Ymchwil ynghylch y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru - Atodiadau
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Atodiad A: ‘Gweledigaeth’ y tîm cydgynhyrchu ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, a ddatblygwyd o argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl
Argymhelliad Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl oedd sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda'r nod o gwmpasu: ymwybyddiaeth o'r hawl i Fyw'n Annibynnol, mynediad at Daliadau Uniongyrchol, arfer da ar gyfer Byw'n Annibynnol, a chefnogi cyflenwi lleol.
Datblygodd y tîm cydgynhyrchu Weledigaeth yn seiliedig ar argymhelliad y gweithgor:
- Yn hytrach na darparu cymorth uniongyrchol i ddinasyddion, roedd y Weledigaeth yn dychmygu sefydliad a fyddai’n anelu at gefnogi a gweithio gyda sefydliadau sydd â rôl i'w chwarae o ran galluogi Byw'n Annibynnol.
- Nododd y tîm cydgynhyrchu elfennau craidd Byw Annibynnol 'da':
- Eiriolaeth a chymorth uniongyrchol
- Cymorth personol a gofal cymdeithasol
- Gofal iechyd
- Trafnidiaeth
- Cyfranogiad yn y gymuned
- Addysg a sgiliau
- Hamdden
- Nododd y tîm cydgynhyrchu yr hyn fyddai’n ‘galluogi’ Byw’n Annibynnol. Mae'r galluogwyr yn fathau o sefydliadau a gweithgareddau sydd, pan fyddant yn gweithio'n dda ac yn gweithio gyda'i gilydd, yn cefnogi Byw Annibynnol da:
- Y trydydd sector, Sefydliadau Pobl Anabl a Chanolfannau Byw'n Annibynnol rhanbarthol
- Ymgysylltu â dinasyddion anabl a chydgynhyrchu
- Tystiolaeth a data
- Ymgyrchu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd
- Llunio polisïau
- Darparu gwasanaethau
- Rheoleiddio a monitro
- Cynigiodd y tîm cydgynhyrchu y gweithgareddau canlynol y gallai NCFIL eu gwneud i gefnogi Byw'n Annibynnol:
- Datblygu polisi: eirioli dros gyfranogiad pobl anabl yn y gwaith o lunio polisïau yng Nghymru i gefnogi Byw'n Annibynnol
- Cynhyrchu tystiolaeth a data: ar Fyw'n Annibynnol a lledaenu’r canfyddiadau i lywio polisi
- Ymwybyddiaeth y cyhoedd: ymgyrchu, gweithgareddau addysgol i newid agweddau cymdeithas
- Meithrin Capasiti a Rhwydweithiau: cefnogi Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi pobl anabl
- Arweinyddiaeth arfer gorau: datblygu arweiniad ac arfer gorau, cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio i gefnogi sefydliadau
- Y potensial ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu refeniw: gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a datblygu cynnyrch
- Gwerthuso i fonitro gweithgareddau'r Ganolfan yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
- Awgrymodd y tîm cydgynhyrchu'r egwyddorion sylfaenol canlynol ar gyfer dylunio NCFIL. Roedd y tîm yn meddwl y dylai:
- gael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl
- defnyddio strwythur sefydliadol arloesol ac arweinyddiaeth addasadwy
- bod yn gynaliadwy
- cydnabod y Model Cymdeithasol o Anabledd ac alinio â CCUHPA
- defnyddio cydgynhyrchu a phaneli arbenigol gyda phobl anabl yn weithredol ar bob lefel
- dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i annog cefnogaeth a chydweithrediad gan gymheiriaid
- gwella a chefnogi cymunedau a sefydliadau lleol
- galluogi monitro a gwerthuso cadarn
- Nododd y tîm cydgynhyrchu y cwestiynau ymarferol canlynol i’w hystyried ar gyfer dylunio NCFIL:
- A allai fod â phresenoldeb ffisegol?
- A allai weithredu'n rhithwir?
- A allai sefydliad trydydd sector ei darparu?
- A allai fod wedi'i lleoli o fewn y llywodraeth?
- A allai gael ei darparu gan neu mewn partneriaeth â sefydliad academaidd?
- A allai ddefnyddio model partneriaeth, consortiwm, neu rwydwaith
Atodiad B: awgrymiadau trafod i grwpiau trafod y gweithdy
Awgrymiadau i hwyluswyr Trafodaeth Grŵp 1: Sut olwg sydd ar ragoriaeth mewn perthynas â Byw'n Annibynnol?
- Beth yw’r enghraifft orau o fyw'n annibynnol y gallwch chi feddwl amdani neu ei dychmygu?
- Beth wnaeth y profiad hwnnw'n dda?
- Hwyluswyr: rhowch adborth ar y 3 nodwedd uchaf a oedd yn gyffredin i'r profiadau a rannwyd yn eich grwpiau
Awgrymiadau i hwyluswyr Trafodaeth Grŵp 2: Beth allai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru ei wneud i gefnogi’r gwaith o oresgyn y bwlch gweithredu?
- Ydych chi'n meddwl y gallai'r gweithgareddau hyn helpu i gau'r bwlch gweithredu? Beth arall y gellid ei wneud?
- Pwy sydd eisoes yn cyflawni hyn? (a oes angen cefnogaeth arnyn nhw, sut gallwn ni adeiladu ar hyn?)
- Beth yw'r pethau bach sydd angen eu newid / nodau hawdd eu cyflawni, a beth yw'r newidiadau tymor hwy? (hwyluswyr i adrodd yn ôl ar y 3 uchaf o bob un)
Awgrymiadau i hwyluswyr Trafodaeth Grŵp 3: Beth sydd ei angen er mwyn i Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru fod yn llwyddiannus?
- Sut y gallai pob un o'r 3 model gwahanol weithio i sicrhau diddordeb parhaus yr holl grwpiau rhanddeiliaid (a chysylltu'r lleol â'r cenedlaethol)? A oes model amgen, gwell?
- A ddylai’r ganolfan fod â phresenoldeb ffisegol neu fod yn rhithwir yn unig?
- Beth yw'r rolau ar gyfer gwahanol randdeiliaid?
- A oes unrhyw rwystrau posibl?
Atodiad C: sefydliadau a gynrychiolwyd yn y gweithdy trafod
Atodiad D: agenda a chanllawiau’r gweithdy trafod Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol
Briff
Fel un o ganlyniadau’r Gweithgor ar Fyw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol, mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi argymell sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl.
Nod y gweithdy yw trafod yr argymhelliad hwn ymhellach ac archwilio'r ystyriaethau ymarferol ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru.
Bydd y gweithdy yn seiliedig ar drafodaeth a bydd yn annog trafodaethau cyfranogol, fel grŵp ac o fewn sesiynau grŵp llai.
Bydd hwyluswyr o'r grŵp cydgynhyrchwyr, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr sefydliadau eraill, yn cydlynu'r sesiynau ac yn sicrhau bod yr holl safbwyntiau yn cael eu casglu.
Agenda
| Amser | Digwyddiad |
|---|---|
| 10:00am | Croeso gan y Cadeiryddion a'r Hwyluswyr |
| 10:15am | Cyflwyniad i'r cefndir ymchwil a pholisi gan y Cadeiryddion a phennaeth y Tasglu Hawliau Pobl Anabl |
| 10:35am | Cyflwyniad i Fyw'n Annibynnol |
| 11:10am | Egwyl (10 munud) |
| 11:20am | Trafodaeth 1: Beth allai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol fod: mabwysiadu agwedd genedlaethol at Fyw'n Annibynnol yng Nghymru |
| 11:30am | Grwpiau trafod i drafod sut olwg sydd ar ragoriaeth ar gyfer Byw'n Annibynnol, a beth yw nodweddion cyffredin profiadau da |
| 12:10pm | Amser cinio (1 awr) |
| 13:10pm | Trafodaeth 2: Beth allai Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru ei wneud i gefnogi’r gwaith o oresgyn y bwlch gweithredu? |
| 13:15pm | Grwpiau trafod i drafod beth allai Canolfan Genedlaethol ei wneud a sut y gallai gwahanol weithgareddau helpu |
| 13:55pm | Egwyl (10 munud) |
| 14:05pm | Trafodaeth 3: Beth sydd ei angen er mwyn i Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru fod yn llwyddiannus? |
| 14:10pm | Grwpiau trafod i drafod sut y gallai gwahanol fodelau weithio i gyflawni nodau Canolfan Genedlaethol |
| 14:50pm | Diolchiadau a sylwadau i gloi gan y Cadeiryddion a Phennaeth Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru |
Canllawiau’r gweithdy
Cyfarwyddiadau ymuno
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal yn rhithwir gan ddefnyddio Zoom, y gallwch gael mynediad iddo trwy'r ddolen ganlynol:
- Dolen i ymuno â’r cyfarfod Zoom
Nid oes angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i gyfrif i ymuno â'r cyfarfod fel cyfranogwr. Gellir gweld rhagor o wybodaeth gan ddefnyddio'r dolenni canlynol:
- Canllawiau Zoom - Dechrau arni i ddefnyddwyr newydd
- Canllawiau Zoom - Ymuno â chyfarfod Zoom heb gyfrif
Pan fyddwch chi'n ymuno â'r cyfarfod, nodwch enw i’w ddangos Rydym yn argymell defnyddio'ch enw cyntaf yn unig, neu enw eich sefydliad, at ddibenion diogelu data.
Hygyrchedd
Mae trefniadau wedi'u gwneud i ddarparu ar gyfer yr holl addasiadau hygyrchedd y gofynnir amdanynt ar hyn o bryd gan gyfranogwyr y gweithdy. Bydd hyn yn cynnwys palanteipydd i gynhyrchu trawsgrifiad amser real o'r sgwrs trwy we-ddolen a rennir ar ddechrau'r gweithdy.
Os oes gennych ofyniad nad ydym yn ymwybodol ohono eto, neu os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r gweithdy, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir ar ddiwedd y ddogfen.
Cofnodi a chasglu data
Bydd pob grŵp trafod yn cael ei gefnogi gan hwylusydd a fydd yn cymryd nodiadau o'r drafodaeth ac yn bwydo'n ôl i'r grŵp llawn, yn ôl yr angen.
Rydym yn bwriadu cadw'r trawsgrifiad o'r gweithdy a'r grwpiau trafod am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r sesiwn ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio fel hyn.
Os bydd sesiynau'n cael eu recordio fel hyn, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau.
Gweler yr hysbysiad preifatrwydd sydd ynghlwm wrth yr e-bost gwahoddiad am fanylion llawn am sut rydym yn trin eich data.
Yn ogystal â chyfrannu ar lafar, gall cynrychiolwyr gymryd rhan yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio trwy gydol y sesiwn. Bydd sylwadau yn y bar sgwrsio yn cael eu monitro gan hwyluswyr a'u codi ar ran y cyfranogwr.
Fel arall, gallwch rannu meddyliau pellach ar ôl y gweithdy gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarperir isod.
Cysylltu â ni
Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu geisiadau, cysylltwch â [ni] trwy:
- [e-bost] neu
- [dros y ffôn]
Atodiad E: Y Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol: gwybodaeth gefndir a darllen pellach ar gyfer y gweithdy trafod
Nod y gweithdy trafod
Archwilio un o argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl gyda rhanddeiliaid. Argymhellodd aelodau Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ar Fyw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol y dylid sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru, i'w rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda’r nod o:
- gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
- cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
- dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad i Daliadau Uniongyrchol ac i fanteisio arnynt, gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
- gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau
Bydd allbynnau’r gweithdy yn cael eu defnyddio i gynhyrchu:
- gweledigaeth ar gyfer dull cenedlaethol o ymdrin â Byw'n Annibynnol yng Nghymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid presennol a dod â nhw at ei gilydd
- dealltwriaeth o'r ystyriaethau ymarferol ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl i archwilio gweithgareddau, perthnasoedd a strwythurau sefydliadol allweddol a fyddai'n ei chefnogi orau i gyflawni ei nodau
Gwybodaeth gefndir
Y Tasglu Hawliau Pobl Anabl (DRTF)
Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru (ERDEU) yn gweithio gyda chydgynhyrchwyr i archwilio dau o argymhellion Gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl.
Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r adroddiad Drws ar Glo, a daflodd oleuni ar yr anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu profi yn eu bywydau bob dydd ac a waethygodd yn ystod pandemig COVID-19. Mae deg gweithgor, dan gadeiryddiaeth pobl anabl, bellach wedi dod i ben ac wedi cyflwyno eu hargymhellion i Ysgrifenyddion Cabinet Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn sydd ei angen i gyflawni gwelliannau i blant ac oedolion anabl yng Nghymru
Mae ymchwil ar y gweill i archwilio ymhellach ddau o'r argymhellion mwyaf uchelgeisiol. Mae ymchwil desg a phrofiad bywyd a rannwyd yn y Gweithgor Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn tynnu sylw at dystiolaeth o rwystrau parhaus i Fyw'n Annibynnol, yn aml gyda mynediad gwael at ofal cymdeithasol yn sail iddynt, yn ogystal â chyfyngiadau ar fynediad at wasanaethau y gall eraill eu cymryd yn ganiataol fel tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
Mae'r grŵp ymchwil yn cynnwys cydgynhyrchwyr sy'n cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl a'r rhai sydd â phrofiad bywyd. Mae'r ffordd hon o weithio yn sicrhau bod gan bobl anabl rolau blaenllaw wrth gyfarwyddo'r ymchwil ac mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cael ei gymhwyso trwy'r amser. Am ragor o wybodaeth gweler crynodeb Anabledd Cymru Y Model Cymdeithasol - Anabledd Cymru, ac animeiddiad Llywodraeth Cymru Animeiddiad ymgyrch Dewch i Drafod Parch Llywodraeth Cymru: Beth am Godi’r To – Model Cymdeithasol o Anabledd.
Darllen pellach
Byw'n Annibynnol yng Nghymru
- Mae dogfen Llywodraeth Cymru Gweithredu ar Anabledd: Yr hawl i fyw'n annibynnol, fframwaith a’r cynllun gweithredu | LLYW.CYMRU yn cynnwys y diffiniad hwn o Fyw'n Annibynnol:
'Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth "Byw'n Annibynnol"?
Ystyr byw'n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw'n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth
drosoch chi eich hun. Mae'n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill, a'r hawl i fynegi dewis a rheolaeth dros y ffordd y caiff y cymorth a'r gefnogaeth eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau y gall pobl o bob oedran ac o bob cymuned barhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt ac yn y ffordd briodol.
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) Erthygl 19. Mae gwaith cwmpasu yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru ar sut i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Data llesiant
- Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data ar iechyd, tai ac addysg ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.
- Mae adroddiad Llesiant Cymru, 2023 Llywodraeth Cymru yn cynnwys dadansoddiad o ddata ar gyflogaeth a thâl, lles, ac addysg i bobl anabl yng Nghymru.
- Astudiaeth dan arweiniad Llywodraeth Cymru Deall profiadau pobl o ofal cymdeithasol: adroddiad terfynol | LLYW. CYMRU yn gwerthuso effaith gynnar Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae adroddiad DRILL (Disability Research on Independent Living and Learning) See me as a human being full report yn edrych ar ddewisiadau byw'n annibynnol ar gyfer pobl anabl gan gyfeirio at ofal cymdeithasol.
- Mae Archwilio Cymru yn adrodd ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â Thaliadau Uniongyrchol mewn adroddiadau gan gynnwys Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion | Archwilio Cymru.
- Gellir dod o hyd i ddata ynghylch y nifer sy’n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol yng Nghymru ar StatsCymru Oedolion â chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth, yn ôl awdurdod lleol. Mae data ar gyfer Lloegr i'w weld ar NHS Digital Measures from the Adult Social Care Outcomes Framework, England, 2022-23 (NHS England Digital).
- Oherwydd gwahaniaethau yn y ffigurau a adroddwyd, ni ellir cymharu cyfraddau manteisio yng Nghymru gyda gwledydd eraill y DU, gan fod data Cymru yn cynnwys pawb sydd â chynllun gofal a chymorth, yn hytrach na'r rhai sy'n cael gofal a chymorth hirdymor yn unig.
Gofal Cymdeithasol
- Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyhoeddi ymchwil a data gan gynnwys arolygon o'u gweithlu cofrestredig: Arolwg o'r gweithlu gofal cymdeithasol 2023 | Gofal Cymdeithasol Cymru.
- O fis Ebrill 2024 daeth y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn weithredol ac mae'n gweithio i'r datganiad gwerthoedd craidd: "Darparu cymorth arweiniol canolog i'r sector drwy ysgogi gwelliannau yn y ddarpariaeth genedlaethol o ofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau cydweithio; a chanlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i ddefnyddwyr gwasanaethau.”
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 56/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-856-0

