Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gofrestru os ydych chi'n derbyn archebion am arhosiad dros nos yng Nghymru. Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn ystod hydref 2026. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pam mae angen i chi gofrestru 

Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn ystod hydref 2026. Mae’n rhaid i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn ôl y gyfraith os ydych yn derbyn archebion am arosiadau dros nos yng Nghymru.

Bydd cofrestru yn:

  • helpu ymwelwyr yn dod o hyd i lety cofrestredig
  • eich helpu chi i gasglu a  thalu'r Ardoll Ymwelwyr (os yw eich cyngor lleol yn ei chyflwyno)
  • darparu data i gefnogi twristiaeth yng Nghymru

Os nad ydych chi'n cofrestru:  

  • gallwch orfod talu cosbau 
  • ni fyddwch yn bodloni eich gofynion Ardoll Ymwelwyr (os bydd eich cyngor lleol yn ei chyflwyno), a gall hyn arwain at gosbau

Gallwch ymunwch i dderbyn diweddariadau am gofrestru ac am yr Ardoll Ymwelwyr.

Pwy sy'n gorfod cofrestru 

Rhaid i chi gofrestru yn ôl y gyfraith os yw'r ddau yma’n berthnasol:

  • rydych chi'n derbyn archebion am arhosiad dros nos yng Nghymru
  • mae unrhyw un o'r archebion ar gyfer 31 noson neu lai

Mae hyn yn cynnwys:  

  • llety hunanarlwyo (fel bythynnod, tai, fflatiau neu gabannau)
  • eich prif gartref neu ystafell sbâr
  • gwestai, gwely a brecwast neu dai llety
  • lleiniau ar gyfer pebyll, carafannau teithiol, cartrefi modur neu faniau gwersylla
  • glampio (fel cytiau bugail, yurtiau, podiau neu debyg)
  • carafannau sefydlog neu gartrefi symudol
  • hosteli neu dai bync

Sut i gofrestru 

Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn ystod hydref 2026.

Bydd angen i chi ddarparu:

  • manylion cyswllt, megis:
    • enw
    • cyfeiriad
    • rhif ffôn
  • dyddiad geni
  • rhif cwmni (os yn berthnasol)
  • rhif elusen (os yn berthnasol)
  • enw masnachu (os yn berthnasol)
  • cyfeiriad y llety
  • mathau o lety rydych yn eu cynnig
  • faint o bobl sy’n gallu aros yno
  • pryd mae’r llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer

Gallwch ymunwch i dderbyn diweddariadau am gofrestru ac am yr Ardoll Ymwelwyr. 

Ym mha ffordd y mae cofrestru, yr Ardoll Ymwelwyr a thrwyddedu yn wahanol 

Cofrestru llety ymwelwyr:  

  • yn dechrau hydref 2026 
  • yn berthnasol i bob llety ymwelwyr 
  • yn berthnasol hyd yn oed os nad yw'r cyngor lleol yn cyflwyno'r ardoll ymwelwyr  

Bydd yr Ardoll Ymwelwyr:  

  • ond yn berthnasol i ardaloedd lle mae'r cyngor lleol yn ei chyflwyno
  • yn dechrau o 1 Ebrill 2027 ar y cynharaf

Darganfyddwch fwy am yr Ardoll Ymwelwyr  

Mae trwyddedu llety ymwelwyr:   

  • yn ffordd o ddangos bod llety yn bodloni safonau penodol
  • yn cael ei gynllunio

Nid oes angen trwyddedu llety ymwelwyr ar hyn o bryd.

Darganfyddwch fwy am gynlluniau ar gyfer trwyddedu llety ymwelwyr.  

Cysylltwch â ni 

I gael cymorth gyda chofrestru llety ymwelwyr, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru.