Neidio i'r prif gynnwy

Mae’ch plentyn yn fwy tebygol o wneud yr hyn rydych chi wedi gofyn iddo ei wneud os yw’ch cyfarwyddiadau’n rhesymol ac yn hawdd eu deall. Dyma gyngor ar roi cyfarwyddiadau i’ch plentyn.

Ceisiwch beidio â rhoi gormod o gyfarwyddiadau i’ch plentyn. Cadwch gyfarwyddiadau ar gyfer pethau sy’n bwysig iawn i chi, fel materion diogelwch. Er enghraifft, mae’n rhaid i’ch plentyn ddal eich llaw wrth groesi’r ffordd. Yn hytrach na rhoi cyfarwyddiadau i’ch plentyn, ceisiwch ofalu ei fod yn cael hwyl wrth gydweithredu, drwy wneud gweithgareddau diflas yn rhai llawn her. “Faint o deganau elli di eu cadw cyn i’r amserydd ganu?”

Dyma gyngor ar gyfer yr adegau y byddwch angen rhoi cyfarwyddyd i’ch plentyn:

  • Mynnwch sylw’ch plentyn - Ewch lawr i lefel llygad eich plentyn a’i gyffwrdd yn ysgafn ar ei ysgwydd. Gall hyn helpu i ddenu ei sylw.
  • Rhowch un cyfarwyddyd ar y tro.  Pan fyddwch chi’n rhoi mwy nag un cyfarwyddyd i’ch plentyn ar y tro, efallai y bydd eich plentyn yn anghofio, ddim yn deall, neu’n cael ei orlethu. Er enghraifft, mae “Dos i fyny’r grisiau, golcha dy wyneb a brwsia dy ddannedd” yn dri chyfarwyddyd mewn gwirionedd.
  • Rhowch resymau. Gall eich helpu os yw’ch plentyn yn deall pam eich bod am iddo wneud rhywbeth. Er enghraifft, eglurwch pam eich bod am i’r plentyn ddal eich llaw wrth groesi’r ffordd. Cadwch resymau yn gryno a syml.
  • Rhowch wybod i’ch plentyn beth rydych chi am iddo ei wneud yn hytrach na beth rydych chi am iddo beidio â’i wneud. Dywedwch “cerdda os gweli di’n dda” yn hytrach na “paid â rhedeg”.
  • Byddwch yn glir a phositif. Pan fydd eich plentyn yn ceisio sefyll yn ei gadair yn ystod prydau bwyd, yn hytrach na dweud “Bydd yn ofalus!”, dywedwch “Eistedd gyda dy ben-ôl ar y sedd os gweli di’n dda.”
  • Cadwch bethau’n syml. Pan fyddwch chi’n gofyn i’r plentyn wneud rhywbeth, defnyddiwch eiriau syml y bydd yn eu deall a rhannwch dasgau’n gamau llai. Gallech ofyn i’ch plentyn: “Rho dy dedi bers ar y silff os gweli di’n dda” yn hytrach na “Cadw dy deganau”.
  • Byddwch yn gwrtais a pharchus. Er enghraifft, dechreuwch eich cyfarwyddiadau gyda’r geiriau “os gweli di’n dda.” Gofynnwch i’ch plentyn wneud rhywbeth mewn llais tawel a chadarn heb weiddi.
  • Peidiwch â chyflwyno cyfarwyddyd fel cwestiwn. Er enghraifft, peidiwch â dweud “Wyt ti am fynd i frwsio dy ddannedd?” Gall hyn ddrysu plant. Yn hytrach, dywedwch ‘brwsia dy ddannedd os gweli di dda’.
  • Gofalwch y gall eich plentyn wneud yr hyn rydych chi’n ei ofyn. Dyw plant bach er enghraifft ddim yn debygol o allu bwyta eu swper heb wneud rhywfaint o lanast. Dydy dweud wrth blentyn am beidio â chrio os yw’n poeni am fynd i’r feithrinfa neu’r ysgol am y tro cyntaf ddim yn helpu pethau.
  • Cofiwch roi amser i’ch plentyn wneud yr hyn rydych chi wedi’i ofyn.
  • Rhowch ganmoliaeth i’ch plentyn am ddilyn eich cyfarwyddiadau neu meddyliwch am roi canlyniad os nad yw’n eu dilyn.

Os ydych chi’n canmol ac yn annog eich plentyn wrth iddo wneud yr hyn rydych chi’n gofyn iddo ei wneud, mae’n fwy tebygol o wneud yr hyn rydych chi’n ei ofyn y tro nesaf.