Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Gall cynllun Cymorth i Aros – Cymru gynnig cymorth i'r rhai sydd naill ai:

  • yn cael anhawster ariannol i dalu eu morgais presennol
  • yn wynebu anhawster ariannol i dalu eu morgais presennol

Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i berchnogion tai ar ffurf benthyciad ecwiti a rennir. 

Benthyciad ecwiti a rennir yw pan fydd benthyciwr yn cytuno i roi benthyciad i chi ochr yn ochr â'ch benthyciwr morgeisi presennol yn gyfnewid am gyfran o unrhyw elw pan fyddwch yn gwerthu'ch tŷ neu'n ad-dalu'r benthyciad. 

Gall benthyciad ecwiti a rennir helpu i leihau eich taliadau morgais misol presennol i lefel fforddiadwy a chaniatáu i chi barhau i fod yn berchen ar eich cartref a byw ynddo. Bydd hefyd yn rhoi amser i chi ddatrys eich problemau ariannol, gan leihau'r risg o adfeddiannu.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd ymgeiswyr cymwys yn cael cynnig cymorth gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol a fydd yn cynnal asesiad ariannol. Bydd yr asesiad yn seiliedig ar amgylchiadau penodol eich aelwyd a bydd yn helpu i benderfynu ar yr opsiwn mwyaf priodol sydd ar gael i chi.

Os mai'r opsiwn mwyaf priodol yw benthyciad ecwiti a rennir a'ch bod yn gymwys ar ei gyfer, bydd eich cais yn symud ymlaen o dan y cynllun.