Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Sut rydym yn gweithio
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweithio gyda'n gilydd
Er mwyn sicrhau bod egwyddorion ‘Teithio i Bawb’ yn dod yn rhan ymgorfforedig o rôl pawb, byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl gan gynnwys:
- Trafnidiaeth Cymru
- Cyd-bwyllgorau Corfforedig
- awdurdodau lleol
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- sarparwyr trafnidiaeth gymunedol
- sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr trafnidiaeth a'r rhai na allant ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth ar hyn o bryd
- sefydliadau'r trydydd sector
- Undebau Llafur
- pobl ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a chymunedau ein lluoedd arfog
Cysoni â pholisïau presennol
Wrth ddatblygu'r egwyddorion gwnaethom ymgysylltu â meysydd polisi ehangach ac ystyried y canlynol:
- Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021. Mae'r strategaeth hon yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu ‘llwybr cydraddoldeb’ er mwyn gwneud yn siŵr bod sylw yn cael ei roi i gydraddoldeb wrth gynllunio trafnidiaeth ac nad yw'n cael ei ystyried yn fater ar wahân.
- Ein Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 Mae'r cynllun hwn yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau bod ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol.
- Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025-2035. Mae'r strategaeth ddrafft hon yn cynnwys ymrwymiadau i ddileu rhwystrau a wynebir gan bobl anabl er mwyn creu cymdeithas gynhwysol a datblygu camau gweithredu i wneud teithio yn fwy hygyrch. Agorodd yr ymgynghoriad ar y strategaeth hon ar 13 Mai 2025 a bydd ar agor am 12 wythnos.
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2024. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys ymrwymiad cadarn i greu cymdeithas gynhwysol a theg i'n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ Diben y cynllun hwn yw sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
Croestoriadedd
Roedd croestoriadedd yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu'r egwyddorion hyn. Rydym yn diffinio croestoriadedd fel y ffordd y mae agweddau gwahanol ar hunaniaeth unigolyn yn llywio ei brofiadau a'r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu wedi'u cysylltu â'i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd.
Amserlenni
Bydd gwaith yn parhau, gyda cherrig milltir allweddol i'n helpu i olrhain cynnydd.
