Yr ardoll ymwelwyr: cyfraniad bach ar gyfer etifeddiaeth barhaol
Beth yw'r ardoll ymwelwyr?
Yr ardoll ymwelwyr yw tâl bychan ychwanegol y byddwch chi efallai yn ei dalu pan fyddwch yn aros mewn llety ymwelwyr yng Nghymru.
Bydd yr arian a godir o'r ardoll yn cael ei ddefnyddio i wella twristiaeth yn lleol.
Bydd yr ardoll ymwelwyr yn helpu i wneud y canlynol:
- cynnal cyfleusterau a seilwaith lleol
- gwarchod tirweddau trawiadol Cymru
- sicrhau bod cymunedau yn gallu parhau i groesawu ymwelwyr tra'n diogelu'r hyn sy'n gwneud pob ardal yn arbennig
Gall cynghorau lleol ddewis a ydyn nhw am gyflwyno'r ardoll ymwelwyr yn eu hardal.
Byddant yn gwneud y penderfyniad ar ôl ymgynghori â thrigolion a busnesau.
Mae hyn yn golygu y bydd yr ardoll yn cael ei chodi dim ond yn yr ardaloedd lle mae cymunedau wedi penderfynu ei fod yn iawn iddyn nhw.
Y cynharaf y gallai cyngor gyflwyno ardoll ymwelwyr yw ym mis Ebrill 2027.
Manteision yr ardoll ymwelwyr
Money raised by the visitor levy will be invested directly into the local area where you stay.
Bydd yr arian a godir drwy’r ardoll ymwelwyr yn cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol yn yr ardal leol yr ydych chi'n aros ynddi, i gefnogi twristiaeth leol.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar:
- sicrhau bod traethau, parciau a chanol trefi yn cael eu cynnal a’u cadw’n well
- gwell atyniadau diwylliannol
- twristiaeth gynaliadwy sydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol
- cefnogi'r Gymraeg yn ein cymunedau
Faint yw'r ardoll ymwelwyr?
Codir yr ardoll ymwelwyr fesul person, fesul noson.
Bydd yr ardoll yn cael ei chasglu gan ddarparwr eich llety.
Os ydych chi'n aros mewn ardal lle mae'r ardoll ymwelwyr wedi'i chyflwyno, efallai y byddwch yn gweld ei fod wedi cael ei ychwanegu at eich bil.
| Math o lety | Cost (fesul person, fesul noson) |
|---|---|
| Meysydd gwersylla ac ystafelloedd a rennir (fel llety math hostel ac ystafelloedd aml-wely) | 75 ceiniog |
| Pob math arall o lety i ymwelwyr | £1.30 |
Eithriadau
Ni fyddwch yn talu'r ardoll ymwelwyr os ydych chi:
- o dan 18 oed ac yn gwersylla neu'n aros mewn ystafell a rennir gydag eraill (fel llety math hostel neu ystafelloedd aml-wely)
- yn aros mwy na 31 noson ar un archeb
- yn aros mewn llety brys neu dros dro a drefnwyd gan y cyngor lleol
Cymru yn ymuno â chyrchfannau llwyddiannus ledled y byd
Mae llawer o leoliadau ledled y byd eisoes yn codi ardoll ar ymwelwyr. Mae'r cyrchfannau hyn yn cynnwys Ffrainc, Gwlad Groeg, Portiwgal, a Seland Newydd.
Mae ymchwil wedi dangos y gall cyfraniadau ymwelwyr drawsnewid twristiaeth er gwell.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r ardoll ymwelwyr yn ffordd syml o sicrhau bod eich ymweliad yn cyfrannu at ddiogelu a gwella'r Gymru rydych chi wrth eich bodd yn ei chrwydro.
