Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio asesiadau strwythuredig i leihau rhagfarn

Cysondeb yw un o’r mesurau diogelu cryfaf rhag rhagfarn ddiarwybod.

Pethau i’w hystyried

  • Defnyddiwch gyfweliadau strwythuredig gyda chwestiynau safonol sy’n cyd-fynd â meini prawf y rôl. Bydd paneli yn cael set o gwestiynau cychwynnol safonol, ac yna byddant yn cael cyfle i ddewis dulliau dethol ychwanegol, priodol (ee ymarferion senario, cyflwyniadau neu dasgau ysgrifennu) sydd fwyaf addas ar gyfer profi’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl.
  • Defnyddiwch feini prawf sgorio i gefnogi penderfyniadau gwrthrychol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Trafodwch adborth cyfweliadau fel panel i sicrhau gwerthusiadau teg a chyson.
  • Aseswch ddealltwriaeth ymgeiswyr o’r sector trwy ofyn cwestiynau sy’n seiliedig ar senarios ac sy’n canolbwyntio ar sgiliau – yn hytrach na ffafrio’r rhai sydd â phrofiad mewnol blaenorol.
  • Sicrhewch fod yr holl adborth a ddarperir i ymgeiswyr yn adeiladol, yn ychwanegu gwerth, ac yn cynnig gwybodaeth glir y gallant ei defnyddio i ddatblygu. Dylai adborth wir gefnogi dysgu, nid dim ond ailadrodd sgoriau.

Pam mae’n bwysig

Ni ellir dileu rhagfarn yn gyfan gwbl, ond mae strwythur yn helpu i’w rheoli, gan sicrhau proses recriwtio decach, fwy tryloyw ac y gellir ei hamddiffyn.