Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru
Rydym eisiau eich barn ar newidiadau arfaethedig i rai o'n hallbynnau ystadegol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn
Gwyddom fod llawer o'n hallbynnau ystadegol yn cael eu gwerthfawrogi a'u defnyddio'n eang. Ar yr un pryd, rydym yn wynebu gofynion cynyddol, pwysau ariannol a'r angen i foderneiddio sut rydym yn gweithio.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r heriau hynny. Rydyn ni'n symud i ffwrdd o feddalwedd y telir amdano, ac yn mabwysiadu offer ffynhonnell agored am ddim. Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu ffyrdd mwy effeithlon a chynaliadwy o weithio, gan gynnwys piblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy (Swyddogaeth Dadansoddi).
Er mwyn gwneud lle ar gyfer y trawsnewidiad hwn, mae angen i ni edrych yn ofalus ar yr hyn rydyn ni'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd a gwneud rhai penderfyniadau ynghylch ble rydyn ni'n canolbwyntio ein hymdrechion.
Rydym yn cynnig newidiadau i rai o'n hallbynnau ystadegol, gan gynnwys:
- stopio neu ohirio rhai datganiadau
- byrhau'r cynnwys
- cyhoeddi allbynnau yn llai aml
- newid fformat allbynnau
Rydym yn gwybod y gall newid fod yn anodd, a bod gan lawer o allbynnau werth hirsefydlog. Dyna pam rydyn ni eisiau clywed gennych, nid yn unig am a ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno, ond am sut y gallwn reoli'r newid hwn yn y ffordd orau gyda'n gilydd.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall effaith y cynigion hyn a siapio sut rydym yn blaenoriaethu ein gwaith yn y dyfodol.
Pam rydyn ni'n cynnig newidiadau
Lle rydyn ni nawr
Ar hyn o bryd mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu nifer fawr o allbynnau bob blwyddyn, gyda 418 o eitemau wedi'u cyhoeddi yn 2024 yn unig. Rydym yn gweithredu yng nghyd-destun:
- cyllidebau cyfyngedig
- costau cynyddol (gan gynnwys ar gyfer meddalwedd dadansoddol)
- galw cynyddol am ystadegau amserol, o ansawdd uchel
- yr angen i uwchsgilio staff i ddefnyddio offer a dulliau newydd
Rydym yn falch o ehangder ac ansawdd ein hallbynnau ond mae angen i ni hefyd ofyn: sut allwn ni barhau i ddarparu gwerth wrth weithio o fewn cyfyngiadau llymach?
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o ateb y cwestiwn hwnnw.
Pam rydyn ni'n cynnig newidiadau
Mae'r galw am ystadegau wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni eisiau diwallu'r galw hwnnw, ond mae angen inni hefyd wneud dewisiadau ynghylch ble rydyn ni'n canolbwyntio ein hymdrechion.
Rydym wedi edrych ar ein hallbynnau cyfredol ac wedi gofyn:
- pa rai sy'n cael eu defnyddio a'u gwerthfawrogi fwyaf?
- ble allwn ni wneud pethau'n wahanol?
- beth allwn ni roi'r gorau iddo, ei leihau neu ei newid er mwyn rhyddhau capasiti?
Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) yn ein hannog i ymgysylltu â defnyddwyr cyn gwneud newidiadau. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad diwethaf o'r math hwn 12 mlynedd yn ôl, felly mae'n bryd ailedrych ar y cwestiynau hyn.
Mae hyn hefyd yn rhan o raglen drawsnewid ehangach. Yn 2026, rydym yn anelu at gael seilwaith dadansoddol mwy cynaliadwy, effeithlon ac effeithiol sy'n cefnogi anghenion presennol a blaenoriaethau yn y dyfodol.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
Rydym wedi cynnal ymarfer cwmpasu i nodi allbynnau y gellid eu newid. Mae'r cynigion hyn yn seiliedig ar:
- data defnydd (e.e. trawiadau Google Analytics)
- adborth gan dimau dadansoddol
- mewnbwn cychwynnol defnyddwyr
Mae'r newidiadau arfaethedig yn disgyn i bedwar categori:
- rhoi'r gorau i'r allbwn neu ei ohirio
- ei gyhoeddi'n llai aml
- byrhau'r cynnwys
- newid y fformat (e.e. o adroddiad llawn i ddatganiad data yn unig)
Rydym yn gwybod y gall y cynigion hyn effeithio ar ddefnyddwyr mewn ffyrdd gwahanol. Dyna pam rydyn ni'n gofyn am eich barn, nid yn unig ar y cynigion eu hunain, ond ar sut y gallwn ymdrin a'r newid hwn yn y ffordd orau.
Pa ganlyniadau rydym yn eu disgwyl
Os bydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith, byddant yn ein helpu i:
- rhyddhau adnoddau ar gyfer blaenoriaethau newydd
- ymateb yn hyblyg i ofynion yn y dyfodol, gan gynnwys diwygio'r Senedd a blaenoriaethau llywodraeth newydd yn 2026
- adeiladu system ystadegau fwy gwydn ac addasadwy i Gymru
Beth i'w ddisgwyl yn yr ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad wedi'i drefnu yn ôl themâu. Ar gyfer pob thema rydym yn esbonio'r newidiadau arfaethedig ac yn gofyn am eich barn. Rydym yn eich gwahodd i'n helpu i feddwl beth yw'r ffordd orau ymlaen.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall effaith y newidiadau hyn a sicrhau bod ein hystadegau yn parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr ledled Cymru.
Thema 1: trafnidiaeth
Ystadegau am drafnidiaeth yng Nghymru, megis teithio yn yr awyr ac ar y môr a'r defnydd o ffyrdd.
Mae rhai o'r allbynnau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ac yn cefnogi meysydd pwysig fel diogelwch y cyhoedd a chynllunio. Mae eraill yn cael eu defnyddio'n llai aml, neu ar gael o ffynonellau eraill, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i'w symleiddio neu eu lleihau.
Rydym am sicrhau ein bod yn cadw'r data mwyaf defnyddiol a phwysig, gan gynnwys datganiadau proffil uchel, tra'n gwneud gwell defnydd o offer fel StatsCymru i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
Y cynigion sydd dan sylw
- Trafnidiaeth awyr
Ein cynnig: lleihau i grynodeb byr o brif bwyntiau ar gyfer Cymru a chyfeirio defnyddwyr at ddata tarddiadol - Defnydd o orsafoedd rheilffyrdd
Ein cynnig: stopio’r adroddiad a'r diweddariadau i setiau data StatsCymru a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol - Trafnidiaeth rheilffyrdd
Ein cynnig: stopio’r adroddiad a'r diweddariadau i setiau data StatsCymru a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol - Troseddau moduro
Ein cynnig: stopio’r adroddiad a'r diweddariadau i setiau data StatsCymru a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol - Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis)
Ein cynnig: lleihau i grynodeb byr o brif bwyntiau ar gyfer Cymru, tra'n cadw data ar StatsCymru - Traffig ffyrdd
Ein cynnig: lleihau i grynodeb byr o brif bwyntiau ar gyfer Cymru a chyfeirio defnyddwyr at ddata tarddiadiadol - Trafnidiaeth môr
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Cludo nwyddau ar ffyrdd
Ein cynnig: stopio’r adroddiad a'r diweddariadau i setiau data StatsCymru
Thema 2: economi, masnach, y farchnad lafur a sgiliau
Ystadegau am yr economi, masnach rhyngwladol, y farchnad lafur a sgiliau yng Nghymru. Yn benodol, gan gynnwys cyhoeddiadau gweithgarwch a demograffeg busnes, masnach ryngwladol mewn allbynnau nwyddau; yn ogystal â phrif ddangosyddion y farchnad lafur, a phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Mae rhai o'r allbynnau hyn yn cael eu defnyddio'n dda ac yn cefnogi meysydd pwysig sy'n ymwneud â'r economi a'r farchnad lafur. Mae eraill yn cael eu defnyddio'n llai aml, neu ar gael o ffynonellau eraill, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i'w symleiddio neu eu lleihau.
Rydym am sicrhau ein bod yn cadw'r data mwyaf defnyddiol a phwysig, gan gynnwys datganiadau proffil uchel, tra'n gwneud gwell defnydd o offer fel StatsCymru neu ein Dangosfwrdd Masnach Nwyddau Rhyngwladol i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
Y cynigion sydd dan sylw
- Ymchwil a datblygu (busnes)
Ein cynnig: stopio’r adroddiad a'r diweddariadau i setiau data StatsCymru a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol - Ymchwil a datblygu (gros)
Ein cynnig: stopio diweddariadau i StatsCymru a chyfeirio defnyddwyr at ddata tarddiadol, gan gadw crynodeb byr o brif bwyntiau i Gymru - Demograffeg busnes
Ein cynnig: stopio’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Masnach nwyddau rhyngwladol blynyddol
Ein cynnig: stopio’r adroddiad blynyddol (ond parhau gyda'r crynodeb chwarterol byr o bwyntiau allweddol i Gymru) - Trosolwg o'r farchnad lafur
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Ein cynnig: lleihau amlder yr adroddiad o chwarterol i naill ai blynyddol neu 6 misol.
Thema 3: iechyd a gofal
Ystadegau am weithgarwch, perfformiad, gweithlu a gwariant ar draws y GIG a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol.
Mae rhai o'r adroddiadau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan Lywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau. Mae eraill yn cael eu defnyddio'n llai aml, neu ddim ar gael mor aml o ffynonellau eraill, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i'w symleiddio neu eu lleihau. Rydym yn edrych ar a ellir symleiddio neu leihau'r cynhyrchion hyn tra'n dal i ddarparu'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar ddefnyddwyr.
Rydym am sicrhau ein bod yn cadw'r data mwyaf defnyddiol a phwysig, gan gynnwys datganiadau proffil uchel, tra'n gwneud gwell defnydd o offer fel StatsCymru i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
Y cynigion sydd dan sylw
- Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Tueddiadau mewn gweithgarwch gofal brys y GIG
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Ystadegau mamolaeth a genedigaethau
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Gweithlu practis cyffredinol
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad blynyddol a chynnal y gyfres gyfredol o dablau data StatsCymru, a lleihau amlder yr adroddiad chwarterol - Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad blynyddol, tra'n cadw data ar StatsCymru, a lleihau amlder cyhoeddi. Cyfuno'r adroddiad staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG gydag ystadegau absenoldeb salwch ac ystadegau swyddi gwag y GIG - Absenoldeb oherwydd Salwch yn y GIG
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru, a lleihau amlder cyhoeddi. Cyfuno'r adroddiad staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG gydag ystadegau absenoldeb salwch ac ystadegau swyddi gwag y GIG - Ystadegau swyddi gwag y GIG
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru, a lleihau amlder cyhoeddi. Cyfuno'r adroddiad staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG gydag ystadegau absenoldeb salwch ac ystadegau swyddi gwag y GIG - Cyllidebau rhaglen gwariant y GIG
Ein cynnig: stopio'r adroddiad. Bydd y data yn dal i gael ei gyhoeddi mewn fformat gwahanol, ond yn ôl pob tebyg gan sefydliad gwahanol - Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, a deall os/sut mae'r allbwn hwn yn cael ei ddefnyddio - Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, gan ehangu faint o ddata sydd ar StatsCymru - Fframwaith canlyniadau cenedlaethol gwasanaethau cymdeithasol: adroddiadau blynyddol
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw'r nifer presennol o ddangosyddion
Thema 4: tai
Ystadegau am gyflenwad tai, fforddiadwyedd tai, ansawdd tai a thlodi tanwydd.
Mae rhai allbynnau a gwmpesir gan y thema hon yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ac yn cefnogi polisi tai yng Nghymru. Mae eraill yn cael eu defnyddio'n llai aml, neu ddim ar gael mor aml o ffynonellau eraill, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i'w symleiddio neu eu lleihau.
Rydym am sicrhau ein bod yn cadw'r data mwyaf defnyddiol a phwysig, gan gynnwys datganiadau proffil uchel, tra'n gwneud gwell defnydd o offer fel StatsCymru i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
Y cynigion sydd dan sylw
- Peryglon tai
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Cymorth ar gyfer gwelliannau tai
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, a stopio cyhoeddi data sy'n ymwneud â gweithgarwch adnewyddu'r sector preifat. Byddai'r holl ddata eraill yn parhau i gael ei gyhoeddi ar StatsCymru - Trwyddedu tai amlfeddiannaeth (HMO) trwyddedu
Ein cynnig: stopio’r adroddiad hwn
Thema 5: addysg
Ystadegau am addysg, hyfforddiant a sgiliau o'r ysgol feithrin i'r ysgol, hyd at addysg bellach ac addysg uwch ac addysg oedolion a chymunedol yng Nghymru, data ar niferoedd a nodweddion disgyblion, i berfformiad ysgolion, presenoldeb a data ar staffio a chyllid.
Mae rhai o'r allbynnau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ac yn cefnogi meysydd pwysig sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Mae eraill yn cael eu defnyddio'n llai aml, neu ddim ar gael mor aml o ffynonellau eraill, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i'w symleiddio neu eu lleihau.
Rydym am sicrhau ein bod yn cadw'r data mwyaf defnyddiol a phwysig, gan gynnwys datganiadau proffil uchel, tra'n gwneud gwell defnydd o offer fel StatsCymru i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
Y cynigion sydd dan sylw
- Addysg gychwynnol athrawon
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad - Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach)
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a ddyfarnwyd yng Nghymru
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru - Gwaith ieuenctid
Ein cynnig: byrhau’r adroddiad, tra'n cadw data ar StatsCymru
Thema 6: cyfiawnder cymdeithasol (yn cynnwys tanau)
Ystadegau am gyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ymdrin â phynciau fel tlodi, amddifadedd, cydraddoldeb, cyfiawnder a thanau.
Mae rhai o'r allbynnau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ac yn darparu tystiolaeth bwysig ar anghydraddoldebau, diogelwch cymunedol a phobl agored i niwed yng Nghymru. Mae eraill yn cael eu defnyddio'n llai aml, neu ar gael o ffynonellau eraill, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i'w symleiddio neu eu lleihau.
Rydym am sicrhau ein bod yn cadw'r data mwyaf defnyddiol a phwysig, gan gynnwys datganiadau proffil uchel, tra'n gwneud gwell defnydd o offer fel StatsCymru i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
Y cynigion sydd dan sylw
- Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth
Ein cynnig: cyfuno â phynciau cydraddoldeb eraill mewn un adroddiad pan fydd data ar gael o'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)) - Cyfeiriadedd rhywiol
Ein cynnig: cyfuno â phynciau cydraddoldeb eraill mewn un adroddiad pan fydd data ar gael o'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig (SYG) - Ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol
Ein cynnig: cyfuno â phynciau cydraddoldeb eraill mewn un adroddiad pan fo data ar gael o'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig (SYG) a lleihau amlder cyhoeddi o chwarterol i flynyddol - Y Gronfa Cymorth Dewisol
Ein cynnig: lleihau amlder cyhoeddi o chwarterol i 6 misol - Dangosfwrdd rhyngweithiol cyfiawnder ieuenctid
Ein cynnig: atal yr allbwn hwn a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol - Cyfrif carafanau Sipsiwn a theithwyr
Ein cynnig: lleihau amlder y datganiadau - Tanau bwriadol a Thanau glaswelltir
Ein cynnig: crynhoi'r adroddiad, tra'ncadw data ar StatsCymru
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Chwefror 2026, trwy unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- cwblhewch ein ffurflen ar-lein
- lawrlwythwch, cwblhewch ein ffurflen ymateb ac anfonwch drwy e-bost i: KAS.Trawsnewid@llyw.cymru
- lawrlwythwch, cwblhewch ein ffurflen ymateb a'i phostio i'r cyfeiriad:
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi: Gwasanaethau Ystadegol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG53473
Mae'r dogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
