Neidio i'r prif gynnwy

Mae plant yn dysgu am eu hunain drwy eu perthynas â'u rhieni a'u gofalwyr. Pan fyddi di'n canmol, rwyt ti’n dysgu dy blentyn am ei werth, sut i fod yn falch o'i hun ac yn cynyddu ei hunan-barch.

Os wyt ti’n sylwi ar yr ymddygiad a’r rhinweddau rwyt ti’n eu hoffi, yn eu caru ac eisiau eu gweld yn dy blentyn, mae’n gwybod i fod yn falch o’r rhain a’u hailadrodd.

Sylwi ar y pethau da am dy blentyn

Galli di wneud hyn drwy:

  • Rhoi canmoliaeth ddiffuant i dy blentyn pan fyddi di’n falch ohono neu'n gweld ymddygiad cadarnhaol, gyda geiriau, rhannu golwg, gwên, bawd i fyny neu ystum arall, cwtsh neu gyffyrddiad cadarnhaol. Mae hyn yn helpu dy blentyn i ddysgu beth yw ymddygiad cadarnhaol.
  • Dangos brwdfrydedd diffuant pan fyddi di’n rhoi canmoliaeth, yn gwenu ac yn edrych ar dy blentyn. Gall dy blentyn ddweud os nad yw’r ganmoliaeth yn ddiffuant.
  • Ei gwneud yn glir i dy blentyn beth yn union rwyt ti’n ei ganmol. Bydd yn dangos dy fod yn talu sylw a dy fod di wir yn ei olygu.
  • Defnyddio enw dy blentyn yn gadarnhaol. Weithiau mae rhywun yn anghofio defnyddio enwau mewn ffordd gadarnhaol a dwyt ti ddim eisiau i dy blentyn ond glywed ei enw pan fydd yn cael ei alw mewn ffordd negyddol. Gad i dy blentyn "glustfeinio" arnat ti’n siarad yn gadarnhaol amdano hefyd.
  • Sylwi ar dy blentyn dim ond am fod yn bwy ydyw. Nid oes angen defnyddio canmoliaeth i annog ymddygiad penodol bob tro.
  • Sylwi ar ymdrech plentyn yn ogystal â’r canlyniad a chanmol y pethau y mae’n gallu eu rheoli, newid neu wneud eto yn hytrach na phethau sydd y tu hwnt i’w reolaeth. Os byddi di’n canmol ymdrech, bydd yn dysgu dy blentyn i ddal ati i ddysgu a dal ati i drio.
  • Helpu dy blentyn i ddysgu a thyfu drosto’i hun, nid drwy gymharu ei hun ag eraill. Does dim angen i lwyddiant fod yn gystadleuol.
  • Meddwl am dy blentyn di. Byddai’n well gan rai plant sylw neu edrychiad distaw, mae eraill yn mwynhau rhywbeth mwy croch ac amlwg – dysga beth sy’n gweithio i dy blentyn di.

Mae canmol hefyd yn dy helpu i feithrin perthynas dda gyda dy blentyn, a fydd yn dy wneud di a dy blentyn yn hapusach.

Cofia roi amser i ganmol dy hun hefyd. Pan fyddi di’n annog dy hun gyda ‘hunan-sgwrs’ cadarnhaol rwyt ti’n fwy tebygol o wneud yr un peth i dy blentyn.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy’n digwydd yn dy ardal.