Neidio i'r prif gynnwys

Cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru

Mae'r gyfraith wedi newid os ydych yn cymryd archebion am arosiadau dros nos 

Rhaid i chi gofrestru eich llety ymwelwyr gydag Awdurdod Cyllid Cymru erbyn 31 Mawrth 2027. Bydd cofrestru'n agor ar 1 Hydref 2026. 

Mae cofrestru’n berthnasol i bob darparwr llety ymwelwyr, gan gynnwys:

  • gwesteiwyr achlysurol sy’n rhentu ystafell sbâr o bryd i'w gilydd 
  • darparwyr proffesiynol sy'n cynnig llety drwy gydol y flwyddyn

Rhaid i chi gofrestru hyd yn oed os nad yw eich cyngor wedi cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr.

Mae cofrestru ar agor mewn gwasanaeth beta cyhoeddus

Dyma fersiwn gynnar o'r gwasanaeth sydd ar gael i bawb. 

Rydym yn dal i wella'r gwasanaeth yn seiliedig ar eich adborth chi. Byddwn yn ychwanegu nodweddion sy'n eich galluogi i wneud y canlynol:

  • diweddaru eich manylion
  • ychwanegu defnyddwyr eraill
  • dadgofrestru

Cofrestrwch i gael diweddariadau os hoffech wybod pryd fydd y nodweddion hyn ar gael.

Cofrestrwch nawr

Cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru yn rhad ac am ddim. 

Er mwyn cofrestru 

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio One Login GOV.UK. 

Pan fyddwch yn cofrestru, bydd angen i chi roi:  

  • manylion cyswllt, fel er enghraifft:  
    • enw 
    • cyfeiriad 
    • rhif ffôn 
    • dyddiad geni
    • e-bost 
  • cwmni neu rif elusen (os yn berthnasol) 
  • enw masnachu (os yn berthnasol)
  • cyfeiriad y llety
  • enw'r llety (os yn berthnasol)
  • y mathau o lety rydych yn eu cynnig
  • pa bryd mae eich llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer
  • nifer yr ystafelloedd neu unedau sydd ar gael i’w harchebu
  • faint o bobl sy’n gallu aros yno
Cofrestru llety ymwelwyr: trosolwg
Cofrestru llety ymwelwyr: trosolwg
Canllawiau ar gofrestru eich llety ymwelwyr
Sign up to a registration workshop
Cofrestrwch ar gyfer gweithdy cofrestru
Gweithdai ar-lein rhad ac am ddim i'ch helpu i gofrestru.
Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr
Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr
Canllawiau cam wrth gam a fideos i'ch helpu i gofrestru.