfyngiad oedran.

Cymorth ychwanegol

Ochr yn ochr â chymorth ar gyfer costau byw a ffioedd dysgu, efallai y bydd myfyrwyr yn gallu cael cymorth ariannol ychwanegol yn dibynnu ar eu sefyllfa bersonol:

  • Grant Gofal Plant: gallai myfyrwyr dderbyn grant fel cyfraniad tuag at gost eu gofal plant os oes ganddynt blant mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Bydd y swm y gallai myfyrwyr ei dderbyn hefyd yn dibynnu ar incwm eu haelwyd. Ni fydd myfyrwyr yn gymwys os yw'r myfyriwr neu'i bartner eisoes yn derbyn yr elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, Lwfans Gofal Plant y GIG, neu Ofal Plant Di-dreth gan CThEF.
  • Lwfans Dysgu i Rieni - gall myfyrwyr dderbyn cymorth ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chwrs astudio os oes ganddynt blentyn neu blant dibynnol. Bydd yr uchafswm sydd ar gael yn dibynnu ar incwm cartref y myfyriwr.
  • Grant Oedolion Dibynnol: gall myfyrwyr wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol os bydd ganddynt bartner neu oedolyn arall sy'n dibynnu'n ariannol arnynt. Bydd yr uchafswm sydd ar gael yn dibynnu ar incwm eu haelwyd.
  • Mae Grant Myfyrwyr Anabl ar gael i fyfyrwyr sydd ag anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu. 

Faint o gyllid y byddaf yn ei gael

Mae'r symiau cyllid diweddaraf ar gyfer myfyrwyr cymwys yn cael eu cyhoeddi yn y 'Cyfraddau cymorth i fyfyrwyr israddedig', sydd ar gael drwy dudalen Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar y we. Mae'r tablau yn darparu enghreifftiau dangosol yn unig a bydd y swm a dderbynnir yn cael ei gadarnhau gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar X (Twitter) ac Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau

Efallai y bydd rhai prifysgolion a cholegau yn cynnig eu bwrsariaethau, ysgoloriaethau a chronfeydd caledi eu hunain. Gall Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr roi gwybod i fyfyrwyr pa gymorth ariannol ychwanegol a allai fod ar gael gan eu prifysgol neu goleg. 

Efallai y bydd myfyrwyr llawnamser ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd yn gallu cael bwrsariaeth gan Wasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG. Efallai y bydd myfyrwyr llawnamser yn gymwys i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer costau byw os ydynt yn cael bwrsariaeth y GIG.