Neidio i'r prif gynnwy

4. Myfyrwyr cwrs meistr ôl-radd a doethuriaeth

Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys, sy'n astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser ar gwrs meistr ôl-radd neu gwrs doethuriaeth ôl-radd, wneud cais am gyfraniad tuag at fenthyciad costau ôl-radd.

Rhaid i fyfyrwyr fod yn iau na 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs i gael mynediad at fenthyciad ôl-radd. 

Bydd y benthyciad ôl-radd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr, fel arfer mewn 3 rhandaliad, ar ôl i'r myfyriwr gofrestru ar y cwrs ac ar ôl i'r brifysgol gadarnhau ei bresenoldeb bob tymor.

Mae benthyciadau cyrsiau Meistr a Doethuriaeth Ôl-raddedig ar gyfer cyfnod y cwrs ac nid ydynt yn seiliedig ar incwm yr aelwyd.

Mae'r symiau cyllid diweddaraf ar gyfer myfyrwyr cymwys yn cael eu cyhoeddi yn y 'Cyfraddau cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig', sydd ar gael ar dudalen we Hysbysiadau Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Ochr yn ochr â benthyciad ôl-raddedig, efallai y bydd myfyrwyr cymwys yn gallu gwneud cais am y Grant Myfyrwyr Anabl Ôl-raddedig.

Dylid gwneud ceisiadau am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar X (Twitter)Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau

Efallai y bydd rhai prifysgolion yn cynnig eu bwrsariaethau, ysgoloriaethau a chronfeydd caledi eu hunain. Gall Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr roi gwybod i fyfyrwyr pa gymorth ariannol ychwanegol a allai fod ar gael gan eu prifysgol. 

Efallai y bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gymwys i gael bwrsariaeth Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG. Ni all myfyrwyr dderbyn benthyciad ôl-radd os ydynt yn cael bwrsariaeth y GIG.