Neidio i'r prif gynnwy

5. Gwneud Cais

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gynnig eich cartref neu eiddo fel lle i ffoaduriaid o Wcráin aros yng Nghymru.

Bydd ar Lywodraeth y DU angen rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi, eich aelwyd a'r math o lety sydd gennych ar gael, fel y gallwn brosesu eich cynnig:

  • Enw llawn
  • E-bost
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad preswyl
  • Yr eiddo lle bydd yr Wcreiniad yn cael llety (os yw'n wahanol i gyfeiriad cartref)
  • Pryd gallwch chi ddechrau lletya
  • Faint o oedolion a phlant sydd fel arfer yn byw yn yr eiddo
  • Pwy y gallech chi ei gefnogi/maint teulu
  • Faint o ystafelloedd gwely sydd ar gael a'u maint
  • A oes gan yr eiddo fynediad heb risiau
  • A fyddech chi'n ystyried caniatáu anifeiliaid anwes 
  • A oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at ymchwil defnyddwyr

Bydd Llywodraeth y DU yn rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ag awdurdodau lleol yng Nghymru i'w helpu i'ch paru ag unigolyn neu deulu o Wcráin.

Os oes gennych fwy nag un eiddo ar gael, bydd angen ichi gyflwyno cynnig ar wahân ar gyfer pob eiddo.

Noder bod y ddolen hon yn eich cyfeirio at gynnwys allanol nad yw ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.