Adroddiad sy'n cyfuno arolygon presennol, gofynion defnyddwyr data, a barn pobl anabl ar gwestiynau sy'n casglu data am bobl anabl.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Model cymdeithasol o anabledd
Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau cam cyntaf (darganfod) yr ymchwil i ddatblygu a phrofi cwestiynau arolwg sy'n adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd.
Nod y cam hwn oedd deall y gwahanol fodelau o anabledd, gweld sut mae defnyddwyr data yn cynhyrchu ystadegau yn ymwneud â phobl anabl o ddata arolygon, nodi’r cwestiynau presennol sy'n casglu data am bobl anabl, a deall safbwyntiau pobl anabl ar ba wybodaeth y dylid ei chasglu mewn arolygon ar gyfer pobl anabl a sut y dylid casglu’r wybodaeth honno.
Amlygodd y gweithdai gyda defnyddwyr data bwysigrwydd data cyson y gellid eu cymharu, ond gwelwyd y gallai cwestiynau presennol eithrio neu greu rhwystrau i rai pobl anabl. Ymatebwyd yn gadarnhaol â'r posibilrwydd o ddefnyddio cwestiynau sy'n seiliedig ar y model cymdeithasol, ond teimlwyd y dylid sicrhau cydbwysedd rhwng defnyddioldeb yr arolwg a chasglu data manwl.
Roedd adolygiad systematig o arolygon presennol yn gwerthuso i ba raddau y maent yn diwallu anghenion defnyddwyr data, neu y gellid eu haddasu i ddiwallu’r anghenion hynny, ac a ydynt yn cyd-fynd ag iaith y model cymdeithasol o anabledd. Canfuwyd bod rhai mesurau presennol yn cyd-fynd yn rhannol â'r model cymdeithasol o anabledd, ond byddai'r rhan fwyaf angen eu haddasu yn sylweddol i adlewyrchu ei egwyddorion yn llawn a diwallu anghenion defnyddwyr data.
Canfu ymchwil ymgynghori a gynhaliwyd gyda phobl anabl fod amrywiaeth o dermau yn cael eu defnyddio i ddisgrifio 'anabledd'. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn teimlo bod cynhwysiant yn bwysicach na gallu cymharu data. Roeddent yn hoffi'r syniad o gwestiwn arolwg wedi'i ysbrydoli gan y model cymdeithasol. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr o blaid ei ddefnyddio ynghyd â chwestiwn am amhariadau, i gynhyrchu data y gellid gweithredu arnynt.
Adroddiadau
Model cymdeithasol o anabledd: adroddiad interim y cam darganfod , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Model cymdeithasol o anabledd: adroddiad interim y cam darganfod (hawdd ei ddeall) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Laura Tolland
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
