Teithio i bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws trafnidiaeth yng Nghymru - Egwyddor 1: teimlo'n ddiogel
Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr hyn sydd ei eisiau arnom
Rydym am i bobl deimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio unrhyw fath o ddull teithio.
Rydym am symud y tu hwnt i ddiffiniad Iechyd a Diogelwch i ymdeimlad o ddiogelwch ‘a deimlir’ yn fwy.
Rydym am i bobl deimlo'n hyderus wrth gynllunio a gwneud siwrneiau ar unrhyw adeg.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gwneud yn siŵr bod gan unrhyw seilwaith trafnidiaeth newydd ddigon o oleuadau. Mae hyn yn cynnwys lleoedd fel gorsafoedd trenau a bysiau, safleoedd bysiau, safleoedd tacsis a llwybrau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio
- gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio neu yrru tacsi neu gerbyd hurio cyhoeddus yng Nghymru
- Gwneud teithio yn haws drwy helpu pobl i gynllunio siwrneiau sy'n diwallu eu hanghenion.
Sut y byddwn yn gwneud hyn?
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Datblygu canllawiau dylunio a chynllunio ymarferol er mwyn sicrhau goleuadau cyson ar gyfer pob trafnidiaeth.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- Gwneud yn siŵr bod darparwyr trafnidiaeth yn defnyddio ein canllawiau goleuo ar gyfer rhaglenni gwaith newydd a phresennol.
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
- Diweddaru canllawiau i awdurdodau lleol sy'n cynnwys gofynion o ran hyfforddiant i yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat er mwyn helpu i gadw teithwyr a gyrwyr yn ddiogel
Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.
- Datblygu cynlluniwr siwrnai digidol newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n gweithio ar draws pob dull teithio er mwyn galluogi pobl i gynllunio teithiau sy'n diwallu eu hanghenion yn hyderus. Caiff opsiynau annigidol ar gyfer defnyddio'r gwasanaethau hyn eu datblygu ochr yn ochr ag adnoddau digidol newydd er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb wedi'u cynnwys
Amserlen: erbyn gwanwyn 2030.
