Neidio i'r prif gynnwy

Horizon Europe yw'r rhaglen Ewropeaidd gyfredol ar gyfer ymchwil ac arloesi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mae Horizon Ewrop yn darparu cyfle mawr i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gynnal gwyddoniaeth ac arloesi o'r radd flaenaf yng Nghymru, gyda golwg ar y llwyfan byd-eang.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn, ac ehangu enw da Cymru ym maes ymchwil ac arloesi.

Y diweddaraf am y berthynas y DU â Horizon Europe.

Mae’r DU bellach yn aelod cyswllt o Horizon Europe (1 Ionawr 2024). 

Gall mudiadau gyflwyno cais a derbyn cyllid gan Horizon Europe ar gyfer rhaglen waith 2024 a rhaglenni blynyddoedd dilynol.

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi:

  • dod o hyd i alwad berthnasol ar y porthol cyfranogwyr
  • dod o hyd i bartneriaid (mae angen tîm o 3 phartner o leiaf ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau)
  • cyflwyno cynnig drwy'r porthol cyfranogwyr

Os ydych yn ystyried gwneud cais am y math hwn o gyllid ymchwil ac arloesi, mae croeso i chi gysylltu:

Gall Uned Horizon Europe eich helpu chi gyda'r canlynol:

  • cyngor ac arweiniad
  • eich cyfeirio at gymorth arbenigol
  • cysylltiadau â sefydliadau eraill a rhwydwaith Horizon
  • datblygu sesiynau gwybodaeth a digwyddiadau wedi'u targedu

Grantiau sy'n cynnig cymorth i fanteisio ar raglen Horizon Europe

Mae rhaglen Cymru Ystwyth yn darparu cyllid i gefnogi sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno ceisiadau i raglen Horizon Ewrop. Mae hyn yn cynnwys:

  • datblygu consortia
  • ysgrifennu ceisiadau
  • hyfforddiant 
  • camau eraill sy'n gwella ansawdd, nifer a maint y ceisiadau Horizon Ewrop o Gymru. 

Yr hyn rydyn ni'n ei gefnogi

Mwy o geisiadau o safon uchel

  • Cynyddu nifer y ceisiadau cydweithredol i raglen Horizon Europe a gwella eu hansawdd.     
  • Atgyfnerthu'r  berthynas â phartneriaid ymchwil a datblygu dramor. 
  • Canolbwyntio ar themâu sy'n cefnogi blaenoriaethau polisi Cymru ac sydd fwyaf tebygol o ddenu buddsoddiad.

Gwella cyfraddau llwyddiant Cymru mewn rhannau allweddol o'r rhaglen

  • Grantiau unigol, fel ERC ac MSCA, sy’n gyfrannwr allweddol i Gymru. 
  • Cefnogaeth drwy hyfforddiant wedi'i dargedu a chefnogaeth datblygu ceisiadau i helpu ymchwilwyr o Gymru i gystadlu ar y lefel uchaf. 
  • Pan fydd cyllidebau yn gyfyngedig bydd angen blaenoriaethu ymchwil sy'n cyd-fynd â’n blaenoriaethau economaidd.

Ehangu cyfranogiad

  • Cynnwys mwy o fusnesau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector o bob rhan o Gymru i mewn.

Rolau gwerth uwch

  • Galluogi cyfranogwyr o Gymru i ymgymryd â rolau mwy arwyddocaol mewn ceisiadau Horizon Ewrop.
  • Cefnogi sefydliadau Cymreig i gydlynu neu arwain pecynnau gwaith. 
  • Hyfforddiant neu arbenigedd dan gontract i gynyddu'r siawns o rôl arweiniol.

Ymgysylltu strategol 

  • Cefnogi gweithgareddau sy'n cynnwys Cymru mewn partneriaethau Ewropeaidd strategol a rhwydweithiau Ymchwil a Datblygu.
  • Partneriaethau Horizon Ewrop, grwpiau rhanddeiliaid ac ymgysylltu â phrosiectau cymeradwy yr UE sy'n dod â chanlyniadau ymchwil i Gymru. 
  • Rhaid bod cysylltiad clir â mwy o gyfleoedd i Gymru. 

Cynnal neu fynychu digwyddiadau a hyfforddiant penodol

  • Gweithdai arbenigol.
  • Cyfarfodydd consortiwm.
  • Digwyddiadau broceriaeth. 
  • Hyfforddiant ysgrifennu cynigion. 

Yr hyn nad ydym yn ei gefnogi

Mae’n rhaid i weithgareddau a gefnogir gyfrannu'n uniongyrchol at geisiadau neu bartneriaethau Cymreig cryfach. Mae’n rhaid i bob cynnig ddangos cysylltiad dilys a chlir â galwad neu bartneriaeth gan Horizon Europe.

Nid ydym yn debygol  o gefnogi’r canlynol

  • Digwyddiadau neu weithgareddau generig sydd ond yn codi ymwybyddiaeth o Horizon Ewrop.
  • Cynigion hyfforddi nad ydynt yn benodol i Horizon Ewrop neunad ydynt yn ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth bresennol.
  • Darpariaethau hyfforddiant sydd wedi'u cynllunio er budd sefydliad yn unig yn hytrach na sector neu glwstwr Cymru.
  • Ceisiadau gyda dim ond cyswllt tybiannol neu wan â chyfle Horizon Ewrop.
  • Cam cychwynnol ceisiadau EICA. Gall cymorth gael ei ddarparu o dan amgylchiadau eithriadol. Byddwn yn cefnogi ceisiadau EICA llawn.
  • Staff sy’n ysgrifennu cynigion mewnol. Gellir ystyried costau staff fesul achos pan fyddant yn cynrychioli amser staff ychwanegol a'r gwerth gorau neu'r unig ffordd o gyflawni amcanion y gweithgaredd (bydd angen taflenni amser staff a thystiolaeth o daliad).
  • Gweithgareddau sydd eisoes wedi'u hariannu gan ffynhonnell arall (gweler isod) oni bai fod angen clr y gellir ei gyfiawnhau am gymorth gan Agile Cymru.

Ffynonellau ariannu eraill

Sylwch fod cyllid ychwanegol ar gael:

Os nad ydych yn siŵr pa gynllun sydd fwyaf addas, cysylltwch â ni: HorizonEwrop@llyw.cymru.

Canllawiau ar gyfer gwneud cais

Mae canllawiau a phroses ymgeisio Agile Cymru yn berthnasol ym mhob achos. Mae’nhaid i brosiectau gyfrannu'n gymesur at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Agile Cymru.