Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn sydd ei eisiau arnom

Rydym am i'r bobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gael eu cynnwys yn y gwaith o'u cynllunio a'u cyflwyno.

Drwy ddeall profiadau bywyd pobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau, gallwn eu cynllunio i fod yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch o'r dechrau.

Rydym am greu cyfleoedd i bobl gael eu cynnwys yn ein polisïau, seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn:

  • dod ag amrywiaeth ehangach o bobl i mewn i'n gwaith, er mwyn iddynt allu llywio'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth.

Sut y byddwn yn gwneud hyn?

Byddwn yn:

  • sefydlu Bwrdd Teithio Cynhwysol i roi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.  Bydd y bwrdd yn gwneud yn siŵr bod darparwyr trafnidiaeth yn ystyried yr egwyddorion ‘teithio i bawb’. Darllenwch fwy am y Bwrdd Teithio Cynhwysol.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • sefydlu Panel Teithio Pobl Anabl. Bydd y grwp hwn, o dan arweiniad pobl anabl, yn adeiladu ar gylch gwaith Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru i gynnwys pob rhwydwaith trafnidiaeth. Bydd yn rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â sut i wneud ein rhwydweithiau yn fwy hygyrch a chynhwysol. Darllenwch fwy am y Panel Teithio Pobl Anabl.

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.

  • sefydlu tîm Teithio i Bawb penodol o fewn Trafnidiaeth Cymru a fydd yn gwneud y canlynol:
    • cynnig cyngor a chymorth proffesiynol i lunio a chyflwyno cynlluniau hygyrch,
    • ceisio arferion gorau o bob cwr o'r byd a'u rhannu
    • rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â sut i gynnwys pobl ag amrywiaeth eang brofiadau bywyd yn fwy yn ein gwaith. 

Bydd y tîm yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer trafnidiaeth ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig

Amserlen: erbyn gwanwyn 2026.