Yn y canllaw hwn
5. Grantiau Dysgwyr Anabl
Mae'r Grant Myfyrwyr Anabl ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cymwys i helpu i dalu am y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio y gallai myfyriwr eu cael o ganlyniad uniongyrchol i anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu.
Nid yw'r swm a gaiff myfyriwr yn dibynnu ar incwm yr aelwyd. Yn hytrach, mae'n seiliedig ar anghenion cymorth unigol y myfyriwr.
Gellir defnyddio’r grant i helpu i dalu am:
- cynorthwy-ydd personol nad yw’n feddygol
- cyfarpar arbenigol mawr
- costau astudio eraill sy'n gysylltiedig ag anabledd
Mae’n bosibl y gall myfyrwyr sy’n wynebu costau teithio ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd hefyd gael lwfans teithio ar wahân, sydd heb uchafswm penodol.
Faint o gyllid y byddaf yn ei gael
Mae'r symiau cyllid diweddaraf ar gyfer myfyrwyr cymwys yn cael eu cyhoeddi yn y 'Cyfraddau cymorth myfyrwyr israddedig', sydd ar gael drwy dudalen Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar y we.
Sut y gallaf i wneud cais
Dylid gwneud ceisiadau am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cymorth ychwanegol
Mae gan brifysgolion a cholegau Wasanaethau Myfyrwyr Anabl a dylai myfyrwyr gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth.
