Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae'r cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru bellach wedi dod i ben ac mae’r holl gartrefi wedi’u hadeiladu a’u gosod.

Mae’n bosibl y bydd nifer bach o gartrefi ar gael yn y dyfodol. Cysylltwch â landlord sy’n cymryd rhan yn eich ardal leol am ragor o wybodaeth.

Cyfeiriwch at dudalen we cynlluniau cymorth i brynu cartref er mwyn cael gwybodaeth am gynlluniau eraill i helpu pobl i berchnogi cartref.

Mae cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu pobl i brynu cartref pan nad oes digon o gyllid ganddynt i gyfrannu at flaendal morgais. Mae'r cynllun yn helpu tenantiaid mewn eiddo rhent sy'n rhan o'r cynllun i gynilo cyfandaliad tuag at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref. Yna, gall y cyfandaliad tuag at flaendal gael ei ddefnyddio i sicrhau morgais er mwyn prynu cartref.

Sut mae'n gweithio

O ran Rhentu i Berchnogi – Cymru:

  • cewch gyfle i brynu'r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu'r cartref
  • byddwch yn rhentu'r cartref yn y lle cyntaf, a gallwch gael 25% o'r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o'r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu'r eiddo – i’w defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu'r eiddo
  • bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.

Enghraifft ariannol 1: Wedi'i seilio ar eiddo gwerth £150,000 a chynnydd o 2% o ran gwerth blynyddol yr eiddo ar y farchnad

 Gwerth marchnadolRhent misolRhent a dalwydBlaendal a gronnwyd (£)Blaendal a gronnwyd (%)
Blwyddyn 1 (dechrau)£150,000----
Blwyddyn 1 (diwedd)£153,000£600£7,200--
Blwyddyn 2£156,060£600£14,400£6,6304.2%
Blwyddyn 3£159,181£610£21,720£10,0216.3%
Blwyddyn 4£162,365£610£29,040£13,4428.3%
Blwyddyn 5£165,612£620£36,480£16,92610.2%

Enghraifft ariannol 2: Wedi'i seilio ar eiddo gwerth £150,000 a gostyngiad o 2% o ran gwerth blynyddol yr eiddo ar y farchnad

 Gwerth marchnadolRhent misolRhent a dalwydBlaendal a gronnwyd (£)Blaendal a gronnwyd (%)
Blwyddyn 1 (Start)£150,000----
Blwyddyn 1 (End)£147,000£600£7,200--
Blwyddyn 2£144,060£600£14,400£3,6002.5%
Blwyddyn 3£141,179£610£21,720£5,4303.8%
Blwyddyn 4£138,355£610£29,040£7,2605.2%
Blwyddyn 5£135,588£620£36,480£9,1206.7%